Bydd y cwrs hwn yn eich helpu i wella sgiliau gwrando ac i ddysgu strategaethau cymryd nodiadau effeithiol os nad y Saesneg yw’ch mamiaith ac rydych chi’n defnyddio Saesneg academaidd mewn darlithoedd.
GWERS 1: Cyflwyniad a Sgiliau Gwrando
Bydd y wers hon yn eich cyflwyno i strwythur y cwrs ac yna byddwch chi’n sefyll rhagbrawf a fydd yn eich helpu i fesur eich cynnydd yn ystod y gwersi
GWERS 2: Gwella Gwrando
Yn y wers hon byddwn ni’n gwylio fideo am sut mae babanod yn dysgu i wneud y synau y mae eu hangen arnyn nhw ar gyfer yr iaith maen nhw’n ei siarad.
GWERS 3: Cymryd nodiadau
Yn y wers hon byddwn ni’n edrych ar y ffordd orau i baratoi ar gyfer sefyllfa pan fydd gwrando’n arbennig o bwysig.
GWERS 4: Paratoi i wrando
Yn ystod y wers hon, byddwn ni’n archwilio sut gallwch chi ddefnyddio cliwiau cyn gwrando ac wrth wrando er mwyn helpu i ragweld prif syniadau’r sgwrs.
GWERS 5: Gwrando am Brif Syniadau gyda Chyfeiriadu
Yn ystod y wers hon, byddwn ni’n gwrando ar ddarlith dosbarth Seicoleg ym Mhrifysgol Yale. Bydd y ffocws ar adnabod prif syniadau trwy wrando am iaith gyfeiriadu.
GWERSI 6-10: Ymarfer Gwrando
Yn ystod y gwersi hyn, byddwn ni’n parhau i ymarfer ein sgiliau gwrando trwy wylio fideos gwahanol ac ateb cwestiynau gwrando a deall.