Mae ein Tîm Cyflogadwyedd yn adnabyddus am lansio gyrfaoedd llwyddiannus. 

Mae'r gwasanaeth hwn yn sicrhau bod cyflogadwyedd yn cael ei hyrwyddo a'i fod yn parhau'n ffocws pwysig drwy gydol eich astudiaethau.

Mae eisoes wedi helpu nifer o fyfyrwyr i gael swyddi a lleoliadau eu breuddwydion. Siaradwch â nhw am:

value added stats graphic
NUE Best University Careers/Employability Service Finalist 2018
  • Gyngor ar leoliad gwaith
  • Awgrymiadau ar gyfer eich CV
  • Cyngor ar gyfer Cyfweliadau (cyfweliadau cyffredinol a phrofion seicometrig)
  • Byddant hyd yn oed yn ymchwilio i'r brandiau rydych chi'n dymuno gweithio iddynt a rhoi cyngor ar eu ffyrdd o gyfweld


Cysylltwch â Thîm Cyflogadwyedd yr Ysgol os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu os ydych chi am wneud apwyntiad i siarad ag aelod o'r tîm.

male in suit smiling

"CES I FY SWYDD DIOLCH IDDYN NHW.

Mae'r tîm gyrfaoedd yn rhywbeth sy'n neilltuedig am y brifysgol hon."

- George Miller, Cyfrifydd Prosiect yn BAE Systems

AM WELLA EICH SGILIAU CYFLOGADWYEDD DRWY YMGYMRYD Â LLEOLIAD GWAITH?

Mae cyfleoedd amrywiol i chi ddatblygu eich cyflogadwyedd drwy gydol eich profiad myfyriwr, megis:

  • SPIN (Rhwydwaith Interniaeth â Thâl Abertawe) -Drwy ein Rhwydwaith Interniaeth â Thâl, rydym yn ceisio cysylltu cyflogwyr a myfyrwyr ar gyfer lleoliadau gwaith 4 wythnos o hyd ar lefel raddedig. Caiff pob rôl ei hysbysebu trwy'r Parth Cyflogaeth ac mae ein Harbenigwyr Academi Cyflogadwyedd Abertawe yn rhoi cefnogaeth i'r rheiny ar leoliadau gwaith i sicrhau bod y busnes a'r myfyriwr yn cael y gorau o'r interniaeth. Telir myfyrwyr isafswm o £300 yr wythnos, amser llawn ac mae cymorth grantiau ar gael i gyflogwyr er mwyn talu eu cyflog. Gall lleoliadau gwaith redeg drwy gydol y flwyddyn er byddai'n rhaid iddynt fod ar sail ran-amser yn ystod y tymor.
  • Mae rhaglen WoW (Wythnos o Waith) yn cynnig blas ar amrywiaeth eang o fusnesau i fyfyrwyr ac yn rhoi cyfle i gyflogwyr ddod â dawn ddeinamig myfyrwyr i'w busnes ar gyfer prosiectau byrrach. Caiff pob rôl ei hysbysebu trwy'r Parth Cyflogaeth ac mae ein Harbenigwyr Academi Cyflogadwyedd Abertawe yn rhoi cefnogaeth i'r rheiny ar leoliadau gwaith i sicrhau bod y busnes a'r myfyriwr yn cael y gorau o'r interniaeth. Mae bwrsariaethau ar gael i dalu treuliau myfyrwyr.
  • Mae Rhaglen Lleoliadau Gwaith Prifysgolion Santander yn cynnig profiad gwaith â thâl i fyfyrwyr a graddedigion diweddar gyda busnesau bach a chanolig a sefydliadau trydydd sector lleol. Mae Santander yn cynnig grantiau hyblyg i'r cyflogwyr hyn.

Cysylltwch â ni i ddysgu sut y gallwch chi gael profiad gwaith wrth astudio ar gyfer eich gradd.

Mae gan fyfyrwyr israddedig hefyd yr opsiwn i wneud Blwyddyn mewn Diwydiant fel rhan o'u gradd.

Mae'n graddau Blwyddyn mewn Diwydiant yn rhaglenni pedair blynedd o hyd, lle byddwch yn treulio'r drydedd flwyddyn mewn diwydiant.

DARLLENWCH EICH CANLLAWIAU EURAIDD AR GYFER LLWYDDIANT

Cliciwch ar yr opsiynau isod i gael ein hawgrymiadau a'n mewnweliadau euraidd i'ch helpu chi i baratoi ar gyfer camau nesaf eich gyrfa.