Datblygu sgiliau yn y ddwy iaith

Mae gan Brifysgol Abertawe ddarpariaeth eang a chyffrous os ydych chi'n dymuno astudio cwrs gradd yn gyflawn neu’n rhannol trwy gyfrwng y Gymraeg ac mae Academi Hywel Teifi yma i'ch cefnogi i wneud hynny trwy gydol eich amser gyda ni. Mae Academi Hywel Teifi yn darparu cymuned ar gyfer y miloedd o fyfyrwyr sy’n siarad Cymraeg yma gan gefnogi, cynyddu a chyfoethogi darpariaeth addysg ac ymchwil cyfrwng Cymraeg Prifysgol Abertawe. Mae Prifysgol Abertawe yn gweithio ar y cyd â'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac mae Cangen y Brifysgol wedi'i lleoli yn Academi Hywel Teifi. Mae nifer o ysgoloriaethau a bwrsariaethau os ydych chi’n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd parhau i astudio trwy’r Gymraeg wedi i chi adael yr ysgol neu’r coleg yn rhoi hwb i’ch cyfle i gael yr addysg orau. Mae cyfleoedd ar gael i fyfyrwyr sy’n rhugl ac yn hyderus yn yr iaith yn ogystal ag i’r rhai sy’n llai hyderus neu sy’n ddysgwyr. Mae yna ddewis sy’n iawn i chi: o gyrsiau gradd cyfangwbl trwy’r Gymraeg i gyrsiau lle mae rhai modiwlau yn y Gymraeg. Mewn rhai pynciau mae’n bosibl cael dosbarthiadau seminar a thiwtorial ar gyfer modiwlau sy’n cael eu dysgu yn bennaf drwy gyfrwng y Saesneg.

Mae hawl gennych i gyflwyno eich gwaith cwrs ac i sefyll eich arholiadau yn y Gymraeg, hyd yn oed os ydych wedi dewis dilyn cyrsiau cyfrwng Saesneg. Am fanylion pellach, ewch i dudalen Cyflwyno gwaith ac asesu drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r hawliau yma wedi cael eu creu o ganlyniad i osod ‘Safonau’ ar y Brifysgol. Am fanylion pellach, ewch i'n tudalen Mae gen i Hawl

O barhau i astudio y cyfan neu ran o’ch cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg, byddwch yn datblygu eich sgiliau yn y ddwy iaith – y Gymraeg a’r Saesneg – gan agor drysau i’ch hunan ar ôl i chi adael y Brifysgol.

Llun o ap Arwain
Lawrlwytha ap Arwain

Ap Arwain

Mae Arwain yn ap rhad ac am ddim wedi’i greu ar gyfer myfyrwyr Prifysgol Abertawe sy’n siarad neu'n dysgu Cymraeg. Mae’r ap yn cynnwys gwybodaeth am ein cyrsiau a’n modiwlau cyfrwng Cymraeg, y gefnogaeth ariannol sydd ar gael, ynghyd â’r cyfleoedd i fyw a chymdeithasu yn y Gymraeg.
Ar gael nawr ar App Store a Google Play.