Sgip i brif cynnwys
Prifysgol Abertawe
  • Offer Hygyrchedd
  • English
Mewngofnodi
Prifysgol Abertawe Mewngofnodi
  • Offer Hygyrchedd
  • English
  1. Cartref i Fyfyrwyr Presennol
  2. Bywyd Academaidd
  3. Rheoliadau Academaidd
  4. Rheoliadau Graddau Ymchwil
  5. Gradd Doethur mewn Meddygaeth (MD)
  • Eich Prifysgol
    • Cyfadrannau ac Ysgolion
      • Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu
      • Yr Ysgol Reolaeth
      • Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton
      • Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol
      • Yr Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol
      • Hwb Ysgol Seicoleg
      • Medical School Hub
      • Ysgol y Biowyddorau, Daearyddiaeth a Ffiseg
      • Yr Ysgol Mathemateg a Chyfrifiadureg
      • Yr Ysgol Peirianneg Awyrofod, Sifil, Drydanol, Gyffredinol a Mecanyddol
      • Yr Ysgol Peirianneg a’r Gwyddorau Cymhwysol
      • Y Coleg, Prifysgol Abertawe
    • Eich Prifysgol - Astudio yn Abertawe
      • Ffurflenni Academaidd
      • Monitro Presenoldeb
      • Arholiadau
      • Canvas
      • Amgylchiadau Esgusodol
      • Gwasanaeth Cyrchu Cyfrifiadur o Bell
      • Dyddiadau Tymhorau a Semestrau
      • Mannau Astudio yn y Llyfrgell
      • Lleoedd Astudio Anffurfiol
    • Gwasanaethau Defnyddiol
      • Llety
      • Lleoedd Bwyta
      • Iechyd a Diogelwch
      • Cymorth TG
      • Gwasanaethau Llyfrgell MyUni
      • Cynlluniwr Teithiau Bws
      • Teithio Myfyrwyr
      • Undeb y Myfyrwyr
  • Cymorth a Lles
  • MyUniHub
  • Newyddion Myfyrwyr
  • Digwyddiadau
  • Croeso 2025
  • Cofrestru a Sefydlu
  • Cymorth Costau Byw
  1. Cartref i Fyfyrwyr Presennol
  2. Bywyd Academaidd
  3. Rheoliadau Academaidd
  4. Rheoliadau Graddau Ymchwil
  5. Gradd Doethur mewn Meddygaeth (MD)

Gradd Doethur mewn Meddygaeth (MD)

Tudalennau cysylltiedig
  • Cyfadrannau
  • Newyddion Myfyrwyr
  • Desg Gymorth TG
  • Lleoedd Astudio Anffurfiol
  • MyUniVoice
  • Ymchwil Ôl-raddedig
  • FyAbertawe
  • Sut rydym yn cyfathrebu â chi
  • Undeb Myfyrwyr
  • Cysylltu â ni

Dylid darllen y rheoliadau academaidd hyn ar y cyd â'r Canllawiau canlynol o eiddo Prifysgol Abertawe, sy’n ymhelaethu ar y rheoliadau ac sy’n cynnig cyfarwyddyd ar y gweithdrefnau:

  • Canllawiau ar Dderbyn Myfyrwyr Ymchwil
  • Canllawiau ar Ymgeisyddiaeth Graddau Ymchwil
  • Canllawiau ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil ar Drosglwyddo a Thynnu yn Ôl
  • Canllawiau ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil ar Ohiriadau ac Estyniadau
  • Canllawiau ar Fonitro Cynnydd Myfyrwyr Ymchwil
  • Canllawiau ar Gyflogi Myfyrwyr Ymchwil
  • Canllawiau ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil ar Gyflwyno Traethawd Ymchwil
  • Canllawiau ar Arholi Myfyrwyr Ymchwil
  • Canllaw ar Oruchwylio Ymchwil

1. Cyflwyniad

Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â'r Canllawiau ar Dderbyn Myfyrwyr Ymchwil.

1.1

Dyfernir graddau doethurol i fyfyrwyr sydd wedi dangos eu bod wedi cyflawni'r canlynol:

  • Creu a dehongli gwybodaeth newydd, trwy ymchwil wreiddiol neu ysgolheictod uwch arall, sydd o ansawdd sy'n bodloni adolygiad cymheiriaid, sy'n estyn ffiniau'r ddisgyblaeth ac sy'n deilwng o gael ei gyhoeddi.
  • Caffael a deall yn systematig corff sylweddol o wybodaeth sydd ar flaen disgyblaeth academaidd neu faes o ymarfer proffesiynol.
  • Y gallu cyffredinol i gysyniadu, cynllunio a gweithredu prosiect er mwyn creu gwybodaeth, cymwysiadau neu ddealltwriaeth newydd sydd ar flaen y ddisgyblaeth, ac addasu cynllun y prosiect yn wyneb problemau nas rhagwelwyd.
  • Dealltwriaeth fanwl o dechnegau cymwys ar gyfer ymchwil ac ymholi academaidd uwch.

Yn nodweddiadol, bydd deiliaid y cymhwyster yn gallu gwneud y pethau canlynol:  

  • Dod i farn wybodus ar faterion cymhleth mewn meysydd arbenigol, yn aml yn absenoldeb data cyflawn, a gallu mynegi eu syniadau a'u casgliadau yn glir ac yn effeithiol i gynulleidfaoedd arbenigol a lleyg.
  • Parhau i ymgymryd ag ymchwil a datblygu pur a/neu gymwysedig ar lefel uwch, gan gyfrannu'n sylweddol i ddatblygu technegau, syniadau neu ymagweddau newydd.

A bydd gan y deiliaid:

  • Y rhinweddau a'r sgiliau trosglwyddadwy angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth lle mae gofyn iddynt arfer cyfrifoldeb personol a menter annibynnol i raddau helaeth mewn sefyllfaoedd cymhleth nad oes modd eu darogan mewn amgylchedd proffesiynol neu gyfatebol.

1.2

Rhaid i’r holl ymgeiswyr gofrestru'n fyfyrwyr Prifysgol Abertawe a thalu’r ffioedd priodol a bennir gan y Brifysgol. Fel myfyrwyr cofrestredig, rhaid i’r ymgeiswyr gydymffurfio â rheoliadau academaidd a chyffredinol y Brifysgol.

1.3

Ni chaiff ymgeiswyr radd arall sy’n arwain at ddyfarnu cymhwyster yn y brifysgol hon neu mewn prifysgol/sefydliad arall heb ganiatâd penodol Cadeirydd y Bwrdd Rheoliadau ac Achosion Academaidd.

1.4

Rhaid i'r holl ymgeiswyr fonitro’r cyfrif e-bost a roddwyd iddynt gan y Brifysgol trwy gydol cyfnod yr ymgeisyddiaeth gan y bydd yr holl ohebiaeth electronig oddi wrth y Brifysgol yn cael ei hanfon i gyfrif e-bost Prifysgol yr ymgeisydd. Awgrymir yn gryf bod pob ymgeisydd yn defnyddio’r cyfrif e-bost Prifysgol a roddwyd iddynt wrth gyfathrebu â’r Brifysgol.

1.5

Lefel astudio'r radd ymchwil a reolir gan y rheoliadau hyn fydd Lefel 8 y Fframwaith Cymwysterau Addysg Uwch.

2. Amodau Derbyn

Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â'r Canllawiau ar Dderbyn Myfyrwyr Ymchwil.

2.1

Rhaid bod ymgeisydd ar gyfer y radd Doethur mewn Meddygaeth yn meddu ar radd feddygol gychwynnol o brifysgol yn y DU neu brifysgol arall a gymeradwywyd gan y Senedd.

2.2

Rhaid i'r holl ymgeiswyr nad y Saesneg yw eu hiaith gyntaf ddarparu tystiolaeth bod eu hyfedredd yn yr Iaith Saesneg yn ddigonol ar gyfer astudiaethau ymchwil, ac ar ôl eu derbyn i’r Brifysgol mae'n bosibl y bydd rhaid iddynt gymryd gwersi Saesneg ychwanegol.

2.3

Gwneir y penderfyniad i dderbyn ymgeisydd i raglen ymchwil arfaethedig gan Deon Gweithredol perthnasol neu gan rywun a enwebwyd ganddo. Dylai penderfyniadau fod yn seiliedig ar y ffactorau canlynol:

  1. A yw’r Gyfarwyddiaeth/Ysgol yn fodlon bod yr ymgeisydd yn cyrraedd y safon academaidd angenrheidiol i allu cwblhau’r rhaglen ymchwil a fwriedir, waeth beth fo cymwysterau’r ymgeisydd;
  2. A yw’r testun ymchwil a ddewiswyd gan yr ymgeisydd yn addas i’w astudio yn y dyfnder sydd ei angen ar gyfer y radd;
  3. A allai aelod priodol o'r staff ddarparu goruchwyliaeth ddigonol yn unol â pharagraff 7;
  4. A oes adnoddau a chyfleusterau addas ar gael i gynnal a chefnogi’r rhaglen ymchwil arfaethedig;
  5. A yw’n ymddangos yn rhesymol y gellid cwblhau’r rhaglen arfaethedig o fewn y cyfnod byrraf posibl a bennwyd.

2.4

Rhaid i bob ymgeisydd fatriciwleiddio o fewn tri mis cyntaf eu hymgeisyddiaeth yn unol â rheoliadau cyffredinol y Brifysgol ar Fatriciwleiddio.

2.5

Rhaid i bob ymgeisydd gydymffurfio â'r Canllawiau ar Dderbyn Myfyrwyr Ymchwil.

3. Strwythur y Rhaglen

Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â'r Canllawiau ar Dderbyn Myfyrwyr Ymchwil.

3.1

Gall ymgeisydd astudio ar gyfer gradd Doethur mewn Meddygaeth drwy un o’r dulliau canlynol:

A) Bod yn fyfyriwr llawn amser, trwy wneud ymchwil yn y Brifysgol;

B) Bod yn fyfyriwr llawn amser, trwy gyflawni ymchwil mewn lleoliad cyflogaeth allanol;

C) Bod yn fyfyriwr rhan amser, trwy wneud ymchwil naill ai yn y Brifysgol neu’n allanol;

Ch) Bod yn fyfyriwr llawn amser, trwy wneud ymchwil ar raglen ymchwil gymeradwy a gynigir ar y cyd gan y Brifysgol a Phrifysgol arall.

3.2

Ni cheir dyfarnu gradd Doethur mewn Meddygaeth fel gradd er anrhydedd.

4. Cyfnod Ymgeisyddiaeth

Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â'r Canllawiau ar Ymgeisyddiaeth Graddau Ymchwil a'r Canllawiau ar Drosglwyddo a Thynnu’n Ôl gan Fyfyrwyr Ymchwil.

4.1

Rhaid i ymgeisydd ddilyn rhaglen astudio dan oruchwyliaeth, gan gynnwys ymchwil a datblygu medrau generig naill ai’n fyfyriwr amser llawn neu'n fyfyriwr rhan-amser. Nodir y cyfnodau byrraf posibl ar gyfer astudio dan oruchwyliaeth, o'r dyddiad cofrestru, yng Nghanllawiau'r Brifysgol ar Ymgeisyddiaeth Graddau Ymchwil.

4.2

Er gwaethaf paragraff 4.1, gall myfyriwr a gofrestrwyd o dan ddull Ch, gyda chaniatâd penodol y Gyfarwyddiaeth/Ysgol a’r Brifysgol, dreulio cyfnod neu gyfnodau yn astudio mewn sefydliad arall. Cytunir ar y cyfnodau astudio byrraf posibl yn y Brifysgol gan y Grŵp Gweithredol adeg derbyn y myfyriwr.

4.3

Nid yw’r rheoliad sy’n ymwneud â lleihau’r cyfnod ymgeisyddiaeth yn berthnasol i’r radd hon.

4.4

Nid yw’r rheoliad sy’n ymwneud â throsglwyddo credydau ar gyfer yr elfen hyfforddiant yn berthnasol i’r radd hon.

4.5

O dan rai amgylchiadau gall ymgeiswyr wneud cais, neu gall y Bwrdd Rheoliadau, Ansawdd a Safonau fynnu hynny, i newid eu dull astudio neu eu rhaglen astudio yn unol â’r hyn a nodir yn y Canllawiau ar Drosglwyddo a Thynnu’n Ôl gan Fyfyrwyr Ymchwil. Mewn achosion o’r fath bydd y Brifysgol yn pennu cyfnod cofrestredig byrraf diwygiedig.

4.6

Gwaherddir ymgeiswyr rhag trosglwyddo’u hymgeisyddiaeth i sefydliad arall ar ôl cwblhau cyfnod byrraf posibl eu hymgeisyddiaeth, a amlinellir ym mharagraff 4.1, yn y Brifysgol hon.

5. Dyddiad Cyflwyno

Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â'r Canllawiau ar Ymgeisyddiaeth Graddau Ymchwil.

5.1

Rhaid i bob ymgeisydd gyflwyno traethawd ymchwil erbyn y dyddiad cyflwyno olaf fel y’i nodir yn y Canllawiau ar Ymgeisyddiaeth Graddau Ymchwil sydd mewn grym ar yr adeg y derbynnir y myfyriwr ac fel y nodir yn y Llythyr Cynnig ffurfiol.

5.2

Pan fydd ymgeisydd yn methu cyflwyno traethawd ymchwil erbyn y dyddiad cyflwyno olaf gall y Brifysgol fynnu bod yr ymgeisyddiaeth yn cael ei therfynu.

6. Gohiriadau ac Estyniadau i Ymgeisyddiaeth

Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â'r Canllawiau ar Ohiriadau ac Estyniadau i Fyfyrwyr Ymchwil a'r Canllawiau ar Drosglwyddo a Thynnu’n Ôl gan Fyfyrwyr Ymchwil.

6.1

O dan amgylchiadau eithriadol, ac yn unol â'r Canllawiau ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil ar Ohiriadau ac Estyniadau, gellir mynnu bod rhaid i ymgeisydd ohirio ei ymgeisyddiaeth am resymau disgyblaethol, ariannol neu iechyd.

6.2

O dan amgylchiadau eithriadol gall ymgeiswyr ofyn am ohirio eu hymgeisyddiaeth neu am estyniad i’w hymgeisyddiaeth. Dylid gwneud pob cais i ohirio ymgeisyddiaeth neu i estyn ymgeisyddiaeth yn unol â'r Canllawiau ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil ar Ohiriadau ac Estyniadau.

6.3

Pan fydd ymgeisyddiaeth ymgeisydd yn cael ei gohirio, fel yr amlinellir ym mharagraffau 6.1 a 6.2 uchod, rhaid nodi, adeg y gohirio, ar ba ddyddiad y bydd yr ymgeisydd yn ailgydio yn yr astudio.

6.4

Pan fydd ymgeisydd yn methu ag ailgydio yn ei astudiaethau erbyn y dyddiad dychwelyd i astudio, bernir bod yr ymgeisydd wedi tynnu’n ôl o’r rhaglen fel sydd wedi’i nodi yng Nghanllawiau'r Brifysgol ar Drosglwyddo a Thynnu’n Ôl gan Fyfyrwyr Ymchwil.

6.5

Fel arfer, bydd y Grŵp Gweithredol yn gofyn bod myfyrwyr ymchwil sefydledig sydd wedi cwblhau blwyddyn neu fwy o'u hymchwil llawn-amser ond sydd wedi mynd heibio i'r cyfnod gohirio hwyaf a ganiateir, yn tynnu'n ôl; Fodd bynnag, mewn amgylchiadau eithriadol, mae'n bosibl y caniateir i'r myfyrwyr hyn ail-ymgeisio i ailgofrestru ar yr un cam â'r ymchwil blaenorol (o fewn cyfnod hwyaf o 2 flynedd o'r dyddiad tynnu'n ôl). Dim ond dan yr amgylchiadau hyn y caniateir cyfnod ymgeisyddiaeth byrrach i fyfyriwr.

7. Goruchwylio

Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â'r Canllaw ar Oruchwylio Ymchwil.

7.1

Bydd ymgeiswyr yn cael eu goruchwylio yn rheolaidd ac yn barhaus yn unol â’r gweithdrefnau ar gyfer goruchwylio myfyrwyr ôl-raddedig a nodir yn y Canllawiau ar Feini Prawf Cymhwyster ar gyfer Goruchwylwyr Myfyrwyr Graddau Ymchwil.

7.2

Bydd gan bob ymgeisydd dîm goruchwylio a benodir gan y Deon Gweithredol neu ei enwebai. Bydd y tîm goruchwylio’n cynnwys o leiaf dau oruchwyliwr mewnol sy’n gymwys i gael eu penodi fel y nodir yng Nghanllawiau'r Brifysgol ar Feini Prawf Cymhwysedd ar gyfer Goruchwylwyr Myfyrwyr Graddau Ymchwil. Bydd un goruchwyliwr yn cael ei ddynodi’n oruchwyliwr cyntaf.

7.3

Mae’n rhaid i’r goruchwylwyr mewnol fod yn aelodau o staff Prifysgol Abertawe fel y nodir yn y Canllawiau ar Feini Prawf Cymhwyster ar gyfer Goruchwylwyr Myfyrwyr Graddau Ymchwil. Bydd y goruchwyliwr cyntaf yn bennaf gyfrifol am adrodd ar gynnydd i’r Gyfarwyddiaeth/Ysgol a’r Bwrdd Rheoliadau, Ansawdd a Safonau, fel y nodir ym mharagraff 8.

7.4

Penodir goruchwyliwr allanol ar gyfer pob ymgeisydd sy’n cael ei dderbyn dan Ddull B yn ychwanegol i’r goruchwyliwr neu’r goruchwylwyr mewnol a nodir ym mharagraff 7.4. Penodir goruchwylwyr allanol yn unol â Chanllawiau'r Brifysgol ar Feini Prawf Cymhwysedd ar gyfer Goruchwylwyr Myfyrwyr Graddau Ymchwil, gyda chaniatâd y Bwrdd Rheoliadau, Ansawdd a Safonau. Cydnabyddir y fath oruchwylwyr yn swyddogol yn y Brifysgol.

8. Monitro Cynnydd

Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â'r Canllawiau ar Fonitro Cynnydd Myfyrwyr Ymchwil.

8.1

Rhaid i’r Gyfarwyddiaeth/Ysgol gadarnhau ymgeisyddiaeth pob ymgeisydd o fewn tri mis i gofrestriad cychwynnol yr ymgeisydd fel y nodir yn y Canllawiau ar Fonitro Cynnydd Myfyrwyr Ymchwil.

8.2

Os nad yw’r Gyfarwyddiaeth/Ysgol yn gallu cadarnhau ymgeisyddiaeth ymgeisydd o fewn tri mis i'w gofrestriad cychwynnol, efallai y bydd raid i'w ymgeisyddiaeth gael ei gohirio neu efallai y bydd raid iddo adael y rhaglen.

8.3

Caiff cynnydd ymgeisydd yn ystod y cyfnod ymgeisyddiaeth byrraf ei fonitro yn rheolaidd gan y Bwrdd Dilyniant Ymchwil Ôl-raddedig er mwyn penderfynu a ellir caniatáu ymgeisydd i symud ymlaen. Caiff cynnydd ei fonitro ar adegau penodol fel y nodir yng Nghanllawiau'r Brifysgol ar Fonitro Cynnydd Myfyrwyr Ymchwil.

8.4

Bydd ymgeiswyr sy’n mynd y tu hwnt i gyfnod byrraf posibl eu hymgeisyddiaeth yn parhau i gael eu monitro’n rheolaidd gan y Bwrdd Dilyniant Ymchwil Ôl-raddedig hyd nes y cyflwynir y traethawd ymchwil neu hyd ddiwedd yr ymgeisyddiaeth.

8.5

Os bernir bod cynnydd ymgeisydd yn anfoddhaol, efallai y caiff yr ymgeisydd ei orfodi i drosglwyddo rhaglen, neu ei orfodi i dynnu’n ôl o’r rhaglen.

8.6

Yng nghyd-destun paragraffau 8.2 a 8.5 uchod, bydd gan ymgeiswyr hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau academaidd yn unol â gweithdrefnau Prifysgol Abertawe ar gyfer Cywirdeb y Marciau a Gyhoeddwyd neu ei gweithdrefnau ar gyfer Apeliadau Academaidd.

9. Cyflogaeth

Cyflogi Ymgeiswyr Graddau Ymchwil Ôl-raddedig

Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â'r Canllawiau ar Gyflogi Myfyrwyr Ymchwil.

9.1

Rhaid i ymgeiswyr sy’n ceisio am swydd, ar ben eu hastudiaethau, naill ai yn y Brifysgol neu’r tu allan, gadw at y canllawiau ar gyflogaeth fel y’u cyhoeddir yn yng Nghanllawiau'r Brifysgol ar Gyflogi Myfyrwyr Ymchwil.

10. Asesu Gradd

Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â'r Canllawiau ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil ar Gyflwyno Traethawd Ymchwil.

10.1

Caiff ymgeiswyr am radd Doethur mewn Meddygaeth eu harholi mewn dwy ran:

  1. Bydd y rhan gyntaf ar ffurf traethawd ymchwil sy’n cynnwys dulliau a chanlyniadau’r prosiect ymchwil. Dylid cyflwyno pob traethawd ymchwil yn unol â'r Canllawiau ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil ar Gyflwyno Traethawd Ymchwil.
  2. Bydd yr ail ran ar ffurf arholiad llafar (Viva Voce) fel y nodir ym mharagraff 15 isod.

10.2

Caiff y Deon Gweithredol ddirprwyo'r gwaith gweinyddol ynghylch cyflwyno ac arholi traethawd ymchwil i aelod o'i staff, a bydd hefyd yn enwebu Cadeirydd i'r Bwrdd Arholi. Dylai'r Cadeirydd fod yn aelod o staff y Gyfarwyddiaeth/Ysgol, gyda phrofiad addas, nad yw wedi ymwneud yn uniongyrchol â goruchwylio'r ymgeisydd.

10.3

Gall y Bwrdd Arholi fynnu bod yr ymgeisydd yn sefyll arholiad ysgrifenedig.

11. Ymarfer a Hyfforddiant Proffesiynol/Diwydiannol

11.1

Nid yw’r rheoliadau sy’n ymwneud ag asesu ymarfer a hyfforddiant proffesiynol/diwydiannol yn berthnasol i’r radd hon.

12. Cyflwyno Traethawd Ymchwil

Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â'r Canllawiau ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil ar Gyflwyno Traethawd Ymchwil a'r Canllawiau ar Arholi Myfyrwyr Ymchwil.

12.1

Rhaid i ymgeiswyr lenwi ffurflen Hysbysiad o Fwriad i Gyflwyno o leiaf tri mis cyn y dyddiad cyflwyno disgwyliedig.

12.2

Ar gwblhau cyfnod byrraf yr ymgeisyddiaeth, bydd ymgeisydd yn cyflwyno copi electronig o draethawd ymchwil i’w arholi yn unol â Chanllaw’r Brifysgol i Gyflwyno Traethawd Ymchwil ar gyfer myfyrwyr Ymchwil. Os bydd arholwr yn gofyn am gopi papur o’r traethawd ymchwil darperir hyn gan yr ymgeisydd trwy’r tîm cymorth Ymchwil Ôl-raddedig.

12.3

Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gyflwyno copi electronig o’r traethawd ymchwil wedi’i ddiweddaru ar ôl iddo gael ei arholi os gwnaethpwyd cywiriadau neu ddiwygiadau.

12.4

Gall unrhyw ymgeisydd sy’n dilyn rhaglen ymchwil yn y Brifysgol ddewis cyflwyno traethawd ymchwil neu waith arall yn Saesneg neu Gymraeg. Rhaid i ymgeisydd sy’n dymuno cael ei asesu mewn iaith nad yw’n brif iaith yr addysgu/asesu ar gyfer y rhaglen dan sylw roi gwybod i’r Bwrdd Academaidd ar gyfer Ymchwil Ôl-raddedig cyn diwedd cyfnod byrraf posibl yr ymgeisyddiaeth. Gwneir trefniadau yn unol â’r hyn a amlinellir yng Nghanllawiau'r Brifysgol ar gyfer Arholi Myfyrwyr Ymchwil. Hefyd, rhaid cyflwyno ceisiadau ar gyfer asesu yn y Gymraeg drwy’r Gyfarwyddiaeth/Ysgol cyn diwedd cyfnod byrraf posibl yr ymgeisyddiaeth i sicrhau bod modd trefnu cyfieithu.

Yn achos myfyrwyr sy'n gwneud eu hymchwil dan Ddull 'D' (cydweithredol), gall fod yn ofynnol iddynt gyflwyno gwaith mewn iaith dramor oherwydd natur y radd gydweithredol.

12.5

Mewn achosion lle y gellid barnu ei bod yn briodol cyflwyno traethawd ymchwil mewn iaith heblaw am Saesneg/Cymraeg am resymau academaidd neu le y mae cyflwyno’r traethawd mewn iaith arall yn un o ofynion y rhaglen benodol, gall y Bwrdd Academaidd ar gyfer Ymchwil Ôl-raddedig roi caniatâd lle y cyflwynir dadl resymol i’r perwyl hwnnw. Serch hynny, ni fydd y Bwrdd Academaidd ar gyfer Ymchwil Ôl-raddedig yn cymeradwyo ceisiadau sy’n deillio o ddiffyg gallu’r ymgeisydd i gynhyrchu gwaith i’w gyflwyno yn Gymraeg neu Saesneg.

12.6

Wedi cyflwyno ffurflen Hysbysiad o Fwriad i Gyflwyno, bydd Deon Gweithredol neu ei enwebai yn enwebu aelodau o’r Bwrdd Arholi a gyfansoddir yn unol â pharagraff 14 isod ac fel y nodir yn y Canllawiau ar Arholi Myfyrwyr Ymchwil. Caiff yr ymgeisydd ei hysbysu am enwau aelodau arfaethedig y Bwrdd Arholi. Caiff penodiad aelodau’r Bwrdd Arholi ei gadarnhau gan y Bwrdd Academaidd ar gyfer Ymchwil Ôl-raddedig.

12.7

Bydd raid i ymgeiswyr sy’n ailgyflwyno traethawd ymchwil sydd wedi methu â bodloni’r Arholwyr yn y gorffennol gyflwyno’r traethawd diwygiedig yn unol â'r Canllawiau ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil ar Gyflwyno Traethawd Ymchwil. Efallai hefyd y bydd raid i’r ymgeisydd dalu ffi ail-gyflwyno ychwanegol.

13. Argaeledd Traethawd Ymchwil

Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â'r Canllawiau ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil ar Gyflwyno Traethawd Ymchwil a'r Canllawiau Arholi Myfyrwyr Ymchwil.

13.1

Bydd traethawd ymchwil a gyflwynir am radd uwch yn y Brifysgol ar gael yn agored, ac ni chaiff ei roi mewn unrhyw ddosbarthiad diogelwch ac ni fydd unrhyw gyfyngu ar ei ddefnyddio.

13.2

Er gwaethaf paragraff 13.1, caiff y Brifysgol, ar sail argymhelliad arbennig wedi’i gymeradwyo gan y Deon Gweithredol neu enwebai, atal unrhyw un rhag llungopïo a/neu gael mynediad at waith ymgeisydd am gyfnod o hyd at bum mlynedd. Dylai unrhyw gais am atal mynediad gael ei gyflwyno i’r Deon Gweithredol cyn arholi’r traethawd ymchwil.

14. Cyfansoddiad y Bwrdd Arholi

Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â'r Canllawiau ar Arholi Myfyrwyr Ymchwil.

14.1

Bydd pob Bwrdd Arholi ar gyfer ymgeiswyr yn cynnwys yr unigolion canlynol:

  1. Cadeirydd annibynnol, a fydd yn y Deon Gweithredol neu’n aelod o staff a chanddo brofiad addas a enwebwyd gan y Deon Gweithredol. Mae disgwyl i Gadeirydd y Bwrdd Arholi gadeirio’r arholiadau llafar ac unrhyw gyfarfod o’r arholwyr.
  2. Arholwr neu arholwyr allanol a benodir yn unol â Chanllawiau'r Brifysgol ar Arholi Myfyrwyr Ymchwil.
  3. Arholwr mewnol a benodir yn unol â Chanllawiau'r Brifysgol ar Arholi Myfyrwyr Ymchwil.

14.2

Bydd Cadeirydd y Bwrdd Arholi yn annibynnol yn y broses arholi a bydd yn atebol i’r Bwrdd Academaidd ar gyfer Ymchwil Ôl-raddedig parthed cynnal yr arholiad.

14.3

Ni chaniateir i oruchwylwyr yr ymgeisydd nac unrhyw aelod o staff sydd ynghlwm wrth oruchwylio’r ymgeisydd fod yn rhan o’r Bwrdd Arholi, ond gall Cadeirydd y Bwrdd Arholi eu gwahodd, wedi cael caniatâd ysgrifenedig penodol yr ymgeisydd ymlaen llaw, i fynychu’r arholiad llafar mewn rôl ymgynghorol. Ni chaiff ymgynghorydd siarad ond ar ôl cael ei wahodd i wneud hynny gan y Cadeirydd.

14.4

Pan fydd ymgeisydd yn aelod o staff y Brifysgol adeg yr arholiad, bydd y Bwrdd Arholi yn cynnwys yr unigolion canlynol:

  1. Cadeirydd, fel y nodir ym mharagraff 14.1 a) uchod.
  2. Dau arholwr allanol, a benodir yn unol â Chanllawiau'r Brifysgol ar gyfer Arholi Myfyrwyr Ymchwil.

14.5

Bydd Cadeirydd y Bwrdd Arholi yn gyfrifol am sicrhau bod yr arholwr neu arholwyr mewnol a’r arholwr neu arholwyr allanol yn derbyn copïau o’r traethawd ymchwil i’w arholi ynghyd ag unrhyw ddogfennau perthnasol eraill fel y nodir yn y Canllawiau ar Arholi Myfyrwyr Ymchwil.

15. Arholiad Llafar (Viva Voce)

Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â'r Canllawiau ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil ar Gyflwyno Traethawd Ymchwil a'r Canllawiau ar Arholi Myfyrwyr Ymchwil.

15.1

Bydd disgwyl i’r Bwrdd Arholi gynnal arholiad llafar ar gyfer bob ymgeisydd ar gyfer gradd ymchwil. Yn achos myfyriwr y caniateir iddo ailgyflwyno o fewn cyfnod penodol y cytunwyd arno yn yr arholiad llafar cyntaf, disgwylir fel arfer y cynhelir ail arholiad llafar. Fodd bynnag, mewn achosion eithriadol, gellir hepgor yr angen i gynnal ail arholiad llafar os darperir dadl fanwl o blaid ei ddileu yn adroddiad ysgrifenedig Cadeirydd y Bwrdd Arholi. Bydd angen i'r adroddiad ysgrifenedig gael ei gytuno, a'i gyd-lofnodi, gan bob aelod o'r Bwrdd Arholi.

15.2

Rhaid cynnal arholiad llafar ym Mhrifysgol Abertawe o fewn chwe mis i ddyddiad cyflwyno’r traethawd ymchwil. Gellir cytuno eithriadau naill ai ar sail eithriadol neu ynteu i adlewyrchu natur y radd, e.e. yn achos myfyrwyr sy'n astudio dan Ddull 'D' (cydweithredol).

15.3

Rhaid i ymgeisydd y mae angen darpariaeth arbennig arno ar gyfer yr arholiad llafar roi gwybod i’r Deon Gweithredol neu enweba cyn cyflwyno’r traethawd ymchwil. Gwneir trefniadau yn unol â’r hyn a amlinellir yng Nghanllawiau'r Brifysgol ar gyfer Arholi Myfyrwyr Ymchwil.

15.4

Bydd gan oruchwylwyr yr ymgeisydd hawl i gyfleu i Gadeirydd y Bwrdd Arholi unrhyw bryderon ynghylch prosiect ymchwil yr ymgeisydd, ynghylch y traethawd ymchwil sy’n deillio ohono, neu ynghylch ei arholi os teimla’r goruchwylwyr y dylai’r Bwrdd eu cymryd i ystyriaeth cyn gwneud ei benderfyniad. Bydd y goruchwylwyr yn cyfleu’r pryderon hyn, mewn ysgrifen, i’r Cadeirydd ac i’r ymgeisydd cyn gynted ag y bo modd wedi cyflwyno’r traethawd ymchwil ac yn ddigon cynnar i roi digon o amser i’r ymgeisydd, cyn arholi’r traethawd ymchwil (gan gynnwys unrhyw arholiad llafar), ystyried y pwyntiau a wnaed a pharatoi ymateb iddynt.

15.5

Cynhelir yr arholiad llafar yn unol â'r Canllaw i Arholi Myfyrwyr Ymchwil. Bydd argymhelliad y Bwrdd Arholi'n cael ei gyflwyno i’r Grŵp Gweithredol i’w gadarnhau.

16. Graddau Aegrotat ac Wedi Marwolaeth

16.1

Dilynwch y ddolen isod i weld y rheoliadau ar raddau Aegrotat.

Rheoliadau Dyfarniadau Aegrotat

Dilynwch y ddolen isod i weld y rheoliadau ar raddau wedi marwolaeth.

Rheoliadau Dyfarniadau ar ôl Marwolaeth

17. Apeliadau Academaidd

17.1

Caiff ymgeiswyr nad yw’r Bwrdd Arholi wedi’u hargymell ar gyfer y dyfarniad y cyflwynwyd y traethawd ymchwil ar ei gyfer apelio yn erbyn y penderfyniad a gofyn am apêl academaidd. Cynhelir pob apêl academaidd yn unol â gweithdrefnau Cywirdeb Marciau a Gyhoeddwyd a gweithdrefnau Apeliadau Academaidd Prifysgol Abertawe.

18. Camymddygiad Academaidd

18.1

Caiff honiadau o arfer annheg eu hystyried yn unol â gweithdrefnau a rheoliadau Camymddygiad Academaidd Prifysgol Abertawe. Caiff unrhyw honiadau o arfer annheg a ddaw i law'r Brifysgol ar ôl cyflwyno'r radd i'r ymgeisydd eu hystyried gan y sefydliad sy'n dyfarnu'r radd.

19. Addasrwydd i Ymarfer

19.1

Caiff honiadau yn ymwneud ag addasrwydd i ymarfer eu hystyried yn unol â rheoliadau Addasrwydd i Ymarfer Prifysgol Abertawe.

20. Cwynion

20.1

Dylai myfyrwyr sy’n anfodlon â'r dysgu a’r addysgu, y cyfleusterau neu'r gwasanaethau a ddarperir gan y Brifysgol, neu’r modd y mae’r Brifysgol, ei myfyrwyr, neu ei staff wedi ymddwyn neu heb ymddwyn, ddilyn y camau gweithredu a amlygir yng Ngweithdrefn Gwyno Prifysgol Abertawe.

21. Myfyrwyr Rhyngwladol a Gofynion Teitheb

21.1

Os oes angen teitheb ar fyfyrwyr rhyngwladol i'w galluogi i astudio yn y Brifysgol, dylent sylwi bod eu hawl i astudio yn y Brifysgol yn amodol ar fodloni amodau eu teitheb a'r terfynau amser a bennir gan Swyddfa Teithebau a Mewnfudo Swyddfa Gartref y Deyrnas Unedig. Am ragor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/browse/visas-immigration/study-visas.

21.2

Gwneir penderfyniadau gan y Brifysgol ynghylch statws cofrestru, perfformiad academaidd, dilyniant a dyfarniad ymgeisydd yn unol â rheoliadau academaidd ac ariannol y Brifysgol, ac ni fydd cyfyngiadau teitheb a therfynau amser a bennir gan y Swyddfa Gartref yn effeithio arnynt. Fodd bynnag, mae'r hawl i barhau i astudio yn amodol ar fodloni gofynion cofrestru'r Brifysgol a chanllawiau'r Swyddfa Gartref sy'n mynnu bod teitheb ddilys yn hanfodol. Ni chaiff myfyriwr rhyngwladol sy'n gymwys i symud i'r lefel astudio nesaf, neu'r flwyddyn astudio nesaf, barhau i astudio yn y Brifysgol heb deitheb ddilys. Dylai myfyrwyr sydd â phryderon neu ymholiadau ynghylch eu teitheb gysylltu â International@CampusLife.

  • Cyfadrannau
  • Newyddion Myfyrwyr
  • Desg Gymorth TG
  • Lleoedd Astudio Anffurfiol
  • MyUniVoice
  • Ymchwil Ôl-raddedig
  • FyAbertawe
  • Sut rydym yn cyfathrebu â chi
  • Undeb Myfyrwyr
  • Cysylltu â ni
  • Mae Prifysgol Abertawe yn elusen gofrestredig, Rhif 1138342