Dylid darllen y rheoliadau academaidd hyn ar y cyd â’r Canllawiau canlynol o eiddo Prifysgol Abertawe, sy’n ymhelaethu ar y rheoliadau ac sy’n cynnig cyfarwyddyd ar y gweithdrefnau: Canllawiau ar Dderbyn Myfyrwyr Ymchwil.
Myfyrwyr Ymchwil Ymweld a Chyfnewid
1. Cyflwyniad
Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â'r Canllawiau ar Dderbyn Myfyrwyr Ymchwil.
1.1
Diffinnir myfyriwr ymchwil ymweld/cyfnewid fel unigolyn sydd wedi cofrestru fel myfyriwr ar raglen gradd ymchwil mewn prifysgol yn y DU neu brifysgol arall a gymeradwywyd gan Ddarpariaeth ar y Cyd a'r Senedd, ac sydd wedi gwneud cais i dreulio cyfnod penodol nad yw fel arfer yn fwy nag un flwyddyn academaidd neu galendr ym Mhrifysgol Abertawe i ymgymryd ag ymchwil.
1.2
Rhaid i'r holl fyfyrwyr ymchwil ymweld gofrestru ym Mhrifysgol Abertawe a thalu'r ffioedd priodol a bennir gan y Brifysgol wrth gofrestru. Rhaid i'r holl fyfyrwyr ymchwil ymweld gydymffurfio â rheoliadau academaidd a chyffredinol y Brifysgol. Rhaid i'r holl fyfyrwyr cyfnewid gofrestru ym Mhrifysgol Abertawe a byddant yn gymwys i beidio â thalu ffioedd oherwydd natur y cytundeb. Rhaid i’r holl fyfyrwyr cyfnewid gydymffurfio â rheoliadau academaidd a chyffredinol y Brifysgol.
1.3
Rhaid i'r holl fyfyrwyr ymchwil ymweld/cyfnewid fonitro'r cyfrif e-bost prifysgol a ddyrannir iddynt drwy gydol y cyfnod cofrestru, oherwydd caiff yr holl ohebiaeth electronig gan y Brifysgol ei hanfon at gyfrif e-bost Prifysgol y myfyriwr ymchwil ymweld/cyfnewid yn unig. Awgrymir yn gryf bod yr holl fyfyrwyr ymchwil ymweld/cyfnewid yn defnyddio'u cyfrif e-bost Prifysgol wrth gyfathrebu â'r Brifysgol.
2. Amodau Derbyn
Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â'r Canllawiau ar Dderbyn Myfyrwyr Ymchwil.
2.1
Rhaid bod myfyriwr ymchwil ymweld/cyfnewid wedi cofrestru'n fyfyriwr ar raglen gradd ymchwil mewn prifysgol yn y DU neu brifysgol arall a gymeradwywyd gan yr Adran Darpariaeth ar y Cyd a'r Senedd.
2.2
Rhaid i'r holl fyfyrwyr ymchwil ymweld/cyfnewid nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddarparu tystiolaeth o'u hyfedredd yn Saesneg sy'n ddigonol ar gyfer ymchwil, i gydymffurfio â rheoliadau Prifysgol Abertawe ac Asiantaeth Fisas a Mewnfudo'r Deyrnas Unedig.
2.3
Bydd y penderfyniad i dderbyn ymgeisydd fel myfyriwr ymchwil gwadd/cyfnewid yn gyfrifoldeb Pennaeth y Coleg perthnasol neu unigolyn a enwebwyd ganddo. Dylai penderfyniadau fod yn seiliedig ar y ffactorau canlynol:
- a yw'r Coleg yn fodlon bod yr ymgeisydd yn cwrdd â'r safon academaidd ofynnol i ymgymryd ag ymchwil yn y Brifysgol;
- a oes aelod o staff sy'n gymwys i weithredu fel ymgynghorydd yn unol â pharagraff 3;
- a oes adnoddau a chyfleusterau addas ar gael i gynnal a chefnogi'r myfyriwr ymchwil ymweld/cyfnewid.
2.4
Rhaid i'r holl fyfyrwyr ymchwil ymweld/cyfnewid gydymffurfio â'r Canllawiau ar Dderbyn Myfyrwyr Ymchwil.
3. Ymgynghorydd
3.1
Bydd gan bob myfyriwr ymchwil ymweld/cyfnewid ymgynghorydd a benodir gan y Pennaeth Coleg perthnasol neu ei enwebai. Bydd y myfyriwr ymchwil ymweld/cyfnewid yn gyfrifol am gytuno ar raglen ymchwil rhwng y myfyriwr ymchwil ymweld/cyfnewid a'r ymgynghorydd o fewn mis ar ôl cofrestru.
3.2
Rhaid bod yr ymgynghorydd yn aelod o staff Prifysgol Abertawe. Bydd yr ymgynghorydd yn goruchwylio'r rhaglen ymchwil a gytunir arni ond ni fydd yn darparu goruchwyliaeth ffurfiol ar gyfer y myfyriwr ymchwil ymweld/cyfnewid.
4. Mynediad at Adnoddau a Chyfleusterau
4.1
Bydd gan bob myfyriwr ymchwil ymweld/cyfnewid fynediad at adnoddau a chyfleusterau yn unol â'r safonau darpariaeth isaf ar gyfer myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig.
5. Cymwysterau Ymadael
5.1
Nid oes cymwysterau ymadael ar gael ar gyfer myfyrwyr ymchwil ymweld/cyfnewid.
6. Arfer Annheg
6.1
Cyflwynir adroddiad am honiadau o arfer annheg i'r sefydliad cartref oni nodir fel arall yn y cytundeb â'r sefydliad cartref.
7. Addasrwydd i Ymarfer
7.1
Adroddir honiadau o addasrwydd i ymarfer i'r sefydliad cartref.