CANLLAWIAU AR ASESU NEU ARHOLI TRWY GYFRWNG Y GYMRAEG NEU MEWN IAITH AR WAHÂN I'R IAITH ADDYSGU

1.     Asesu drwy gyfrwng y Gymraeg

Prif Iaith addysgu ac asesu’r Brifysgol yw Saesneg, ond yn unol â Safonau'r Gymraeg a Pholisi Asesu, Marcio ac Adborth, gall myfyrwyr gyflwyno gwaith i’w asesu neu i’w arholi yn Gymraeg. NID YW’R polisi hwn yn berthnasol i fyfyrwyr sy’n dilyn modiwlau lle mae’n rhaid dangos hyfedredd/ cymhwysedd mewn iaith arall.

Rhaid i fyfyrwyr gyflwyno cais electronig i'r Gyfadran/Ysgol o fewn pedair wythnos i ddechrau'r modiwl(au) perthnasol os ydynt am gael caniatâd i sefyll arholiad a/neu gyflwyno gwaith i'w asesu yn Gymraeg. (Mewn achosion lle mae’r modiwlau yn rhedeg am gyfnod sy’n llai na phedair wythnos, rhaid cyflwyno cais wrth gofrestru ar gyfer y modiwl hwnnw). Yna bydd y Gyfadran/Ysgol yn anfon y ceisiadau hyn ymlaen at Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Academaidd a fydd yna'n trafod â'r Deon Gweithredol (neu enwebai) ynglŷn â:

  • Darparu papurau cwestiwn drwy gyfrwng y Saesneg neu’r Gymraeg;
  • Y trefniadau angenrheidiol ar gyfer cyfieithu a/neu farcio sgriptiau mewn da bryd i'w cynnwys yng nghanlyniadau'r ymgeisydd fel sy'n briodol;
  • Ymgysylltu â pherson neu bobl addas i ymddwyn fel  cynghorydd asesu neu (am ffi gytûn) fel cyfieithwyr.

Cyfrifoldeb y myfyriwr yw hi i benderfynu a ydynt yn gymwys yn y Gymraeg ai peidio, gan gynnwys terminoleg dechnegol briodol ar gyfer y pynciau dan sylw. Rhaid i fyfyrwyr fod yn ymwybodol ei bod hi’n bosib colli marciau ar gyfer sillafu/atalnodi/gramadeg wallus yn unol â pholisi’r Gyfadran(nau)/Ysgol(ion) ar y mater hwn.

2.     Cyfieithu Cwestiynau Asesu

Mewn achos lle y mae cyfieithiad Cymraeg o bapur arholi wedi’i ddarparu ar gyfer modiwl cyfrwng Saesneg, mae hawl gan fyfyrwyr hefyd edrych ar y papur Saesneg ac ateb yn Saesneg os byddant yn dewis gwneud hynny. Bwriad hyn yw sicrhau nad yw’r cyfle sydd gan fyfyrwyr i gael eu hasesu yn yr iaith o’u dewis yn amharu ar eu gallu i gyflawni eu gorau.

3.     Marcio gwaith i’w asesu a gyflwynir yn Gymraeg

Ar gyfer rhaglenni a addysgir trwy gyfrwng y Saesneg

Fframwaith Asesu Cyfrwng Cymraeg

Mae hawl gan holl fyfyrwyr Prifysgol Abertawe i gyflwyno gwaith i'w asesu naill ai yn Saesneg neu yn Gymraeg. I sicrhau uniondeb yr asesiadau a gyflwynir yn Gymraeg, bydd y Brifysgol yn ymdrechu, lle bynnag y bo modd, i sicrhau bod gwaith yn cael ei farcio drwy gyfwng y Gymraeg ac y darperir adborth yn yr iaith honno yn unig, yn hytrach na chyfieithu i'r Saesneg. 

Mae'r Brifysgol wedi llunio’r fframwaith canlynol er mwyn rheoli a marcio asesiadau a gyflwynir drwy gyfrwng y Gymraeg i sicrhau uniondeb y broses asesu a chydymffurfiaeth â Safonau'r Gymraeg.

Pa broses y dylid ei dilyn pan fydd myfyriwr yn cyflwyno asesiad yn Gymraeg?

Os bydd myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe yn dewis cyflwyno asesiad yn Gymraeg, mae'n rhaid i Gyfadrannau/Ysgolion sicrhau eu bod wedi rhoi trefniadau ar waith i alluogi myfyriwr i wneud hyn.

I sicrhau bod gan Golegau amser digonol i roi'r fframwaith angenrheidiol ar waith, mae'n hanfodol bod myfyrwyr yn hysbysu eu Cyfadrannau/Ysgolion o'u dymuniad i gyflwyno gwaith yn Gymraeg cyn gynted â phosib, o fewn pedair wythnos i ddechrau’r modiwl perthnasol. Os nad yw myfyrwyr yn hysbysu eu Cyfadrannau/Ysgolion, gall fod oedi wrth farcio'r gwaith a/neu gellir cyfieithu eu gwaith cyn ei farcio.

Pan fydd myfyriwr yn cyflwyno asesiad yn Gymraeg, dylai Colegau gyfeirio at y tabl isod i nodi'r llwybr mwyaf addas i'w ddilyn.

SefyllfaCynnig/Cynigion Arfaethedig
Marciwr cyntaf a chymedrolwr Iaith Gymraeg mewnol ar gael. Dim angen gweithredu pellach. Caiff y gwaith ei farcio'n fewnol fel yr arfer.
Marciwr cyntaf iaith Gymraeg mewnol ar gael, ond dim cymedrolwr. Y Gyfadran/Ysgol i drefnu Ymgynghorydd Asesu allanol  i weithredu fel cymedrolwr (Os na fydd y marciwr mewnol cyntaf ar gael, dylai'r Gyfadrannau/Ysgolion droi at opsiwn 1 neu 2 isod).
Dim marciwr cyntaf ar gael.
1) Dod o hyd i aelod staff sy'n siarad Cymraeg o faes pwnc cytras i ofyn a fyddai'n fodlon gweithredu fel marciwr cyntaf. Yna anfonir y gwaith at Ymgynghorydd Asesu i'w gymedroli
 
2) Caiff y gwaith ei gyfieithu, a bydd aelod staff mewnol yn gweithredu fel marciwr cyntaf; caiff y fersiwn Gymraeg o'r gwaith ei hanfon at Ymgynghorydd Asesu i'w chymedroli ac i sicrhau uniondeb y broses farcio.
 
3) Fel ateb olaf ar ôl ceisio pob cam arall, caiff y gwaith ei gyfieithu a gwneir y marcio cyntaf a'r cymedroli drwy gyfrwng y Saesneg yn unig.

Beth yw Ymgynghorydd Asesu? Bydd Gwasanaethau Ansawdd Academaidd yn darparu rhestr o staff sy'n siarad Cymraeg a'u disgyblaethau i'r Cyfadrannau/Ysgolion, ynghyd â rhestr o academyddion allanol sy'n siarad Cymraeg a'u disgyblaethau, ar ddechrau pob blwyddyn academaidd er mwyn cynorthwyo staff i nodi staff mewnol a/neu Ymgynghorwyr Asesu.

Mae Ymgynghorydd Asesu allanol yn academydd o brifysgol arall sydd wedi cytuno i weithredu fel cymedrolwr ar gyfer asesiad a gyflwynwyd yn Gymraeg, os na fydd adnoddau digonol gan yr Adran. Caiff Ymgynghorwyr Asesu eu talu am eu gwaith a gellir cysylltu â Gwasanaethau Ansawdd Academaidd yn externalexaminers@abertawe.ac.uk am gyngor ar ffioedd.

Bydd yn ofynnol i Ymgynghorydd Asesu:

  • Gymedroli gwaith myfyrwyr drwy gyfrwng y Gymraeg, mewn modd amserol
  • Cyflwyno adroddiad cymedrolwr yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Ni fydd yn ofynnol i Ymgynghorydd Asesu:

  • Weithredu fel marciwr cyntaf
  • Cyfrannu at y cwestiynau asesu
  • Mynd i gyfarfodydd byrddau arholi

Caiff Ymgynghorwyr Asesu eu recriwtio yn unswydd i gymedroli gwaith myfyrwyr yn yr iaith y cafodd ei gyflwyno. Ni fydd angen unrhyw gyfranogiad arall ar unrhyw adeg.

Pwy sy'n gyfrifol am sicrhau y bodlonir safonau ansawdd a marcio?

Bydd cydlynydd y modiwl a Chyfarwyddwr y Rhaglen yn gyfrifol am sicrhau bod yr Ymgynghorwyr Asesu'n bodloni ansawdd a safonau marcio drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd modd gwneud hyn drwy adroddiad y cymedrolwr dwyieithog.

Sut gallaf ddod o hyd i Ymgynghorydd Asesu posib?

Bydd Gwasanaethau Ansawdd Academaidd yn darparu rhestr o ddarpar Ymgynghorwyr Asesu a'u disgyblaethau i bob Cyfadran/Ysgol ar ddechrau pob blwyddyn academaidd. Os bydd angen Ymgynghorydd Asesu ar y Gyfadran/Ysgol, dylid dewis un o'r rhestr a chysylltu ag externalexaminers@abertawe.ac.uk i gael cyngor ar ffioedd a'r camau nesaf. Yna dylai'r Gyfadran/Ysgol gysylltu â'r darpar Ymgynghorydd Asesu i holi a yw ar gael i gwblhau'r gwaith.

Beth fydd yn digwydd ar ôl i ni benodi Ymgynghorydd Asesu?

Bydd y Brifysgol yn cynnal gwiriad Hawl i Weithio i gadarnhau bod gan bob unigolyn sy'n gweithio i'r Brifysgol hawl i weithio yn y DU, cyn dechrau unrhyw waith gyda'r Brifysgol. Mae'r gofyniad hwn yn cynnwys Ymgynghorydd Asesu ac mae'n unol â rheoliadau Teithebau a Mewnfudo'r DU, sy'n un o adrannau Swyddfa Gartref Llywodraeth y DU. Gofynnir i'r Ymgynghorydd Asesu gyflwyno neu e-bostio copi o'i ddogfennaeth adnabod i Wasanaethau Ansawdd Academaidd, fel arfer pasbort (a theitheb os yw hynny'n berthnasol), cyn dechrau gweithio gyda'r Brifysgol. Bydd angen cyflwyno'r ddogfennaeth wreiddiol ar eich ymweliad cyntaf â safleoedd y Brifysgol.

Os bydd yr academydd allanol yn derbyn rôl Ymgynghorydd Asesu, ni chaniateir i'r unigolyn hwnnw fel arfer gael ei benodi'n Arholwr Allanol yn yr un maes pwnc am o leiaf bum mlynedd. Mae'n bosib hefyd na fyddai cydweithiwr yn yr un Adran â'r Ymgynghorydd Asesu'n cael ei ystyried yn ddigon annibynnol i weithredu fel Arholwr Allanol am bum mlynedd.

Ar gyfer rhaglenni a addysgir trwy gyfrwng y Gymraeg

Fel egwyddor gyntaf, rydym yn annog bod aseiniadau’n cael eu marcio gan yr unigolyn sy’n addysgu ar y pwnc hwnnw.

Fel ail egwyddor, rydym yn annog penodi Arholwr Allanol sy’n medru’r Gymraeg ac sy’n gymwys yn ieithyddol ac yn academaidd i roi barn ar y testun neu asesiadau llafar yn yr iaith wreiddiol. Gofynnir bod Arholwyr Allanol yn medru’r Gymraeg ar y ffurflen enwebu. Mae Prifysgol Cymru a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol hefyd yn cadw cronfa ddata o Arholwyr Allanol sy’n medru’r Gymraeg a gall Prifysgol Abertawe droi at y gronfa hon i’w chynorthwyo wrth geisio dod o hyd i arbenigedd priodol.

Arfer da

Pan fydd Arholwr Allanol dwyieithog yn cael ei benodi, fe’i hystyrir yn arfer da i’r arholwr adolygu asesiadau yn Saesneg yn ogystal ag yn Gymraeg er mwyn cymharu a chadarnhau safonau.

4.     Asesiadau drwy gyfrwng iaith heblaw am Gymraeg/Saesneg 

Yn achos myfyrwyr sy’n dilyn rhaglenni Ieithoedd Modern, os yn briodol a chyda chaniatâd cydlynydd y modiwl perthnasol, mae’n bosib y caniateir i fyfyrwyr gwblhau asesu parhaus neu arholiadau yn iaith darged y modiwlau ieithoedd modern. Fodd bynnag, lle mae cyfarwyddiadau’r arholiad/asesiad yn gofyn bod y myfyrwyr yn cyflwyno yn Gymraeg/Saesneg, yna bydd rhaid bodloni’r gofyniad hwnnw.

5.     Marcio gwaith i’w asesu a gyflwynir mewn iaith heblaw am Gymraeg/Saesneg

Yn achos myfyrwyr sy’n dilyn rhaglenni Ieithoedd Modern, rhaid i Arholwyr Mewnol ac Allanol fod yn gymwys yn yr ieithoedd perthnasol ac felly nid yw materion ynghylch sicrhau safonau na materion cyfieithu (fel yr amlinellir uchod ar gyfer cyflwyniadau cyfrwng Cymraeg) yn berthnasol.