3 students in park

Asesu a Chynnydd ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil

Mae Gradd Ymchwil Ôl-raddedig yn rhoi cyfle gwerth chweil i chi ddefnyddio’r sgiliau rydych wedi’u hennill i ymgymryd â gwaith ymchwil helaeth mewn maes pwnc, a chyfrannu at allbwn gwreiddiol i ddefnyddwyr ymchwil.

Yn ystod eich gradd, mae'n rhaid i chi gysylltu â'ch goruchwyliwr bob mis i gofnodi'ch presenoldeb a'ch ymgysylltiad â’ch gwaith ymchwil. Yn ogystal, mae'n rhaid i chi fynychu cyfarfodydd goruchwylio a dilyniant ffurfiol rheolaidd gyda'ch goruchwyliwr yn ystod y flwyddyn ddilyniant a’r cam cwblhau. Bydd angen i chi a’ch goruchwyliwr gofnodi canlyniadau eich dilyniant a fydd yn cynnwys crynodeb manwl o bob un o’r cyfarfodydd hyn a’r camau gweithredu y cytunwyd arnynt. Gwiriwch yr hyfforddiant sydd ar gael i’ch cynorthwyo gyda’ch astudiaethau.

Asesu a Chynnydd ar gyfer Canllawiau Myfyrwyr Ymchwil

Canllawiau i Fonitro Cynnydd

Canllaw i Arholi Myfyrwyr Ymchwil