6.1 Canllawiau’r Senedd ar gyfer Penodi Arddangoswyr/Cynorthwywyr Tiwtorial sy'n Fyfyrwyr Ôl-raddedig
Cydnabyddir bod profiad mewn addysgu ac asesu'n cyfrannu'n sylweddol at gyflogadwyedd Myfyrwyr Ôl-raddedig, felly anogir defnyddio Arddangoswyr/ Cynorthwywyr Tiwtorial sy'n Fyfyrwyr Ôl-raddedig, yn unol â'r Canllawiau canlynol:
6.1.1
Dim ond Myfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig sydd wedi’u cofrestru ddylai gael eu cyflogi'n Arddangoswyr/Cynorthwywyr Tiwtorial.
6.1.2
Mae’n rhaid i Fyfyriwr Ôl-raddedig ymgymryd â’r hyfforddiant angenrheidiol sy’n cael ei gynnig drwy Adnoddau Dynol/Academi Dysgu ac Addysgy Abertawe/Canolfan Gwella Sgiliau Academaidd a Phroffesiynol Abertawe a’r adran/ Cyfadran/Ysgol cyn ymgymryd â dyletswyddau arddangos/dysgu/tiwtorial neu asesu. Mae’n rhaid cwblhau’r hyfforddiant yn llwyddiannus a chadarnhau hynny i Adnoddau Dynol, cyn y gellir awdurdodi taliad ar gyfer gwasanaethau arddangos neu diwtorial.
6.1.3
Pan fydd adrannau'n penodi Arddangoswyr/Cynorthwywyr Tiwtorial, mae'n rhaid iddynt sicrhau bod ganddynt yr wybodaeth, y sgiliau a'r profiad perthnasol i ymgymryd â'r addysgu a neilltuir iddynt.
6.1.4
Ni all myfyrwyr ôl-raddedig ymgymryd â gwaith arddangos, tiwtorial neu asesu, gan gynnwys gwaith paratoi, am fwy na chwe awr mewn unrhyw wythnos.
6.1.5
Fel rheol, dylid defnyddio Arddangoswr/Cynorthwyydd Tiwtorial ar gyfer dysgu myfyrwyr israddedig yn unig.
6.1.6
Gall Arddangoswyr/Cynorthwywyr Tiwtorial gyfrannu'n rhydd at arddangos, tiwtorialau a gwaith cymorth addysgu arall, ond ni fyddai disgwyl iddynt gyfrannu at fwy na 25% o'r addysgu ar unrhyw fodiwl.
6.1.7
Rhoddir Mentor o'r Staff Academaidd i'r holl Arddangoswyr/Cynorthwywyr Tiwtorial, a gallai'r mentor hwnnw fod yn Gydlynydd Modiwl y modiwl(au) y mae'r Cynorthwyydd yn dysgu arno/arnynt. Bydd cyfrifoldebau'r Mentor fel a ganlyn:
- Briffio'r Arddangoswr/Cynorthwyydd Tiwtorial ar yr holl addysgu;
- Darparu deunyddiau neu fonitro ansawdd unrhyw ddeunydd a ddarperir gan yr Arddangoswr/Cynorthwyydd Tiwtorial;
- Monitro ansawdd y ddarpariaeth addysgu;
- Darparu meini prawf marcio lle defnyddir yr Arddangoswr/Cynorthwyydd Tiwtorial at ddibenion asesu a defnyddio prosesau mecanweithiau sicrhau ansawdd i fonitro eu hymwneud ag asesu, e.e. safoni marciau;
- Adolygu adborth myfyrwyr a geir am yr Arddangoswr/Cynorthwyydd Tiwtorial fel rhan o'r broses datblygu proffesiynol.
6.1.8
Mae unrhyw eithriadau i'r uchod yn amodol ar gymeradwyaeth Cadeirydd y Bwrdd Dilyniant Dyfarnu.