Doethur mewn Meddygaeth (MD) trwy Waith a Gyhoeddwyd
Dylid darllen y rheoliadau academaidd hyn ar y cyd â’r Canllawiau canlynol o eiddo Prifysgol Abertawe, sy’n ymhelaethu ar y rheoliadau ac sy’n cynnig cyfarwyddyd ar y gweithdrefnau:
Dylid darllen y rheoliadau academaidd hyn ar y cyd â’r Canllawiau canlynol o eiddo Prifysgol Abertawe, sy’n ymhelaethu ar y rheoliadau ac sy’n cynnig cyfarwyddyd ar y gweithdrefnau:
Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â Chanllawiau'r Brifysgol ar Dderbyn Myfyrwyr Ymchwil.
1.1
Dyfernir graddau doethurol i fyfyrwyr sydd wedi dangos eu bod wedi cyflawni'r canlynol:
Yn nodweddiadol, bydd deiliaid y cymhwyster yn gallu gwneud y pethau canlynol:
A bydd gan y deiliaid:
1.2
Rhaid i’r holl ymgeiswyr gofrestru’n fyfyrwyr Prifysgol Abertawe a thalu’r ffioedd priodol a bennir gan y Brifysgol. Fel myfyrwyr cofrestredig, rhaid i’r ymgeiswyr gydymffurfio â rheoliadau academaidd a chyffredinol y Brifysgol.
1.3
Ni chaiff ymgeiswyr fod wedi’u cofrestru ar raglen arall sy’n arwain at ddyfarnu cymhwyster yn y brifysgol hon neu mewn prifysgol/sefydliad arall ar yr un pryd heb ganiatâd penodol Cadeirydd y Bwrdd Rheoliadau, Ansawdd a Safonau.
1.4
Rhaid i'r holl ymgeiswyr fonitro’u cyfrif e-bost a roddwyd iddynt gan y Brifysgol trwy gydol cyfnod yr ymgeisyddiaeth gan y bydd yr holl ohebiaeth electronig oddi wrth y Brifysgol yn cael ei hanfon i'r cyfrif e-bost hwn. Awgrymir yn gryf bod pob ymgeisydd yn defnyddio’r cyfrif e-bost Prifysgol a roddwyd iddynt wrth gyfathrebu â’r Brifysgol.
1.5
Lefel astudio'r radd ymchwil a reolir gan y rheoliadau hyn fydd Lefel 8 y Fframwaith Cymwysterau Addysg Uwch.
Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â Chanllawiau'r Brifysgol ar Dderbyn Myfyrwyr Ymchwil.
2.1
Rhaid bod gan ymgeisydd ar gyfer y radd MD trwy Waith a Gyhoeddwyd radd feddygol gychwynnol o brifysgol yn y DU neu brifysgol arall a gymeradwywyd gan y Senedd.
2.2
Bydd yr ymgeisydd yn cyflwyno rhestr o'r gwaith a gyhoeddwyd sydd i'w ystyried yn ogystal â datganiad am gyfraniad yr ymgeisydd i unrhyw bapurau aml-awdur neu waith cydweithredol i'r Deon Gweithredol perthnasol neu ei enwebai. Bydd y penderfyniad i dderbyn ymgeisydd i raglen arfaethedig o ymchwil yn gyfrifoldeb y Deon Gweithredol neu ei enwebai.
2.3
Rhaid i bob ymgeisydd fatriciwleiddio cyn cyflwyno gwaith i’w arholi, yn unol â rheoliadau cyffredinol y Brifysgol ynghylch matriciwleiddio.
2.4
Rhaid i bob ymgeisydd gydymffurfio â'r Canllawiau ar Dderbyn Myfyrwyr Ymchwil.
3.1
Mae'n ofynnol i ymgeisydd gwblhau cyfnod ymgeisyddiaeth byrraf o chwe mis o'r dyddiad cofrestru, ac yn ystod yr amser hwnnw bydd yr ymgeisydd yn paratoi'r cyflwyniad a'r adolygiad beirniadol dan gyfarwyddyd ymgynghorydd (fel yr amlygir ym mharagraff 5 islaw).
4.1
Mae'n ofynnol i bob ymgeisydd gyflwyno ei gais am y radd heb fod yn hwyrach na 12 mis ar ôl cofrestru.
4.2
Pan fydd ymgeisydd yn methu cyflwyno'r cais erbyn y dyddiad cyflwyno olaf gall y Brifysgol fynnu bod yr ymgeisyddiaeth yn cael ei therfynu.
Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â Chanllaw’r Brifysgol i Radd Doethuriaeth mewn Meddygaeth trwy Waith a Gyhoeddwyd.
5.1
Bydd gan bob ymgeisydd ymgynghorydd a benodir gan y Deon Gweithredol neu ei enwebai.
5.2
Rhaid bod yr ymgynghorydd yn aelod o staff Prifysgol Abertawe. Bydd yr ymgynghorydd yn cefnogi, cynghori a thywys yr ymgeisydd trwy'r broses o gyflwyno ac arholi'r gwaith a gyhoeddwyd.
Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â Chanllaw’r Brifysgol i Radd Doethuriaeth mewn Meddygaeth trwy Waith a Gyhoeddwyd.
6.1
Fel rheol, dim ond gwaith cyhoeddedig mewn cyfnodolion a llyfrau ysgolheigaidd a fydd yn gymwys i’w ystyried. Rhaid i’r holl waith fod wedi’i gyhoeddi mewn modd sy’n golygu ei fod ar gael yn gyffredinol i’w ddarllen gan ysgolheigion neu bobl eraill sydd â diddordeb ynddo.
6.2
Rhaid i'r gwaith a gyflwynir ar gyfer y radd fod yn gorpws cyhoeddi sy'n tueddu at thesis cydlynol, yn hytrach na chyfres o gyhoeddiadau digyswllt.
6.3
Rhaid i'r gwaith a gyflwynir ar gyfer y radd fod wedi'i gyhoeddi yn ystod y saith mlynedd cyn y dyddiad cyflwyno.
6.4
Rhaid i'r gwaith a gyflwynir ar gyfer y radd fod yn sylweddol wahanol i unrhyw waith a gyflwynwyd yn flaenorol am unrhyw radd naill ai yn y sefydliad hwn neu mewn sefydliad arall.
6.5
Bydd y gwaith sydd i’w gyflwyno yn cynnwys:
6.6
Mae'n ofynnol bod ymgeiswyr am radd Doethuriaeth mewn Meddygaeth trwy Waith a Gyhoeddwyd yn cyflwyno dau gopi o'r gwaith i'w arholi, fel y disgrifir yn 6.5 uchod.
Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â Chanllaw’r Brifysgol i Radd Doethuriaeth mewn Meddygaeth trwy Waith a Gyhoeddwyd.
7.1
Caiff ymgeiswyr am radd Doethuriaeth mewn Meddygaeth trwy Waith a Gyhoeddwyd eu harholi mewn tair rhan:
7.2
Caiff y Deon Gweithredol ddirprwyo’r tasgau gweinyddol ynghylch cyflwyno ac arholi traethawd ymchwil i aelod o staff a bydd hefyd yn enwebu Cadeirydd y Bwrdd Arholi a ddylai fod yn aelod o staff y Gyfarwyddiaeth/Ysgol, sy’n meddu ar brofiad addas ac na fu ganddo gysylltiad uniongyrchol arall â’r gwaith o baratoi'r cyflwyniad neu'r cyhoeddiadau sy'n ei gyfansoddi.
7.3
Gall y Bwrdd Arholi fynnu bod yr ymgeisydd yn sefyll arholiad ysgrifenedig.
Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â'r Canllawiau ar Arholi Myfyrwyr Ymchwil.
8.1
Bydd pob Bwrdd Arholi ar gyfer ymgeiswyr yn cynnwys yr unigolion canlynol:
8.2
Bydd Cadeirydd y Bwrdd Arholi'n annibynnol yn y broses arholi a bydd yn atebol i’r Bwrdd Academaidd ar gyfer Ymchwil Ôl-raddedig parthed cynnal yr arholiad.
8.3
Ni chaniateir i ymgynghorydd yr ymgeisydd nac unrhyw aelod o staff sydd ynghlwm wrth baratoi'r cyflwyniad fod yn rhan o’r Bwrdd Arholi, ond gall Cadeirydd y Bwrdd Arholi wahodd y cyfryw unigolion, wedi cael caniatâd ysgrifenedig penodol yr ymgeisydd ymlaen llaw, i fynychu’r arholiad llafar mewn rôl ymgynghorol. Ni chaiff ymgynghorydd siarad ond ar ôl cael ei wahodd i wneud hynny gan y Cadeirydd.
Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â'r Canllawiau ar Arholi Myfyrwyr Ymchwil.
9.1
Bydd disgwyl i’r Bwrdd Arholi gynnal arholiad llafar ar gyfer bob ymgeisydd ar gyfer gradd ymchwil. Yn achos myfyriwr y caniateir iddo ailgyflwyno o fewn cyfnod penodol y cytunwyd arno yn yr arholiad llafar cyntaf, disgwylir fel arfer y cynhelir ail arholiad llafar. Fodd bynnag, mewn achosion eithriadol, gellir hepgor yr angen i gynnal ail arholiad llafar os darperir dadl fanwl o blaid ei ddileu yn adroddiad ysgrifenedig Cadeirydd y Bwrdd Arholi. Bydd angen i'r adroddiad ysgrifenedig gael ei gytuno, a'i gyd-lofnodi, gan bob aelod o'r Bwrdd Arholi.
9.2
Rhaid cynnal arholiad llafar ym Mhrifysgol Abertawe o fewn chwe mis i ddyddiad cyflwyno’r traethawd ymchwil. Gellir cytuno eithriadau naill ai ar sail eithriadol neu ynteu i adlewyrchu natur y radd, e.e. yn achos myfyrwyr sy'n astudio dan Ddull 'Ch' (cydweithredol).
9.3
Rhaid i ymgeisydd y mae angen darpariaeth arbennig arno ar gyfer yr arholiad llafar roi gwybod i'r Deon Gweithredol cyn cyflwyno’r traethawd ymchwil. Gwneir trefniadau yn unol â’r hyn a amlinellir yng Nghanllawiau'r Brifysgol ar gyfer Arholi Myfyrwyr Ymchwil.
9.4
Bydd gan ymgynghorydd yr ymgeisydd hawl i gyfleu i Gadeirydd y Bwrdd Arholi unrhyw bryderon ynghylch cyflwyniad ymgeisydd, neu ynghylch ei arholi, y teimla’r ymgynghorydd y dylai’r Bwrdd eu hystyried cyn gwneud ei benderfyniad. Bydd yr ymgynghorydd yn cyfleu’r pryderon hyn, mewn ysgrifen, i’r Cadeirydd ac i’r ymgeisydd cyn gynted ag y bo modd wedi'r cyflwyno i'r Bwrdd Arholi ac yn ddigon cynnar i roi digon o amser i’r ymgeisydd, cyn arholi’r cyflwyniad (gan gynnwys unrhyw arholiad llafar), ystyried y pwyntiau a wnaed a pharatoi ymateb.
9.5
Cynhelir yr arholiad llafar yn unol â'r Canllaw i Arholi Myfyrwyr Ymchwil. Caiff argymhelliad y Bwrdd Arholi ei gyflwyno i’r Bwrdd Dilyniant a Dyfarniau i’w gadarnhau.
11.1
Caiff ymgeiswyr nad yw’r Bwrdd Arholi wedi’u hargymell ar gyfer y dyfarniad y cyflwynwyd y traethawd ymchwil ar ei gyfer apelio yn erbyn y penderfyniad a gofyn am apêl academaidd. Cynhelir pob apêl academaidd yn unol â gweithdrefnau Cywirdeb Marciau a Gyhoeddwyd a gweithdrefnau Apeliadau Academaidd Prifysgol Abertawe.
12.1
Caiff honiadau o arfer annheg eu hystyried yn unol â gweithdrefnau a rheoliadau Arfer Annheg Prifysgol Abertawe. Caiff unrhyw honiadau o arfer annheg a ddaw i law’r Brifysgol ar ôl cyflwyno’r radd i’r ymgeisydd eu hystyried gan y sefydliad sy’n dyfarnu’r radd.
13.1
Caiff honiadau yn ymwneud ag addasrwydd i ymarfer eu hystyried yn unol â rheoliadau Addasrwydd i Ymarfer Prifysgol Abertawe.
14.1
Dylai myfyrwyr sy’n anfodlon ar y dysgu a’r addysgu, y cyfleusterau neu'r gwasanaethau a ddarperir gan y Brifysgol, neu’r modd y mae’r Brifysgol, ei myfyrwyr, neu ei staff wedi ymddwyn neu heb ymddwyn, ddilyn y camau gweithredu a amlygir yng Ngweithdrefn Achwyn Prifysgol Abertawe.
15.1
Os oes angen teitheb ar fyfyrwyr rhyngwladol i'w galluogi i astudio yn y Brifysgol, dylent sylwi bod eu hawl i astudio yn y Brifysgol yn amodol ar fodloni amodau eu teitheb a'r terfynau amser a bennir gan Swyddfa Teithebau a Mewnfudo Swyddfa Gartref y Deyrnas Unedig. Am ragor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/browse/visas-immigration/study-visas.
15.2
Gwneir penderfyniadau gan y Brifysgol ynghylch statws cofrestru, perfformiad academaidd, dilyniant a dyfarniad ymgeisydd yn unol â rheoliadau academaidd ac ariannol y Brifysgol, ac ni fydd cyfyngiadau teitheb a therfynau amser a bennir gan y Swyddfa Gartref yn effeithio arnynt. Fodd bynnag, mae'r hawl i barhau i astudio yn amodol ar fodloni gofynion cofrestru'r Brifysgol a chanllawiau'r Swyddfa Gartref sy'n mynnu bod teitheb ddilys yn hanfodol. Ni chaiff myfyriwr rhyngwladol sy'n gymwys i symud i'r lefel astudio nesaf, neu'r flwyddyn astudio nesaf, barhau i astudio yn y Brifysgol heb deitheb ddilys.
Dylai myfyrwyr sydd â phryderon neu ymholiadau ynghylch eu teitheb gysylltu â Gwasanaeth Cynghori Myfyrwyr Rhyngwladol y Brifysgol International@CampusLife.