bobl yn aros

Mae paratoi yn rhywbeth allweddol ar gyfer cyfweliad

Y ffordd orau o leihau’r nerfau yw paratoi a sicrhau eich bod yn perfformio’n dda ar y diwrnod.
Dyma agweddau allweddol o’r gwaith paratoi:

  • Yr hyn y mae’r cyflogwr yn chwilio amdano: deall yr hyn y mae’r cyflogwr yn chwilio amdano a sut rydych yn bodloni’r meini prawf penodol. Ewch yn ôl i’r tri chwestiwn cychwynnol hynny (Allwch chi wneud y swydd? Fyddwch chi’n gwneud y swydd? Fyddwch chi’n addas?). Meddyliwch am y sgiliau a’r profiadau sydd gennych, a sut y maen nhw’n addas ar gyfer y swydd rydych yn gwneud cais amdani.
  • Ymwybyddiaeth fasnachol: beth yw natur eu busnes? Bydd deall y diwylliant, y cwsmeriaid, y farchnad a’r sawl sy’n cystadlu yn eu herbyn yn eich rhoi chi ar y blaen.
  • Gwybod manylion am eich cyfweliad: yr hyn a ddisgwylir – cyflwyniad, prawf neu gyfweliad, amser, lleoliad, teithio, manylion cyswllt rhag ofn y bydd problem. Fel y dywed yr hen ddihareb, mae methu â pharatoi yn paratoi i fethu.

Beth yw’r mathau gwahanol o gyfweliadau?

Deall yr hyn y mae’r cyflogwr yn chwilio amdano

Wrth recriwtio ar gyfer unrhyw swydd, bydd y cyflogwr yn creu dwy ddogfen:

Disgrifiad swydd: Dyma ddogfen sy’n amlinellu dyletswyddau a chyfrifoldebau’r swydd ei hun. Bydd yn disgrifio’r dyletswyddau cyffredinol y bydd angen i chi eu gwneud os ydych yn llwyddiannus yn ystod y broses recriwtio.

Manyleb person: Dyma ddogfen allweddol oherwydd bydd yn nodi’n glir y cymysgedd o sgiliau, gwybodaeth a phrofiad a geisir. Mewn geiriau eraill, mae’n disgrifio’r math o unigolyn y maen nhw’n chwilio amdano.

Mae disgrifiadau swydd a manylebau person ar gael yn rhwydd wrth wneud cais am swyddi yn y sector cyhoeddus, ond mae’n bosibl na fyddant mor hawdd eu canfod wrth wneud cais am swyddi yn y sector preifat neu ar gyfer rhaglenni i raddedigion. Yn yr achos hwn, bydd angen dadansoddi’r hysbyseb swydd neu’r tudalennau gwe ar gyfer recriwtio graddedigion er mwyn canfod y cymysgedd o sgiliau, gwybodaeth a phrofiad a geisir.

Deall yr hyn y mae’r sefydliad yn chwilio amdano, a nodi’r dystiolaeth i ddangos sut rydych yn bodloni eu meini prawf yw’r agwedd bwysicaf o’ch gwaith paratoi o bosibl. Bydd y cwestiynau a ofynnir yn ystod y cyfweliad yn canolbwyntio ar y meini prawf, ac mae disgwyl y byddwch yn rhoi rhywfaint o dystiolaeth benodol sy’n dangos y cymhwysedd y canolbwyntir arno.

Gall dull STAR eich helpu i feddwl am yr amrediad o brofiadau sydd gennych, a nodi enghreifftiau penodol y gellir eu defnyddio mewn cyfweliad i ddangos sut rydych wedi datblygu a chymhwyso’r sgiliau, cymhwysedd neu’r ansawdd y maen nhw’n chwilio amdanynt.

Mae’n bosibl y gofynnir i ymgeisydd ar gyfer swyddog gweithredol marchnata: “Dywedwch fwy wrthyf am gyfnod y gwnaethoch ddatrys problem mewn amserlen dynn.” Dyma sut y gallwch strwythuro eich ateb:

Situation (Sefyllfa)

Situation (Sefyllfa) – rhowch gyd-destun ar gyfer eich stori.

Er enghraifft, “Roedd disgwyl i ni wneud cyflwyniad ar gyfer grŵp o 30 chwaraewyr yn y diwydiant â diddordeb ar ein cynnyrch newydd, ac roedd Stuart, y bachgen oedd i fod yn gwneud y cyflwyniad, wedi cael ei ddal ar drên o Firmingham.”

Task (Tasg) Action (Cam gweithredu) Result (Canlyniad)

Mathau o gwestiynau cyfweliad

Gall y cwestiynau a ofynnir yn ystod cyfweliad gael eu holi mewn amryw o ffyrdd, ond yn gyffredinol maen nhw’n cynnwys y mathau canlynol:

  • Cwestiynau gwirio: Allwch chi gadarnhau eich cyfeiriad cyswllt?
  • Cwestiynau cynhesu: Dywedwch ychydig am eich hunan?
  • Cwestiynau cymhwysedd: Dywedwch wrthym am gyfnod lle rydych wedi cyfrannu’n effeithiol at dîm?
  • Sefyllfa ddamcaniaethol: Beth fyddwch chi’n gwneud mewn sefyllfa lle...
  • Cwestiynau herio: Dywedwch wrthyf am rywbeth nad aeth cystal ag y byddech wedi’i hoffi a sut y gwnaethoch chi ddelio â hyn?
  • Cwestiynau am ymddygiad: Enghraifft o hyn fyddai, “Dywedwch wrthyf am brofiad llwyddiannus diweddar o wneud araith neu gyflwyniad.”

Rhoddwyd nifer o themâu ac amrywiadau ar yr opsiynau uchod; gallwch fod yn sicr y bydd nifer o gwestiynau yn dod o dan yr ymbareli hyn.

Gallwch baratoi ymlaen llaw trwy feddwl am enghreifftiau o atebion y gallwch eu rhoi, ac un ffordd o wneud hyn yw edrych ar y disgrifiad swydd a’r fanyleb person unwaith eto, a meddwl am yr hyn sydd yn rhan o’r swydd.

Holi cwestiynau

Mae’n arferol cael y cyfle i ofyn unrhyw gwestiynau i’r panel. Mae’n syniad da paratoi eich cwestiynau, a gall fod yn ddefnyddiol mynd â nhw gyda chi i’r cyfweliad.

Byddai’n syniad da osgoi cwestiynau sy’n ymwneud â thâl a gwyliau yn ystod y cam hwn – gallwch drafod y rhain pan gewch gynnig. Canolbwyntiwch yn hytrach ar bynciau megis hyfforddiant a datblygiad, cynlluniau ar gyfer y sefydliad yn y dyfodol, a rhaglenni mentora. O ran rôl y swydd yn benodol, gallwch ofyn, “Beth yw tasgau allweddol y swydd ei hun?” neu “Beth fyddai fel arfer yn cael ei wneud gan rywun sydd newydd ddechrau yn y cwmni?”

Yn ogystal, os ydych yn gweld bod eich cwestiynau wedi cael eu hateb yn ystod y cyfweliad, yna mae’n iawn dweud, “Rydych wedi ateb pob un o fy nghwestiynau'.

graffig o berson gyda braich wedi ' i chodi

Paratoi yn derfynol

  • Gwnewch rywfaint o waith ymchwil ar y cwmni a pharatoi cwestiynau i’w gofyn – mae hyn yn dangos eich bod yn awyddus i gael y swydd a bod gennych ddiddordeb yn y cwmni
  • Ailddarllenwch eich ffurflen gais a/neu CV
  • Penderfynwch pa enghreifftiau o’ch sgiliau a’ch profiadau i’w defnyddio yn y cyfweliad
  • Ailddarllenwch y llythyr gwahodd i sicrhau eich bod wedi paratoi popeth sydd ei angen ar gyfer y diwrnod. Gwiriwch eich trefniadau teithio unwaith eto os yw’n bosibl er mwyn sicrhau bod digon o amser gennych
  • Gwnewch apwyntiad gyda’r Thîm Cyflogadwyedd, a all fynd â chi drwy broses cyfweliad ffug

Ar ôl y cyfweliad

Mae bob amser yn ddefnyddiol ceisio adborth ar eich perfformiad yn ystod y cyfweliad – hyd yn oed os ydych wedi bod yn llwyddiannus. Trwy gysylltu â’r cyfwelwyr yn ystod y diwrnodau ar ôl y cyfweliad, efallai y cewch rywfaint o wybodaeth am yr argraff a wnaethoch a sut y gallwch wella’ch perfformiad.

Cymorth pellach

Mae’n bosibl trefnu ffug gyfweliad gyda’r Tîm Cyflogadwyedd, a fydd yn rhoi’r cyfle i chi ymarfer a phrofi eich hunan mewn sefyllfa cyfweliad. Os oes angen mwy o gymorth arnoch neu os hoffech wneud apwyntiad gyda'n Tîm Cyflogadwyedd, defnyddiwch y manylion cyswllt isod.