Gweler isod y camau y bydd rhaid i chi eu cymryd wrth wneud cais i drosglwyddo i gwrs arall a chysylltwch â ni os oes gennych gwestiynau neu broblemau.

Sylwer ein bod wrthi'n adolygu ceisiadau i drosglwyddo i gynllun gradd newydd ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26. Serch hynny, ni fydd y ceisiadau hyn yn cael eu gweithredu nes eich bod chi wedi gorffen blwyddyn academaidd 2024/25. Gall hyn fod ar ôl i'r holl ganlyniadau gael eu rhyddhau ar 14 Gorffennaf 2025, neu os oes gennych arholiadau ym mis Awst (ailsefyll neu ohirio), bydd hyn yn cael ei weithredu ar ôl rhyddhau canlyniadau'r arholiadau atodol ar 11 Medi 2025.