Rydym yn gobeithio na fyddi di'n wynebu unrhyw anawsterau a fydd yn effeithio ar dy arholiadau yng nghyfnod arholiadau mis Ionawr 2025 (6-24 Ionawr 2025) ond os fyddi di, mae  opsiynau cymorth ar gael i ti.

Os oes gennyt amgylchiadau cymwys, mae modd i ti gyflwyno cais i ohirio unrhyw arholiad(au) nad oes modd i ti ei sefyll/eu sefyll i gyfnod asesu yn y dyfodol.

Efallai y byddi di hefyd yn gallu cyflwyno cais am Ddarpariaethau Dros Dro os wyt ti'n dioddef o gyflwr tymor byr sydyn sy'n effeithio arnat yn ystod  cyfnod yr arholiadau.

Darllena'r wybodaeth am yr opsiynau hyn yn ofalus a chysyllta â'n Tîm gydag unrhyw gwestiynau. Efallai y bydd Polisi Amgylchiadau Esgusodol y Brifysgol hefyd yn ddefnyddiol.

Sylwer y bydd gwasanaeth y Dderbynfa a Thîm Cymorth Myfyrwyr y Gyfadran yn cau ddydd Llun 23 Rhagfyr 2024 ac ni fydd yn ailagor tan ddydd Iau 2 Ionawr 2025.  

Sut i Gyflwyno Cais i Ohirio Arholiad

Gall myfyrwyr sydd ag amgylchiadau esgusodol gyflwyno cais i ohirio unrhyw un o Arholiadau Semester 1 Mis Ionawr 2025. Os caiff hwn ei gymeradwyo, mae'n rhoi opsiwn i fyfyrwyr i ohirio un neu fwy o'u harholiadau terfynol a sefyll yr asesiad sydd wedi'i ohirio yn ystod cyfnod asesu yn y dyfodol.

I gyflwyno cais i ohirio arholiad, cyflwyna gais drwy'r system Amgylchiadau Esgusodol ar eVision. Gelli di ddod o hyd i arweiniad ynghylch sut i gyflwyno cais gohirio arholiad yma.

Rhaid cyflwyno ceisiadau o fewn y 10 niwrnod gwaith cyn dyddiad cau'r aseiniad yr effeithir arno, neu o fewn 5 niwrnod gwaith ar ôl y dyddiad cau ar gyfer yr aseiniad yr effeithir arno. Gelli di gyflwyno mwy nag un cais i ohirio, ac mae'r terfyn amser cyflwyno'n berthnasol i bob arholiad rwyt ti am ei ohirio. Ni chaiff ceisiadau hwyr eu derbyn fel arfer.

Bydd angen dogfennaeth ategol briodol er mwyn cymeradwyo cais i ohirio. Wrth gyflwyno dy gais i ohirio, dylet ti lanlwytho unrhyw dystiolaeth ategol sydd gen ti sy'n cadarnhau dy amgylchiadau. Os nad oes modd i ti gyflwyno tystiolaeth fel rhan o dy gais gohirio gwreiddiol bydd gofyn i ti wneud hyn erbyn 12pm (canol dydd) ddydd Mercher 29 Ionawr 2025.

Sylwer:

  • Bydd myfyrwyr nad ydynt yn eu blwyddyn olaf, sy'n cael cymeradwyaeth, yn sefyll unrhyw arholiadau a ohiriwyd yn ystod Cyfnod Arholiadau Atodol mis Awst 2025.
  • Gall myfyrwyr sydd yn eu blwyddyn olaf, sy'n cael cymeradwyaeth, ddewis naill ai sefyll arholiadau a ohiriwyd yn ystod cyfnod arholiadau mis Mai/Mehefin neu gyfnod arholiadau mis Awst 2025.
  • Os caiff eich Cais i Ohirio ei gymeradwyo mewn perthynas ag asesiad rydych wedi ei gyflwyno eisoes, ni chaiff eich asesiad ei farcio a bydd eich marc terfynol ar gyfer y modiwl yn seiliedig ar yr asesiad wedi'i ohirio.

Sut i Gyflwyno Cais am Ddarpariaethau Dros Dro