Rydym yma i'ch helpu i lwyddo yn y broses recriwtio! Mae gennym lawer o offerynnau ar gael i'ch helpu i ddatblygu'n broffesiynol, i ddatblygu'r sgiliau mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt, yn ogystal â'ch cefnogi i ddatblygu hyder a meddylfryd gwydn.

Mae ein Cwrs Datblygu Gyrfa yn lle gwych i ddechrau, gydag 16 o unedau sy'n cynnwys amrywiaeth eang o bynciau.

Mae ein Hymgynghorwyr Gyrfaoedd hefyd yma i gynnig cyngor a chanllawiau arbenigol. Trefnwch apwyntiad gyrfaoedd unigol  i ddechrau arni!

Dealltwriaeth o Recriwtio

 

Defnyddiwch Glassdoor i chwilio am adolygiadau cyflogwyr a sicrhau bod y diwylliant gwaith yn addas i chi cyn i chi wneud cais.

 

Gallwch hefyd weld adolygiadau ar gyfweliadau'r cwmni, cwestiynau cyfweliad a ofynnir, cyflogau a buddion gwaith.

Chwiliwch ar Glassdoor.
Glassdoor Logo