sgerbydau dynol ar fainc labordy

Mae rheoliadau, polisïau a gweithdrefnau’r Brifysgol yn cyd-fynd â’r Côd Ansawdd a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd sef y corff sy’n monitro ac yn cynghori sefydliadau ar safonau ac ansawdd.

Cyflwyniad ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil

Mae’r Brifysgol yn rhoi gwybodaeth  glir a chryno i bob myfyriwr ynghylch y rheolau a’r rheoliadau sy’n ymwneud â’ch astudiaethau, gan gynnwys rheoliadau, polisïau a gweithdrefnau academaidd penodol a chyffredinol yn y Brifysgol. Mae Rheoliadau Academaidd y Brifysgol yn llywodraethu ein rhaglenni, ac fe’u cefnogir gan Ganllawiau defnyddiol. Maen nhw’n bwysig a bydd angen i chi gyfeirio atynt drwy gydol eich gradd er mwyn llwyddo.

Bydd Graddau Ymchwil yn cefnogi eich datblygiad fel ymchwilydd annibynnol. Maen nhw’n ddwys iawn ac yn canolbwyntio’n benodol ar y gwaith ymchwil sydd ei angen i archwilio eich pwnc dewisol (y mae’n rhaid iddo fod yn syniad ymchwil gwreiddiol). Erbyn diwedd eich gradd, byddwch wedi datblygu a gwella sgiliau trosglwyddadwy, megis datrys problemau, meddwl yn annibynnol, rheoli prosiectau a meddwl yn feirniadol. Er bod y rhain yn rhaglenni dwys, mae'r cymhwyster sy'n deillio ohonynt yn gydnabyddiaeth o'r gwaith caled a’r ymrwymiad yr ydych wedi eu dangos, a’r sgiliau, y technegau a’r wybodaeth newydd a ddysgwyd gennych.

Os nad ydych yn gallu dod o hyd i’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch, neu os oes gennych ymholiadau, dylech fynd at eich goruchwyliwr neu aelod o staff yn eich coleg yn y lle cyntaf. Mae gwybodaeth hefyd ar gael yn Llawlyfrau’r Coleg, Llawlyfrau Academaidd y Brifysgol ac ar Canvas. Mae’r holl wybodaeth a’r adnoddau y bydd eu hangen arnoch ar gyfer eich taith academaidd yn Abertawe ar gael ar wefan MyUni neu gallwch gysylltu â MyUniHub drwy e-bostio neu ffonio 44 (0)1792 606000 a byddant yn hapus i roi cyngor.

Mae atebion i rai Cwestiynau Cyffredin ar gael hefyd ar wefan Sylfaen Wybodaeth Cwestiynau Cyffredin y Brifysgol.