Canllawiau ar asesu neu arholi trwy gyfrwng y Gymraeg

Mae gan bob myfyriwr yr hawl i sefyll arholiadau, neu i gyflwyno gwaith i’w asesu, yn Gymraeg, p’un ai Cymraeg neu Saesneg yw prif iaith asesu’r modiwl dan sylw. Os ydych chi'n dymuno cyflwyno aseiniadau neu sefyll arholiad yn Gymraeg ar fodiwl sy’n cael ei ddysgu yn y Saesneg, bydd angen i chi gwblhau un o'r ffurflenni arlein isod o fewn pedair wythnos i’r modiwl perthnasol ddechrau er mwyn caniatáu amser paratoi priodol. Cliciwch ar y Gyfadran poerthnasol i gwblhau'r ffurflen cywir. Os na fyddwch chi wedi cyflwyno'r ffurflen gais o fewn pedair wythnos i’r modiwl perthnasol ddechrau, ni ellir gwarantu y bydd modd i chi gyflwyno’r gwaith yn Gymraeg.    

Angen help?

Os oes angen unrhyw gymorth gyda chyflwyno gwaith a chael eich asesu trwy gyfrwng y Gymraeg, cysylltwch ag Academi Hywel Teifi

Academi Hywel Teifi
Adeilad Talbot
Campws Singleton

Ffôn: 01792 602912
E-bost: astudio@abertawe.ac.uk