ffurflen gais

10 Awgrym Defnyddiol

Fel arfer, CV yw’r peth cyntaf y bydd cyflogwr yn ei weld amdanoch, felly mae’n bwysig buddsoddi ychydig o amser ac ymdrech er mwyn sicrhau ei fod cystal â phosibl. Nid oes angen i’r dasg o lunio CV fod yn anodd, ond mae angen ymarfer, ymchwilio i’r cwmni dan sylw a’r rôl rydych yn gwneud cais amdani, a theilwra eich CV er mwyn diwallu anghenion y swydd.

Yr hyn i’w wneud a’r hyn na ddylid ei wneud

Dylech
  • Dylech deilwra eich CV yn unol â phob swydd benodol. Edrychwch i weld sut yn union mae CV yn edrych yn eich sector
  • Cyfatebwch y sgiliau sydd gennych i’r sgiliau y mae’r cyflogwr yn chwilio amdanynt
  • Gwnewch yn siŵr ei fod yn HAWDD EI DDARLLEN. Bydd CV deniadol yn denu sylw cyflogwr
  • Rhowch sylw i sillafu a gramadeg: efallai na chaiff eich CV ei dderbyn i’r cam nesaf os oes camgymeriadau
  • Rhowch enghreifftiau penodol er mwyn arddangos eich sgiliau
  • Cofiwch: pwy, beth, pryd a sut. Gofynnwch i rywun DDARLLEN DROS eich CV cyn i chi gyflwyno eich cais
Ni ddylech

Gwerthu Eich Hun

COFIWCH: Cyn i chi ysgrifennu eich CV, mae’n bwysig iawn eich bod yn gallu myfyrio ar bwy ydych chi a pha sgiliau a phrofiad y gallwch eu cynnig. Rhowch eich rhinweddau unigryw yn agos at frig eich CV a gwnewch yn siŵr eu bod yn berthnasol i’r swydd rydych yn gwneud cais amdani.

Ysgrifennu i greu effaith

Mae’r iaith a ddefnyddiwch yn eich CV yn bwysig. Drwy ddefnyddio berfau cadarnhaol (gweler yr enghraifft isod) gallwch bwysleisio’r ffordd rydych wedi gweithredu a chyfrannu at weithgaredd neu rôl. Dylech bob amser sicrhau eich bod yn dangos tystiolaeth o’ch holl sgiliau.

Ymadroddion defnyddiol:

Mwy na x mlynedd o brofiad helaeth ac amrywiol ym maes ... Cefais fy nghyflogi’n wreiddiol i / ymunais â’r sefydliad i arbenigo mewn ...
Rwyf wedi arddangos sgiliau ym maes ...  Profiad o bob agwedd ar / cam o...
Cefndir academaidd / ymarferol helaeth ym maes ... Cefais ddyrchafiad i ...
Yn gyfrifol am roi ... ar waith Hanes o lwyddiant ym maes ...
Yn wybodus am / profiad o weithio fel ... Roedd y profiad yn cynnwys ...
Hyfforddiant helaeth ar... / cyfrannu’n helaeth at ... Llwyddiant ym maes / wrth ddatblygu ...
Rhyngweithio’n gyson â ... Adrodd wrth uwch reolwyr pan ...
Rhoddais gymorth technegol i ... Rhannu canlyniadau gwaith dadansoddi ...
Cydweithio’n agos â ... Allweddol yn y broses o ...
Llwyddais i ... Yn wybodus iawn am ...
Wedi cynllunio a rheoli ... Helpais gwsmeriaid / cydweithwyr i ...
Wedi sicrhau arbedion ariannol drwy ... Ymchwilio, asesu a chyfosod ...