myfyrwyr mewn seminar

Os ydych yn fyfyriwr ar gwrs gradd ym Mhrifysgol Abertawe, nad ydych yn siarad Saesneg fel iaith frodorol, mae'n bosibl mai un o'ch nodau tra byddwch yn astudio yma fydd gwella eich Saesneg. Mae ein cyrsiau yn cynnig y cyfle i chi wella eich Saesneg ac adeiladu eich sgiliau academaidd er mwyn manteisio i'r eithaf ar eich amser yn Abertawe.

Mae angen sgiliau iaith da a sgiliau academaidd er mwyn sicrhau eich bod yn deall deunyddiau eich cwrs, yn gallu cyfathrebu'n eglur â'ch darlithwyr, ac yn cwblhau eich gradd yn llwyddiannus. Bydd gadael Prifysgol Abertawe gyda gradd a Saesneg ar lefel uwch fwy na thebyg yn eich rhoi mewn sefyllfa dda i gael y swydd rydych yn ei dymuno, neu ddatblygu i wneud astudiaethau academaidd pellach.

Yr hyn y mae'r Ganolfan Llwyddiant Academaidd yn ei gynnig

Rydym yn cynnig cyrsiau Saesneg sy'n ymdrin â siarad, ysgrifennu, darllen a gwrando, sydd â phwyslais ar ddefnyddio'r sgiliau hyn yn y brifysgol. Bydd yr ystod o gyrsiau academaidd sydd gennym hefyd o gymorth i wella eich sgiliau academaidd. Yn ogystal â'n cyrsiau, gall ein hapwyntiadau un-i-un eich helpu i nodi gwallau iaith sy'n codi’n aml yn eich gwaith ysgrifennu, ac awgrymu ymarferion er mwyn gwella. Rydym hefyd yn cynnig gweithgareddau cymdeithasol, megis teithiau lleol, a'n 'Clwb Siarad', lle gallwch gwrdd â myfyrwyr eraill ac ymarfer eich Saesneg.

Cymerwch olwg ar ...

Clwb Siarad

myfyrwyr yn siarad o gwmpas bwrdd