Rydym yn deall bod y cyfnod pontio i'r Brifysgol yn gallu bod yn gyfnod anodd i fyfyrwyr newydd yn ogystal â'r rhai hynny sy'n eu cefnogi. Rydym hefyd yn gwerthfawrogi bod llawer o fyfyrwyr yn dibynnu ar eich cymorth chi, a gallant deimlo ar goll neu'n ddryslyd o ran ble i fynd unwaith y byddant oddi cartref. Lluniwyd yr awgrymiadau canlynol i helpu i'ch arwain a'ch cefnogi lle bo angen, yn ogystal â galluogi'r myfyriwr i ddod yn oedolyn annibynnol.
GWYBODAETH I RIENI A GWARCHEIDWAD
Pethau defnyddiol i'w gwybod
MyUniHub
Crëwyd MyUniHub i helpu myfyrwyr i ddod o hyd i'w ffordd drwy'r Brifysgol, felly anogwch y myfyriwr i gysylltu â MyUniHub gydag unrhyw ymholiadau a allai fod ganddo. Gallwn helpu gyda'r rhan fwyaf o bethau neu eu cyfeirio at yr unigolyn neu wasanaeth mwyaf perthnasol.
Diogelu Data
Wyddech chi fod angen i'r Brifysgol gydymffurfio â chanllawiau GDPR o ran pa wybodaeth y gallwn ei rhoi i chi? Nid yw'n fater o beidio ag eisiau siarad â chi, ond yn gyfreithiol, mae angen caniatâd ysgrifenedig y myfyriwr arnom i allu trafod gwybodaeth bersonol sy'n ymwneud â'i astudiaethau neu ei les. Rydym yn hapus i siarad â chi am ymholiadau cyffredinol, ond ni allwn drafod manylion penodol ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol sy'n atal y myfyriwr rhag cysylltu â ni, neu fod gennym ganiatâd ymlaen llaw i wneud hynny. Yr eithriad i hyn yw myfyriwr sy'n iau nag 18 oed, ond dim ond â'r cyswllt a enwebwyd y gallwn siarad ag ef o hyd. Am ragor o wybodaeth, ewch i'n tudalen diogelu data.
Prawf Cofrestru
Os oes angen llythyr prawf cofrestru i fyfyriwr arnoch, gofynnwch i'r myfyriwr gysylltu â MyUniHub a gofyn am ddatganiad prawf cofrestru. Unwaith eto, oherwydd rheoliadau diogelu data, ni allwn roi'r wybodaeth hon yn uniongyrchol i chi, felly bydd angen i'r myfyriwr ei hun ofyn amdano gan MyUniHub.
Beth i'w wneud os ydych yn poeni am les neu lesiant myfyriwr
Os ydych yn poeni oherwydd nad ydych wedi gallu cysylltu â'r myfyriwr, ac rydych yn poeni am ei les, gallwch gysylltu â MyUniHub. Ni fyddwn yn gallu cadarnhau bod rhywun yn fyfyriwr yn Abertawe, ond byddwn yn nodi’r manylion ac yn gofyn i Llesiant@BywydCampws gysylltu â'r unigolyn ar eich rhan gan roi gwybod iddo eich bod wedi cysylltu â ni a gofyn i'r person gysylltu â chi. Cyfrifoldeb y myfyriwr fydd cysylltu â rhieni, ac ni fydd staff yn gyffredinol yn cysylltu â rhieni'n uniongyrchol. Fodd bynnag, os ydych yn poeni’n eithriadol am fyfyriwr neu'n teimlo ei fod mewn perygl, dylech ffonio 999.
Cyllid a ffioedd
Rydym yn deall mai rhywun arall yn aml sy'n gyfrifol am dalu ffioedd. Fodd bynnag, cysylltir â'r myfyriwr ac mae'r un rheolau diogelu data uchod yn berthnasol. Gallwch gael gwybodaeth serch hynny am ffioedd a chyllid yma.
Myfyrwyr ag anabledd neu y mae angen darpariaethau arbennig ar eu cyfer mewn arholiadau
Cynghorir myfyrwyr ag anabledd i gysylltu â'r Swyddfa Anableddau i sicrhau bod unrhyw ddarpariaethau angenrheidiol yn ystod eu cyfnod yn y Brifysgol yn cael eu rhoi ar waith. Bydd rhai myfyrwyr eisoes wedi cael darpariaethau ar gyfer arholiadau yn ystod cyfnodau astudio blaenorol, ond nid yw'r darpariaethau hyn yn trosglwyddo'n awtomatig i'r Brifysgol. Felly, dylai pob myfyriwr y mae angen cymorth arno edrych ar ganllawiau'r Swyddfa Anableddau y gellir dod o hyd iddynt yma.
Cynnydd/Canlyniadau
Unwaith eto oherwydd diogelu data, ni allwn ryddhau canlyniadau na thrafod materion o ran cynnydd gyda chi heb ganiatâd ymlaen llaw y myfyriwr.