Dylid darllen y rheoliadau academaidd hyn ar y cyd â'r Canllawiau canlynol o eiddo Prifysgol Abertawe, sy’n ymhelaethu ar y rheoliadau ac sy’n cynnig cyfarwyddyd ar y gweithdrefnau:

  • Llawlyfr Rhaglen Ôl-raddedig Prifysgol Caerdydd: Economeg Uwch MSc Economeg / MRes

Trosolwg

Mae rheoliadau Doethuriaeth Athroniaeth (integredig + 2) yn darparu fframwaith i ymgeiswyr symud i’r Elfen Doethuriaeth derfynol ym Mhrifysgol Abertawe, ar ôl iddynt gwblhau cyfres gynyddol o gymwysterau a fydd yn dechrau gyda Gradd Meistr a addysgir, wedi’i dilyn naill ai gan Radd Meistr Ymchwil neu Radd Meistr Arbenigol ac yna, o’r diwedd, PhD. Yn ystod hyd y rhaglen gyfan, felly, bydd graddedigion yn derbyn tri dyfarniad: MSc, MRes a PhD. 

Mae’r rhaglen yn cynnwys tair elfen:

  1. Economeg MSc neu bwnc cysylltiedig (yr elfen Gradd Meistr a addysgir – Prifysgol Abertawe/Caerdydd)
  2. MRes mewn Economeg Uwch (yr elfen Gradd Meistr Ymchwil - Prifysgol Caerdydd)
  3. PhD mewn Economeg (yr elfen Doethuriaeth – Prifysgol Abertawe) 

Rhaid i ymgeiswyr gwblhau’r elfennau Gradd Meistr a Addysgir a Gradd Meistr Ymchwil yn olynol, a llwyddo ynddynt, i fod yn gymwys i gofrestru ar gyfer y rhaglen PhD (+2) (Elfen Doethuriaeth) ym Mhrifysgol Abertawe, ynghyd â bodloni’r meini prawf cynnydd a nodir gan Brifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe fel rhan o’r Rhaglen Hyfforddiant Doethuriaeth. Caniateir i fyfyrwyr gofrestru dros dro ar gyfer yr Elfen Doethuriaeth nesaf ym Mhrifysgol Abertawe ar ôl iddynt gyflwyno elfen Dysgu Annibynnol dan Gyfarwyddyd yr elfen Gradd Meistr Ymchwil.

Caiff ymgeiswyr nad ydynt yn llwyddo yn yr elfen Gradd Meistr a Addysgir a/neu’r elfen Gradd Meistr Ymchwil eu tynnu’n ôl o’r rhaglen PhD gyfan.

Lle bo myfyrwyr yn astudio mewn sawl sefydliad, bydd y rheoliadau lleol yn berthnasol. Lle bynnag y bo modd, mae'r partneriaid wedi ymdrechu i sicrhau bod rheoliadau tebyg ar waith gan bob partner.

Rheoliadau Asesu ar Gyfer y Phd Integredig

Darpariaeth Arbennig, Gohiriadau ac Estyniadau i Ymgeisyddiaeth