Hoffech chi astudio rhan o'ch cwrs gradd trwy gyfrwng y Gymraeg? Mae Academi Hywel Teifi yma i'ch cefnogi i wneud hynny trwy gydol eich amser gyda ni. Rydym yn darparu cymuned ar gyfer y miloedd o fyfyrwyr sy’n siarad Cymraeg yma gan gefnogi, cynyddu a chyfoethogi darpariaeth addysg ac ymchwil cyfrwng Cymraeg yn y Brifysgol. Mae cyfleoedd cyfrwng Cymraeg ar gael y tu hwnt i'ch gradd hefyd, wrth gwrs, fel cefnogaeth astudio, cyfleoedd i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd, gwneud cais i gyflwyno gwaith yn Gymraeg a mwy! Porwch drwy ein gwybodaeth isod. Os oes gennych ymholiad, peidiwch oedi rhag cysylltu.

At hynny, mae Cangen y Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi'i lleoli yn Academi Hywel Teifi.  Mae Cangen Prifysgol Abertawe yma i ddarparu cymorth a chefnogaeth i chi. Mae drws y Gangen ar agor os ydych chi am fwy o wybodaeth am y cyfleoedd a’r gweithgaredd sydd ar gael yn y Brifysgol.