Sgip i brif cynnwys
Prifysgol Abertawe
  • Offer Hygyrchedd
  • English
Mewngofnodi
Prifysgol Abertawe Mewngofnodi
  • Offer Hygyrchedd
  • English
  1. Cartref i Fyfyrwyr Presennol
  2. Bywyd Academaidd
  3. Rheoliadau Academaidd
  4. Rheoliadau Graddau Ymchwil
  5. Doethur Gweinyddu Busnes
  • Eich Prifysgol
    • Cyfadrannau ac Ysgolion
      • Ysgol Diwylliant a Chyfathrebu
      • Yr Ysgol Reolaeth
      • Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton
      • Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol
      • Yr Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol
      • Hwb Ysgol Seicoleg
      • Medical School Hub
      • Ysgol y Biowyddorau, Daearyddiaeth a Ffiseg
      • Yr Ysgol Mathemateg a Chyfrifiadureg
      • Yr Ysgol Peirianneg Awyrofod, Sifil, Drydanol, Gyffredinol a Mecanyddol
      • Yr Ysgol Peirianneg a’r Gwyddorau Cymhwysol
      • Y Coleg, Prifysgol Abertawe
    • Eich Prifysgol - Astudio yn Abertawe
      • Ffurflenni Academaidd
      • Monitro Presenoldeb
      • Arholiadau
      • Canvas
      • Amgylchiadau Esgusodol
      • Gwasanaeth Cyrchu Cyfrifiadur o Bell
      • Dyddiadau Tymhorau a Semestrau
      • Mannau Astudio yn y Llyfrgell
      • Lleoedd Astudio Anffurfiol
    • Gwasanaethau Defnyddiol
      • Llety
      • Lleoedd Bwyta
      • Iechyd a Diogelwch
      • Cymorth TG
      • Gwasanaethau Llyfrgell MyUni
      • Cynlluniwr Teithiau Bws
      • Teithio Myfyrwyr
      • Undeb y Myfyrwyr
  • Cymorth a Lles
  • MyUniHub
  • Newyddion Myfyrwyr
  • Digwyddiadau
  • Croeso 2025
  • Cofrestru a Sefydlu
  • Cymorth Costau Byw
  1. Cartref i Fyfyrwyr Presennol
  2. Bywyd Academaidd
  3. Rheoliadau Academaidd
  4. Rheoliadau Graddau Ymchwil
  5. Doethur Gweinyddu Busnes

Doethur Gweinyddu Busnes

Tudalennau cysylltiedig
  • Cyfadrannau
  • Newyddion Myfyrwyr
  • Desg Gymorth TG
  • Lleoedd Astudio Anffurfiol
  • MyUniVoice
  • Ymchwil Ôl-raddedig
  • FyAbertawe
  • Sut rydym yn cyfathrebu â chi
  • Undeb Myfyrwyr
  • Cysylltu â ni

Doethur Gweinyddu Busnes

Dylid darllen y rheoliadau academaidd hyn ar y cyd â'r Canllawiau Prifysgol Abertawe canlynol, sy’n ymhelaethu ar y rheoliadau ac sy’n cynnig cyfarwyddyd ar y gweithdrefnau:

  • Canllawiau ar Dderbyn Myfyrwyr Ymchwil
  • Canllawiau ar Ymgeisyddiaeth Graddau Ymchwil
  • Canllawiau ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil ar Drosglwyddo a Thynnu’n ôl
  • Canllawiau i Ohirio Astudiaethau ac Estyniadau ar gyfer Myfyrwyr Ymchwil
  • Canllawiau i Fonitro Cynnydd Myfyrwyr Ymchwil
  • Canllawiau ar Gyflogi Myfyrwyr Ymchwil
  • Canllawiau i Fyfyrwyr Ymchwil ar Gyflwyno Traethawd Ymchwil
  • Canllawiau ar Arholi Myfyrwyr Ymchwil
  • Canllawiau i Oruchwylio Ymchwil Ôl-raddedig

1. Cyflwyniad

Mae gradd Doethur Gweinyddu Busnes (DBA) yn ddoethuriaeth broffesiynol ran-amser a luniwyd ar gyfer uwch-reolwyr ac arweinwyr ym mhob sector, preifat, cyhoeddus a'r sector nid er elw.

Ar raglen DBA Abertawe, bydd myfyrwyr yn ymgymryd ag ymchwil gymhwysol, gan ddefnyddio damcaniaeth sefydledig ac arloesol i ymdrin â materion ymarferol eu sefydliadau. Byddant yn datblygu ac yn cyfoethogi ymarfer yn eu maes yn ogystal â chyfrannu at ein dealltwriaeth o sylfaen ddamcaniaethol y gwaith.

Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â Chanllawiau ar Dderbyn Myfyrwyr Ymchwil y Brifysgol.

1.1

Dyfernir graddau doethurol i fyfyrwyr sydd wedi dangos:

  • Eu bod wedi creu a dehongli gwybodaeth newydd, trwy ymchwil wreiddiol neu ysgolheictod uwch arall, sydd o ansawdd sy'n bodloni adolygiad cymheiriaid, sy'n ymestyn ffiniau'r ddisgyblaeth ac sy'n deilwng o gael ei gyhoeddi.
  • Eu bod wedi caffael a deall yn systematig gorff sylweddol o wybodaeth sydd ar flaen y gad mewn disgyblaeth academaidd neu faes ymarfer proffesiynol.
  • Bod ganddynt y gallu cyffredinol i gysyniadu, cynllunio a gweithredu prosiect er mwyn creu gwybodaeth, cymwysiadau neu ddealltwriaeth newydd sydd ar flaen y gad o fewn y ddisgyblaeth, ac i addasu cynllun y prosiect yn wyneb problemau nas rhagwelwyd.
  • Dealltwriaeth fanwl o dechnegau cymwys ar gyfer ymchwil ac archwilio academaidd uwch.

Yn nodweddiadol, bydd deiliaid y cymhwyster yn gallu gwneud y pethau canlynol:

  • Dod i farn wybodus ar faterion cymhleth mewn meysydd arbenigol, yn aml yn absenoldeb data cyflawn, a gallu cyfleu eu syniadau a'u casgliadau yn glir ac yn effeithiol i gynulleidfaoedd arbenigol a lleyg.
  • Parhau i ymgymryd ag ymchwil a datblygu pur a/neu gymwysedig ar lefel uwch, gan gyfrannu'n sylweddol i ddatblygiad technegau, syniadau neu ymagweddau newydd.

A bydd gan y deiliaid:

  • Y rhinweddau a'r sgiliau trosglwyddadwy angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth lle mae gofyn iddynt arfer cyfrifoldeb personol a menter annibynnol i raddau helaeth mewn sefyllfaoedd cymhleth nad oes modd eu darogan mewn amgylchedd proffesiynol neu gyfatebol.

1.2

Rhaid i bob myfyriwr gofrestru'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe a thalu’r ffïoedd priodol a bennir gan y Brifysgol. Fel myfyrwyr cofrestredig, rhaid i’r myfyrwyr gydymffurfio â rheoliadau academaidd a chyffredinol y Brifysgol.

1.3

Ni all myfyrwyr fod wedi cofrestru ar raglen arall sy'n arwain at ddyfarnu cymhwyster yn y brifysgol/sefydliad hwn neu un arall ar yr un pryd heb ganiatâd penodol gan Gadeirydd y Bwrdd Rheoliadau, Ansawdd a Safonau.

1.4

Rhaid i'r holl fyfyrwyr fonitro’r cyfrif ebost a roddwyd iddynt gan y Brifysgol trwy gydol cyfnod yr ymgeisyddiaeth gan y bydd yr holl ohebiaeth electronig oddi wrth y Brifysgol yn cael ei hanfon i gyfrif ebost Prifysgol y myfyriwr. Awgrymir yn gryf bod pob myfyriwr yn defnyddio’r cyfrif ebost Prifysgol a roddwyd iddo wrth gyfathrebu â’r Brifysgol.

1.5

Lefel astudio'r radd ymchwil a reolir gan y rheoliadau hyn fydd Lefel 8 y Fframwaith Cymwysterau Addysg Uwch (Lefel 8 FHEQ).

2. Amodau Derbyn

Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â Chanllawiau ar Dderbyn Myfyrwyr Ymchwil y Brifysgol.

2.1

Rhaid i fyfyrwyr graddau Doethur mewn Gweinyddu Busnes ddal gradd gychwynnol o brifysgol yn y DU neu brifysgol a gymeradwywyd gan y Senedd ac wedi llwyddo i gael o leiaf ail ddosbarth uwch (2:1) neu radd gyfatebol a gydnabyddir gan Brifysgol Abertawe. Fel arfer, bydd gan fyfyrwyr radd Meistr, neu byddant yn astudio tuag ati, o brifysgol yn y DU neu brifysgol arall a gymeradwywyd gan y Senedd.

Fel arfer, disgwylir y bydd gan fyfyriwr radd Doethur mewn Gweinyddu Busnes o leiaf bum mlynedd o brofiad mewn swydd uwch.

Bydd dau gynrychiolwr tîm arwain y rhaglen yn cyfweld â myfyriwr gradd Doethur mewn Gweinyddu Busnes (gan gynnwys cyfarwyddwr y rhaglen fel arfer) a disgwylir iddo ddangos y brwdfrydedd a'r gallu deallusol i ymgymryd â'r DBA.

Caiff myfyriwr gradd Doethur mewn Gweinyddu Busnes ei brosesu drwy'r gweithdrefnau derbyn Ymchwil Ôl-raddedig presennol a bydd yn cyflwyno cynnig ymchwil. Bydd y myfyriwr yn cysylltu â Chyfarwyddwr y Rhaglen, neu bydd hwnnw'n cysylltu â'r myfyriwr, gan gynnig arweiniad ar gwblhau'r cynnig ymchwil.

2.2

Rhaid i bob myfyriwr nad yw'r Saesneg yn iaith frodorol iddo ddarparu tystiolaeth o gymhwysedd yn Saesneg sy'n ddigonol i ymgymryd ag astudiaethau ymchwil fel a ddiffiniwyd gan bolisi derbyn Iaith Saesneg y Brifysgol. Ar ôl cael eu derbyn yn y Brifysgol, gellir cynghori myfyrwyr i ymgymryd â hyfforddiant ieithyddol ychwanegol yn Saesneg i wneud y mwyaf o brofiad y myfyriwr.

2.3

Bydd y penderfyniad i dderbyn ymgeisydd i raglen arfaethedig o ymchwil yn gyfrifoldeb y Deon Gweithredol perthnasol neu unigolyn a enwebwyd ganddo. Dylai penderfyniadau fod yn seiliedig ar y ffactorau canlynol:

  • A yw’r Gyfadran/Ysgol yn fodlon bod yr ymgeisydd yn cyrraedd y safon academaidd angenrheidiol i allu cwblhau’r rhaglen ymchwil a fwriedir, waeth beth fo cymwysterau’r ymgeisydd;
  • A yw’r testun ymchwil a ddewiswyd gan yr ymgeisydd yn addas i’w astudio yn y dyfnder y mae ei angen ar gyfer y radd;
  • A allai aelod priodol o’r staff ddarparu goruchwyliaeth ddigonol yn unol â pharagraff 7;
  • A oes adnoddau a chyfleusterau addas ar gael i gynnal a chefnogi’r rhaglen ymchwil arfaethedig;
  • A yw’n ymddangos yn rhesymol y gellid cwblhau’r rhaglen arfaethedig o fewn y cyfnod byrraf posibl a bennwyd.

2.4

Rhaid i bob myfyriwr fatriciwleiddio o fewn tri mis cyntaf ei ymgeisyddiaeth yn unol â rheoliadau cyffredinol y Brifysgol ar Fatriciwleiddio.

2.5

Rhaid i bob myfyriwr gydymffurfio â Chanllawiau'r Brifysgol ar gyfer Derbyn Myfyrwyr Ymchwil.

3. Strwythur y Rhaglen

Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â Chanllawiau ar Dderbyn Myfyrwyr Ymchwil y Brifysgol.

3.1

Efallai y bydd myfyriwr yn astudio ar gyfer gradd Doethur mewn Gweinyddu Busnes fel myfyriwr rhan-amser drwy gynnal ymchwil naill ai yn y brifysgol neu'n allanol (a elwir yn Ddull C).

3.2

Ni cheir dyfarnu gradd Doethur mewn Gweinyddu Busnes fel gradd er anrhydedd.

3.3

Mae'r DBA wedi'i seilio ar chwe modiwl dros dair blynedd sy’n gyfuniad o ddarlithoedd, sgyrsiau gan siaradwyr gwadd a thrafodaethau gweithdy.

3.4

Bydd elfen ymchwil y rhaglen yn cynnwys llunio traethawd ymchwil. Byddwch yn datblygu traethawd ymchwil y ddoethuriaeth dan arweiniad tîm goruchwylio a gaiff ei ddynodi ar ddechrau'r rhaglen. Caiff myfyrwyr eu cefnogi gan dîm pwrpasol o staff y gwasanaethau academaidd a phroffesiynol, ynghyd â siaradwyr o amrywiaeth eang o sectorau.

4. Cyfnod Ymgeisyddiaeth

Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â Chanllawiau ar Ymgeisyddiaeth Graddau Ymchwil a Chanllawiau ar Drosglwyddo a Thynnu’n Ôl gan Fyfyrwyr Ymchwil y Brifysgol.

Mae gan y radd ran-amser Doethur mewn Gweinyddu Busnes ymgeisyddiaeth fyrraf o 4 blynedd ac ymgeisyddiaeth hwyaf o 7 blynedd.

4.1

Rhaid i fyfyriwr ddilyn rhaglen o astudiaethau wedi'u goruchwylio, gan gynnwys datblygu sgiliau ymchwil a chyffredinol fel myfyriwr rhan-amser. Nodir y cyfnodau byrraf posibl ar gyfer astudio dan oruchwyliaeth, o'r dyddiad cofrestru, yng Nghanllawiau Ymgeisyddiaeth Graddau Ymchwil y Brifysgol.

4.2

Nid yw’r rheoliad sy’n ymwneud â lleihau’r cyfnod ymgeisyddiaeth yn berthnasol i’r radd hon.

4.3

Bydd disgwyl i fyfyrwyr am radd Doethur mewn Gweinyddu Busnes astudio’r rhaglen gyfan ym Mhrifysgol Abertawe ac ni fyddant fel arfer yn cael trosglwyddo credydau am yr elfen cwrs a addysgir o sefydliadau eraill nac o raglenni eraill ym Mhrifysgol Abertawe.

4.4

Mewn rhai achosion, gall myfyrwyr wneud cais i'r Bwrdd Achosion Myfyrwyr, neu gall fod angen iddynt wneud hynny, i drosglwyddo rhaglen astudio fel a amlinellwyd yng Nghanllaw Trosglwyddo a Thynnu'n Ôl Myfyrwyr Ymchwil y Brifysgol. Mewn achosion o’r fath bydd y Brifysgol yn pennu cyfnod cofrestredig byrraf diwygiedig.

4.5

Gwaherddir myfyrwyr rhag trosglwyddo eu hymgeisyddiaeth i sefydliad arall ar ôl cwblhau’r cyfnod byrraf posibl o ymgeisyddiaeth, fel yr amlinellir ym mharagraff 4.1, yn y Brifysgol hon.

5. Dyddiad Cyflwyno

Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â Chanllawiau Ymgeisyddiaeth Graddau Ymchwil y Brifysgol.

5.1

Rhaid i bob myfyriwr gyflwyno traethawd ymchwil erbyn y dyddiad cyflwyno olaf fel a nodir yng Nghanllawiau Ymgeisyddiaeth Graddau Ymchwil y Brifysgol sydd mewn grym ar yr adeg y derbynnir y myfyriwr ac fel a nodir yn y Llythyr Cynnig ffurfiol.

5.2

Pan fydd myfyriwr yn methu cyflwyno traethawd ymchwil erbyn y dyddiad cyflwyno olaf, gall y Brifysgol fynnu bod yr ymgeisyddiaeth yn cael ei therfynu.

6. Gohiriadau ac Estyniadau i Ymgeisyddiaeth

Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â Chanllawiau Gohiriadau ac Estyniadau i Fyfyrwyr Ymchwil a Chanllawiau ar Drosglwyddo a Thynnu’n Ôl Myfyrwyr Ymchwil y Brifysgol.

6.1

Dan amgylchiadau eithriadol, ac yn unol â Chanllawiau Gohiriadau ac Estyniadau i Fyfyrwyr Ymchwil y Brifysgol, gall fod yn ofynnol i fyfyriwr ohirio ei ymgeisyddiaeth am resymau academaidd, disgyblaethol, ariannol neu iechyd. Dylid gwneud pob cais i ohirio ymgeisyddiaeth neu i estyn ymgeisyddiaeth yn unol â pharagraff 2 Canllawiau Gohiriadau ac Estyniadau Myfyrwyr Ymchwil y Brifysgol.

6.2

Pan fydd ymgeisyddiaeth ymgeisydd yn cael ei gohirio, fel a amlinellir ym mharagraffau 6.1 a 6.2 uchod, rhaid nodi, adeg y gohirio, ar ba ddyddiad y bydd yr ymgeisydd yn ailgydio yn yr astudio.

6.3

Pan na fydd ymgeisydd yn ailgydio yn ei astudiaethau erbyn y dyddiad dychwelyd i astudio, bernir bod yr ymgeisydd wedi tynnu’n ôl o’r rhaglen fel sydd wedi’i nodi yng Nghanllawiau Trosglwyddo a Thynnu’n Ôl Myfyrwyr Ymchwil y Brifysgol.

6.4

Byddai'r Bwrdd Achosion Myfyrwyr fel arfer yn mynnu bod myfyrwyr ymchwil sefydledig sydd wedi cwblhau blwyddyn neu fwy o astudiaethau ymchwil amser llawn ond sydd wedi cymryd mwy nag uchafswm yr amser gohirio a ganiateir yn tynnu'n ôl; Fodd bynnag, mewn amgylchiadau eithriadol, mae'n bosibl y caniateir i'r myfyrwyr hyn ailymgeisio i ailgofrestru ar yr un cam â'r ymchwil blaenorol (o fewn cyfnod hwyaf o 2 flynedd o'r dyddiad tynnu'n ôl). Dim ond dan yr amgylchiadau hyn y caniateir cyfnod ymgeisyddiaeth byrrach i fyfyriwr.

7. Goruchwyliaeth

Dylid darllen yr adran hon yn unol â Chanllawiau Goruchwyliaeth Ymchwil Ôl-raddedig y Brifysgol.

7.1

Caiff myfyrwyr eu goruchwylio’n rheolaidd a pharhaus yn unol â'r gweithdrefnau ar gyfer goruchwyliaeth Ôl-raddedig fel a amlinellwyd yng Nghanllawiau Goruchwyliaeth Ymchwil Ôl-raddedig y Brifysgol.

7.2

Bydd gan bob myfyriwr dîm goruchwylio a benodwyd gan y Deon Gweithredol y myfyriwr neu ei enwebai. Bydd y tîm goruchwylio yn cynnwys o leiaf ddau oruchwyliwr mewnol sy'n gymwys ar gyfer y penodiad fel a amlinellwyd yng Nghanllawiau Goruchwyliaeth Ymchwil Ôl-raddedig y Brifysgol. Bydd un goruchwyliwr yn cael ei ddynodi’n oruchwyliwr cyntaf/prif oruchwyliwr.

7.3

Rhaid bod goruchwylwyr mewnol yn aelodau o staff Prifysgol Abertawe fel a amlinellwyd yng Nghanllawiau Goruchwyliaeth Ymchwil Ôl-raddedig y Brifysgol. Y goruchwyliwr cyntaf/prif oruchwyliwr fydd yn gyfrifol yn bennaf am adrodd wrth Fwrdd Dilyniant a Dyfarnu'r Gyfadran/Ysgol, fel a amlinellwyd ym mharagraff 8.

8. Monitro Cynnydd

Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â Chanllawiau ar Fonitro Cynnydd Myfyrwyr Ymchwil y Brifysgol.

8.1

Rhaid i’r Gyfadran/Ysgol gadarnhau ymgeisyddiaeth pob ymgeisydd o fewn tri mis i gofrestriad cychwynnol yr ymgeisydd fel a nodir yng Nghanllawiau Monitro Cynnydd Myfyrwyr Ymchwil y Brifysgol.

8.2

Os nad yw’r Gyfadran/Ysgol yn gallu cadarnhau ymgeisyddiaeth ymgeisydd o fewn tri mis o gofrestriad cychwynnol yr ymgeisydd, efallai y bydd yn rhaid i'r ymgeisydd ohirio neu dynnu yn ôl o'r rhaglen.

8.3

Caiff cynnydd myfyriwr ar ymgeisyddiaeth fyrraf bosib ei fonitro'n rheolaidd gan y Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu er mwyn penderfynu a ganiateir i fyfyriwr symud ymlaen. Caiff cynnydd ei fonitro ar adegau penodol fel a nodir yng Nghanllawiau Monitro Cynnydd Myfyrwyr Ymchwil y Brifysgol.

8.4

Bydd myfyrwyr sy'n mynd y tu hwnt i'w hymgeisyddiaeth fyrraf yn parhau i gael eu monitro'n fisol gan y Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu tan iddynt gyflwyno'r traethawd ymchwil neu ddiwedd yr ymgeisyddiaeth.

8.5

Os ystyrir bod cynnydd myfyriwr yn anfoddhaol gan y Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu, efallai y bydd gofyn i'r myfyriwr drosglwyddo i raglen arall neu dynnu'n ôl o'r rhaglen.

8.6

Yng nghyd-destun paragraffau 8.2 ac 8.5 uchod, bydd gan fyfyrwyr hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau dilyniant yn unol â gweithdrefnau Prifysgol Abertawe ar Gywirdeb Marciau a Gyhoeddwyd neu ei gweithdrefnau ar gyfer Apeliadau Academaidd.

9. Asesu Gradd

Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â'r Canllawiau Cyflwyno Traethawd Ymchwil i Fyfyrwyr Ymchwil y Brifysgol.

9.1

Caiff myfyrwyr gradd Doethur mewn Gweinyddu Busnes eu harholi mewn pedair rhan:

  • Bydd y rhan gyntaf yn cynnwys asesiadau o natur uwch mewn meysydd astudio a bennir gan gyfarwyddwr y rhaglen berthnasol.
  • Bydd yr ail ran ar ffurf traethawd ymchwil sy’n cynnwys dulliau a chanlyniadau’r prosiect ymchwil. Dylid cyflwyno pob traethawd ymchwil yn unol â Chanllawiau Cyflwyno Traethawd Ymchwil i Fyfyrwyr Ymchwil y Brifysgol.
  • Bydd y drydedd rhan ar ffurf cyflwyniad ar lafar gan y myfyriwr i gynulleidfa sy'n cynnwys aelod, neu aelodau, o Fwrdd Arholi'r Traethawd Ymchwil.
  • Bydd y bedwaredd ran ar ffurf arholiad llafar (viva voce) fel y nodir ym mharagraff 15 isod.

9.2

Caiff y Deon Gweithredol ddirprwyo'r gwaith gweinyddol ynghylch cyflwyno ac arholi traethawd ymchwil i aelod o'i staff, a bydd hefyd yn enwebu Cadeirydd y Bwrdd Arholi. Dylai'r Cadeirydd fod yn aelod o staff y Gyfadran/Ysgol, gyda phrofiad addas, nad yw wedi ymwneud yn uniongyrchol fel arall â goruchwylio'r myfyriwr.

9.3

Mewn perthynas ag elfen a addysgir y rhaglen, mae gofyn i fyfyrwyr gyflwyno aseiniadau erbyn y dyddiadau a bennwyd. Bydd peidio â sefyll arholiad neu beidio â chyflwyno gwaith erbyn y dyddiad penodol yn arwain at gofnodi marc o 0%.

9.4

Y marc llwyddo ar gyfer pob modiwl hyfforddi fydd 50% ac ni fydd unrhyw fethiannau a oddefir.

9.5

Rhoddir un cyfle i fyfyrwyr wneud yn iawn am fodiwl a fethir yn ystod y cyfle nesaf sydd ar gael. Rhaid gwneud yn iawn am bob modiwl a fethwyd yn ystod cyfnod hwyaf posibl yr ymgeisyddiaeth.

9.6

Bydd myfyrwyr sy'n llwyddo yn y modiwl ar yr ail gynnig/wrth ailsefyll yn derbyn marc heb ei gapio.

9.7

Bydd methu modiwl ar yr ail gynnig yn arwain at argymhelliad gan y Gyfadran/Ysgol i'r Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau y dylai'r myfyriwr naill ai:

  • Orfod tynnu'n ôl o'r rhaglen;
  • Orfod tynnu'n ôl o'r rhaglen a'r Brifysgol.

9.8

Bydd angen i fyfyrwyr sy'n methu mwy nag un modiwl fynd i gyfweliad gyda chyfarwyddwr y rhaglen. Os bydd y Gyfadran/Ysgol yn argymell y dylai'r myfyriwr dynnu'n ôl yn dilyn y cyfweliad hwn, bydd y Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau'n ei gwneud hi'n ofynnol i'r myfyriwr dynnu'n ôl o'r rhaglen ar unwaith.

9.9

Caiff canlyniadau'r asesiadau eu hystyried a'u cymeradwyo gan Fwrdd Arholi'r Gyfadran/Ysgol yn unol ag arholwr allanol y rhaglen i'w enwebu a'i benodi'n unol â'r gweithdrefnau a amlinellir yng Nghôd Ymarfer Arholwyr Allanol Prifysgol Abertawe. Yn ogystal, gall arholwr allanol y rhaglen fod yn gyfrifol, neu’n rhannol gyfrifol, am raglenni eraill wedi’u haddysgu neu am elfennau o raglenni ymchwil.

9.10

Cyfarwyddwr y rhaglen a fydd yn gyfrifol am goladu canlyniadau'r elfennau a addysgir a chyflwyno canlyniadau'r holl fyfyrwyr i'r Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu.

9.11

Bydd myfyrwyr y mae'n rhaid iddynt dynnu'n ôl o'r Brifysgol yn cael cyfle i apelio drwy weithdrefn Cywirdeb Marciau a Gyhoeddwyd neu weithdrefn Apeliadau Academaidd Prifysgol Abertawe.

10. Cyflwyno Traethawd Ymchwil

Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â Chanllawiau Cyflwyno Traethawd Ymchwil i Fyfyrwyr Ymchwil a Chanllawiau Arholi Myfyrwyr Ymchwil y Brifysgol.

10.1

Bydd myfyrwyr yn cyflwyno hysbysiad o fwriad i gyflwyno traethawd ymchwil i'w arholi o leiaf dri mis cyn y dyddiad cyflwyno disgwyliedig.

10.2

Wedi cwblhau cyfnod byrraf posibl yr ymgeisyddiaeth, caniateir i fyfyriwr gyflwyno copïau o draethawd ymchwil i’w arholi yn unol â Chanllawiau Cyflwyno Traethawd Ymchwil i Fyfyrwyr Ymchwil y Brifysgol.

10.3

Yn ogystal â'r copïau o'r traethawd ymchwil a gyflwynir yn unol â pharagraff 12.2 uchod, rhaid i bob myfyriwr gyflwyno copi electronig hefyd cyn iddo gael ei arholi. Dylid cyflwyno copi electronig o'r traethawd ymchwil wedi'i ddiwygio ar ôl yr arholiad os gwneir unrhyw gywiriadau neu newidiadau.

10.4

Gall unrhyw fyfyriwr sy’n dilyn rhaglen ymchwil yn y Brifysgol ddewis cyflwyno traethawd ymchwil, neu waith arall, yn Gymraeg neu yn Saesneg. Rhaid i fyfyriwr sy’n dymuno cael ei asesu mewn iaith nad yw’n brif iaith addysgu/asesu'r rhaglen dan sylw hysbysu'r Bwrdd Achosion Myfyrwyr cyn diwedd cyfnod byrraf posib yr ymgeisyddiaeth. Gwneir trefniadau yn unol â’r hyn a amlinellir yng Nghanllaw Arholi Myfyrwyr Ymchwil y Brifysgol. Hefyd, rhaid cyflwyno ceisiadau ar gyfer asesu yn y Gymraeg drwy’r Gyfadran/Ysgol cyn diwedd cyfnod byrraf posibl yr ymgeisyddiaeth i sicrhau bod modd trefnu cyfieithu.

10.5

Mewn achosion lle y gellid barnu ei bod hi'n briodol cyflwyno traethawd ymchwil mewn iaith heblaw am Gymraeg/Saesneg am resymau academaidd neu le y mae cyflwyno’r traethawd mewn iaith arall yn un o ofynion y rhaglen benodol, gall y Bwrdd Achosion Myfyrwyr roi caniatâd lle y cyflwynir dadl resymol i’r perwyl hwnnw. Serch hynny, ni fydd y Bwrdd Achosion Myfyrwyr yn cymeradwyo ceisiadau sy’n deillio o ddiffyg gallu’r myfyriwr i gynhyrchu gwaith i’w gyflwyno yn Gymraeg neu yn Saesneg.

10.6

Ar dderbyn hysbysiad o fwriad i gyflwyno, bydd y Deon Gweithredol neu ei enwebai yn enwebu aelodau o’r Bwrdd Arholi a gyfansoddir yn unol â pharagraff 12 isod ac fel y nodir yng Nghanllawiau Arholi Myfyrwyr Ymchwil y Brifysgol. Caiff y myfyriwr ei hysbysu am enwau aelodau arfaethedig y Bwrdd Arholi. Caiff penodiad aelodau’r Bwrdd Arholi ei gadarnhau gan y Pwyllgor Ymchwil Ôl-raddedig.

10.7

Bydd yn rhaid i fyfyrwyr sy’n ailgyflwyno traethawd ymchwil nad yw wedi bodloni’r Arholwyr yn y gorffennol gyflwyno’r traethawd ymchwil diwygiedig yn unol â'r Canllawiau Cyflwyno Traethawd Ymchwil i Fyfyrwyr Ymchwil y Brifysgol. Efallai hefyd y bydd yn rhaid i’r myfyriwr dalu ffi ailgyflwyno ychwanegol.

11. Argaeledd Traethawd Ymchwil

Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â Chanllawiau Cyflwyno Traethawd Ymchwil i Fyfyrwyr Ymchwil a Chanllawiau Arholi Myfyrwyr Ymchwil y Brifysgol.

11.1

Bydd traethawd ymchwil a gyflwynir am radd uwch yn y Brifysgol ar gael yn agored, ac ni chaiff ei roi mewn unrhyw ddosbarthiad diogelwch ac ni fydd unrhyw gyfyngu ar ei ddefnyddio.

11.2

Er gwaethaf paragraff 11.1, mae'n bosib y caniateir i'r Brifysgol, ar argymhelliad arbennig a gymeradwywyd gan y Deon Gweithredol neu ei enwebai, osod gwaharddiad ar fynediad at waith myfyriwr am gyfnod hyd at 5 mlynedd. Dylid cyflwyno cais am waharddiad ar fynediad i i'r Deon Gweithredol neu ei enwebai cyn arholi'r traethawd hir.

12. Cyfansoddiad y Bwrdd Arholi

Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â Chanllawiau Arholi Myfyrwyr Ymchwil y Brifysgol

12.1

Bydd pob Bwrdd Arholi ar gyfer myfyrwyr yn cynnwys yr unigolion canlynol:

  • Cadeirydd annibynnol, a fydd yn y Deon Gweithredol neu’n aelod o staff a chanddo brofiad addas a enwebwyd gan y Deon Gweithredol. Mae disgwyl i Gadeirydd y Bwrdd Arholi gadeirio’r arholiad llafar ac unrhyw gyfarfod o’r arholwyr.
  • Arholwr neu arholwyr allanol a benodir yn unol â Chanllawiau'r Brifysgol ar Arholi Myfyrwyr Ymchwil.
  • Arholwr mewnol a benodir yn unol â Chanllawiau Arholi Myfyrwyr Ymchwil y Brifysgol.

12.2

Bydd Cadeirydd y Bwrdd Arholi yn annibynnol yn y broses arholi a bydd yn atebol i’r Pwyllgor ar gyfer Ymchwil Ôl-raddedig parthed cynnal yr arholiad.

12.3

Ni chaniateir i oruchwylwyr y myfyriwr nac unrhyw aelod o staff sydd ynghlwm wrth oruchwylio’r myfyriwr fod yn rhan o’r Bwrdd Arholi, ond gall Cadeirydd y Bwrdd Arholi eu gwahodd, wedi cael caniatâd ysgrifenedig penodol yr ymgeisydd ymlaen llaw, i fynychu’r arholiad llafar mewn rôl ymgynghorol. Ni chaiff ymgynghorydd siarad dim ond ar ôl cael ei wahodd i wneud hynny gan y Cadeirydd.

12.4

Pan fydd myfyriwr yn aelod o staff y Brifysgol adeg yr arholiad, bydd y Bwrdd Arholi yn cynnwys yr unigolion canlynol:

  • Cadeirydd, fel y nodir ym mharagraff 12.1 a) uchod.
  • Dau arholwr allanol, a benodir yn unol â Chanllawiau Arholi Myfyrwyr Ymchwil y Brifysgol.

12.5

Bydd Cadeirydd y Bwrdd Arholi yn gyfrifol am sicrhau bod yr arholwr neu arholwyr mewnol, a’r arholwr neu arholwyr allanol, yn derbyn copïau o’r traethawd ymchwil i’w arholi ynghyd ag unrhyw ddogfennau perthnasol eraill fel y nodir yng Nghanllawiau Arholi Myfyrwyr Ymchwil y Brifysgol.

13. Arholiad Llafar (Viva Voce)

Dylid darllen yr adran hon ar y cyd â Chanllawiau Cyflwyno Traethawd Ymchwil i Fyfyrwyr Ymchwil a Chanllawiau Arholi Myfyrwyr Ymchwil y Brifysgol.

13.1

Bydd disgwyl i’r Bwrdd Arholi gynnal arholiad llafar ar gyfer pob myfyriwr ar gyfer gradd ymchwil. Yn achos myfyriwr y caniateir iddo ailgyflwyno o fewn 12 mis, fel arfer byddai disgwyl ail viva. Fodd bynnag, mewn achosion eithriadol, gellir hepgor yr angen i gynnal ail arholiad llafar os darperir dadl fanwl o blaid ei ddileu yn adroddiad ysgrifenedig Cadeirydd y Bwrdd Arholi. Bydd angen i'r adroddiad ysgrifenedig gael ei gytuno, a'i gyd-lofnodi, gan bob aelod o'r Bwrdd Arholi.

13.2

Fel arfer, cynhelir pob arholiad llafar ym Mhrifysgol Abertawe o fewn chwe mis o ddyddiad cyflwyno’r traethawd ymchwil. Byddai angen cytuno ar unrhyw eithriadau naill ai fel eithriad neu gytuno i adlewyrchu natur yr amgylchiadau.

13.3

Mae angen i unrhyw fyfyriwr y mae angen darpariaeth arbennig arno ar gyfer yr arholiad llafar hysbysu'r Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu cyn cyflwyno'r traethawd. Gwneir trefniadau yn unol â’r hyn a amlinellir yng Nghanllawiau Arholi Myfyrwyr Ymchwil y Brifysgol.

13.4

Bydd gan oruchwylwyr y myfyriwr yr hawl i gyfleu i Gadeirydd y Bwrdd Arholi unrhyw bryderon ynghylch prosiect ymchwil myfyriwr, ynghylch y thesis sy’n deillio ohono neu ynghylch ei arholi y mae’r goruchwylwyr yn teimlo y dylai’r Bwrdd eu hystyried cyn gwneud ei benderfyniad. Bydd y goruchwylwyr yn cyfleu’r pryderon hyn, yn ysgrifenedig, i’r Cadeirydd ac i’r myfyriwr cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol wedi cyflwyno’r thesis ac yn ddigon cynnar i roi digon o amser i’r myfyriwr, cyn arholi’r traethawd ymchwil (gan gynnwys unrhyw arholiad llafar), ystyried y pwyntiau a wnaed a pharatoi ymateb.

13.5

Cynhelir yr arholiad llafar yn unol â Chanllawiau Arholi Myfyrwyr Ymchwil y Brifysgol. Caiff argymhelliad y Bwrdd Arholi ei gyflwyno i'r Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu at ddibenion cadarnhau.

14. Cymwysterau Ymadael

14.1

Gall myfyriwr sydd wedi cofrestru ar gyfer gradd Doethur mewn Gweinyddu Busnes ond sydd ymhen amser yn methu neu’n cael ei wahardd rhag cwblhau’r radd, gan ddibynnu ar lefel yr astudiaethau a gyflawnwyd, fod yn gymwys i dderbyn un o gymwysterau canlynol y Brifysgol:

  • Lefel astudio a gyflawnwyd Gall y myfyriwr ymadael yn gymwys ar gyfer:
    • Cwblhau o leiaf 180 o gredydau'n llwyddiannus Meistr (MSc) drwy Ymchwil.

15. Graddau Aegrotat ac Wedi Marwolaeth

15.1

Dilynwch y ddolen isod i weld y rheoliadau ar raddau Aegrotat.

Dilynwch y ddolen isod i weld y rheoliadau ar raddau wedi Marwolaeth.

16. Apêl Academaidd

16.1

Caiff myfyrwyr nad yw’r Bwrdd Arholi wedi’u hargymell ar gyfer y dyfarniad mewn perthynas â'r dyfarniad y cyflwynwyd ei eu traethawd ymchwil ar ei gyfer apelio yn erbyn y penderfyniad a gofyn am apêl academaidd. Cynhelir pob apêl academaidd yn unol â gweithdrefnau Cywirdeb Marciau a Gyhoeddwyd a gweithdrefnau Apeliadau Academaidd Prifysgol Abertawe.

17. Camymddygiad Academaidd

17.1

Caiff honiadau o gamymddygiad academaidd eu hystyried yn unol â gweithdrefnau a rheoliadau Camymddygiad Academaidd. Caiff honiadau o gamymddygiad academaidd a dderbynnir gan y Brifysgol wedi dyfarnu'r radd i'r myfyrwyr eu hystyried gan y sefydliad sy'n dyfarnu'r radd.

18. Addasrwydd i Ymarfer

18.1

Ystyrir honiadau ynghylch addasrwydd i ymarfer yn unol â rheoliadau Addasrwydd i Ymarfer Prifysgol Abertawe.

19. Cwynion

19.1

Dylai myfyrwyr sy’n anfodlon ar y dysgu a’r addysgu, y cyfleusterau neu'r gwasanaethau a ddarperir gan y Brifysgol, neu’r modd y mae’r Brifysgol, ei myfyrwyr, neu ei staff wedi ymddwyn neu heb ymddwyn, ddilyn y camau gweithredu a amlygir yng Ngweithdrefn Cwynion Prifysgol Abertawe.

20. Myfyrwyr Rhyngwladol a Gofynion Fisa

20.1

Os oes angen fisa ar fyfyrwyr rhyngwladol i'w galluogi i astudio yn y Brifysgol, dylent sylwi bod eu hawl i astudio yn y Brifysgol yn amodol ar fodloni amodau eu fisa a'r terfynau amser a bennir gan Swyddfa Fisâu a Mewnfudo Swyddfa Gartref y Deyrnas Unedig). Am ragor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/browse/visas-immigration/student-visas.

20.2

Gwneir penderfyniadau gan y Brifysgol o ran statws cofrestru myfyriwr, perfformiad academaidd, cynnydd, a'r dyfarniad, yn unol â rheoliadau academaidd ac ariannol y Brifysgol, ac ni fydd cyfyngiadau fisa na chyfyngiadau amser a osodir gan Asiantaeth Fisâu a Mewnfudo'r Deyrnas Unedig (UKVI) yn effeithio arnynt. Fodd bynnag, mae parhau ag astudiaethau'n amodol ar fodloni gofynion y Brifysgol a dal fisa ddilys.

Dylai myfyrwyr â phryderon neu ymholiadau am eu fisâu gysylltu â Rhyngwladol@BywydCampws.

  • Cyfadrannau
  • Newyddion Myfyrwyr
  • Desg Gymorth TG
  • Lleoedd Astudio Anffurfiol
  • MyUniVoice
  • Ymchwil Ôl-raddedig
  • FyAbertawe
  • Sut rydym yn cyfathrebu â chi
  • Undeb Myfyrwyr
  • Cysylltu â ni
  • Mae Prifysgol Abertawe yn elusen gofrestredig, Rhif 1138342