Group of students chatting sitting infront of laptops

Mae ein Bwrsariaeth Cyflogadwyedd wedi'i chynllunio i helpu myfyrwyr a graddedigion y mae arnynt angen cymorth ariannol i gwblhau gweithgarwch sy'n gysylltiedig â chyflogadwyedd, er enghraifft, treuliau yn sgîl lleoliadau gwaith di-dâl a chostau sy'n gysylltiedig â mynd i gyfweliadau. Gall holl fyfyrwyr Prifysgol Abertawe a'r rhai sydd wedi graddio yn ystod y 15 mis diwethaf gyflwyno cais am hyd at £200 drwy lenwi ffurflen ar-lein syml.

Mae bwrsariaethau cyflogadwyedd ar gyfer y flwyddyn academaidd hon wedi cael eu clustnodi. Cadwch lygad yma ar gyfer y flwyddyn nesaf am ragor o gyfleoedd. 

Grant Cymdeithasau Undeb y Myfyrwyr (SUSU) 

Gall Cymdeithasau Undeb y Myfyrwyr (SUSU) gyflwyno cais am hyd at £100 o gyllid i helpu tuag at ddigwyddiadau rhwydweithio a gyrfaoedd. Gellir cyrchu rhagor o wybodaeth a’r ffurflen gais yma.

 

E-bostiwch y tîm

Os ydych chi’n wynebu anawsterau ariannol, gall y tîm Cyngor Ariannol eich helpu. Ewch i’r wefan am ragor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael.