Un o brif amcanion y Brifysgol yw paratoi a hyrwyddo cyflogadwyedd myfyrwyr. Mae ein cyrsiau academaidd yn anelu at dy arfogi â’r profiad gwerthfawr a sgiliau lefel uchel y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Lle bynnag y bo’n bosibl, mae ein cyrsiau wedi’u hachredu gan gyrff proffesiynol. Mae ein hanes hir o weithio gyda busnes, diwydiant, masnach a’r yn y sector cyhoeddus yn ein galluogi i ychwanegu gwerth gwirioneddol at dy addysg. Rydym yn gwrando ar gyflogwyr pan fyddant yn dweud wrthym pa sgiliau a phrofiadau y maent yn ei gwneud yn ofynnol gan eu gweithwyr graddedig, ac rydym yn teilwra’n cyrsiau i sicrhau dy fod yn ennill sgiliau proffesiynol a lefel uchel sy’n dy alluogi i ffynnu yn y byd cystadleuol sydd ohoni.

Cwrs Datblygu Gyrfa

Datblygwyd y Cwrs Datblygu Gyrfa yn arbennig ar gyfer Academi Cyflogadwyedd Abertawe (SEA). Wedi'i greu gan ein hymgynghorwyr gyrfa ac mewn partneriaeth â chyflogwyr a graddedigion, mae'n darparu gwybodaeth gyfredol a defnyddiol i fyfyrwyr am y sgiliau a'r wybodaeth y mae'r galw mwyaf amdanynt heddiw!

Mae’n cynnwys 16 o unedau sy’n canolbwyntio ar bynciau gyrfa gwahanol, gan gynnwys:

  • Ysgrifennu CVs, proffil LinkedIn a ffurflenni cais
  • Paratoi am gyfweliadau
  • Opsiynau gyrfa a chynllunio
  • Gallwch ddysgu rhagor amdanoch chi eich hun a'ch cymhelliannau o ran gyrfa
  • Gwneud penderfyniadau
  • Datblygu eich sgiliau meddal megis eich meddylfryd a’ch gwytnwch

Hefyd, byddi'n cael mynediad at adnoddau defnyddiol fel y platfform ar-lein, Shortlist Me, lle gelli di ymarfer dy ddull cyfweliad, a Profion Rhesymu a Phecyn Datblygiad Personol, lle gelli di gwblhau cwisiau ar-lein i ddysgu mwy amdanat ti dy hun ac ymarfer yr asesiadau a ddefnyddir yn y broses recriwtio.

Gall pob uned gael ei chwblhau ar ei phen ei hun ond gallwch chi ennill Dyfarniad Cwrs Datblygu Gyrfa trwy cwblhau 5 uned a’r Dyfarniad Cwrs Datblygu Gyrfa Uwch trwy cwblhau 10 uned. Mae'r holl unedau ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.

Byddwch yn derbyn bathodyn electronig am y wobr y gallwch ei rannu â'ch proffil LinkedIn, a chaiff ei ychwanegu at eich cofnod HEAR.

Cyfloedd profiad gwaith gydag Academi Hywel Teifi

Mae gradd yn bwysig er mwyn sicrhau swydd dda, ond mae cyflogwyr yn chwilio am lawer mwy na gradd wrth ddewis pa raddedigion i’w cyflogi. Bydd sicrhau profiad gwaith a datblygu sgiliau wrth astudio ac yn ystod y gwyliau yn eich gwneud yn fwy abl i gystadlu am swyddi. Mae Academi Hywel Teifi yn cynnig profiad gwaith Interniaeth SPIN yn flynyddol sy'n rhoi cyfle i myfyrwyr weithio o fewn y maes marchnata a digwyddiadau gan magu profiad a chynrychioli'r Brifysgol mewn digwyddiadau megis Eisteddfod yr Urdd. 

Tystysgrif Sgiliau Iaith, Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Dyma gyfle i ennill Tystysgrif Sgiliau Iaith sy’n dangos i gyflogwyr eich bod yn hyderus wrth ddefnyddio’r Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig fydd o fantais wrth ymgeisio am swyddi. Bydd y Coleg yn trefnu sesiynau trwy Academi Hywel Teifi er mwyn cynorthwyo myfyrwyr i baratoi ar gyfer y Dystysgrif ac mae adnoddau ychwanegol ar-lein. I ennill y Dystysgrif mae angen gwneud cyflwyniad llafar a chwblhau prawf ysgrifenedig sy'n cynnwys tair tasg. Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch Indeg Llewelyn Owen, Swyddog Cangen Prifysgol Abertawe.

Gweithio fel Llysgennad Myfyrwyr i Brifysgol Abertawe

Mae Cynllun Myfyrwyr Llysgennad y Brifysgol bob tro yn chwilio am siaradwyr Cymraeg. Mae'n gyfle cyflogedig gyda hyfforddiant lawn wrth ennill profiadau gwych i’w hychwanegu ar eich CV. Dyma gyfle i gwrdd â ffrindiau newydd a chynrychioli Prifysgol Abertawe mewn amryw o ddigwyddiadau Cymraeg a Saesneg; gyda chyfleoedd i weithio am dâl mewn adrannau arall ar draws y Brifysgol.  Mae cyfle i chi weithio tuag at Wobr Llysgennad y Swyddfa Recriwtio Myfyrwyr ac Achrediad WOWee gydag Academi Cyflogadwyedd Abertawe.

Mae bob tro angen siaradwyr Cymraeg yn ystod digwyddiadau fel Diwrnodau Agored ac i ymweld ag ysgolion Cymraeg. Am fanylion pellach, ewch i dudalennau Cynllun Myfyrwyr Llysgennad ar dudalennau MyUni'r Brifysgol.

 

Gweithio fel Llysgennad Myfyrwyr i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Yn flynyddol, mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol hefyd yn chwilio am fyfyrwyr brwdfrydig boed yn Gymraeg iaith gyntaf neu ail iaith i rannu eu profiadau mewn prifysgolion ar draws Cymru gyfan, o’r astudio a phwysigrwydd y Gymraeg, i’r cymdeithasu gan geisio denu mwy i astudio yng Nghymru! Maent eisiau eich cefnogi chi er mwyn datblygu sgiliau gwerthfawr i chi all fod o fudd wrth chwilio am waith yn y dyfodol, yn ogystal â chael y cyfle i rannu eich gwahanol brofiadau, ar ein gwefan ac ar y cyfryngau cymdeithasol. Yn ogystal â cynrychioli’r Coleg o fewn y Brifysgol, mae bod yn lysgennad a cynrychioli llais myfyrwyr Cymru, yn rôl bwysig a gwerthfawr, a gallai roi boddhad mawr wrth gynorthwyo darpar fyfyrwyr i wneud penderfyniadau pwysig ynglŷn â chyfrwng iaith eu hastudiaethau addysg uwch. 

Am fanylion pellach, ewch i dudalennau'r Coleg Cymraeg isod;