Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â'r Canllawiau ar Arholi Myfyrwyr Ymchwil.
9.1
Bydd disgwyl i’r Bwrdd Arholi gynnal arholiad llafar ar gyfer bob ymgeisydd ar gyfer gradd ymchwil. Yn achos myfyriwr y caniateir iddo ailgyflwyno o fewn cyfnod penodol y cytunwyd arno yn yr arholiad llafar cyntaf, disgwylir fel arfer y cynhelir ail arholiad llafar. Fodd bynnag, mewn achosion eithriadol, gellir hepgor yr angen i gynnal ail arholiad llafar os darperir dadl fanwl o blaid ei ddileu yn adroddiad ysgrifenedig Cadeirydd y Bwrdd Arholi. Bydd angen i'r adroddiad ysgrifenedig gael ei gytuno, a'i gyd-lofnodi, gan bob aelod o'r Bwrdd Arholi.
9.2
Rhaid cynnal arholiad llafar ym Mhrifysgol Abertawe o fewn chwe mis i ddyddiad cyflwyno’r traethawd ymchwil. Gellir cytuno eithriadau naill ai ar sail eithriadol neu ynteu i adlewyrchu natur y radd, e.e. yn achos myfyrwyr sy'n astudio dan Ddull 'Ch' (cydweithredol).
9.3
Rhaid i ymgeisydd y mae angen darpariaeth arbennig arno ar gyfer yr arholiad llafar roi gwybod i'r Deon Gweithredol cyn cyflwyno’r traethawd ymchwil. Gwneir trefniadau yn unol â’r hyn a amlinellir yng Nghanllawiau'r Brifysgol ar gyfer Arholi Myfyrwyr Ymchwil.
9.4
Bydd gan ymgynghorydd yr ymgeisydd hawl i gyfleu i Gadeirydd y Bwrdd Arholi unrhyw bryderon ynghylch cyflwyniad ymgeisydd, neu ynghylch ei arholi, y teimla’r ymgynghorydd y dylai’r Bwrdd eu hystyried cyn gwneud ei benderfyniad. Bydd yr ymgynghorydd yn cyfleu’r pryderon hyn, mewn ysgrifen, i’r Cadeirydd ac i’r ymgeisydd cyn gynted ag y bo modd wedi'r cyflwyno i'r Bwrdd Arholi ac yn ddigon cynnar i roi digon o amser i’r ymgeisydd, cyn arholi’r cyflwyniad (gan gynnwys unrhyw arholiad llafar), ystyried y pwyntiau a wnaed a pharatoi ymateb.
9.5
Cynhelir yr arholiad llafar yn unol â'r Canllaw i Arholi Myfyrwyr Ymchwil. Caiff argymhelliad y Bwrdd Arholi ei gyflwyno i’r Bwrdd Dilyniant a Dyfarniau i’w gadarnhau.