Bag

Ble i ddechrau?

Os ydych chi’n ansicr o hyd pa gyfeiriad gyrfa yr hoffech ei ddilyn, yna meddyliwch am eich sgiliau a’ch diddordebau yn gyntaf. Bydd hyn yn eich helpu i ganfod pa feysydd gyrfa sy’n cyd-fynd â’ch diddordebau a’ch dewisiadau. Gallwch hefyd fanteisio ar yr offer ar-lein (gweler y dudalen nesaf) sydd ar gael, a all eich helpu i ddeall eich hunan yn well, a’ch galluogi i nodi’r swyddi sy’n addas.

Offer ar-lein i’ch helpu i nodi eich sgiliau

Yn ogystal â mynd ar wefannau, gallwch wneud apwyntiad gydag un o’r Thîm Cyflogadwyedd, ac mae hefyd gennym amrywiaeth o lawlyfrau gyrfaoedd i raddedigion, a all hefyd roi gwybodaeth ar ddod o hyd i’ch ffordd yn y farchnad lafur, a pharatoi eich hun ar gyfer cyfweliadau.

Mae’r gwasanaeth gyrfaoedd canolog hefyd yn cynnig llawer o gymorth ac offer profi.

Prospects Planner (Saesneg yn unig): Dyma offeryn archwilio swyddi sy’n anelu at eich helpu i nodi eich sgiliau a diddordebau a’r hyn sy’n eich cymell, ac mae’n eich paru â mathau o swyddi perthnasol.

Porot: Mae gwefan Porot yn cynnwys nifer o offerynnau rheoli gyrfa a hunanasesu a fydd o ddefnydd penodol i fyfyrwyr busnes.

Biwro recriwtio graddedigion: Mae ganddo adnoddau hunanasesu niferus gan gynnwys proffilio diwydiant.

Gwneud y mwyaf o’ch profiad Gwaith

Cyn dechrau eich profiad gwaith, mae’n syniad i chi wneud rhywfaint o waith paratoi er mwyn eich helpu i gael y mwyaf allan ohono.

Pethau i’w hystyried
  • Meddyliwch am y sgiliau sydd gennych ar hyn o bryd, yn ogystal â’ch cryfderau a gwendidau. Ym mha ffordd y gallai’r profiad gwaith ehangu eich sgiliau presennol a’ch helpu i ddatblygu rhai newydd?
  • Wrth asesu eich sgiliau, cofiwch ystyried eich sgiliau trosglwyddadwy megis adeiladu tîm, cyflwyno, arwain, cyfathrebu ac ati, yn ogystal â sgiliau mwy galwedigaethol-benodol megis gwybodaeth am brosesau, gweithgareddau a diwylliannau sy’n benodol i yrfa benodol.
  • Sut y byddwch yn teithio i’r gweithle? Faint bydd hyn yn ei gostio?
  • Pa amser y mae angen i chi gyrraedd y gwaith ar eich diwrnod cyntaf?
  • Pa mor hir y bydd yn ei gymryd i gyrraedd?
  • Beth ddylech chi ei wisgo? Bydd rhai sefydliadau neu sectorau yn disgwyl i chi wisgo gwisg busnes, tra bydd pobl yn gwisgo’n fwy anffurfiol mewn mannau eraill, felly mae’n syniad da gwirio diwylliant y sefydliad cyn i chi ddechrau.
Yr hyn i’w ddisgwyl Rhwydweithio yn y gwaith

Dod o hyd i swyddi

Gwefannau defnyddiol:

  • Milkround: Dyma’ch adnodd ar gyfer gyrfaoedd i raddedigion, a cheir cannoedd o interniaethau, lleoliadau, a swyddi a chynlluniau i raddedigion.
  • Inside Careers: Mae’r wefan hon yn cynnig gwybodaeth fanwl am swyddi i raddedigion ym meysydd penodol megis cyfrifeg, bancio, technoleg gwybodaeth, logisteg, ymgynghoriaeth reoli a phatentau ac mae ganddi broffiliau cwmni a gwybodaeth am swyddi gwag i raddedigion.
  • Graduate Prospects: Mae’r wefan hon yn cynnig canllawiau ar gyfer gyrfaoedd i raddedigion ac astudio ôl-raddedig yn y DU.
person ar gyfrifiadur
  • Guardian Jobs Advice: Cyngor ac astudiaethau achos diddorol o bobl ym mhob math o ddiwydiannau.
  • TARGETjobs: Fan hyn, byddwch yn gweld y dadleuon allweddol diweddaraf am dueddiadau a’r newyddion diweddaraf am swyddi / sectorau galwedigaethol penodol.
  • All About Careers: Gallwch chwilio am swyddi fesul sector ar y wefan hon, a chael rhagor o wybodaeth am y mathau o swyddi sydd o ddiddordeb i chi. Ceir gwybodaeth ddefnyddiol hefyd am ddigwyddiadau perthnasol sydd ar y gweill.
  • Directgov: Mae’r gwasanaeth hwn gan y llywodraeth yn eich galluogi i chwilio am swyddi penodol a chael trosolwg o brif ofynion swydd benodol, gyda gwybodaeth am ble i fynd am gymorth a chyngor ychwanegol. Mae’r wefan yn ymdrin ag amrediad eang o swyddi, gan gynnwys gyrfaoedd i raddedigion a swyddi lle nad oes angen gradd bob tro.
person â bag gwaith

Myfyrwyr rhyngwladol a chyflogaeth

Gwybodaeth bellach

Mae International@CampusLife yn rhoi gwybodaeth a chyngor ar bob mater nad yw’n academaidd, gan gynnwys cyngor a gwasanaethau mewnfudo, i bob myfyriwr rhyngwladol (nad yw o’r DU) a’i ddibynyddion. Cynigir cyngor yn rhad ac am ddim heb wahaniaethu.

Web: www.swansea.ac.uk/international-campuslife
Tel: 01792 606557
Email: international.CampusLife@swansea.ac.uk