Meistr yn y Celfyddydau drwy Ymchwil - MA drwy Ymchwil
Meistr mewn Gwyddoniaeth drwy Ymchwil - MSc drwy Ymchwil
Meistr yn y Cyfreithiau drwy Ymchwil - LLM drwy Ymchwil
Meistr yn y Celfyddydau drwy Ymchwil - MA drwy Ymchwil
Meistr mewn Gwyddoniaeth drwy Ymchwil - MSc drwy Ymchwil
Meistr yn y Cyfreithiau drwy Ymchwil - LLM drwy Ymchwil
Dylid darllen y rheoliadau academaidd hyn ar y cyd â'r Canllawiau canlynol o eiddo Prifysgol Abertawe, sy’n ymhelaethu ar y rheoliadau ac sy’n cynnig cyfarwyddyd ar y gweithdrefnau:
Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â Chanllawiau'r Brifysgol ar Dderbyn Myfyrwyr Ymchwil.
1.1
Dyfernir Graddau Meistr i fyfyrwyr sydd wedi dangos:
Yn nodweddiadol, bydd deiliaid y cymhwyster yn gallu gwneud y pethau canlynol:
A bydd gan y deiliaid:
1.2
Rhaid i'r holl ymgeiswyr gofrestru'n fyfyrwyr Prifysgol Abertawe a thalu’r ffioedd priodol a bennir gan y Brifysgol. Fel myfyrwyr cofrestredig, rhaid i’r ymgeiswyr gydymffurfio â rheoliadau academaidd a chyffredinol y Brifysgol.
1.3
Ni chaiff ymgeiswyr gofrestru ar raglen arall sy’n cynnig dyfarniad ar y cyd yn y brifysgol hon nac mewn unrhyw sefydliad arall oni chafwyd caniatâd penodol y Bwrdd Rheoliadau, Ansawdd a Safonau.
1.4
Rhaid i'r holl ymgeiswyr fonitro’r cyfrif e-bost a roddwyd iddynt gan y Brifysgol trwy gydol cyfnod yr ymgeisyddiaeth gan y bydd yr holl ohebiaeth electronig oddi wrth y Brifysgol yn cael ei hanfon i gyfrif e-bost Prifysgol yr ymgeisydd. Awgrymir yn gryf bod pob ymgeisydd yn defnyddio'r cyfrif e-bost Prifysgol a roddwyd iddynt wrth gyfathrebu â’r Brifysgol.
1.5
Lefel astudio'r radd ymchwil a reolir gan y rheoliadau hyn fydd Lefel 7 y Fframwaith Cymwysterau Addysg Uwch.
Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â Canllawiau ar Dderbyn Myfyrwyr Ymchwil.
2.1
Rhaid bod gan ymgeisydd am y radd Meistr drwy Ymchwil radd gychwynnol o brifysgol yn y DU neu brifysgol arall a gymeradwywyd gan y Senedd.
2.2
Rhaid i'r holl ymgeiswyr nad y Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddarparu tystiolaeth bod eu hyfedredd yn yr Iaith Saesneg yn ddigonol ar gyfer astudiaethau ymchwil, ac ar ôl eu derbyn i’r Brifysgol mae'n bosibl y bydd raid iddynt gymryd gwersi Saesneg ychwanegol.
2.3
Gwneir y penderfyniad i dderbyn ymgeisydd i raglen ymchwil arfaethedig gan y Deon Gweithredol perthnasol neu gan rywun a enwebwyd ganddo. Dylai penderfyniadau fod yn seiliedig ar y ffactorau canlynol:
2.4
Rhaid i bob ymgeisydd fatriciwleiddio o fewn tri mis cyntaf eu hymgeisyddiaeth yn unol â rheoliadau cyffredinol y Brifysgol ar Fatriciwleiddio.
2.5
Rhaid i bob ymgeisydd gydymffurfio â'r Canllawiau ar Dderbyn Myfyrwyr Ymchwil.
Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â Canllawiau ar Dderbyn Myfyrwyr Ymchwil.
3.1
Gall ymgeisydd astudio ar gyfer gradd Meistr drwy Ymchwil drwy un o’r dulliau canlynol:
A) Bod yn fyfyriwr llawn amser, trwy wneud ymchwil yn y Brifysgol;
B) Bod yn fyfyriwr llawn amser, trwy gyflawni ymchwil mewn lleoliad cyflogaeth allanol;
C) Bod yn fyfyriwr rhan amser, trwy wneud ymchwil naill ai yn y Brifysgol neu’n allanol;
Ch) Bod yn fyfyriwr llawn amser, trwy wneud ymchwil ar raglen ymchwil gymeradwy a gynigir ar y cyd gan y Brifysgol a Phrifysgol arall.
3.2
Ni ellir cyflwyno gradd Meistr drwy Ymchwil fel gradd anrhydeddus.
Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â Chanllawiau'r Brifysgol ar Ymgeisyddiaeth Graddau Ymchwil a Chanllawiau'r Brifysgol ar Drosglwyddo a Thynnu’n Ôl gan Fyfyrwyr Ymchwil.
4.1
Rhaid i ymgeisydd ddilyn rhaglen astudio dan oruchwyliaeth, gan gynnwys ymchwil a datblygu medrau generig naill ai’n fyfyriwr amser llawn neu'n fyfyriwr rhan-amser. Nodir y cyfnodau byrraf posibl ar gyfer astudio dan oruchwyliaeth o'r dyddiad cofrestru yng Nghanllawiau'r Brifysgol ar Ymgeisyddiaeth Graddau Ymchwil.
4.2
Er gwaethaf paragraff 4.1, gall myfyriwr a gofrestrwyd o dan ddull Ch, gyda chaniatâd penodol y Gyfarwyddiaeth/Ysgol a’r Brifysgol, dreulio cyfnod neu gyfnodau yn astudio mewn sefydliad arall. Cytunir ar y cyfnodau astudio byrraf posibl yn y Brifysgol adeg derbyn y myfyriwr gan Grŵp Gweithredol y Bwrdd Rheoliadau, Ansawdd a Safonau.
4.3
Nid yw’r rheoliad sy’n ymwneud â lleihau’r cyfnod ymgeisyddiaeth yn berthnasol i’r radd hon.
4.4
Nid yw’r rheoliad sy’n ymwneud â throsglwyddo credydau ar gyfer yr elfen hyfforddiant yn berthnasol i’r radd hon.
4.5
O dan rai amgylchiadau gall ymgeiswyr wneud cais, neu gall y Bwrdd Achosion Myfyrwyr fynnu hynny, i newid eu dull astudio neu eu rhaglen astudio yn unol â’r hyn a nodir yn y Canllawiau ar Drosglwyddo a Thynnu’n Ôl gan Fyfyrwyr Ymchwil. Mewn achosion o’r fath bydd y Brifysgol yn pennu cyfnod cofrestredig byrraf diwygiedig.
4.6
Gwaherddir ymgeiswyr rhag trosglwyddo’u hymgeisyddiaeth i sefydliad arall ar ôl cwblhau cyfnod byrraf posibl eu hymgeisyddiaeth, a amlinellir ym mharagraff 4.1, yn y Brifysgol hon.
Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â Chanllawiau'r Brifysgol ar Ymgeisyddiaeth Graddau Ymchwil.
5.1
Rhaid i bob ymgeisydd gyflwyno traethawd ymchwil erbyn y dyddiad cyflwyno olaf fel y’i nodir yn y Canllawiau ar Ymgeisyddiaeth Graddau Ymchwil sydd mewn grym ar yr adeg y derbynnir y myfyriwr ac fel y nodir yn y Llythyr Cynnig ffurfiol.
5.2
Pan fydd ymgeisydd yn methu cyflwyno traethawd ymchwil erbyn y dyddiad cyflwyno olaf gall y Brifysgol fynnu bod yr ymgeisyddiaeth yn cael ei therfynu.
Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â'r Canllawiau ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil ar Ohiriadau ac Estyniadau a'r Canllawiau ar Drosglwyddo a Thynnu’n Ôl gan Fyfyrwyr Ymchwil.
6.1
O dan amgylchiadau eithriadol, ac yn unol â'r Canllawiau ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil ar Ohiriadau ac Estyniadau, gellir mynnu bod rhaid i ymgeisydd ohirio ei ymgeisyddiaeth am resymau disgyblaethol, ariannol neu iechyd.
6.2
O dan amgylchiadau eithriadol gall ymgeiswyr ofyn am ohirio eu hymgeisyddiaeth neu am estyniad i’w hymgeisyddiaeth. Dylid gwneud pob cais i ohirio ymgeisyddiaeth neu i estyn ymgeisyddiaeth yn unol â Chanllawiau'r Brifysgol ar Ohiriadau ac Estyniadau i Fyfyrwyr Ymchwil.
6.3
Pan fydd ymgeisyddiaeth ymgeisydd yn cael ei gohirio, fel yr amlinellir ym mharagraffau 6.1 a 6.2 uchod, rhaid nodi, adeg y gohirio, ar ba ddyddiad y bydd yr ymgeisydd yn ailgydio yn yr astudio.
6.4
Pan fydd ymgeisydd yn methu ag ailgydio yn ei astudiaethau erbyn y dyddiad dychwelyd i astudio, bernir bod yr ymgeisydd wedi tynnu’n ôl o’r rhaglen fel sydd wedi’i nodi yng Nghanllawiau'r Brifysgol ar Drosglwyddo a Thynnu’n Ôl gan Fyfyrwyr Ymchwil.
6.5
Fel arfer, bydd y Bwrdd Achosion Myfyrwyr yn gofyn bod myfyrwyr ymchwil sefydledig sydd wedi cwblhau blwyddyn neu fwy o'u hymchwil llawn-amser ond sydd wedi mynd heibio i'r cyfnod gohirio hwyaf a ganiateir, yn tynnu'n ôl. Fodd bynnag, mewn amgylchiadau eithriadol, mae'n bosibl y caniateir i'r myfyrwyr hyn ail-ymgeisio i ailgofrestru ar yr un cam â'r ymchwil blaenorol (o fewn cyfnod hwyaf o 2 flynedd o'r dyddiad tynnu'n ôl). Dim ond dan yr amgylchiadau hyn y caniateir cyfnod ymgeisyddiaeth byrrach i fyfyriwr.
Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â'r Canllaw ar Oruchwylio Ymchwil.
7.1
Bydd ymgeiswyr yn cael eu goruchwylio yn rheolaidd ac yn barhaus yn unol â’r gweithdrefnau ar gyfer goruchwylio myfyrwyr ôl-raddedig a nodir yn y Canllawiau ar Feini Prawf Cymhwyster ar gyfer Goruchwylwyr Myfyrwyr Graddau Ymchwil.
7.2
Bydd gan bob ymgeisydd dîm goruchwylio a benodir gan y Deon Gweithredol neu ei enwebai. Bydd y tîm goruchwylio’n cynnwys o leiaf dau oruchwyliwr mewnol sy’n gymwys i gael eu penodi fel y nodir yng Nghanllawiau'r Brifysgol ar Feini Prawf Cymhwysedd ar gyfer Goruchwylwyr Myfyrwyr Graddau Ymchwil. Bydd un goruchwyliwr yn cael ei ddynodi’n oruchwyliwr cyntaf.
7.3
Mae’n rhaid i’r goruchwylwyr mewnol fod yn aelodau o staff ym Mhrifysgol Abertawe fel y nodir yn y Canllawiau ar Feini Prawf Cymhwyster ar gyfer Goruchwylwyr Myfyrwyr Graddau Ymchwil. Bydd y goruchwyliwr cyntaf yn bennaf gyfrifol am adrodd ar gynnydd i’r Gyfarwyddiaeth/Ysgol a’r Bwrdd Academaidd ar gyfer Ymchwil Ôl-raddedig, fel y nodir ym mharagraff 8.
7.4
Mewn rhai achosion mae'n bosibl y bydd yn angenrheidiol penodi goruchwylwyr allanol y tu hwnt i'r Gyfarwyddiaeth/Ysgol neu'r Brifysgol. Yn achos Goruchwylwyr Allanol y Brifysgol, pennir cymhwyster drwy feini prawf a chamau gweithredu sydd wedi'u hamlinellu yn y Canllawiau ar Feini Prawf Cymhwyster ar gyfer Goruchwylwyr Myfyrwyr Graddau Ymchwil, a gyda chymeradwyaeth y Bwrdd Rheoliadau, Ansawdd a Safonau. Cydnabyddir y fath oruchwylwyr yn swyddogol yn y Brifysgol.
Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â Chanllawiau'r Brifysgol ar Fonitro Cynnydd Myfyrwyr Ymchwil.
8.1
Rhaid i’r Gyfarwyddiaeth/Ysgol gadarnhau ymgeisyddiaeth pob ymgeisydd o fewn tri mis i gofrestriad cychwynnol yr ymgeisydd fel y nodir yn y Canllawiau ar Fonitro Cynnydd Myfyrwyr Ymchwil.
8.2
Os nad yw’r Gyfarwyddiaeth/Ysgol yn gallu cadarnhau ymgeisyddiaeth ymgeisydd o fewn tri mis i'w gofrestriad cychwynnol, efallai y bydd raid i'w ymgeisyddiaeth gael ei gohirio neu efallai y bydd raid iddo adael y rhaglen.
8.3
Caiff cynnydd ymgeisydd yn ystod y cyfnod ymgeisyddiaeth byrraf ei fonitro yn rheolaidd gan y Bwrdd Dilyniant Ymchwil Ôl-raddedig er mwyn penderfynu a ellir caniatáu i'r ymgeisydd symud ymlaen. Caiff cynnydd ei fonitro ar adegau penodol fel y nodir yng Nghanllawiau'r Brifysgol ar Fonitro Cynnydd Myfyrwyr Ymchwil.
8.4
Bydd ymgeiswyr sy’n mynd y tu hwnt i gyfnod byrraf posibl eu hymgeisyddiaeth yn parhau i gael eu monitro’n rheolaidd gan y Bwrdd Dilyniant Ymchwil Ôl-raddedig hyd nes y cyflwynir y traethawd ymchwil neu hyd ddiwedd yr ymgeisyddiaeth.
8.5
Os bernir bod cynnydd ymgeisydd yn anfoddhaol, efallai y caiff yr ymgeisydd ei orfodi i drosglwyddo i raglen arall, neu ei orfodi i dynnu’n ôl o’r rhaglen.
8.6
Yng nghyd-destun paragraffau 8.2 ac 8.5 uchod, bydd gan ymgeiswyr hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau dilyniant yn unol â gweithdrefnau Prifysgol Abertawe ar Gywirdeb Marciau a Gyhoeddwyd neu ei gweithdrefnau ar gyfer Apeliadau Academaidd.
Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â'r Canllawiau ar Gyflogi Myfyrwyr Ymchwil.
9.1
Rhaid i ymgeiswyr sy’n ceisio am swydd, ar ben eu hastudiaethau, naill ai yn y Brifysgol neu’r tu allan, gadw at y canllawiau ar gyflogaeth fel y’u cyhoeddir yng Nghanllawiau’r Brifysgol ar Gyflogi Myfyrwyr Ymchwil.
Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â'r Canllawiau ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil ar Gyflwyno Traethawd Ymchwil.
10.1
Caiff ymgeiswyr ar gyfer y radd Meistr drwy Ymchwil eu harholi mewn dwy ran:
10.2
Caiff y Deon Gweithredol ddirprwyo'r gwaith gweinyddol ynghylch cyflwyno ac arholi traethawd ymchwil i aelod o'i staff, a bydd hefyd yn enwebu Cadeirydd i'r Bwrdd Arholi. Dylai'r Cadeirydd fod yn aelod o staff y Gyfarwyddiaeth/Ysgol gyda phrofiad addas nad yw wedi ymwneud yn uniongyrchol â goruchwylio'r ymgeisydd.
10.3
Gall y Bwrdd Arholi fynnu bod yr ymgeisydd yn sefyll arholiad ysgrifenedig.
11.1
Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr sefyll arholiadau ar yr adeg a bennir gan y Gyfadran/yr Ysgol a/neu bydd yn ofynnol iddynt gyflwyno aseiniadau erbyn y dyddiadau cau a nodir. Bydd methu sefyll arholiad neu fethu cyflwyno gwaith erbyn y dyddiad a bennwyd yn arwain at gofnodi marc o 0%.
11.2
Y marc pasio ar gyfer pob modiwl hyfforddi fydd 50% ac ni fydd unrhyw fethiannau a oddefir.
11.3
Yn unol ag argymhelliad y Gyfadran/yr Ysgol, bydd y Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau’n gofyn i ymgeisydd sy’n methu hyd at 20 credyd yn yr elfen hyfforddiant adael y rhaglen ar unwaith. Rhaid i ymgeisydd sy'n methu 30 credyd neu fwy yn yr elfen hyfforddiant dynnu yn ôl yn awtomatig o'r rhaglen.
11.4
Yn achos ymgeisydd sydd wedi methu hyd at 20 credyd yn yr elfen hyfforddiant ond nid yw'r Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau wedi gofyn iddo dynnu yn ôl, rhoddir un cyfle i'r ymgeisydd wneud iawn am unrhyw fodiwl hyfforddiant a fethwyd. Rhaid gwneud iawn am bob modiwl hyfforddiant a fethwyd yn ystod cyfnod hwyaf posibl yr ymgeisyddiaeth.
11.5
Bydd yn ofynnol i ymgeisydd sy'n methu modiwl hyfforddiant ar yr ail ymgais dynnu yn ôl o'r rhaglen yn awtomatig.
11.6
Bydd canlyniadau arholiadau ar gyfer yr elfen hyfforddi yn cael eu gweld a’u cymeradwyo gan Fwrdd Arholi'r Gyfadran/yr Ysgol ym mhresenoldeb arholwr allanol y rhaglen a fydd yn cael ei enwebu a’i benodi yn unol â’r gweithdrefnau y manylir arnynt yng Nghôd Ymarfer Prifysgol Abertawe ar gyfer Arholwyr Allanol. Gall arholwr allanol y rhaglen fod yn gyfrifol, neu’n rhannol gyfrifol, hefyd am raglenni wedi’u haddysgu eraill neu am elfennau hyfforddiant rhaglenni ymchwil.
11.7
Bydd cydlynydd y rhaglen yn gyfrifol am goladu canlyniadau’r elfen hyfforddiant ac am gyflwyno canlyniadau pob ymgeisydd i’r Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau.
11.8
Mae gan yr holl ymgeiswyr y mae’n ofynnol iddynt dynnu’n ôl o’r Brifysgol yr hawl i apelio yn unol â Gweithdrefn Cywirdeb Marciau Cyhoeddedig a/neu Weithdrefn Apeliadau’r Brifysgol.
Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â'r Canllawiau ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil ar Gyflwyno Traethawd Ymchwil a'r Canllawiau ar Arholi Myfyrwyr Ymchwil.
12.1
Rhaid i ymgeiswyr lenwi ffurflen Hysbysiad o Fwriad i Gyflwyno o leiaf tri mis cyn y dyddiad cyflwyno disgwyliedig.
12.2
Ar gwblhau cyfnod byrraf yr ymgeisyddiaeth, bydd ymgeisydd yn cyflwyno copi electronig o draethawd ymchwil i’w arholi yn unol â Chanllaw’r Brifysgol i Gyflwyno Traethawd Ymchwil ar gyfer myfyrwyr Ymchwil. Os bydd arholwr yn gofyn am gopi papur o’r traethawd ymchwil darperir hyn gan yr ymgeisydd trwy’r tîm cymorth Ymchwil Ôl-raddedig.
12.3
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gyflwyno copi electronig o’r traethawd ymchwil wedi’i ddiweddaru ar ôl iddo gael ei arholi os gwnaethpwyd cywiriadau neu ddiwygiadau.
12.4
Gall unrhyw ymgeisydd sy’n dilyn rhaglen ymchwil yn y Brifysgol ddewis cyflwyno traethawd ymchwil neu waith arall yn Saesneg neu Gymraeg. Rhaid i ymgeisydd sy’n dymuno cael ei asesu mewn iaith nad yw’n brif iaith yr addysgu/asesu ar gyfer y rhaglen dan sylw roi gwybod i’r Bwrdd Achosion Myfyrwyr cyn diwedd cyfnod byrraf posibl yr ymgeisyddiaeth. Hefyd, rhaid cyflwyno ceisiadau ar gyfer asesu yn y Gymraeg drwy’r Gyfarwyddiaeth/Ysgol cyn diwedd cyfnod byrraf posibl yr ymgeisyddiaeth i sicrhau bod modd trefnu cyfieithu. Gwneir trefniadau yn unol â’r hyn a amlinellir yng Nghanllawiau'r Brifysgol ar gyfer Arholi Myfyrwyr Ymchwil.
Yn achos myfyrwyr sy'n gwneud eu hymchwil dan Ddull 'Ch' (cydweithredol), gall fod yn ofynnol iddynt gyflwyno gwaith mewn iaith dramor oherwydd natur y radd gydweithredol.
12.5
Mewn achosion lle y gellid barnu ei bod yn briodol cyflwyno traethawd ymchwil mewn iaith heblaw am Saesneg/Cymraeg am resymau academaidd neu le y mae cyflwyno’r traethawd mewn iaith arall yn un o ofynion y rhaglen benodol, gall y Bwrdd Achosion Myfyrwyr roi caniatâd lle y cyflwynir dadl resymol i’r perwyl hwnnw. Serch hynny, ni fydd y Bwrdd Achosion Myfyrwyr yn cymeradwyo ceisiadau sy’n deillio o ddiffyg gallu’r ymgeisydd i gynhyrchu gwaith i’w gyflwyno yn Gymraeg neu’n Saesneg.
12.6
Wedi cyflwyno ffurflen Hysbysiad o Fwriad i Gyflwyno, bydd y Deon Gweithredol neu ei enwebai yn enwebu aelodau o’r Bwrdd Arholi a gyfansoddir yn unol â pharagraff 14 isod ac fel y’i nodir yn y Canllawiau ar Arholi Myfyrwyr Ymchwil. Caiff yr ymgeisydd ei hysbysu am enwau aelodau arfaethedig y Bwrdd Arholi. Caiff penodiad aelodau’r Bwrdd Arholi ei gadarnhau gan y Bwrdd Academaidd ar gyfer Ymchwil Ôl-raddedig.
12.7
Bydd raid i ymgeiswyr sy’n ailgyflwyno traethawd ymchwil sydd wedi methu â bodloni’r Arholwyr yn y gorffennol gyflwyno’r traethawd diwygiedig yn unol â'r Canllawiau ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil ar Gyflwyno Traethawd Ymchwil. Efallai hefyd y bydd raid i’r ymgeisydd dalu ffi ail-gyflwyno ychwanegol.
Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â'r Canllawiau ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil ar Gyflwyno Traethawd Ymchwil a'r Canllawiau ar Arholi Myfyrwyr Ymchwil.
13.1
Bydd traethawd ymchwil a gyflwynir am radd uwch yn y Brifysgol ar gael yn agored, ac ni chaiff ei roi mewn unrhyw ddosbarthiad diogelwch ac ni fydd unrhyw gyfyngu ar ei ddefnyddio.
13.2
Er gwaethaf paragraff 13.1, caiff y Brifysgol, ar sail argymhelliad arbennig wedi’i gymeradwyo gan y Ddeon Gweithredol, atal unrhyw un rhag llungopïo a/neu gael mynediad i waith ymgeisydd am gyfnod o hyd at bum mlynedd. Dylai unrhyw gais am atal mynediad gael ei gyflwyno i’r Ddeon Gweithredol cyn arholi’r traethawd ymchwil.
Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â Chanllawiau'r Brifysgol ar Arholi Myfyrwyr Ymchwil.
14.
Bydd pob Bwrdd Arholi ar gyfer ymgeiswyr yn cynnwys yr unigolion canlynol:
14.2
Bydd Cadeirydd y Bwrdd Arholi yn annibynnol yn y broses arholi a bydd yn atebol i’r Bwrdd Academaidd ar gyfer Ymchwil Ôl-raddedig parthed cynnal yr arholiad.
14.3
Ni chaniateir i oruchwylwyr yr ymgeisydd nac unrhyw aelod o staff sydd ynghlwm wrth oruchwylio’r ymgeisydd fod yn rhan o’r Bwrdd Arholi, ond gall Cadeirydd y Bwrdd Arholi eu gwahodd, wedi cael caniatâd ysgrifenedig penodol yr ymgeisydd ymlaen llaw, i fynychu’r arholiad llafar mewn rôl ymgynghorol. Ni chaiff ymgynghorydd siarad ond ar ôl cael ei wahodd i wneud hynny gan y Cadeirydd.
14.4
Pan fydd ymgeisydd yn aelod o staff y Brifysgol adeg yr arholiad, bydd y Bwrdd Arholi yn cynnwys yr unigolion canlynol:
14.5
Bydd Cadeirydd y Bwrdd Arholi yn gyfrifol am sicrhau bod yr arholwr neu arholwyr mewnol a’r arholwr neu arholwyr allanol yn derbyn copïau o’r traethawd ymchwil i’w arholi ynghyd ag unrhyw ddogfennau perthnasol eraill fel y’i nodir yn y Canllawiau ar Arholi Myfyrwyr Ymchwil.
Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â'r Canllawiau ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil ar Gyflwyno Traethawd Ymchwil a'r Canllawiau ar Arholi Myfyrwyr Ymchwil.
15.1
Bydd disgwyl i’r Bwrdd Arholi gynnal arholiad llafar ar gyfer bob ymgeisydd ar gyfer gradd ymchwil. Yn achos myfyriwr y caniateir iddo ailgyflwyno o fewn cyfnod penodol y cytunwyd arno yn yr arholiad llafar cyntaf, disgwylir fel arfer y cynhelir ail arholiad llafar. Fodd bynnag, mewn achosion eithriadol, gellir hepgor yr angen i gynnal ail arholiad llafar os darperir dadl fanwl o blaid ei ddileu yn adroddiad ysgrifenedig Cadeirydd y Bwrdd Arholi. Bydd angen i'r adroddiad ysgrifenedig gael ei gytuno, a'i gyd-lofnodi, gan bob aelod o'r Bwrdd Arholi.
15.2
Fel arfer, cynhelir pob arholiad llafar ym Mhrifysgol Abertawe o fewn chwe mis i ddyddiad cyflwyno’r traethawd ymchwil. Gellir cytuno eithriadau naill ai ar sail eithriadol neu ynteu i adlewyrchu natur y radd, e.e. yn achos myfyrwyr sy'n astudio dan Ddull 'Ch' (cydweithredol).
15.3
Rhaid i ymgeisydd y mae angen darpariaeth arbennig arno ar gyfer yr arholiad llafar roi gwybod i’r Bwrdd Academaidd ar gyfer Ymchwil Ôl-raddedig cyn cyflwyno’r traethawd ymchwil. Gwneir trefniadau yn unol â’r hyn a amlinellir yng Nghanllawiau'r Brifysgol ar gyfer Arholi Myfyrwyr Ymchwil.
15.4
Bydd gan oruchwylwyr yr ymgeisydd hawl i gyfleu i Gadeirydd y Bwrdd Arholi unrhyw bryderon ynghylch prosiect ymchwil ymgeisydd, ynghylch y traethawd ymchwil sy’n deillio ohono, neu ynghylch ei arholi os teimla’r goruchwylwyr y dylai’r Bwrdd eu cymryd i ystyriaeth cyn gwneud ei benderfyniad. Bydd y goruchwylwyr yn cyfleu’r pryderon hyn, mewn ysgrifen, i’r Cadeirydd ac i’r ymgeisydd cyn gynted ag y bo modd wedi cyflwyno’r traethawd ymchwil ac yn ddigon cynnar i roi digon o amser i’r ymgeisydd, cyn arholi’r traethawd (gan gynnwys unrhyw arholiad llafar), ystyried y pwyntiau a wnaed a pharatoi ymateb iddynt.
15.5
Cynhelir yr arholiad llafar yn unol â'r Canllawiau ar Arholi Myfyrwyr Ymchwil. Caiff argymhelliad y Bwrdd Arholi ei gyflwyno i’r Grŵp Gweithredol i’w gadarnhau.
16.1
Dilynwch y ddolen isod i weld y rheoliadau ar raddau Aegrotat.
Rheoliadau Dyfarniadau Aegrotat
Dilynwch y ddolen isod i weld y rheoliadau ar raddau wedi Marwolaeth.
17.1
Caiff ymgeiswyr nad yw’r Bwrdd Arholi wedi’u hargymell ar gyfer y dyfarniad y cyflwynwyd y thesis ar ei gyfer apelio yn erbyn y penderfyniad a gofyn am apêl academaidd. Cynhelir pob apêl academaidd yn unol â gweithdrefnau Cywirdeb Marciau a Gyhoeddwyd a gweithdrefnau Apeliadau Academaidd Prifysgol Abertawe.
18.1
Caiff honiadau o arfer annheg eu hystyried yn unol â gweithdrefnau a rheoliadau Camymddygiad Academaidd Prifysgol Abertawe. Caiff unrhyw honiadau o arfer annheg a ddaw i law’r Brifysgol ar ôl cyflwyno’r radd i’r ymgeisydd eu hystyried gan y sefydliad sy’n dyfarnu’r radd.
19.1
Caiff honiadau ynghylch addasrwydd i ymarfer neu ymddygiad/iechyd annerbyniol i ymarfer eu hystyried yn unol â rheoliadau Addasrwydd i Ymarfer Prifysgol Abertawe.
20.1
Dylai myfyrwyr sy’n anfodlon ar y dysgu a’r addysgu, y cyfleusterau neu'r gwasanaethau a ddarperir gan y Brifysgol, neu’r modd y mae’r Brifysgol, ei myfyrwyr, neu ei staff wedi ymddwyn neu heb ymddwyn, ddilyn y camau gweithredu a amlygir yng Ngweithdrefn Achwyn Prifysgol Abertawe.
21.1
Dylai myfyrwyr rhyngwladol y mae arnynt angen fisa i astudio yn y Brifysgol fod yn ymwybodol bod eu gallu i barhau i astudio yn y Brifysgol yn dibynnu ar fodloni amodau eu fisa a’r terfynau amser a bennwyd gan Fisâu a Mewnfudo y DU (UKVI). I gael rhagor o wybodaeth cyfeirier at https://www.gov.uk/browse/visas-immigration/student-visas.
21.2
Bydd penderfyniadau gan y Brifysgol ynghylch statws cofrestru, perfformiad academaidd, dilyniant a dyfarniad ymgeisydd yn cael eu gwneud yn unol â rheoliadau academaidd ac ariannol y Brifysgol ac ni fyddant yn cael eu goleuo gan gyfyngiadau fisa a therfynau amser a bennwyd gan wasanaeth Fisâu a Mewnfudo y DU (UKVI) International@CampusLife.