Mae'r sefyllfa bresennol a digynsail wedi gadael llawer ohonoch yn gofyn i’ch hunain beth  dylech chi ei wneud nawr a beth yw’r strategaeth gywir wrth chwilio am swydd. Ein prif neges i chi yw canolbwyntiwch ar eich astudiaethau ac os oes asesiadau neu arholiadau ar ddod gennych, nhw yw eich blaenoriaeth ar hyn o bryd. Byddwn ni yma i’ch helpu pan fyddwch yn barod. 

Rydym yn monitro’r sefyllfa ansicr hon yn barhaus, ac yn gweithio’n agos gyda chyflogwyr i roi’r newyddion diweddaraf i chi. Mae’r 6 awgrym canlynol i’r rhai hynny yn eich plith sy’n chwilio am waith, naill ai nawr neu dros yr haf.

  1. Mae hysbysebion am swyddi ar gael o hyd

Yn ôl LinkedIn, roedd recriwtio yn y DU wedi gostwng 39% erbyn 10 Ebrill ac yn yr UD, mae tua 30% yn is na’r un cyfnod y llynedd, ac yn Awstralia hefyd mae wedi gostwng 30%. Mae’r ystadegau hyd yn oed yn waeth yn yr Eidal ac yn Ffrainc.

Fodd bynnag, mae  cwmnïoedd y mae angen gweithwyr arnynt ac sy’n recriwtio ar hyn o bryd ac mae adnoddau ar gael a fydd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ddiwydiannau a’r math o gyfleoedd sydd ar gael o hyd. Dylai eich ymagwedd chwilio am swyddi gynnwys llawer o waith ymchwil, cynllunio a theilwra eich ceisiadau yn hytrach nag anfon cannoedd o geisiadau.  

Os oes gennych gynnig swydd, cadwch mewn cysylltiad rheolaidd â’r sefydliad sydd wedi rhoi swydd  raddedig neu interniaeth i chi i ofyn am gyngor a chael diweddariadau ganddyn nhw. 

2. Rhwydweithiwch

Mae’n bwysig dweud wrth bobl eich bod chi’n chwilio am waith. Rhwydweithio yw un o'r camau mwyaf defnyddiol y gallwch ei gymryd i sicrhau y bydd eich cais am swydd yn llwyddiannus. Mae’r cyfryngau cymdeithasol ac e-bost yn gwneud hyn yn bosib, ac os nad ydych chi wedi creu eich proffil LinkedIn eto, dyma’r amser i wneud hynny.

 

3. Mynnwch le da a chyflwynwch eich hunan

 

O’r rhestr uchod, gwnewch eich ymchwil a cheisiwch deilwra eich CV a’ch llythyr eglurhaol ar gyfer cynifer o ddarpar gyflogwyr â phosib. Dychmygwch dderbyn y dogfennau hynny fel recriwtiwr neu reolwr recriwtio. Fyddech chi’n fwy tebygol o gysylltu ag unigolyn a anfonodd dogfennau cyffredinol atoch chi nag unigolyn a oedd wedi’u teilwra i’ch cwmni chi?

 

Yn hytrach na bod pobl yn eich ystyried i fod yn rhywun sy’n chwilio am waith yn unig, cyflwynwch eich hun fel unigolyn sy’n ychwanegu gwerth. Mae’n ddefnyddiol gweld eich hunan fel ‘cynnyrch’, ystyried eich profiadau a gofyn i’ch hun ‘beth yw’r problemau galla i eu datrys ar gyfer busnesau?’ Meddyliwch am eich gwerth chi a seiliwch eich CV a’ch cyfryngau cymdeithasol ar hynny.

4. Amser i adfyfyrio

Mae hunan-fyfyrio yn rhan o’r cylch datblygu gyrfa ac nid ydym ni erioed wedi bod mewn sefyllfa well i ddod i stop, adfyfyrio a meddwl am yr hyn rydych chi wedi’i gyflawni. Efallai y bydd hi’n ddefnyddiol i chi ysgrifennu'r atebion i’r cwestiynau canlynol:

 

  • Pwy sy’n gwneud i chi deimlo’n dda am eich hunan?
  • Beth sy’n gwneud i chi chwerthin?
  • Beth sy’n sbarduno teimladau o barch ac edmygedd ynoch chi?
  • Beth ydych chi’n ddiolchgar amdano yn eich bywyd?
  • Pryd ydych chi’n gallu ymlacio fwyaf?
  • Pryd ydych chi’n fwyaf tawel eich meddwl?
  • Beth sy’n gwneud i chi anghofio am dreigl amser?
  • Pryd ydych chi’n teimlo fwyaf egnïol... a mwyaf bywiog?
  • Os nad oedd arian nac amser o bwys, beth byddech chi’n treulio’ch diwrnod yn ei wneud?

 

Mae Gwobr Cyflogadwyedd Abertawe ar gael i’w chwblhau tan 30 Mehefin 2020, ac mae’n cynnwys amrywiaeth o adnoddau defnyddiol ar ysgrifennu CV, pa swyddi fyddai’n ddelfrydol i chi, cynlluniau gweithredu gyrfa, hunan-ymwybyddiaeth etc.  

 

Gallwch ymarfer eich sgiliau cyfweliad a datblygu'r rhain am ddim drwy'r platfform Shortlist.me .

 

Byddwch o flaen y gad a cheisiwch wneud y mwyaf o’r amser hwn i barhau i ddatblygu eich sgiliau a’ch gwybodaeth.

5. Mae cyngor ar yrfaoedd ar gael 

Mae hyfforddiant a charedigrwydd yn rhan o’n gwaith; nid yw cadw lle i eraill erioed wedi bod mor bwysig felly cysylltwch, rydym ni yma i’ch cefnogi. Gallwch gadw apwyntiad gyrfaoedd diduedd a chyfrinachol drwy'r ddolen hon.

6. Gofalwch am eich hun(Liane Hambly 2020)

Mae angen i chi ystyried hunan-ofal, yn enwedig ar hyn o bryd, fel rhan o’ch proses  chwilio am swydd. Allwch chi ddim â chael swydd na bod yn ymgeisydd da os na allwch chi wneud y gwaith. Yn ystod y cyfnod anodd hwn, mae rhan fawr o'r dasg honno yn golygu cymryd cyngor gan Sefydliad Iechyd y Byd, y GIG a’r Brifysgol i ddiogelu yn erbyn y coronafeirws newydd. Dylech chi hefyd fod yn ymwybodol o’ch iechyd cyffredinol.

Sbarduno cemegion bodlonrwydd:
Dopamin – pleser a gwobrwyo. Gosodwch nod ac edrych ymlaen at y wobr. Bydd pob cam yn rhyddhau dopamin                                                                                              Ocsitosin – rhyngweithio cymdeithasol, anwesu ci, rhoi, ymddiried, derbyn, cael cwtsh (sicrhewch eich bod chi’n dilyn canllawiau diweddaraf y llywodraeth o ran ymbellhau cymdeithasol)  Chwerthin neu wneud ymarfer corff, olewon aromatherapi/ aroglau                      Serotonin – hunanhyder, cael ffydd ynoch chi eich hun. Canolbwyntiwch ar eich cryfderau, adfyfyriwch ar gyflawniadau, cadwch ddyddiadur diolchgarwch                                                                                                  Cadwch Ddyddiadur Diolchgarwch Adolygwch gryfderau a chyflawniadau

Ymarfer Cyfweliadau Fideo

Ymarferwch gyfweliadau fideo am ddim trwy’r raglen Shortlist.me

 

Diweddariadau swyddogol ac adnoddau defnyddiol:

University Updates
Your career and Covid-19
Coronavirus: The good that can come out of an upside-down world
Government guidelines for employees, employers and businesses 
Mae
Gradcracker yn adrodd am gyflogwyr mawr sy’n parhau i recriwtio.

Mae Graduate Recruitment Bureau yn gweithredu yn ôl yr arfer, gyda llawer o gyflogwyr yn recriwtio ar ei blatfform.
Mae gan Handshake awgrymiadau ar gyfer gwneud argraff dda yn eich cyfweliad swydd rhithwir.
Mae InsideSherpa yn cynnig rhaglenni am ddim i fyfyrwyr lle gallant gymryd rhan mewn efelychiadau swyddi damcaniaethol, cwblhau tasgau a chyrchu adnoddau dysgu. Maent wedi gweithio gyda nifer o gwmnïoedd megis JPMorgan Chase, Citi, KPMG, Deloitte a Linklatters. Wrth gofrestru ar gyfer eu rhaglenni, cofiwch ystyried y Datganiad Casglu Data.
Mae NextStepSupport yn ymateb diwydiant cyfan a chydweithredol i’r argyfwng presennol. Fe’i datblygwyd mewn partneriaeth ag AGCASAHECSISEStudent Rooms ac ASET, ac mae’r wefan am ddim ac yn adnodd sy’n agored i fyfyrwyr. Mae’r wefan yn cynnwys y diweddaraf ar gyflogi gan gyflogwyr, digwyddiadau rhithwir a digidol (sgyrsiau, diweddariadau, sesiynau holi ac ateb, teithiau tywys o swyddfeydd), sesiynau sgiliau a chynnwys ac offer gan ffynonellau y gellir ymddiried ynddynt.
Mae swyddi’r GIG yn cynnwys nodweddion i helpu gyda’r swyddi gwag sy’n ymwneud â’r Coronafeirws (COVID-19).
Mae Nikon School Online yn cynnwys eu cyrsiau ar-lein am ddim ar gyfer mis Ebrill.
Hysbysfwrdd swyddi yw Otta i gwmnïoedd techn egol gyda chyfleoedd a gadarnhawyd yn ystod COVID-19.
Mae Prospects yn cynnwys llawer o ganllawiau ac awgrymiadau mewn ymateb i’r amgylchiadau presennol.
Mae llawer o gyfleoedd ar gael mewn archfarchnadoedd.
Mae Rhaglen Hyfforddiant Teach First 2020 yn mynd yn ei blaen ac maent yn parhau i recriwtio.
Mae TutorNinjas yn recriwtio rhagor o diwtoriaid ar-lein ar hyn o bryd. Maent yn cynnig amgylchedd rhannu gwybodaeth byd-eang sy’n cynnwys mwy na 300 o bynciau ac sy’n canolbwyntio ar gysylltu myfyrwyr â thiwtoriaid dydd a nos.