menyw yn siarad wrth gyfarfod

Sgiliau Trosglwyddadwy ar gyfer eich CV

Sgiliau trosglwyddadwy yw’r sgiliau rydym yn eu defnyddio ym mywyd gwaith bob dydd. Gellir cyfeirio at y sgiliau hyn weithiau fel ‘sgiliau meddalach,’ a bydd hefyd angen sgiliau penodol/technegol arnoch ar gyfer galwedigaethau. Ceir enghreifftiau o wahanol fathau o sgiliau trosglwyddadwy isod. Ceisiwch gynnwys y rhain mewn CVau a cheisiadau am swyddi, ond peidiwch â theimlo bod angen i chi eu cynnwys nhw i gyd – byddai rhai yn ddefnyddiol.

SgìlDiffiniad
Gwneud penderfyniadau Nodi opsiynau, eu gwerthuso, ac wedyn dewis y camau gweithredu mwyaf priodol
Datrys problemau Nodi a defnyddio’r dull neu’r dechneg fwyaf priodol er mwyn dod i ddatrysiad
Cynllunio Darganfod sut i drefnu’r adnoddau a’r gweithgareddau sydd ar gael er mwyn bodloni amcan neu ddyddiad cau
Cyfathrebu ar lafar Defnyddio iaith lafar i fynegi syniadau a rhoi gwybodaeth neu esboniadau mewn modd effeithiol
Cyfathrebu ysgrifenedig Creu testunau diddorol, hawdd eu deall, sy’n ramadegol gywir ac wedi’u mynegi yn dda mewn fformat addas
Trafod telerau Cynnal trafodaethau gyda phobl er mwyn cyrraedd cytundeb ar y cyd a sicrhau bod y ddwy ochr yn fodlon
Addasu Newid neu addasu eich ymddygiad mewn ymateb i anghenion, dymuniadau neu ofynion eraill
Arwain Bod yn gallu arwain a chymell, gosod cyfeiriad, ac ennill ymrwymiad eraill
Ymwybyddiaeth o fusnes Diddordeb mewn gwybodaeth am yr amgylchedd masnachol
Gwneud gwaith ymchwil i wybodaeth Dod o hyd i wybodaeth briodol am fater gan ddefnyddio amrywiaeth o ffynonellau
Hyblygrwydd Bod yn gallu newid cynlluniau ac ymateb i wybodaeth newydd a/ neu sefyllfaoedd
Llythrennedd TG Deall a gallu defnyddio ystod o feddalwedd swyddfa megis taenlenni prosesu geiriau a chronfeydd data
Rheoli amser Gallu rheoli tasgau personol yn effeithiol a chyrraedd dyddiadau cau
Rhifedd Gallu deall a gweithio gyda ffigurau
Gweithio fel rhan o dîm Gallu gweithio’n effeithiol gydag eraill er mwyn bodloni amcanion
Y gallu i flaenoriaethu Bod yn gallu penderfynu ar flaenoriaethau er mwyn cyflawni targedau

STAR

Mae acronym STAR yn offeryn defnyddiol ar gyfer meddwl am y prif bethau sy’n eich gwerthu wrth ysgrifennu CVau a cheisiadau, yn ogystal â pharatoi am gyfweliadau swydd. Ystyr STAR yw:

Situation (Sefyllfa) – meddyliwch am sefyllfa lle’r oedd angen i chi ddefnyddio/dangos sgìl demonstrate a skill
Task (Tasg) – beth oedd y dasg go iawn yr oedd angen i chi ei gwneud?
Action (Cam gweithredu) – yr hyn a wnaethoch (canolbwyntiwch ar yr hyn a wnaethoch CHI)
Result (Canlyniad) – beth oedd y canlyniad?

seren

Gwnewch yr enghraifft yn FYR

Situation (Sefyllfa): Roedd angen i mi weithio fel rhan o dîm prosiect bach a oedd yn gorfod ymgymryd ag ymarfer cynllunio ariannol, a chyflwyno’r canfyddiadau wedyn i gyd-fyfyrwyr a thiwtoriaid ar gyfer asesiad ffurfiol.

Task (Tasg): Fy rôl yn benodol oedd gwneud gwaith ymchwil i’r gwahanol fodelau cynllun busnes a pharatoi papur briffio gyda fy awgrymiadau ynghylch y model y dylai’r tîm ei ddefnyddio. Roedd angen cyflawni hyn o fewn cyfnod tynn iawn o amser.

Action (Cam gweithredu): Y cam gweithredu a gymerais oedd gwneud gwaith ymchwil i gynlluniau busnes ar wefannau amrywiol, ymweld â nifer o fanciau lleol i gael cyngor, a chasglu gwybodaeth a oedd yn cynnwys modelau cynllun busnes. Siaradais hefyd â’r gwasanaeth cyngor busnes lleol i gael ragor o arweiniad.

Result (Canlyniad): Canlyniad – paratois adroddiad gydag asesiad o’r modelau cynllun busnes amrywiol, a fy argymhelliad o ran y model y dylai’r tîm ei ddefnyddio. Cafodd hyn ei gyflawni o fewn y dyddiad targed oherwydd cynlluniwyd a threfnwyd cyfarfodydd gyda phartïon amrywiol mewn modd effeithiol. Cawsom ein canmol am ein cyflwyniad gan y myfyrwyr a’r aseswyr, yn benodol am ansawdd ac effeithiolrwydd ein cynllun busnes (cawsom farc o 78%).

Geirdaon

Gofynnwch am ganiatâd gan eich canolwyr bob amser. Cofiwch roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’ch canolwyr ynglŷn â’r swyddi rydych yn ymgeisio amdanynt, fel bod modd iddynt ymateb i ymholiadau yn gyflym. Ceisiwch roi cymaint o amser ag y bo modd i’ch canolwyr.