Sgip i brif cynnwys
Prifysgol Abertawe
  • Offer Hygyrchedd
  • English
Mewngofnodi
Prifysgol Abertawe Mewngofnodi
  • Offer Hygyrchedd
  • English
  1. Cartref i Fyfyrwyr Presennol
  2. Bywyd Academaidd
  3. Rheoliadau Academaidd
  4. Rheoliadau Graddau Ymchwil
  5. Rhaglen Hyfforddiant Doethurol y BBSRC
  • Eich Prifysgol
    • Cyfadrannau ac Ysgolion
      • Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu
      • Yr Ysgol Reolaeth
      • Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton
      • Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol
      • Yr Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol
      • Hwb Ysgol Seicoleg
      • Medical School Hub
      • Ysgol y Biowyddorau, Daearyddiaeth a Ffiseg
      • Yr Ysgol Mathemateg a Chyfrifiadureg
      • Yr Ysgol Peirianneg Awyrofod, Sifil, Drydanol, Gyffredinol a Mecanyddol
      • Yr Ysgol Peirianneg a’r Gwyddorau Cymhwysol
      • Y Coleg, Prifysgol Abertawe
    • Eich Prifysgol - Astudio yn Abertawe
      • Ffurflenni Academaidd
      • Monitro Presenoldeb
      • Arholiadau
      • Canvas
      • Amgylchiadau Esgusodol
      • Gwasanaeth Cyrchu Cyfrifiadur o Bell
      • Dyddiadau Tymhorau a Semestrau
      • Mannau Astudio yn y Llyfrgell
      • Lleoedd Astudio Anffurfiol
    • Gwasanaethau Defnyddiol
      • Llety
      • Lleoedd Bwyta
      • Iechyd a Diogelwch
      • Cymorth TG
      • Gwasanaethau Llyfrgell MyUni
      • Cynlluniwr Teithiau Bws
      • Teithio Myfyrwyr
      • Undeb y Myfyrwyr
  • Cymorth a Lles
  • MyUniHub
  • Newyddion Myfyrwyr
  • Digwyddiadau
  • Croeso 2025
  • Cofrestru a Sefydlu
  • Cymorth Costau Byw
  1. Cartref i Fyfyrwyr Presennol
  2. Bywyd Academaidd
  3. Rheoliadau Academaidd
  4. Rheoliadau Graddau Ymchwil
  5. Rhaglen Hyfforddiant Doethurol y BBSRC

Rhaglen Hyfforddiant Doethurol y BBSRC

Tudalennau cysylltiedig
  • Cyfadrannau
  • Newyddion Myfyrwyr
  • Desg Gymorth TG
  • Lleoedd Astudio Anffurfiol
  • MyUniVoice
  • Ymchwil Ôl-raddedig
  • FyAbertawe
  • Sut rydym yn cyfathrebu â chi
  • Undeb Myfyrwyr
  • Cysylltu â ni

Rhaglen Hyfforddiant Doethurol y BBSRC

Dylid darllen y rheoliadau academaidd hyn ar y cyd â’r Canllawiau Prifysgol Abertawe canlynol, sy’n ymhelaethu ar y rheoliadau ac sy’n cynnig cyfarwyddyd ar y gweithdrefnau:

  • Canllawiau ar Dderbyn Myfyrwyr Ymchwil
  • Canllawiau ar Ymgeisyddiaeth Graddau Ymchwil
  • Canllawiau ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil ar Drosglwyddo a Thynnu yn ôl
  • Canllawiau ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil ar Ohiriadau ac Estyniadau
  • Canllawiau ar Fonitro Cynnydd Myfyrwyr Ymchwi
  • Canllawiau ar Gyflogi Myfyrwyr Ymchwil
  • Canllawiau i Fyfyrwyr Ymchwil ar Gyflwyno Traethawd Ymchwil
  • Canllawiau ar Arholi Myfyrwyr Ymchwil
  • Canllawiau i Oruchwyliaeth Ymchwil Ôl-raddedig

Dylid darllen y rheoliadau academaidd hyn ar y cyd â Rheoliadau a Chôd Ymarfer Bryste ar gyfer Rhaglenni Gradd Ymchwil ar gyfer Meistr Gwyddoniaeth drwy Ymchwil (MRes) ar gyfer yr elfen a addysgir:

Trosolwg

Mae'r radd Ddoethur mewn Athroniaeth (Rhaglen Hyfforddiant Doethurol y BBSRC) yn cynnwys dwy elfen: elfen a addysgir mewn Dulliau Ymchwil ym maes y Gwyddorau Bywyd (i'w dilyn ym Mhrifysgol Bryste) a chyfnod o ymchwil ddoethurol ym Mhrifysgol Abertawe, gan arwain at ddyfarniad PhD o Brifysgol Abertawe.

Lle bynnag y bo modd, mae'r partneriaid wedi ymdrechu i sicrhau bod rheoliadau tebyg ar waith gan bob partner.

1. Cyflwyniad

Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â Chanllawiau Derbyn Myfyrwyr Ymchwil y Brifysgol.

1.1

Dyfernir graddau doethurol i fyfyrwyr sydd wedi dangos eu bod wedi cyflawni'r canlynol:

  • Creu a dehongli gwybodaeth newydd drwy ymchwil wreiddiol neu ysgoloriaeth uwch o fath arall, sydd o ansawdd sy'n bodloni adolygiad gan gymheiriaid, sy'n torri tir newydd yn y ddisgyblaeth ac sy'n haeddu cael ei chyhoeddi.
  • Caffaeliad a dealltwriaeth systematig o gorff sylweddol o wybodaeth sydd ar flaen y gad mewn disgyblaeth academaidd neu faes ymarfer proffesiynol.
  • Gallu cyffredinol i gysyniadu, cynllunio a gweithredu prosiect er mwyn creu gwybodaeth, cymwysiadau neu ddealltwriaeth newydd sydd ar flaen y gad o fewn y ddisgyblaeth, ac i addasu cynllun y prosiect yn wyneb problemau nas rhagwelwyd.
  • Dealltwriaeth fanwl o dechnegau cymwys ar gyfer ymchwil ac archwilio academaidd uwch.

Yn nodweddiadol, bydd deiliaid y cymhwyster yn gallu gwneud y pethau canlynol:

  • Dod i farn wybodus ar faterion cymhleth mewn meysydd arbenigol, yn aml yn absenoldeb data cyflawn, a gallu cyfleu eu syniadau a'u casgliadau yn glir ac yn effeithiol i gynulleidfaoedd arbenigol a lleyg.
  • Parhau i ymgymryd ag ymchwil a datblygu pur a/neu gymwysedig ar lefel uwch, gan gyfrannu'n sylweddol at ddatblygiad technegau, syniadau neu ymagweddau newydd.

A bydd gan y deiliaid:

  • Y rhinweddau a'r sgiliau trosglwyddadwy angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth lle mae gofyn iddynt ymarfer cyfrifoldeb personol a menter annibynnol i raddau helaeth mewn sefyllfaoedd cymhleth nad oes modd eu darogan mewn amgylchedd proffesiynol neu gyfatebol.

1.2

Rhaid i bob myfyriwr gofrestru fel myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe a thalu’r ffioedd priodol a bennir gan y Brifysgol. Fel myfyrwyr cofrestredig, rhaid i’r myfyrwyr gydymffurfio â rheoliadau academaidd a chyffredinol y Brifysgol. Rhaid i fyfyrwyr gydymffurfio â Rheoliadau perthnasol Prifysgol Bryste yn ystod yr amser a dreulir ganddynt ym Mhrifysgol Bryste. Caiff myfyrwyr eu monitro gan Brifysgol Bryste yn ystod eu hastudiaethau ym Mryste.

1.3

Nid oes gan fyfyrwyr yr hawl i fod wedi'u cofrestru ar raglen arall sy'n arwain at ddyfarniad cymhwyster yn y brifysgol hon/sefydliad hwn neu unrhyw un arall heb ganiatâd penodol gan Gadeirydd y Bwrdd Rheoliadau, Ansawdd a Safonau a'r Deon Derbyn a Recriwtio neu oni bai fod y dyfarniad yn rhan o'r cymwysterau a bennwyd yn y fframwaith gradd hwn.

1.4

Rhaid i'r holl fyfyrwyr fonitro’r cyfrif e-bost a roddwyd iddynt gan y Brifysgol/Prifysgolion trwy gydol cyfnod yr ymgeisyddiaeth gan y bydd yr holl ohebiaeth electronig oddi wrth y Brifysgol/Prifysgolion yn cael ei hanfon i gyfrif e-bost Prifysgol y myfyriwr. Awgrymir yn gryf bod pob myfyriwr yn defnyddio’r cyfrif e-bost Prifysgol/Prifysgolion a roddwyd iddo wrth gyfathrebu â’r Brifysgol/Prifysgolion.

1.5

Bydd lefel astudio'r dyfarniad gradd ymchwil a bennir gan y rheoliadau hyn ar Lefel 8 o'r Fframwaith Cymwysterau Addysg Uwch (FHEQ).

2. Amodau Derbyn

Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â Chanllawiau Derbyn Myfyrwyr Ymchwil y Brifysgol.

2.1

Fel arfer, bydd myfyrwyr yn dal (neu disgwylir iddynt ennill) radd gychwynnol o brifysgol yn y DU neu brifysgol arall a gymeradwywyd gan y Senedd gydag o leiaf ail ddosbarth uwch (2:1) neu gyfwerth a gydnabyddir gan Brifysgol Abertawe. Bydd angen i fyfyrwyr gwblhau'r elfen a addysgir cyn symud ymlaen i'r flwyddyn nesaf o astudio.

2.2

Mae’n ofynnol i’r holl fyfyrwyr fodloni gofynion mynediad iaith Saesneg y rhaglen a’r Brifysgol

Efallai bydd angen i fyfyrwyr gwblhau hyfforddiant ychwanegol yn yr iaith Saesneg.

2.3

Penderfyniad y Panel Hub SWBio a fydd yn penderfynu derbyn myfyriwr i raglen ymchwil arfaethedig ai peidio, yn unol â gofynion y BBSRC, y mae'r rheoliadau hyn wedi'u mapio yn eu herbyn. Dylai penderfyniadau fod yn seiliedig ar y ffactorau canlynol:

  • A yw'r Panel yn fodlon bod y myfyriwr yn cyrraedd y safon academaidd angenrheidiol i allu cwblhau’r rhaglen ymchwil a fwriedir, waeth beth fo cymwysterau’r ymgeisydd;
  • A yw’r testun ymchwil a ddewiswyd gan y myfyriwr yn addas i’w astudio yn y dyfnder sydd ei angen ar gyfer y radd;
  • A ellir darparu goruchwyliaeth ddigonol gan aelod priodol o staff yn unol â’r rheoliadau a nodir o dan ‘Goruchwyliaeth’;
  • A oes adnoddau a chyfleusterau addas ar gael i gynnal a chefnogi’r rhaglen ymchwil arfaethedig;
  • Yn ogystal â chymwysterau academaidd, gall penderfyniadau ynghylch Derbyn Myfyrwyr fod yn seiliedig ar ffactorau eraill gan gynnwys y canlynol: safon y crynodeb/cynnig ymchwil, perfformiad mewn cyfweliad, dwysedd y gystadleuaeth am leoedd cyfyngedig a phrofiad proffesiynol perthnasol;
  • A yw’n ymddangos yn rhesymol y gellid cwblhau’r rhaglen arfaethedig o fewn y cyfnod byrraf posibl a bennwyd.

3. Cofrestru a Dulliau Astudio

Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â Chanllawiau Derbyn Myfyrwyr Ymchwil y Brifysgol.

3.1 Cofrestru

3.1.1

Mae'r Brifysgol yn disgwyl i'r holl fyfyrwyr gofrestru ym Mhrifysgol Abertawe o ddechrau'r rhaglen. Dylai pob myfyriwr gofrestru yn unol â chyfarwyddiadau cofrestru'r rhaglen astudio benodol ac o fewn y cyfnod cofrestru a bennir. Yn ogystal, bydd myfyrwyr wedi cofrestru gyda Phrifysgol Bryste am hyd yr elfen a addysgir, yn unol â rheoliadau Prifysgol Bryste.

3.1.2

Mae’n rhaid i fyfyrwyr gofrestru o fewn y cyfnod a bennwyd ar gyfer cofrestru:

  • Os ydynt yn cofrestru yn y Brifysgol am y tro cyntaf;
  • Os ydynt yn cofrestru ar raglen astudio benodol am y tro cyntaf;
  • Os ydynt yn camu ymlaen at lefel nesaf eu hastudiaethau, blwyddyn nesaf eu hastudiaethau neu, mewn rhai achosion, ran nesaf eu hastudiaethau, ac yn mynychu’n amser llawn neu’n rhan amser;
  • Os yw’r Brifysgol yn disgwyl i ffi gael ei thalu yn unol â rheoliadau’r Brifysgol sy'n berthnasol i gyllid a ffïoedd myfyrwyr.

3.1.3

Er mwyn cofrestru yn y Brifysgol, mae’n ofynnol i fyfyrwyr, lle bynnag y bo'n briodol, ddarparu tystiolaeth o’u hawl i astudio yn y Brifysgol yn unol â:

  • Gofynion penodol y rhaglen.
  • Rheoliadau’r Brifysgol o ran matriciwleiddio.
  • Y ddeddfwriaeth ynghylch astudio yn y Deyrnas Unedig.

3.1.4

Os na fydd myfyriwr yn cofrestru o fewn y cyfnod penodedig, bydd ei ymgeisiaeth yn dod i ben a bydd rhaid i’r myfyriwr dynnu'n ôl o’r Brifysgol. Caiff ceisiadau i ailsefydlu'r ymgeisiaeth ac am ganiatâd i gofrestru'n hwyr eu hystyried gan Ddeon Gweithredol y Gyfadran a'r Gwasanaethau Addysg.

3.1.5

Bydd y Brifysgol yn hysbysu'r awdurdodau perthnasol, o fewn cyfnod penodedig, yn unol â deddfau’r Deyrnas Unedig parthed astudio yn y DU, am fyfyrwyr y tynnwyd eu henwau yn ôl oherwydd iddynt beidio â chofrestru ar raglen astudio o fewn y cyfnod cofrestru penodedig.

3.2 Dulliau Astudio

Gall myfyriwr dim ond astudio am radd PhD (BBSRC DTP) drwy Ddull D:

fel myfyriwr amser llawn (neu ran-amser), trwy addysgu/gwneud ymchwil yn y Brifysgol a/neu addysgu/gwneud ymchwil mewn rhaglen ymchwil a gymeradwywyd sy’n cael ei chynnig ar y cyd gan y Brifysgol a Phrifysgol/partner arall a gymeradwywyd yn y Rhaglen Hyfforddiant Doethurol.

3.3

Ni ellir dyfarnu'r radd PhD integredig fel gradd er anrhydedd.

4. Cyfnod Ymgeisyddiaeth

[Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â Chanllawiau’r Brifysgol ar Ymgeisyddiaeth Graddau Ymchwil a Chanllawiau’r Brifysgol ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil ar Drosglwyddo a Thynnu yn ôl]

4.1

Rhaid i fyfyriwr ddilyn a chwblhau rhaglen addysgu ar Lefel Meistr (yr elfen Meistr) ac astudiaethau wedi'u goruchwylio, gan gynnwys datblygu sgiliau ymchwil a chyffredinol fel naill ai myfyriwr amser llawn neu ran-amser.

4.2

Rhaid i'r elfen a addysgir gael ei chwblhau fel y pennwyd gan reoliadau Prifysgol Bryste a chwblhau’r'r asesiad yn unol â nhw.

4.3

Rhaid i fyfyrwyr amser llawn ar y Dyfarniad PhD Integredig gwblhau'r gydran a addysgir yn llwyddiannus cyn symud ymlaen i flwyddyn nesaf y rhaglen. Efallai y bydd myfyrwyr nad ydynt yn cwblhau'r cydrannau a addysgir yn llwyddiannus yn gymwys am Gymhwyster Ymadael.

4.4

Caiff y rhaglen radd gyfan ei chwblhau o fewn y terfynau amser canlynol o'r dyddiad cofrestru gwreiddiol:

Dull Astudio 
Llawn amser Isafswm: 4 blynedd
Uchafswm: 5 mlynedd
Rhan-amser Isafswm: 8 mlynedd
Uchafswm: 9 mlynedd

5. Trosglwyddo Credydau neu Ymgeisyddiaeth

5.1

Bydd myfyrwyr ar gyfer y radd PhD (BBSRC DTP) yn astudio'r elfen a addysgir ym Mhrifysgol Bryste, cyn symud ymlaen i astudio'r blynyddoedd dilynol ym Mhrifysgol Abertawe.

5.2

Mewn rhai achosion, gall myfyrwyr wneud cais i'r Bwrdd Achosion Myfyrwyr, neu gofynnir iddynt wneud hynny, i drosglwyddo'r dull astudio neu'r rhaglen astudio. Bydd Canllaw Trosglwyddo Myfyrwyr Ymchwil a’u Tynnu’n Ôl y Brifysgol yn rheoli trosglwyddiadau o’r fath. Mewn achosion o’r fath, bydd y Brifysgol yn pennu cyfnod astudio byrraf diwygiedig.

5.3

Fel rheol, gwaherddir myfyrwyr rhag trosglwyddo eu hymgeisyddiaeth i sefydliad arall ar ôl cyfnod lleiaf yr ymgeisyddiaeth ar gyfer yr elfen ymchwil, fel yr amlinellir ym mharagraff 1 o Ganllaw'r Brifysgol i Ymgeisyddiaeth Graddau Ymchwil, gael ei gwblhau yn y Brifysgol hon.

6. Strwythur y Rhaglen

6.1

Rhaid i Gyfadrannau bennu strwythur a dull cyflwyno rhaglen pan gymeradwyir y rhaglen.

6.2

Bydd y radd PhD (BBSRC DTP) yn cynnwys elfen a addysgir (blwyddyn 1 llawn-amser, blynyddoedd 1 a 2 yn rhan-amser) ac elfen ymchwil (blynyddoedd 2-4 amser llawn, blynyddoedd 3-8 yn rhan-amser) mewn rhaglen 4 (neu 8) blynedd integredig.

6.3

Bydd yr elfen a addysgir yn cynnwys amrywiaeth o gydrannau addysgol arwahanol (modiwlau) sy'n dod at gyfanswm o 180 o gredydau ac sy'n cynnwys 60 credyd o Ddysgu Annibynnol dan Gyfarwyddyd, o lefel academaidd a chynnwys perthnasol i'r maes astudio ac ymchwil, wedi'u dilyn yn unol â rheoliadau perthnasol Prifysgol Bryste.

6.5

Bydd elfen ymchwil y rhaglen yn gofyn i'r ymgeisydd lunio a chyflwyno traethawd ymchwil sylweddol a sefyll arholiad llafar.

6.6

Bydd strwythur y rhaglen PhD Integredig (BBSRC DTP) fel a ganlyn:

Amser llawn

Blwyddyn 1 120 o gredydau a addysgir, 60 o gredydau o ddysgu annibynnol, Lefel 7
Cwblhau'r elfen a addysgir i symud ymlaen i flwyddyn 2 y rhaglen
Blwyddyn 2 Ymchwil, Lefel 8
Blwyddyn 3 Ymchwil, Lefel 8
Blwyddyn 4 Ymchwil a chwblhau'r traethawd ymchwil
Cyflwyno'r traethawd ymchwil ac asesu drwy arholiad llafar

Rhan-amser

Blwyddyn 1 60 o gredydau a addysgir, Lefel 7
Blwyddyn 2 60 o gredydau a addysgir, 60 o gredydau dysgu annibynnol, Lefel 7
Cwblhau'r elfen a addysgir i symud ymlaen i flwyddyn 3 y rhaglen
Blwyddyn 3 Ymchwil, Lefel 8
Blwyddyn 4 Ymchwil, Lefel 8
Blwyddyn 5 Ymchwil, Lefel 8
Blwyddyn 6 Ymchwil, Lefel 8
Blwyddyn 7 Ymchwil a chwblhau'r traethawd ymchwil
Blwyddyn 8 Ymchwil a chwblhau'r traethawd ymchwil
Cyflwyno'r traethawd ymchwil ac asesu drwy arholiad llafar

 6.7  Interniaethau Proffesiynol i Fyfyrwyr PhD (PIPS)

Disgwylir i fyfyrwyr ymgymryd â lleoliad 3 mis o hyd (y tu allan i amgylchedd ymchwil academaidd) yn ystod ail neu drydedd flwyddyn y rhaglen.

7. Dilyniant Drwy'r Rhaglen

7.1

Bydd yr holl fyfyrwyr yn gofrestredig ar y Rhaglen PhD Integredig o ddechrau'r rhaglen.

7.2

Bydd yr holl fyfyrwyr yn dechrau'r elfen a addysgir ym mlwyddyn 1.

7.3

Er mwyn symud ymlaen i flwyddyn 2 y rhaglen (neu 3 os yn rhan-amser), rhaid i fyfyrwyr gwblhau'r elfen a addysgir yn llwyddiannus.

8. Modiwlau Mewn Rhaglen

Ceir wybodaeth am fodiwlau yn Rheoliadau Prifysgol Bryste.

9. Newid y Dull Astudio

9.1

Gellir caniatáu i fyfyrwyr amser llawn a rhan-amser ar gwrs ôl-raddedig a addysgir newid eu dull mynychu cyn dechrau eu rhaglen gradd, ar yr amod nad yw hynny’n groes i reolau sy’n berthnasol i nawdd/ysgoloriaethau ymchwil. Gall myfyrwyr amser llawn a rhan-amser newid eu dull mynychu rhwng 1 a 4 wythnos o ddechrau eu rhaglen gyda chymeradwyaeth y Deon Gweithredol (neu ei enwebai) a'r Hyb DTP, i sicrhau bod y newid arfaethedig yn cydymffurfio ag Amodau a Thelerau’r cyllidwr. Fel arfer, bydd myfyrwyr sy’n dymuno newid eu modd astudio ar ôl y terfynau amser hyn yn cael eu cynghori i ohirio eu hastudiaethau a dychwelyd ar gyfer y sesiwn ganlynol. Fodd bynnag, gyda chefnogaeth benodol y Deon Gweithredol a'r Hyb DTP, gellir cyflwyno achos gerbron y Gwasanaethau Addysg a fydd yn ystyried yr achos yn weinyddol ar ran y Bwrdd Achosion Myfyrwyr.

10. Tiwtora Personol a Goruchwylio Ymchwil

10.1

Bydd myfyrwyr yn cael eu neilltuo i Dîm Goruchwylio Ymchwil ar adeg cofrestru. Caiff Tiwtor Personol (neu gyfwerth) ei neilltuo i fyfyrwyr gan Brifysgol Bryste ar gyfer yr elfen a addysgir, yn unol â rheoliadau Prifysgol Bryste.

10.2

Caiff myfyrwyr eu goruchwylio, ar sail reolaidd a pharhaus, yn unol â'r gweithdrefnau ar gyfer goruchwyliaeth ôl-raddedig fel a amlinellwyd yng Nghanllaw i Oruchwyliaeth Ymchwil Ôl-raddedig y Brifysgol.

10.3

Bydd y tîm goruchwylio yn draws-sefydliadol ac fe'i benodir gan Ddeon Gweithredol y myfyrwyr (neu ei enwebai). Bydd y tîm goruchwylio yn cynnwys o leiaf ddau oruchwyliwr mewnol a goruchwyliwr cysylltiol sy'n gymwys i'w penodi fel a amlinellwyd yng Nghanllaw i Oruchwyliaeth Ymchwil Ôl-raddedig y Brifysgol. Caiff un goruchwyliwr mewnol ei benodi fel goruchwyliwr cyntaf/sylfaenol.

10.4

Rhaid i oruchwylwyr mewnol fod yn aelod o staff Prifysgol Abertawe, fel a amlinellwyd yng Nghanllaw Goruchwylio Ymchwil Ôl-raddedig y Brifysgol. Bydd y goruchwyliwr cyntaf/sylfaenol yn parhau i fod yn gyfrifol am adrodd am gynnydd i'r Gyfadran a Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu'r Brifysgol.

10.5

Neilltuir Tiwtoriaid Personol neu oruchwylwyr ymchwil i'r holl fyfyrwyr sy'n astudio drwy ddull D gyda phartner cydweithredol, yn unol â rheoliadau'r sefydliad astudio.

10.6

Caiff goruchwylwyr allanol eu penodi yn unol â Chanllaw i Oruchwylio Ymchwil Ôl-raddedig y Brifysgol, gyda chymeradwyaeth gan y Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu. Cydnabyddir y fath oruchwylwyr yn swyddogol yn y Brifysgol.

11. Monitro Cynnydd a Phresenoldeb

Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â'r Canllawiau ar Fonitro Cynnydd Myfyrwyr Ymchwil.

11.1

Yn ystod yr elfen a addysgir, disgwylir i fyfyrwyr fynychu/cymryd rhan a byddant yn cael eu monitro ar gyfer yr holl sesiynau dysgu a amserlennir yn unol â rheoliadau Prifysgol Bryste.

11.2

Disgwylir i'r holl fyfyrwyr sy'n ymgymryd ag astudiaethau mewn sefydliad partner cydweithredol gydymffurfio â gofynion monitro a chynnydd yn unol â rheoliadau'r sefydliad astudio.

11.3

Mae'n rhaid i'r Brifysgol gadarnhau ymgeisyddiaeth pob myfyriwr o fewn 3 mis o ddechrau blwyddyn 2 (neu 3 i fyfyrwyr rhan-amser), fel a amlinellir yng Nghanllaw Monitro Cynnydd Myfyrwyr Ymchwil y Brifysgol.

11.4

Os na all Cyfadran/Ysgol gadarnhau ymgeisyddiaeth myfyriwr yn y cyfnod amser hwn, efallai y bydd yn rhaid i'r myfyriwr ohirio ei astudiaethau ar y rhaglen neu dynnu'n ôl ohoni.

11.5

Disgwylir i fyfyrwyr gwblhau o fewn y cyfnod cyllido penodol gan y cyllidwr. Caiff cynnydd myfyriwr ar ymgeisyddiaeth sylfaenol ei fonitro'n rheolaidd gan y Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu er mwyn penderfynu a ganiateir i fyfyriwr symud ymlaen. Caiff cynnydd ei fonitro ar adegau penodol fel y nodir yng Nghanllawiau Monitro Cynnydd Myfyrwyr Ymchwil y Brifysgol.

11.7

Os ystyrir cynnydd myfyriwr i fod yn anfoddhaol gan y Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu a/neu'r cyllidwr, efallai y bydd yn rhaid i'r myfyriwr drosglwyddo i raglen arall, neu dynnu'n ôl o'r rhaglen.

11.8

Yn achos paragraffau 11.4 a 11.7 uchod, bydd gan fyfyrwyr perthnasol yr hawl i apelio yn erbyn dyfarniadau dilyniant yn unol â Gweithdrefnau Cywirdeb Marciau Cyhoeddedig neu weithdrefnau Apeliadau Academaidd Prifysgol Abertawe.

12. Absenoldeb Myfyrwyr

Dylid darllen y rhan hon ar y cyd â Rheoliadau Prifysgol Bryste ac Amodau a Thelerau’r BBSRC.

12.1

Os yw salwch wedi torri ar draws gwaith myfyriwr am gyfnod sy’n hwy na saith niwrnod, bydd rhaid i'r ymgeisydd hwnnw hysbysu’r Gyfadran/Ysgol yn ysgrifenedig a chyflwyno tystysgrif feddygol.

12.2

Rhaid i fyfyriwr sydd wedi bod yn absennol o arholiad hysbysu ei Brifysgol berthnasol drwy'r rheoliadau a chanllawiau perthnasol.

12.3

Rhaid i bob myfyriwr nodi mai ei gyfrifoldeb ef yw hysbysu'r Brifysgol berthnasol cyn gynted â phosib am unrhyw amgylchiadau esgusodol a allai effeithio ar ei berfformiad naill ai yn ystod y flwyddyn academaidd neu yn ystod arholiadau, yn unol â Pholisïau'r Brifysgol ar apeliadau Amgylchiadau Esgusodol yn seiliedig ar amgylchiadau esgusodol y gellid bod wedi eu dwyn at sylw'r byrddau arholiad cyn hynny. Ni chânt eu hystyried.

12.4

Disgwylir i'r holl fyfyrwyr sy'n ymgymryd ag astudiaethau gyda sefydliad partner cydweithredol gydymffurfio â pholisïau a gweithdrefnau absenoldeb yn unol â rheoliadau'r sefydliad astudio.

13. Gohirio Astudiaethau

13.1

Disgwylir i'r holl fyfyrwyr sy'n ymgymryd ag astudiaethau mewn sefydliad partner cydweithredol gydymffurfio â gweithdrefnau gohirio astudiaethau yn unol â rheoliadau'r sefydliad astudio ac Amodau a Thelerau grant hyfforddi’r UKRI.

14. Cyflogi Myfyrwyr Graddau Ymchwil Ôl-raddedig

Dylid darllen y rhan hon ar y cyd â Chanllaw Cyflogi Myfyrwyr Graddau Ymchwil Ôl-raddedig y Brifysgol a Rheoliadau a Chôd Ymarfer Rhaglenni Graddau Ymchwil Prifysgol Bryste.

14.1

Rhaid i fyfyrwyr sy’n ceisio am swydd, ar ben eu hastudiaethau, naill ai yn y Brifysgol neu’r tu allan, lynu wrth y canllawiau ar gyflogaeth a gyhoeddwyd yng Nghanllaw Cyflogaeth Myfyrwyr Graddau Ymchwil y Brifysgol ac Amodau a Thelerau grant hyfforddi’r UKRI.

15. Cyflwyno ac Ailgyflwyno Asesiadau

Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â'r Canllawiau ar Ymgeisyddiaeth Graddau Ymchwil.

15.1

Disgwylir i'r holl fyfyrwyr sy'n ymgymryd â'r elfen a addysgir ym Mhrifysgol Bryste gydymffurfio â pholisïau, gweithdrefnau a rheoliadau Prifysgol Bryste.

16. Cyflwyno Gwaith yn Hwyr

16.1

Disgwylir i'r holl fyfyrwyr sy'n ymgymryd â'r elfen a addysgir ym Mhrifysgol Bryste gydymffurfio â pholisïau, gweithdrefnau a rheoliadau Prifysgol Bryste.

17. Cyflwyno Traethawd Ymchwil

17.1

Rhaid i'r holl fyfyrwyr gyflwyno traethawd erbyn y dyddiad cyflwyno hwyrach fel a amlinellwyd yn y rheoliadau hyn, sy'n berthnasol ar adeg derbyn ac fel a nodwyd yn y Llythyr Cynnig ffurfiol.

17.2

Pan fydd myfyriwr yn methu cyflwyno traethawd ymchwil erbyn y dyddiad cyflwyno olaf, gall y Brifysgol fynnu bod yr ymgeisyddiaeth yn cael ei therfynu.

17.3

Bydd myfyrwyr yn hysbysu'r Brifysgol o'u bwriad i gyflwyno o leiaf dri mis cyn y dyddiad cyflwyno disgwyliedig.

17.4

Ar gwblhau cyfnod byrraf yr ymgeisyddiaeth, bydd ymgeisydd yn cyflwyno copi electronig o draethawd ymchwil i’w arholi yn unol â Chanllaw’r Brifysgol i Gyflwyno Traethawd Ymchwil ar gyfer myfyrwyr Ymchwil. Os bydd arholwr yn gofyn am gopi papur o’r traethawd ymchwil darperir hyn gan yr ymgeisydd trwy’r tîm cymorth Ymchwil Ôl-raddedig.

17.5

Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gyflwyno copi electronig o’r traethawd ymchwil wedi’i ddiweddaru ar ôl iddo gael ei arholi os gwnaethpwyd cywiriadau neu ddiwygiadau.

17.6

Gall unrhyw fyfyriwr sy’n dilyn rhaglen ymchwil yn y Brifysgol ddewis cyflwyno traethawd ymchwil neu waith arall yn Gymraeg neu yn Saesneg. Rhaid i fyfyriwr sy’n dymuno cael ei asesu mewn iaith nad yw’n brif iaith addysgu/asesu'r rhaglen dan sylw hysbysu'r Bwrdd Achosion Myfyrwyr cyn diwedd cyfnod byrraf posib yr ymgeisyddiaeth. Gwneir trefniadau yn unol â’r hyn a amlinellir yng Nghanllaw Arholi Myfyrwyr Ymchwil y Brifysgol. Hefyd, rhaid cyflwyno ceisiadau am asesiad yn Gymraeg drwy'r Cyfadran/Ysgol cyn diwedd cyfnod byrraf posib yr ymgeisyddiaeth, er mwyn i drefniadau priodol gael eu rhoi ar waith i asesu'r gwaith drwy'r iaith y cafodd ei gyflwyno ynddi, lle bynnag y bo modd, neu drwy gyfieithu os nad yw hyn yn bosib.

17.7

Serch hynny, ni fydd y Bwrdd Achosion Myfyrwyr yn cymeradwyo ceisiadau sy’n deillio o ddiffyg gallu’r myfyriwr i gynhyrchu gwaith i’w gyflwyno naill ai'n Gymraeg neu yn Saesneg.

17.8

Pan fydd y Brifysgol wedi cael ei hysbysu am fwriad y myfyriwr i gyflwyno, bydd y Deon Gweithredol neu enwebai’n hysbysu aelodau'r Bwrdd Arholi, y bydd ei aelodaeth yn unol â rhan 25 y rheoliadau hyn ac fel yr amlinellir yng Nghanllaw Arholi Myfyrwyr Ymchwil y Brifysgol. Caiff y myfyriwr ei hysbysu am enwau aelodau arfaethedig y Bwrdd Arholi. Caiff penodiad aelodau’r Bwrdd Arholi ei gadarnhau gan y Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu.

17.9

Bydd yn rhaid i fyfyrwyr sy’n ailgyflwyno traethawd ymchwil sydd wedi methu bodloni’r Bwrdd Arholi yn y gorffennol gyflwyno’r traethawd diwygiedig yn unol â'r Canllawiau ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil ar Gyflwyno Traethawd Ymchwil. Bydd hefyd gofyn i'r myfyriwr dalu ffi ailgyflwyno ychwanegol.

Darpariaeth arbennig, gohiriadau ac estyniadau i ymgeisyddiaeth.

18. Darpariaeth Arbennig

18.1

Bydd myfyriwr y mae angen darpariaeth arbennig arno/arni ar gyfer gwaith cwrs neu arholiadau’n cyflwyno cais ysgrifenedig, yn y man cyntaf, at y Deon Gweithredol (neu ei enwebai) a fydd yn ymgynghori â Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Myfyrwyr (neu'r swyddog Prifysgol priodol) cyn gynted â phosib. Rhaid darparu tystiolaeth ddogfennol i gefnogi’r cais. Gall y Deon Gweithredol, ar ôl ymgynghori â Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Myfyrwyr (neu swyddog priodol o’r Brifysgol), ddiystyru ceisiadau am ddarpariaeth arbennig os na chânt eu cefnogi gan dystiolaeth ddogfennol briodol.

18.2

Os caiff y Deon Gweithredol neu ei enwebai ei hysbysu y dylai myfyriwr dderbyn darpariaeth arbennig, bydd yn anfon y cais, ynghyd â chopïau o'r dystiolaeth ddogfennol sy’n cefnogi’r cais, at Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Myfyrwyr (neu swyddog priodol o’r Brifysgol) cyn gynted â phosib. Yn achos myfyrwyr â dyslecsia, rhaid cael adroddiad sydd wedi’i ddyddio o fewn tair blynedd o ddyddiad mynediad y myfyriwr i’r rhaglen astudio. Rhaid i’r adroddiad gael ei gyflwyno gan seicolegydd cymwys sydd â phrofiad o weithio gydag oedolion dyslecsig, neu gan rywun sydd â chymhwyster ar ôl dilyn cwrs hyfforddi proffesiynol a oedd yn ymwneud ag asesu oedolion â dyslecsia.

18.3

Os oes angen darpariaeth arbennig neu ystyriaeth arbennig ar fyfyriwr ar gyfer gwaith cwrs neu arholiad oherwydd amgylchiadau annisgwyl, dylai'r myfyriwr hwnnw hysbysu'r Deon Gweithredol neu ei enwebai cyn gynted â phosib. Oni bai fod y Gyfadran wedi derbyn manylion ynghylch amgylchiadau esgusodol a chais am estyniad, tybir nad oedd yr amgylchiadau penodol wedi effeithio’n ormodol ar y myfyriwr wrth baratoi ar gyfer yr asesiad dan sylw.

18.4

Os yw'n briodol, gwneir trefniadau addas gan y Deon Gweithredol neu ei enwebai mewn ymgynghoriad â'r myfyriwr.

18.5

Disgwylir i bob myfyriwr sy'n ymgymryd ag astudiaethau drwy Ddull D mewn sefydliad partner cydweithredol gysylltu â'r ddwy Brifysgol mewn perthynas â gofynion darpariaeth arbennig.

19. Elfen Gradd Meistr: Estyniad i’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno/ymgeisyddiaeth

19.1

Bydd gan bob myfyriwr sy'n ymgymryd ag astudiaethau drwy Ddull D mewn sefydliad partner cydweithredol estyniad i'r dyddiad cyflwyno/ymgeisyddiaeth y cytunwyd arno gan y ddau bartner mewn perthynas â rheoliadau'r sefydliadau astudio.

20. Yr Elfen Doethuriaeth: Estyniad i’r Dyddiad Cau ar gyfer Cyflwyno/Gohirio Ymgeisyddiaeth

Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â'r Canllawiau ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil ar Ohiriadau ac Estyniadau a'r Canllawiau ar Drosglwyddo a Thynnu’n Ôl gan Fyfyrwyr Ymchwil.

20.1

Dan amgylchiadau eithriadol ac yn unol â Chanllaw Gohiriadau ac Estyniadau i Fyfyrwyr Ymchwil y Brifysgol ac Amodau a Thelerau grant hyfforddiant yr UKRI, efallai y bydd angen i fyfyriwr ohirio ymgeisyddiaeth o ganlyniad i reolau disgyblu, ariannol neu iechyd.

20.2

Dan amgylchiadau eithriadol, gall myfyrwyr ofyn am ohirio eu hymgeisyddiaeth neu am estyniad i’w hymgeisyddiaeth. Dylid gwneud pob cais i ohirio ymgeisyddiaeth neu i estyn ymgeisyddiaeth yn unol â pharagraff 2 Canllawiau Gohiriadau ac Estyniadau Myfyrwyr Ymchwil y Brifysgol.

20.3

Pan fydd ymgeisyddiaeth ymgeisydd yn cael ei gohirio, fel yr amlinellir ym mharagraffau 21.1 a 20.2 uchod, rhaid nodi, adeg y gohirio, ar ba ddyddiad y bydd y myfyriwr yn ailgydio yn yr astudiaethau.

20.4

Pan na fydd myfyriwr yn dychwelyd i astudio erbyn y dyddiad ailgydio, ystyrir ei fod wedi tynnu'n ôl o'r rhaglen o ddyddiad y gohiriad, fel a amlinellwyd ym mharagraff 7 o Ganllaw Trosglwyddo a Thynnu'n Ôl Myfyrwyr Ymchwil y Brifysgol.

20.5

Fel arfer, bydd y Bwrdd Achosion Myfyrwyr yn gofyn bod myfyrwyr ymchwil sefydledig sydd wedi cwblhau blwyddyn neu fwy o'u hymchwil amser llawn ond sydd wedi mynd heibio i'r cyfnod gohirio hwyaf a ganiateir, yn tynnu'n ôl. Fodd bynnag, mewn amgylchiadau eithriadol, mae'n bosibl y caniateir i'r myfyrwyr hyn ailymgeisio i ailgofrestru ar yr un cam â'r ymchwil flaenorol (o fewn cyfnod hwyaf o 2 flynedd o'r dyddiad tynnu'n ôl). Dyma'r unig amgylchiadau lle gellir caniatáu lleihau hyd ymgeisyddiaeth myfyriwr.

21. Arholiadau, Asesu Parhaus a Dysgu Annibynnol dan Gyfarwyddyd (cwrs a addysgir – Blwyddyn 1 (neu 1 a 2 ar gyfer myfyrwyr rhan-amser))

Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â Rheoliadau Prifysgol Bryste perthnasol.

21.1

Caiff myfyrwyr eu hasesu o dan ac yn unol â rheoliadau Prifysgol Bryste

21.2

Bydd yr elfen a addysgir yn cynnwys asesu parhaus a/neu arholiadau o natur uwch ym meysydd astudio Lefel 7 y FHEQ.

22. Asesu (ymchwil – blynyddoedd 2-4, neu 3-8 i fyfyrwyr rhan-amser)

Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â'r Canllawiau Cyflwyno Traethawd Ymchwil i Fyfyrwyr Ymchwil y Brifysgol.

22.1

Caiff myfyrwyr ar gyfer y radd PhD Integredig eu hasesu yn y ffyrdd canlynol:

a) Asesir ymchwil ar ffurf traethawd ymchwil sy'n cynnwys dulliau a chanlyniadau'r prosiect ymchwil. Dylid cyflwyno pob traethawd ymchwil yn unol â'r Canllawiau Cyflwyno Traethawd Ymchwil i Fyfyrwyr Ymchwil y Brifysgol.

b) Caiff ymchwil hefyd ei hasesu ar ffurf arholiad llafar (viva voce) , fel a fanylir ym mharagraff 26.

22.2

Caiff y Deon Gweithredol ddirprwyo'r gwaith gweinyddol ynghylch cyflwyno ac arholi traethawd ymchwil i aelod o'i staff, a bydd hefyd yn enwebu Cadeirydd ar gyfer y Bwrdd Arholi. Dylai'r Cadeirydd fod yn aelod o staff y Gyfadran, gyda phrofiad addas, nad yw wedi ymwneud yn uniongyrchol â goruchwylio'r myfyriwr.

23. Arholiad Llafar (Viva Voce)

Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â'r Canllawiau Cyflwyno Traethawd Ymchwil ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil a Chanllawiau Arholi Myfyrwyr Ymchwil y Brifysgol.

23.1

Bydd disgwyl i’r Bwrdd Arholi gynnal arholiad llafar ar gyfer pob myfyriwr gradd ymchwil. Yn achos myfyriwr y caniateir iddo ailgyflwyno o fewn 12 mis, fel arfer byddai disgwyl cynnal ail arholiad llafar. Fodd bynnag, mewn achosion eithriadol, gellir hepgor yr angen i gynnal ail arholiad llafar os darperir dadl fanwl o blaid ei ddileu yn adroddiad ysgrifenedig Cadeirydd y Bwrdd Arholi. Bydd angen i'r adroddiad ysgrifenedig gael ei gytuno, a'i gyd-lofnodi, gan bob aelod o'r Bwrdd Arholi.

23.2

Rhaid cynnal arholiad llafar ym Mhrifysgol Abertawe o fewn chwe mis i ddyddiad cyflwyno’r traethawd ymchwil. Byddai angen naill ai cytuno ar eithriadau naill ai fel eithriadau neu gytuno eu bod nhw'n adlewyrchu natur y gwaith.

23.3

Rhaid i fyfyriwr y mae angen darpariaeth arbennig arno/i ar gyfer yr arholiad llafar hysbysu ei Gyfadran gartref cyn cyflwyno'r traethawd. Gwneir trefniadau gan y Gyfadran/Ysgol yn unol â’r hyn a amlinellir yng Nghanllawiau Arholi Myfyrwyr Ymchwil y Brifysgol.

23.4

Bydd gan oruchwylwyr y myfyriwr hawl i gyfleu i Gadeirydd y Bwrdd Arholi unrhyw bryderon ynghylch prosiect ymchwil y myfyriwr, ynghylch y traethawd ymchwil sy’n deillio ohono, neu ynghylch ei arholi os teimla’r goruchwylwyr y dylai’r Bwrdd eu cymryd i ystyriaeth cyn gwneud ei benderfyniad. Bydd y goruchwylwyr yn cyfleu’r pryderon hyn, yn ysgrifenedig, i’r Cadeirydd ac i’r myfyriwr cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol wedi cyflwyno’r thesis ac yn ddigon cynnar i roi digon o amser i’r myfyriwr, cyn arholi’r traethawd ymchwil (gan gynnwys unrhyw arholiad llafar), ystyried y pwyntiau a wnaed a pharatoi ymateb.

23.5

Cynhelir yr arholiad llafar yn unol â Chanllawiau Arholi Myfyrwyr Ymchwil y Brifysgol. Caiff argymhelliad y Bwrdd Arholi ei gyflwyno i'r Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu i'w gadarnhau.

24. Byrddau Arholi a Phenodi Arholwyr (yr elfen a addysgir)

Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â Rheoliadau perthnasol Prifysgol Bryste.

24.1

Disgwylir i'r holl fyfyrwyr sy'n ymgymryd ag astudiaethau mewn sefydliad partner cydweithredol gydymffurfio â'r bwrdd arholi a phenodi arholwyr yn unol â rheoliadau'r sefydliad astudio.

25. Cyfansoddiad y Bwrdd Arholi (Ymchwil)

Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â Chanllawiau ar Arholi Myfyrwyr Ymchwil y Brifysgol.

25.1

Rhaid i bob Bwrdd Arholi i fyfyrwyr sy'n cwblhau'r elfen Ddoethur gynnwys yr unigolion canlynol:

a) Cadeirydd annibynnol, sef y Deon Gweithredol neu aelod o staff gyda phrofiad priodol a enwebwyd gan y Deon Gweithredol. Mae disgwyl i Gadeirydd y Bwrdd Arholi gadeirio’r arholiad llafar ac unrhyw gyfarfod o’r arholwyr.
b) Arholwr neu arholwyr allanol a benodir yn unol â Chanllawiau'r Brifysgol ar Arholi Myfyrwyr Ymchwil.
c) Arholwr mewnol a benodir yn unol â Chanllawiau'r Brifysgol ar Arholi Myfyrwyr Ymchwil.

25.2

Bydd Cadeirydd y Bwrdd Arholi’n annibynnol yn y broses arholi a bydd yn atebol i’r Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau mewn perthynas â chynnal yr arholiad.

25.3

Ni chaniateir i oruchwylwyr y myfyriwr nac unrhyw aelod o staff sydd ynghlwm wrth oruchwylio’r myfyriwr fod yn rhan o’r Bwrdd Arholi, ond gall Cadeirydd y Bwrdd Arholi eu gwahodd, gyda chaniatâd ysgrifenedig penodol y myfyriwr o flaen llaw, i fynychu’r arholiad llafar mewn rôl ymgynghorol. Caiff ymgynghorydd siarad dim ond ar ôl cael ei wahodd i wneud hynny gan y Cadeirydd.

25.4

Pan fydd myfyriwr yn aelod o staff y Brifysgol ar adeg yr arholiad, bydd y Bwrdd Arholi yn cynnwys yr unigolion canlynol:

a) Cadeirydd, fel y nodir ym mharagraff 28.1 a) uchod.
b) Dau arholwr allanol, a benodir yn unol â Chanllawiau Arholi Myfyrwyr Ymchwil y Brifysgol.

25.5

Bydd Cadeirydd y Bwrdd Arholi yn gyfrifol am sicrhau bod yr arholwr neu arholwyr mewnol a’r arholwr neu arholwyr allanol yn derbyn copïau o’r traethawd ymchwil i’w arholi ynghyd ag unrhyw ddogfennau perthnasol eraill fel y nodir yng Nghanllawiau Arholi Myfyrwyr Ymchwil y Brifysgol.

26. Cadw a chael gwared ar ddysgu annibynnol dan gyfarwyddyd ar ôl ei arholi

26.1

Dylai’r Gyfadran/Ysgol gadw un copi o’r gwaith am o leiaf ddwy flynedd. Pan fydd myfyriwr wedi cyflwyno dau gopi â rhwymiad meddal, dylai'r copi arall fod ar gael i'r myfyriwr ei gasglu, oni fernir bod y cynnwys yn berthnasol i Gymru, ac yn yr achos hwnnw dylid ei gadw yn Llyfrgell y Brifysgol.

27. Cyhoeddi Gwaith

27.1

Caiff myfyriwr gyhoeddi’r gwaith cyfan neu ran o’r gwaith a gynhyrchwyd yn ystod ei gyfnod cofrestru yn y Brifysgol. Gall myfyriwr gyhoeddi’r gwaith cyn ei gyflwyno yn ei gyfanrwydd neu'n rhannol, ar yr amod na nodir yn unrhyw le yn y gwaith a gyhoeddir ei fod yn cael ei ystyried ar gyfer gradd uwch. Caiff y fath waith ei gynnwys wedyn yn y darn o ddysgu annibynnol dan gyfarwyddyd a gyflwynir i'w arholi.

28. Argaeledd Traethawd Ymchwil

Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â Canllawiau ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil ar Gyflwyno Traethawd Ymchwil a Canllaw i Arholi Myfyrwyr Ymchwil.

28.1

Bydd traethawd ymchwil a gyflwynir am radd uwch yn y Brifysgol ar gael yn agored, ac ni chaiff ei roi mewn unrhyw ddosbarthiad diogelwch ac ni fydd unrhyw gyfyngu ar ei ddefnyddio.

29. Gwahardd Mynediad

29.1

Er gwaethaf y darpariaethau yn y rheoliadau sy’n ymwneud ag argaeledd dysgu annibynnol dan gyfarwyddyd, gall y Brifysgol gael caniatâd, ar sail argymhelliad arbennig a gymeradwyir gan y Deon Gweithredol y myfyriwr neu ei enwebai, i atal unrhyw un rhag llungopïo a/neu gael mynediad at waith myfyriwr am gyfnod o hyd at bum mlynedd. Cyfrifoldeb goruchwyliwr y myfyriwr fydd gwneud cais i'r Deon Gweithredolcyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ac yn achos traethawd doethur, cyn arholi'r traethawd. Byddai’r gwaharddiad hwn hefyd yn berthnasol i aelodau’r Brifysgol.

29.2

Dylai’r crynodeb a’r teitl fod yn gwbl hygyrch.

29.3

Mae'n rhaid i unrhyw argymhelliad i wahardd mynediad gael ei gyflwyno i'r Deon Gweithredol neu ei enwebai ar ôl i oruchwyliwr myfyriwr ystyried y mater. Cyfrifoldeb y goruchwyliwr fydd cyflwyno’r cais cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol. Rhaid i’r argymhelliad gynnwys datganiad ynghylch y rhesymau dros wneud y cais. Gwneir y rhan fwyaf o’r ceisiadau hyn ar sail sensitifrwydd masnachol yr ymchwil, a allai fod wedi’i noddi’n rhannol gan gorff masnachol neu ddiwydiannol.

29.4

Pan ganiateir gwahardd mynediad, dylid hysbysu goruchwyliwr y myfyriwr. Yn achos gwaith y tybir ei fod yn berthnasol i Gymru, bydd y Gyfadran/Ysgol yn hysbysu llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru o’r ffaith y dylid atal mynediad at y gwaith am gyfnod penodedig.

29.5

Tybir y bydd y penderfyniad i atal mynediad yn dod i rym cyn gynted ag y bydd y gwaith wedi’i gyflwyno, ond caiff y cyfnod a gymeradwywyd ei gyfrifo o’r dyddiad y caiff y myfyriwr ei hysbysu’n ffurfiol gan y Brifysgol am y ffaith ei fod yn gymwys i ennill gradd.

29.6

Pan gaiff gwaith ei gyflwyno, bydd yn ofynnol i fyfyriwr gynnwys datganiad wedi’i lofnodi ynddo a fydd yn dangos:

  • Y gall y gwaith, os yw'n llwyddiannus, gael ei wneud yn hygyrch ar-lein yng Nghronfa Mynediad Agored y Brifysgol ac ar gyfer benthyciadau rhyng-lyfrgellol ar ôl i unrhyw waharddiad ar fynediad ddod i ben.
  • Gellir cynnig crynodeb i sefydliadau allanol.

30. Cymwysterau Ymadael

30.1

Bydd myfyrwyr sy'n cwblhau PhD Integredig (BBSRC DTP) yn derbyn un dyfarniad Doethur mewn Athroniaeth o Brifysgol Abertawe. Gallai myfyrwyr nad ydynt yn cwblhau'r elfen a addysgir yn foddhaol nac yn symud ymlaen i'r flwyddyn astudio nesaf fod yn gymwys am Gymhwyster Ymadael o Brifysgol Bryste fel a ganlyn:

Lefel astudio a gyflawnwyd Gall myfyrwyr ymadael yn gymwys ar gyfer y canlynol:
a) Llwyddo i gwblhau isafswm o 60 credyd Tystysgrif Ôl-raddedig;
b) Llwyddo i gyflawni isafswm o 120 credyd Diploma Ôl-raddedig;
c) Llwyddo i gyflawni isafswm o 180 credyd Gradd Meistr drwy Ymchwil.

30.2

Bydd myfyrwyr nad ydynt yn ennill gradd Doethur mewn Athroniaeth ar ôl cwblhau'r viva voce (na chaniatâd i ailgyflwyno) dim ond yn gymwys am ddyfarniad Meistr drwy Ymchwil (MRes). Ni fydd myfyrwyr yn gymwys i gael eu hystyried am ddyfarniad is (e.e. MPhil).

31. Derbyn Myfyrwyr i’r Radd

31.1

Caiff myfyrwyr sydd wedi cymhwyso ar gyfer eu gradd eu derbyn i'w graddau in absentia, drwy orchymyn Is-ganghellor Prifysgol Abertawe. Gwahoddir y myfyrwyr i seremoni ddyfarnu yn ddiweddarach i ddathlu eu dyfarniad.

32. Graddau Aegrotat ac Wedi Marwolaeth

32.1

Dilynwch y ddolen isod i weld y rheoliadau ar raddau Aegrotat.  

32.2

Dilynwch y ddolen isod i weld y rheoliadau ar raddau Wedi Marwolaeth.  

32.3

Disgwylir i'r holl fyfyrwyr sy'n ymgymryd ag astudiaethau mewn sefydliad partner cydweithredol gydymffurfio â'r dyfarniadau aegrotat ac wedi marwolaeth yn unol â rheoliadau'r sefydliad astudio.

33. Apeliadau Academaidd

33.1

Caiff myfyrwyr nad yw’r Bwrdd Arholi wedi’u hargymell ar gyfer y dyfarniad y cyflwynwyd y traethawd ymchwil ar ei gyfer apelio yn erbyn y penderfyniad a gofyn am apêl academaidd. Cynhelir pob apêl academaidd yn unol â gweithdrefnau Cywirdeb Marciau a Gyhoeddwyd a gweithdrefnau Apeliadau Academaidd Prifysgol Abertawe.

33.2

Disgwylir i'r holl fyfyrwyr sy'n ymgymryd ag astudiaethau drwy ddull D mewn sefydliad partner cydweithredol gydymffurfio â gweithdrefnau apeliadau academaidd yn unol â rheoliadau'r sefydliad astudio.

34. Camymddygiad Academaidd

34.1

Ystyrir honiadau o gamymddygiad academaidd yn unol â gweithdrefnau a rheoliadau Camymddygiad Academaidd Prifysgol Abertawe. Caiff honiadau o gamymddygiad academaidd sy'n cael eu derbyn gan y Brifysgol ar ôl dyfarnu'r radd i'r myfyriwr eu hystyried gan y sefydliad sy’n dyfarnu’r radd.

34.2

Disgwylir i'r holl fyfyrwyr sy'n ymgymryd ag astudiaethau mewn sefydliad partner cydweithredol gydymffurfio â gweithdrefnau camymddygiad academaidd yn unol â rheoliadau'r sefydliad astudio.

35. Addasrwydd i Ymarfer

35.1

Caiff honiadau yn ymwneud ag addasrwydd i ymarfer eu hystyried yn unol â rheoliadau Addasrwydd i Ymarfer Prifysgol Abertawe.

35.2

Disgwylir i'r holl fyfyrwyr sy'n ymgymryd ag astudiaethau mewn sefydliad partner cydweithredol gydymffurfio â gweithdrefnau ffitrwydd i ymarfer yn unol â rheoliadau’r sefydliad astudio.

36. Cwynion

36.1

Dylai myfyrwyr sy’n anfodlon ar y dysgu a’r addysgu, y cyfleusterau neu'r gwasanaethau a ddarperir gan y Brifysgol, neu’r modd y mae’r Brifysgol, ei myfyrwyr, neu ei staff wedi ymddwyn neu heb ymddwyn, ddilyn y camau gweithredu a amlygir yng Ngweithdrefn Achwyn Prifysgol Abertawe.

36.2

Disgwylir i'r holl fyfyrwyr sy'n ymgymryd ag astudiaethau drwy ddull D mewn sefydliad partner cydweithredol gydymffurfio â'r gweithdrefnau cwynion yn unol â rheoliadau'r sefydliad astudio.

37. Myfyrwyr Rhyngwladol a Gofynion Fisa

37.1

Os oes angen fisa ar fyfyrwyr rhyngwladol i'w galluogi i astudio yn y Brifysgol, dylent sylwi bod eu hawl i astudio yn y Brifysgol yn amodol ar fodloni amodau eu fisa a'r terfynau amser a bennir gan Fisâu a Mewnfudo y Deyrnas Unedig (UKVI). 

37.2

Gwneir penderfyniadau gan y Brifysgol o ran statws cofrestru myfyriwr, perfformiad academaidd, cynnydd, a'r dyfarniad, yn unol â rheoliadau academaidd ac ariannol y Brifysgol, ac ni fydd cyfyngiadau fisa na chyfyngiadau amser a osodir gan yr UKVI yn effeithio arnynt. Fodd bynnag, mae astudio parhaus yn amodol ar fodloni gofynion y Brifysgol a dal fisa ddilys.

Dylai myfyrwyr sydd â phryderon neu ymholiadau am eu fisa gysylltu ag International@BywydCampws.

  • Cyfadrannau
  • Newyddion Myfyrwyr
  • Desg Gymorth TG
  • Lleoedd Astudio Anffurfiol
  • MyUniVoice
  • Ymchwil Ôl-raddedig
  • FyAbertawe
  • Sut rydym yn cyfathrebu â chi
  • Undeb Myfyrwyr
  • Cysylltu â ni
  • Mae Prifysgol Abertawe yn elusen gofrestredig, Rhif 1138342