Disgwylir i fyfyrwyr wneud trefniadau ar gyfer unrhyw offer TG sydd ei angen arnoch ar gyfer eich rhaglen astudio. Fodd bynnag, os ydych wedi colli neu ddifrodi eich gliniadur/offer ac mae angen cymorth arnoch wrth aros iddynt gael eu trwsio, gweler yr opsiynau isod (sydd ar gael i fyfyrwyr yn Abertawe):
Mae Cyfrifiaduron ar gael yn y Llyfrgell i’w defnyddio: https://www.swansea.ac.uk/cy/llyfrgelloedd/archebwch_fan_astudio/
Mae benthyca gliniaduron tymor byr ar gael drwy loceri hunan-wasanaeth: https://myuni.swansea.ac.uk/cy/bywyd-academaidd/gwasanaethau-tg/loceri-gliniaduron/
Mae benthyca gliniaduron tymor hir ar gael i fyfyrwyr sydd ag amgylchiadau esgusodol cymwys ac sy'n gallu dangos angen clir am fenthyciad tymor hir. Cysylltwch â'r Tîm MyUniLibrary i drafod.
Cronfeydd Caledi a Chymorth Myfyriwr+: Mae cyllid ar gael i fyfyrwyr sydd mewn angen trwy Arian@BywydCampws. Os oes gennych gostau annisgwyl, o ganlyniad i offer TG sydd wedi’i golli neu ei ddifrodi er enghraifft, ac nid ydych yn gallu fforddio prynu offer newydd yn syth oherwydd ymrwymiadau hanfodol eraill, byddwch efallai yn gymwys i wneud cais am arian tuag at y gost o brynu offer newydd neu drwsio’r offer sydd wedi torri. Ceir hefyd gynlluniau penodol ar gyfer myfyrwyr sy'n ymadawyr gofal, sydd wedi'u dieithrio o'u teuluoedd, ceiswyr lloches, ffoaduriaid neu ofalwyr (Cysylltwch â Cyfranogiad@BywydCampws trwy e-bostio accessofficer.campuslife@abertawe.ac.uk os ydych yn credu eich bod yn gymwys i dderbyn y cymorth hwn).
Cynigion arbennig i fyfyrwyr ar gyfer prynu gliniaduron: Mae'r brifysgol yn gweithio mewn partneriaeth â Stone Group ac mae wedi trefnu bod myfyrwyr yn gallu prynu gliniaduron sydd wedi eu hadnewyddu ac offer TG am brisiau gostyngol: https://www.getyourtech.co.uk/swansea