Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â'r Canllawiau ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil ar Gyflwyno Traethawd Ymchwil a'r Canllawiau Arholi Myfyrwyr Ymchwil.
12.1
Rhaid i ymgeiswyr lenwi ffurflen Hysbysiad o Fwriad i Gyflwyno o leiaf tri mis cyn y dyddiad cyflwyno disgwyliedig.
12.2
Ar gwblhau cyfnod byrraf yr ymgeisyddiaeth, bydd ymgeisydd yn cyflwyno copi electronig o draethawd ymchwil i’w arholi yn unol â Chanllaw’r Brifysgol i Gyflwyno Traethawd Ymchwil ar gyfer myfyrwyr Ymchwil. Os bydd arholwr yn gofyn am gopi papur o’r traethawd ymchwil darperir hyn gan yr ymgeisydd trwy’r tîm cymorth Ymchwil Ôl-raddedig.
12.3
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gyflwyno copi electronig o’r traethawd ymchwil wedi’i ddiweddaru ar ôl iddo gael ei arholi os gwnaethpwyd cywiriadau neu ddiwygiadau.
12.4
Gall unrhyw ymgeisydd sy’n dilyn rhaglen ymchwil yn y Brifysgol ddewis cyflwyno traethawd ymchwil neu waith arall yn Saesneg neu Gymraeg. Rhaid i ymgeisydd sy’n dymuno cael ei asesu mewn iaith nad yw’n brif iaith yr addysgu/asesu ar gyfer y rhaglen dan sylw roi gwybod i’r Bwrdd Achosion Myfyrwyr cyn diwedd cyfnod byrraf posibl yr ymgeisyddiaeth. Gwneir trefniadau yn unol â’r hyn a amlinellir yng Nghanllawiau'r Brifysgol ar gyfer Arholi Myfyrwyr Ymchwil. Hefyd, rhaid cyflwyno ceisiadau ar gyfer asesu yn y Gymraeg drwy’r Gyfadran/Ysgol cyn diwedd cyfnod byrraf posibl yr ymgeisyddiaeth i sicrhau bod modd trefnu cyfieithu.
Yn achos myfyrwyr sy'n gwneud eu hymchwil dan Ddull 'Ch' (cydweithredol), gall fod yn ofynnol iddynt gyflwyno gwaith mewn iaith dramor oherwydd natur y radd gydweithredol.
12.5
Mewn achosion lle y gellid barnu ei bod yn briodol cyflwyno traethawd ymchwil mewn iaith heblaw am Saesneg/Cymraeg am resymau academaidd neu le y mae cyflwyno’r traethawd mewn iaith arall yn un o ofynion y rhaglen benodol, gall y Bwrdd Achosion Myfyrwyr roi caniatâd lle y cyflwynir dadl resymol i’r perwyl hwnnw. Serch hynny, ni fydd y Bwrdd Achosion Myfyrwyr yn cymeradwyo ceisiadau sy’n deillio o ddiffyg gallu’r ymgeisydd i gynhyrchu gwaith i’w gyflwyno yn Gymraeg neu Saesneg.
12.6
Wedi cyflwyno ffurflen Hysbysiad o Fwriad i Gyflwyno, bydd y Deon Gweithredol neu ei enwebai yn enwebu aelodau o’r Bwrdd Arholi a gyfansoddir yn unol â pharagraff 14 isod ac fel y nodir yn y Canllawiau ar Arholi Myfyrwyr Ymchwil. Caiff yr ymgeisydd ei hysbysu am enwau aelodau arfaethedig y Bwrdd Arholi. Caiff penodiad aelodau’r Bwrdd Arholi ei gadarnhau gan y Bwrdd Academaidd ar gyfer Ymchwil Ôl-raddedig.
12.7
Bydd raid i ymgeiswyr sy’n ailgyflwyno traethawd ymchwil sydd wedi methu â bodloni’r Arholwyr yn y gorffennol gyflwyno’r traethawd diwygiedig yn unol â'r Canllawiau ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil ar Gyflwyno Traethawd Ymchwil. Efallai hefyd y bydd raid i’r ymgeisydd dalu ffi ail-gyflwyno ychwanegol.