Sgip i brif cynnwys
Prifysgol Abertawe
  • Offer Hygyrchedd
  • English
Mewngofnodi
Prifysgol Abertawe Mewngofnodi
  • Offer Hygyrchedd
  • English
  1. Cartref i Fyfyrwyr Presennol
  2. Bywyd Academaidd
  3. Rheoliadau Academaidd
  4. Rheoliadau Graddau Ymchwil
  5. Meistr Mewn Athroniaeth (MPhil)
  • Eich Prifysgol
    • Cyfadrannau ac Ysgolion
      • Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu
      • Yr Ysgol Reolaeth
      • Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton
      • Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol
      • Yr Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol
      • Hwb Ysgol Seicoleg
      • Medical School Hub
      • Ysgol y Biowyddorau, Daearyddiaeth a Ffiseg
      • Yr Ysgol Mathemateg a Chyfrifiadureg
      • Yr Ysgol Peirianneg Awyrofod, Sifil, Drydanol, Gyffredinol a Mecanyddol
      • Yr Ysgol Peirianneg a’r Gwyddorau Cymhwysol
      • Y Coleg, Prifysgol Abertawe
    • Eich Prifysgol - Astudio yn Abertawe
      • Ffurflenni Academaidd
      • Monitro Presenoldeb
      • Arholiadau
      • Canvas
      • Amgylchiadau Esgusodol
      • Gwasanaeth Cyrchu Cyfrifiadur o Bell
      • Dyddiadau Tymhorau a Semestrau
      • Mannau Astudio yn y Llyfrgell
      • Lleoedd Astudio Anffurfiol
    • Gwasanaethau Defnyddiol
      • Llety
      • Lleoedd Bwyta
      • Iechyd a Diogelwch
      • Cymorth TG
      • Gwasanaethau Llyfrgell MyUni
      • Cynlluniwr Teithiau Bws
      • Teithio Myfyrwyr
      • Undeb y Myfyrwyr
  • Cymorth a Lles
  • MyUniHub
  • Newyddion Myfyrwyr
  • Digwyddiadau
  • Croeso 2025
  • Cofrestru a Sefydlu
  • Cymorth Costau Byw
  1. Cartref i Fyfyrwyr Presennol
  2. Bywyd Academaidd
  3. Rheoliadau Academaidd
  4. Rheoliadau Graddau Ymchwil
  5. Meistr Mewn Athroniaeth (MPhil)

Meistr Mewn Athroniaeth (MPhil)

Tudalennau cysylltiedig
  • Cyfadrannau
  • Newyddion Myfyrwyr
  • Desg Gymorth TG
  • Lleoedd Astudio Anffurfiol
  • MyUniVoice
  • Ymchwil Ôl-raddedig
  • FyAbertawe
  • Sut rydym yn cyfathrebu â chi
  • Undeb Myfyrwyr
  • Cysylltu â ni

Dylid darllen y rheoliadau academaidd hyn ar y cyd â'r Canllawiau canlynol o eiddo Prifysgol Abertawe, sy’n ymhelaethu ar y rheoliadau ac sy’n cynnig cyfarwyddyd ar y gweithdrefnau:

  • Canllawiau ar Dderbyn Myfyrwyr Ymchwil
  • Canllawiau ar Ymgeisyddiaeth Graddau Ymchwil
  • Canllawiau ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil ar Drosglwyddo a Thynnu yn Ôl
  • Canllawiau ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil ar Ohiriadau ac Estyniadau
  • Canllawiau ar Fonitro Cynnydd Myfyrwyr Ymchwil
  • Canllawiau ar Gyflogi Myfyrwyr Ymchwil
  • Canllawiau ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil ar Gyflwyno Traethawd Ymchwil
  • Canllawiau ar Arholi Myfyrwyr Ymchwil
  • Canllaw ar Oruchwylio Ymchwil

1. Cyflwyniad

Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â'r Canllawiau ar Dderbyn Myfyrwyr Ymchwil.

1.1

Dyfernir Graddau Meistr i fyfyrwyr sydd wedi dangos:

  • Dealltwriaeth systematig o wybodaeth ac ymwybyddiaeth feirniadol o broblemau cyfredol a/neu fewnwelediadau newydd, sydd i raddau helaeth ar flaen y gad yn y ddisgyblaeth academaidd, maes astudio neu faes arfer proffesiynol dan sylw neu'n cael eu goleuo gan waith ar flaen y gad; 
  • Dealltwriaeth gynhwysfawr o'r technegau sy'n berthnasol i'w hymchwil eu hunain neu i ysgolheictod uwch;
  • Gwreiddioldeb wrth gymhwyso gwybodaeth, ynghyd â dealltwriaeth ymarferol o sut y defnyddir technegau ymchwil ac ymholi i greu a dehongli gwybodaeth o fewn y ddisgyblaeth;
  • Dealltwriaeth gysyniadol sy'n galluogi'r myfyriwr:
    • i werthuso ymchwil cyfredol ac ysgolheictod uwch yn y ddisgyblaeth yn feirniadol;
    • i werthuso methodolegau a datblygu dehongliadau ohonynt, a lle bo'n briodol, cynnig damcaniaethau newydd.

Yn nodweddiadol, bydd deiliaid y cymhwyster yn gallu gwneud y pethau canlynol:  

  • Ymdrin â materion cymhleth yn systematig ac yn greadigol, gwneud penderfyniadau doeth yn absenoldeb data cyflawn, a mynegi casgliadau yn glir i gynulleidfaoedd arbenigol a lleyg;
  • Dangos hunangyfeirio a gwreiddioldeb wrth ymdrin â phroblemau a'u datrys, a gweithio'n annibynnol i gynllunio a chynnal tasgau ar lefel broffesiynol neu gyfatebol;
  • Parhau i ddatblygu eu gwybodaeth a'u sgiliau, a datblygu sgiliau newydd i lefel uchel.

A bydd gan y deiliaid:

  • Y nodweddion a'r sgiliau trosglwyddadwy angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth sy'n gofyn am:
    • Defnyddio menter a chyfrifoldeb personol;
    • Gwneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd cymhleth nad oes modd eu rhagweld;
    • Y gallu i ddysgu’n annibynnol sy’n ofynnol er mwyn sicrhau datblygu proffesiynol parhaus.

1.2

Rhaid i’r holl ymgeiswyr gofrestru’n fyfyrwyr Prifysgol Abertawe a thalu’r ffioedd priodol a bennir gan y Brifysgol. Fel myfyrwyr cofrestredig, rhaid i’r ymgeiswyr gydymffurfio â rheoliadau academaidd a chyffredinol y Brifysgol.

1.3

Ni chaiff ymgeiswyr gofrestru ar raglen arall sy’n cynnig dyfarniad ar y cyd yn y brifysgol hon nac mewn unrhyw sefydliad arall oni chafwyd caniatâd penodol y Bwrdd Rheoliadau, Ansawdd a Safonau.

1.4

Rhaid i'r holl ymgeiswyr fonitro’r cyfrif e-bost a roddwyd iddynt gan y Brifysgol trwy gydol cyfnod yr ymgeisyddiaeth gan y bydd yr holl ohebiaeth electronig oddi wrth y Brifysgol yn cael ei hanfon i gyfrif e-bost Prifysgol yr ymgeisydd. Awgrymir yn gryf bod pob ymgeisydd yn defnyddio’r cyfrif e-bost Prifysgol a roddwyd iddynt wrth gyfathrebu â’r Brifysgol.

1.5

Lefel astudio'r radd ymchwil a reolir gan y rheoliadau hyn fydd Lefel 7 y Fframwaith Cymwysterau Addysg Uwch.

2. Amodau Derbyn

Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â'r Canllawiau ar Dderbyn Myfyrwyr Ymchwil.

2.1

Rhaid bod gan ymgeisydd am y radd Meistr mewn Athroniaeth radd gychwynnol o brifysgol yn y DU neu brifysgol arall a gymeradwywyd gan Senedd y Brifysgol.

2.2

Rhaid i'r holl ymgeiswyr nad y Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddarparu tystiolaeth bod eu hyfedredd yn yr Iaith Saesneg yn ddigonol ar gyfer astudiaethau ymchwil, ac ar ôl eu derbyn i’r Brifysgol mae'n bosibl y bydd raid iddynt gymryd gwersi Saesneg ychwanegol.

2.3

Gwneir y penderfyniad i dderbyn ymgeisydd i raglen ymchwil arfaethedig gan y Deon Gweithredol perthnasol neu gan rywun a enwebwyd ganddo. Dylai penderfyniadau fod yn seiliedig ar y ffactorau canlynol:

  1. A yw’r Gyfarwyddiaeth/Ysgol yn fodlon bod yr ymgeisydd yn cyrraedd y safon academaidd angenrheidiol i allu cwblhau’r rhaglen ymchwil a fwriedir, waeth beth fo cymwysterau’r ymgeisydd;
  2. A yw’r testun ymchwil a ddewiswyd gan yr ymgeisydd yn addas i’w astudio yn y dyfnder sydd ei angen ar gyfer y radd;
  3. A allai aelod priodol o’r staff ddarparu goruchwyliaeth ddigonol yn unol â pharagraff 7;
  4. A oes adnoddau a chyfleusterau addas ar gael i gynnal a chefnogi’r rhaglen ymchwil arfaethedig;
  5. A yw’n ymddangos yn rhesymol y gellid cwblhau’r rhaglen arfaethedig o fewn y cyfnod byrraf posibl a bennwyd.

2.4

Rhaid i bob ymgeisydd fatriciwleiddio o fewn tri mis cyntaf ei ymgeisyddiaeth yn unol â rheoliadau cyffredinol y Brifysgol ar Fatriciwleiddio.

2.5

Rhaid i bob ymgeisydd gydymffurfio â'r Canllawiau ar Dderbyn Myfyrwyr Ymchwil.

3. Strwythur y Rhaglen

Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â'r Canllawiau ar Dderbyn Myfyrwyr Ymchwil.

3.1

Gall ymgeisydd astudio ar gyfer gradd Meistr mewn Athroniaeth drwy un o’r dulliau canlynol:

A) Bod yn fyfyriwr llawn amser, trwy wneud ymchwil yn y Brifysgol;

B) Bod yn fyfyriwr llawn amser, trwy gyflawni ymchwil mewn lleoliad cyflogaeth allanol;

C) Bod yn fyfyriwr rhan amser, trwy wneud ymchwil naill ai yn y Brifysgol neu’n allanol;

Ch) Bod yn fyfyriwr llawn amser, trwy wneud ymchwil ar raglen ymchwil gymeradwy a gynigir ar y cyd gan y Brifysgol a Phrifysgol arall.

3.2

Ni cheir dyfarnu gradd Meistr mewn Athroniaeth fel gradd er anrhydedd.

4. Cyfnod Ymgeisyddiaeth

Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â'r Canllawiau ar Ymgeisyddiaeth Graddau Ymchwil a'r Canllawiau ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil ar Drosglwyddo a Thynnu’n Ôl.

4.1

Rhaid i ymgeisydd ddilyn rhaglen astudio dan oruchwyliaeth, gan gynnwys ymchwil a datblygu medrau generig naill ai’n fyfyriwr llawn amser neu'n fyfyriwr rhan amser. Nodir y cyfnodau byrraf posibl ar gyfer astudio dan oruchwyliaeth o'r dyddiad cofrestru, yng Nghanllawiau'r Brifysgol ar Ymgeisyddiaeth Graddau Ymchwil.

4.2

Er gwaethaf paragraff 4.1, gall myfyriwr a gofrestrwyd o dan ddull Ch, gyda chaniatâd penodol y Gyfarwyddiaeth/Ysgol a’r Brifysgol, dreulio cyfnod neu gyfnodau yn astudio mewn sefydliad arall. Cytunir ar y cyfnodau astudio byrraf posibl yn y Brifysgol adeg derbyn y myfyriwr gan Grŵp Gweithredol y Bwrdd Rheoliadau, Ansawdd a Safonau

4.3

Nid yw’r rheoliad sy’n ymwneud â lleihau’r cyfnod ymgeisyddiaeth yn berthnasol i’r radd hon.

4.4

Nid yw’r rheoliad sy’n ymwneud â throsglwyddo credydau ar gyfer yr elfen hyfforddiant yn berthnasol i’r radd hon.

4.5

O dan rai amgylchiadau gall ymgeiswyr wneud cais, neu gall y Bwrdd Achosion Myfyrwyr fynnu hynny, i newid eu dull astudio neu eu rhaglen astudio yn unol â’r hyn a nodir yn y Canllawiau ar Drosglwyddo a Thynnu’n Ôl gan Fyfyrwyr Ymchwil. Mewn achosion o’r fath bydd y Brifysgol yn pennu cyfnod cofrestredig byrraf diwygiedig.

4.6

Gwaherddir ymgeiswyr rhag trosglwyddo’u hymgeisyddiaeth i sefydliad arall ar ôl cwblhau cyfnod byrraf posibl eu hymgeisyddiaeth, a amlinellir ym mharagraff 4.1, yn y Brifysgol hon.

5. Dyddiad Cyflwyno

Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â'r Canllawiau ar Ymgeisyddiaeth Graddau Ymchwil.

5.1

Rhaid i bob ymgeisydd gyflwyno traethawd ymchwil erbyn y dyddiad cyflwyno olaf fel y'i nodir yn y Canllawiau ar Ymgeisyddiaeth Graddau Ymchwil sydd mewn grym ar yr adeg y derbynnir y myfyriwr ac fel y nodir yn y Llythyr Cynnig ffurfiol.

5.2

Pan fydd ymgeisydd yn methu cyflwyno traethawd ymchwil erbyn y dyddiad cyflwyno olaf gall y Brifysgol fynnu bod yr ymgeisyddiaeth yn cael ei therfynu.

5.3

Bydd raid i fyfyrwyr sydd am gyflwyno'n gynnar yn ystod cyfnod byrraf posibl yr ymgeisyddiaeth dalu'r ffioedd llawn ar gyfer cyfnod byrraf posibl yr ymgeisyddiaeth.

6. Gohiriadau ac Estyniadau i Ymgeisyddiaeth

Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â'r Canllawiau ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil ar Ohiriadau ac Estyniadau a'r Canllawiau ar Drosglwyddo a Thynnu’n Ôl gan Fyfyrwyr Ymchwil.

6.1

O dan amgylchiadau eithriadol, ac yn unol â'r Canllawiau ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil ar Ohiriadau ac Estyniadau, gellir mynnu bod rhaid i ymgeisydd ohirio ei ymgeisyddiaeth am resymau disgyblaethol, ariannol neu iechyd.

6.2

O dan amgylchiadau eithriadol, gall ymgeiswyr ofyn am ohirio eu hymgeisyddiaeth neu am estyniad i’w hymgeisyddiaeth. Dylid gwneud pob cais i ohirio ymgeisyddiaeth neu i estyn ymgeisyddiaeth yn unol â Chanllawiau'r Brifysgol ar Ohiriadau ac Estyniadau i Fyfyrwyr Ymchwil.

6.3

Pan fydd ymgeisyddiaeth ymgeisydd yn cael ei gohirio, fel yr amlinellir ym mharagraffau 6.1 a 6.2 uchod, rhaid nodi, adeg y gohirio, ar ba ddyddiad y bydd yr ymgeisydd yn ailgydio yn yr astudio.

6.4

Pan fydd ymgeisydd yn methu ag ailgydio yn ei astudiaethau erbyn y dyddiad dychwelyd i astudio, tybir bod yr ymgeisydd wedi tynnu’n ôl o’r rhaglen yn unol â'r Canllawiau ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil ar Drosglwyddo a Thynnu yn ôl.

6.5

Fel arfer, bydd y Grŵp Gweithredol Ymchwil yn gofyn bod myfyrwyr ymchwil sefydledig sydd wedi cwblhau blwyddyn neu fwy o'u hymchwil amser llawn ond sydd wedi mynd heibio i'r cyfnod gohirio hwyaf a ganiateir, yn tynnu'n ôl; fodd bynnag, mewn amgylchiadau eithriadol, mae'n bosibl y caniateir i'r myfyrwyr hyn ail-ymgeisio i ailgofrestru ar yr un cam â'r ymchwil blaenorol (o fewn cyfnod hwyaf o 2 flynedd o'r dyddiad tynnu'n ôl). Dim ond dan yr amgylchiadau hyn y caniateir cyfnod ymgeisyddiaeth byrrach i fyfyriwr.

7. Goruchwylio

Dylid darllen y paragraff hwn ar y cyd â'r Canllaw ar Oruchwylio Ymchwil.

7.1

Bydd ymgeiswyr yn cael eu goruchwylio yn rheolaidd ac yn barhaus yn unol â’r gweithdrefnau ar gyfer goruchwylio myfyrwyr ôl-raddedig a nodir yn y Canllawiau ar Feini Prawf Cymhwyster ar gyfer Goruchwylwyr Myfyrwyr Graddau Ymchwil.

7.2

Bydd gan bob ymgeisydd dîm goruchwylio a benodir gan y Deon Gweithredol neu ei enwebai. Bydd y tîm goruchwylio’n cynnwys o leiaf dau oruchwyliwr mewnol sy’n gymwys i gael eu penodi fel y nodir yng Nghanllawiau'r Brifysgol ar Feini Prawf Cymhwysedd ar gyfer Goruchwylwyr Myfyrwyr Graddau Ymchwil. Bydd un goruchwyliwr yn cael ei ddynodi’n oruchwyliwr cyntaf.

7.3

Mae’n rhaid i’r goruchwylwyr mewnol fod yn aelodau o staff Prifysgol Abertawe fel y nodir yn y Canllawiau ar Feini Prawf Cymhwyster ar gyfer Goruchwylwyr Myfyrwyr Graddau Ymchwil. Bydd y goruchwyliwr cyntaf yn bennaf gyfrifol am adrodd ar gynnydd i’r Gyfarwyddiaeth/Ysgol a’r Bwrdd Academaidd ar gyfer Ymchwil Ôl-raddedig, fel y nodir ym mharagraff 8.

7.4

Penodir goruchwyliwr allanol ar gyfer pob ymgeisydd sy’n cael ei dderbyn dan Ddull B yn ychwanegol i’r goruchwyliwr neu’r goruchwylwyr mewnol a nodir ym mharagraff 7.2. Penodir goruchwylwyr allanol yn unol â Chanllawiau'r Brifysgol ar Feini Prawf Cymhwysedd ar gyfer Goruchwylwyr Myfyrwyr Graddau Ymchwil, gyda chaniatâd y Bwrdd Rheoliadau, Ansawdd a Safonau. Cydnabyddir y fath oruchwylwyr yn swyddogol yn y Brifysgol.

8. Monitro Cynnydd

Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â'r Canllawiau ar Fonitro Cynnydd Myfyrwyr Ymchwil.

8.1

Rhaid i’r Gyfarwyddiaeth/Ysgol gadarnhau ymgeisyddiaeth pob ymgeisydd o fewn tri mis i gofrestriad cychwynnol yr ymgeisydd fel y nodir yn y Canllawiau ar Fonitro Cynnydd Myfyrwyr Ymchwil.

8.2

Os nad yw’r Gyfarwyddiaeth/Ysgol yn gallu cadarnhau ymgeisyddiaeth ymgeisydd o fewn tri mis i'w gofrestriad cychwynnol, efallai y bydd raid i'w ymgeisyddiaeth gael ei gohirio neu efallai y bydd raid iddo adael y rhaglen.

8.3

Caiff cynnydd ymgeisydd yn ystod cyfnod byrraf ei ymgeisyddiaeth ei fonitro yn rheolaidd gan y Bwrdd Dilyniant Ymchwil Ôl-raddedig er mwyn penderfynu a ellir caniatáu i ymgeisydd symud ymlaen. Caiff cynnydd ei fonitro ar adegau penodol fel y nodir yng Nghanllawiau'r Brifysgol ar Fonitro Cynnydd Myfyrwyr Ymchwil.

8.4

Bydd ymgeiswyr sy’n mynd y tu hwnt i gyfnod byrraf posibl eu hymgeisyddiaeth yn parhau i gael eu monitro’n rheolaidd gan y Bwrdd Dilyniant Ymchwil Ôl-raddedig hyd nes y cyflwynir y traethawd ymchwil neu hyd ddiwedd yr ymgeisyddiaeth.

8.5

Os bernir bod cynnydd ymgeisydd yn anfoddhaol, efallai y caiff yr ymgeisydd ei orfodi i drosglwyddo i raglen arall, neu ei orfodi i dynnu’n ôl o’r rhaglen.

8.6

Yng nghyd-destun paragraffau 8.2 a 8.5 uchod, bydd gan ymgeiswyr hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau academaidd yn unol â gweithdrefnau Prifysgol Abertawe ar gyfer Cywirdeb y Marciau a Gyhoeddwyd neu ei gweithdrefnau ar gyfer Apeliadau Academaidd.

9. Cyflogi Ymgeiswyr Graddau Ymchwil Ôl-raddedig

Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â'r Canllawiau ar Gyflogi Myfyrwyr Ymchwil.

9.1

Rhaid i ymgeiswyr sy’n ceisio am swydd, ar ben eu hastudiaethau, naill ai yn y Brifysgol neu’r tu allan, gadw at y canllawiau ar gyflogaeth fel y’u cyhoeddir yng Nghanllawiau'r Brifysgol ar Gyflogi Myfyrwyr Ymchwil.

10. Asesu Gradd

Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â'r Canllawiau ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil ar Gyflwyno Traethawd Ymchwil.

10.1

Caiff ymgeiswyr am radd Meistr mewn Athroniaeth eu harholi mewn dwy ran:

  1. Bydd y rhan gyntaf ar ffurf traethawd ymchwil sy’n cynnwys dulliau a chanlyniadau’r prosiect ymchwil. Dylid cyflwyno pob traethawd ymchwil yn unol â'r Canllawiau ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil ar Gyflwyno Traethawd Ymchwil.
  2. Bydd yr ail ran ar ffurf arholiad llafar (viva voce) fel y nodir ym mharagraff 15 isod.

10.2

Caiff y Deon Gweithredol neu enwebai ddirprwyo'r gwaith gweinyddol ynghylch cyflwyno ac arholi traethawd ymchwil i aelod o'i staff, a bydd hefyd yn enwebu Cadeirydd i'r Bwrdd Arholi. Dylai'r Cadeirydd fod yn aelod o staff y Gyfarwyddiaeth/Ysgol, gyda phrofiad addas, nad yw wedi ymwneud yn uniongyrchol â goruchwylio'r ymgeisydd.

10.3

Gall y Bwrdd Arholi fynnu bod yr ymgeisydd yn sefyll arholiad ysgrifenedig.

11.Ymarfer a Hyfforddiant Proffesiynol/Diwydiannol

11.1

Nid yw’r rheoliadau sy’n ymwneud ag asesu ymarfer a hyfforddiant proffesiynol/diwydiannol yn berthnasol i’r radd hon.

12. Cyflwyno Traethawd Ymchwil

Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â'r Canllawiau ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil ar Gyflwyno Traethawd Ymchwil a'r Canllawiau ar Arholi Myfyrwyr Ymchwil.

12.1

Rhaid i ymgeiswyr lenwi ffurflen Hysbysiad o Fwriad i Gyflwyno o leiaf tri mis cyn y dyddiad cyflwyno disgwyliedig.

12.2

Ar gwblhau cyfnod byrraf yr ymgeisyddiaeth, bydd ymgeisydd yn cyflwyno copi electronig o draethawd ymchwil i’w arholi yn unol â Chanllaw’r Brifysgol i Gyflwyno Traethawd Ymchwil ar gyfer myfyrwyr Ymchwil. Os bydd arholwr yn gofyn am gopi papur o’r traethawd ymchwil darperir hyn gan yr ymgeisydd trwy’r tîm cymorth Ymchwil Ôl-raddedig.

12.3

Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gyflwyno copi electronig o’r traethawd ymchwil wedi’i ddiweddaru ar ôl iddo gael ei arholi os gwnaethpwyd cywiriadau neu ddiwygiadau.

12.4

Gall unrhyw ymgeisydd sy’n dilyn rhaglen ymchwil yn y Brifysgol ddewis cyflwyno traethawd ymchwil neu waith arall yn Saesneg neu Gymraeg. Rhaid i ymgeisydd sy’n dymuno cael ei asesu mewn iaith nad yw’n brif iaith yr addysgu/asesu ar gyfer y rhaglen dan sylw roi gwybod i’r Bwrdd Achosion Myfyrwyr cyn diwedd cyfnod byrraf posibl yr ymgeisyddiaeth. Gwneir trefniadau yn unol â’r hyn a amlinellir yng Nghanllawiau'r Brifysgol ar gyfer Arholi Myfyrwyr Ymchwil. Hefyd, rhaid cyflwyno ceisiadau ar gyfer asesu yn y Gymraeg drwy’r Gyfarwyddiaeth/Ysgol cyn diwedd cyfnod byrraf posibl yr ymgeisyddiaeth i sicrhau bod modd trefnu cyfieithu.

Yn achos myfyrwyr sy'n gwneud eu hymchwil dan Ddull 'Ch' (cydweithredol), gall fod yn ofynnol iddynt gyflwyno gwaith mewn iaith dramor oherwydd natur y radd gydweithredol.

12.5

Mewn achosion lle y gellid barnu ei bod yn briodol cyflwyno traethawd ymchwil mewn iaith heblaw am Saesneg/Cymraeg am resymau academaidd neu le y mae cyflwyno’r traethawd mewn iaith arall yn un o ofynion y rhaglen benodol, gall y Bwrdd Achosion Myfyrwyr roi caniatâd lle y cyflwynir dadl resymol i’r perwyl hwnnw. Serch hynny, ni fydd y Bwrdd Achosion Myfyrwyr yn cymeradwyo ceisiadau sy’n deillio o ddiffyg gallu’r ymgeisydd i gynhyrchu gwaith i’w gyflwyno yn Gymraeg neu Saesneg.

12.6

Wedi cyflwyno ffurflen Hysbysiad o Fwriad i Gyflwyno, bydd y Deon Gweithredol neu ei enwebai yn enwebu aelodau o’r Bwrdd Arholi a gyfansoddir yn unol â pharagraff 14 isod ac fel y nodir yn y Canllawiau ar Arholi Myfyrwyr Ymchwil. Caiff yr ymgeisydd ei hysbysu am enwau aelodau arfaethedig y Bwrdd Arholi. Caiff penodiad aelodau’r Bwrdd Arholi ei gadarnhau gan y Bwrdd Academaidd ar gyfer Ymchwil Ôl-raddedig.

12.7

Bydd raid i ymgeiswyr sy’n ailgyflwyno traethawd ymchwil sydd wedi methu â bodloni’r Arholwyr yn y gorffennol gyflwyno’r traethawd diwygiedig yn unol â'r Canllawiau ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil ar Gyflwyno Traethawd Ymchwil. Efallai hefyd y bydd raid i’r ymgeisydd dalu ffi ail-gyflwyno ychwanegol.

13. Argaeledd Traethawd Ymchwil

Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â'r Canllawiau gyfer Myfyrwyr Ymchwil ar Gyflwyno Traethawd Ymchwil a'r Canllawiau ar Arholi Myfyrwyr Ymchwil.

13.1

Bydd traethawd ymchwil a gyflwynir am radd uwch yn y Brifysgol ar gael yn agored, ac ni chaiff ei roi mewn unrhyw ddosbarthiad diogelwch ac ni fydd unrhyw gyfyngu ar ei ddefnyddio.

13.2

Er gwaethaf paragraff 13.1, caiff y Brifysgol, ar sail argymhelliad arbennig wedi’i gymeradwyo gan y Deon Gweithredol neu enwebai, atal unrhyw un rhag llungopïo a/neu gael mynediad at waith ymgeisydd am gyfnod o hyd at bum mlynedd. Dylai unrhyw gais am atal mynediad gael ei gyflwyno i’r Deon Gweithredol cyn arholi’r traethawd ymchwil.

14. Cyfansoddiad y Bwrdd Arholi

Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â'r Canllawiau ar Arholi Myfyrwyr Ymchwil.

14.1

Bydd pob Bwrdd Arholi ar gyfer ymgeiswyr yn cynnwys yr unigolion canlynol:

  1. Cadeirydd annibynnol, a fydd yn Ddeon Gweithredol neu’n aelod o staff a chanddo brofiad addas a enwebwyd gan y Deon Gweithredol. Mae disgwyl i Gadeirydd y Bwrdd Arholi gadeirio’r arholiad llafar ac unrhyw gyfarfod o’r arholwyr.
  2. Arholwr neu arholwyr allanol a benodir yn unol â Chanllawiau'r Brifysgol ar Arholi Myfyrwyr Ymchwil.
  3. Arholwr mewnol a benodir yn unol â Chanllawiau'r Brifysgol ar Arholi Myfyrwyr Ymchwil.

14.2

Bydd Cadeirydd y Bwrdd yn annibynnol yn y broses arholi a bydd yn atebol i’r Bwrdd Academaidd ar gyfer Ymchwil Ôl-raddedig pathed cynnal yr arholiad.

14.3

Ni chaniateir i oruchwylwyr yr ymgeisydd nac unrhyw aelod o staff sydd ynghlwm wrth oruchwylio’r ymgeisydd fod yn rhan o’r Bwrdd Arholi, ond gall Cadeirydd y Bwrdd Arholi eu gwahodd, wedi cael caniatâd ysgrifenedig penodol yr ymgeisydd ymlaen llaw, i fynychu’r arholiad llafar mewn rôl ymgynghorol. Ni chaiff ymgynghorydd siarad ond ar ôl cael ei wahodd i wneud hynny gan y Cadeirydd.

14.4

Pan fydd ymgeisydd yn aelod o staff y Brifysgol adeg yr arholiad, bydd y Bwrdd Arholi yn cynnwys yr unigolion canlynol:

  1. Cadeirydd, fel y nodir ym mharagraff 14.1 a) uchod.
  2. Dau arholwr allanol, a benodir yn unol â Chanllawiau'r Brifysgol ar gyfer Arholi Myfyrwyr Ymchwil.

14.5

Bydd Cadeirydd y Bwrdd Arholi yn gyfrifol am sicrhau bod yr arholwr neu arholwyr mewnol a’r arholwr neu arholwyr allanol yn derbyn copïau o’r traethawd ymchwil i’w arholi ynghyd ag unrhyw ddogfennau perthnasol eraill fel y nodir yn y Canllaw i Arholi Myfyrwyr Ymchwil.

15. Arholiad Llafar (viva voce)

Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â'r Canllawiau ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil ar Gyflwyno Traethawd Ymchwil a'r Canllawiau ar Arholi Myfyrwyr Ymchwil.

15.1

Bydd disgwyl i’r Bwrdd Arholi gynnal arholiad llafar ar gyfer bob ymgeisydd ar gyfer gradd ymchwil. Yn achos myfyriwr y caniateir iddo ailgyflwyno o fewn 12 mis, fel arfer byddai disgwyl ail viva. Fodd bynnag, mewn achosion eithriadol, gellir hepgor yr angen i gynnal ail arholiad llafar os darperir dadl fanwl o blaid ei ddileu yn adroddiad ysgrifenedig Cadeirydd y Bwrdd Arholi. Bydd angen i'r adroddiad ysgrifenedig gael ei gytuno, a'i gyd-lofnodi, gan bob aelod o'r Bwrdd Arholi.

15.2

Fel arfer, cynhelir pob arholiad llafar ym Mhrifysgol Abertawe o fewn chwe mis i ddyddiad cyflwyno’r traethawd ymchwil. Gellir cytuno eithriadau naill ai ar sail eithriadol neu ynteu i adlewyrchu natur y radd, e.e. yn achos myfyrwyr sy'n astudio dan Ddull 'Ch' (cydweithredol).

15.3

Rhaid i ymgeisydd y mae angen darpariaeth arbennig arno ar gyfer yr arholiad llafar roi gwybod i’r Deon Gweithredol neu enwebai cyn cyflwyno’r traethawd ymchwil. Gwneir trefniadau yn unol â’r hyn a amlinellir yng Nghanllawiau'r Brifysgol ar gyfer Arholi Myfyrwyr Ymchwil.

15.4

Bydd gan oruchwylwyr yr ymgeisydd hawl i gyfleu i Gadeirydd y Bwrdd Arholi unrhyw bryderon ynghylch prosiect ymchwil yr ymgeisydd, ynghylch y traethawd ymchwil sy’n deillio ohono, neu ynghylch ei arholi os teimla’r goruchwylwyr y dylai’r Bwrdd eu cymryd i ystyriaeth cyn gwneud ei benderfyniad. Bydd y goruchwylwyr yn cyfleu’r pryderon hyn, mewn ysgrifen, i’r Cadeirydd ac i’r ymgeisydd cyn gynted ag y bo modd wedi cyflwyno’r thesis ac yn ddigon cynnar i roi digon o amser i’r ymgeisydd, cyn arholi’r thesis (gan gynnwys unrhyw arholiad llafar), ystyried y pwyntiau a wnaed a pharatoi ymateb.

15.5

Cynhelir yr arholiad llafar yn unol â'r Canllawiau ar Arholi Myfyrwyr Ymchwil. Bydd argymhelliad y Bwrdd Cynnydd a Dyfarnu'n cael ei gyflwyno i’r Grŵp Gweithredol i’w gadarnhau.

16. Graddau Aegrotat ac Wedi Marwolaeth

16.1

Dilynwch y ddolen isod i weld y rheoliadau ar Rheoliadau Dyfarniadau Aegrotat.

Dilynwch y ddolen isod i weld y rheoliadau ar Rheoliadau Dyfarniadau ar ôl Marwolaeth.

17. Apeliadau Academaidd

17.1

Caiff ymgeiswyr nad yw’r Bwrdd Arholi wedi’u hargymell ar gyfer y dyfarniad y cyflwynwyd y traethawd ymchwil ar ei gyfer apelio yn erbyn y penderfyniad a gofyn am apêl academaidd. Cynhelir pob apêl academaidd yn unol â gweithdrefnau Cywirdeb Marciau a Gyhoeddwyd a gweithdrefnau Apeliadau Academaidd Prifysgol Abertawe.

18. Camymddwyn Academaidd

18.1

Caiff honiadau o arfer annheg eu hystyried yn unol â gweithdrefnau a rheoliadau Gweithdrefn Camymddwyn Academaidd Prifysgol Abertawe. Caiff unrhyw honiadau o arfer annheg a ddaw i law'r Brifysgol ar ôl cyflwyno'r radd i'r ymgeisydd eu hystyried gan y sefydliad sy'n dyfarnu'r radd.

19. Addasrwydd i Ymarfer

19.1

Caiff honiadau yn ymwneud ag addasrwydd i ymarfer eu hysyried yn unol â rheoliadau Addasrwydd i Ymarfer Prifysgol Abertawe.

20. Cwynion

20.1

Dylai myfyrwyr sy’n anfodlon â'r dysgu a’r addysgu, y cyfleusterau neu'r gwasanaethau a ddarperir gan y Brifysgol, neu’r modd y mae’r Brifysgol, ei myfyrwyr, neu ei staff wedi ymddwyn neu heb ymddwyn, ddilyn y camau gweithredu a amlygir yng Ngweithdrefn Gwyno Prifysgol Abertawe.

21. Myfyrwyr Rhyngwladol a Gofynion o ran Fisâu

21.1

Dylai myfyrwyr rhyngwladol y mae arnynt angen fisa i astudio yn y Brifysgol fod yn ymwybodol bod eu gallu i barhau i astudio yn y Brifysgol yn dibynnu ar fodloni amodau eu fisa a’r terfynau amser a bennwyd gan Fisâu a Mewnfudo y DU (UKVI). I gael rhagor o wybodaeth cyfeirier at https://www.gov.uk/browse/visas-immigration/student-visas.

21.2

Bydd penderfyniadau gan y Brifysgol ynghylch statws cofrestru, perfformiad academaidd, dilyniant a dyfarniad ymgeisydd yn cael eu gwneud yn unol â rheoliadau academaidd ac ariannol y Brifysgol ac ni fyddant yn cael eu goleuo gan gyfyngiadau fisa a therfynau amser a bennwyd gan wasanaeth Fisâu a Mewnfudo y DU (UKVI) International@CampusLife.

  • Cyfadrannau
  • Newyddion Myfyrwyr
  • Desg Gymorth TG
  • Lleoedd Astudio Anffurfiol
  • MyUniVoice
  • Ymchwil Ôl-raddedig
  • FyAbertawe
  • Sut rydym yn cyfathrebu â chi
  • Undeb Myfyrwyr
  • Cysylltu â ni
  • Mae Prifysgol Abertawe yn elusen gofrestredig, Rhif 1138342