G1
Mae'r rheoliadau hyn yn berthnasol i'r rhaglen MPharm a'r rhaglen MPharm gyda Blwyddyn Baratoi (Sylfaen).
G2
Er mwyn symud o un flwyddyn i'r un nesaf, rhaid i fyfyrwyr gronni 120 o gredydau. Rhaid iddynt hefyd lwyddo yn holl gydrannau asesu'r modiwlau dim credyd.
Ym Mlwyddyn 0 (Lefel 3), rhaid i fyfyrwyr gyflawni 40% neu'n fwy i basio modiwl, ond er mwyn symud i Flwyddyn 1 (Lefel 4) y radd MPharm mewn Fferylliaeth, rhaid i fyfyrwyr hefyd gyflawni cyfartaledd cyffredinol o 60% neu'n uwch ym Mlwyddyn 0 yn ogystal â 60% neu'n uwch yn y modiwlau "Hanfodion Cemeg Organig" a "Sylfeini Fferylliaeth".
Os bydd ymgeiswyr ym mlwyddyn 0 yn methu'r asesiadau atodol neu'n methu cyflawni 60% neu'n uwch yn y ddau fodiwl a nodwyd a/neu gyfartaledd o 60% neu'n uwch yn gyffredinol yn ystod Blwyddyn 0, NI fyddant yn cael mynd ymlaen i flwyddyn 1 y radd nac ail-wneud y flwyddyn.
Ym Mlynyddoedd 1 - 3 (Lefelau 4-6) er mwyn symud i'r flwyddyn astudio nesaf, rhaid i fyfyrwyr gyflawni naill ai marc o 40% neu'n fwy NEU ar gyfer asesiadau set safonol ar y sgôr trothwy neu'n uwch, yn holl gydrannau'r asesiad neu gyfuniad o gydrannau, fel a nodir yn profformas y modiwl. Rhaid i fyfyrwyr hefyd lwyddo ym mhob cydran y modiwlau dim credyd.
Ym Mlwyddyn 4 (Lefel 7), er mwyn graddio, rhaid i fyfyrwyr gyflawni naill ai marc o 50% neu'n fwy NEU ar gyfer asesiadau set safonol ar y sgôr trothwy neu'n uwch, yn holl gydrannau'r asesiad fel a nodir yn profformas y modiwl. Rhaid i fyfyrwyr lwyddo ym mhob cydran o'r modiwl dim credyd hefyd.
Bydd hawl gan fyfyrwyr ym Mlynyddoedd 0 i 4 (Lefelau 3, 4, 5, 6 a 7) gael ymgais atodol mewn hyd at 120 o gredydau y flwyddyn. NI fydd myfyrwyr sy'n methu eu hasesiadau atodol yn cael symud ymlaen i'r flwyddyn astudio nesaf.
NI fydd myfyrwyr ym mlwyddyn 0 and 1 (Lefel 3 a 4) sy’n methu’r asesiadau atodol yn cael ail-wneud y flwyddyn ac ystyrir eu bod wedi methu’r radd.
Caiff modiwlau dim credyd eu hasesu ar sail llwyddo/methu cymhwysedd ac felly nid ydynt yn cyfrannu at ddosbarth gradd myfyrwyr. Fodd bynnag, ni all myfyrwyr symud drwy'r rhaglen na derbyn dyfarniad gradd MPharm heb gwblhau'r modiwlau hyn yn llwyddiannus.
G3
Ystyrir bod modiwlau'r rhaglenni MPharm ac MPharm gyda Blwyddyn Baratoi (Sylfaen) yn rhai “craidd” ac mae'n rhaid llwyddo ynddynt cyn y gall ymgeisydd fynd ymlaen i'r flwyddyn nesaf.
G4
Yn ychwanegol, rhaid i ymgeiswyr fodloni’r safon ofynnol o ymddygiad proffesiynol fel y'i hamlinellir yn Safonau Gweithwyr Fferyllol y Cyngor Fferyllol Cyffredinol.
G5
Rhaid i fyfyrwyr fodloni gofynion cyfranogiad ac asesu pob modiwl. Caiff cyfranogiad ei fonitro yn unol â Polisi Monitro Cyfranogiad Myfyrwyr a Addysgir.
G6
Os yw ymgeiswyr wedi cymhwyso i symud ymlaen i’r flwyddyn astudio nesaf, ni chaniateir iddynt ail-wneud unrhyw gydran modiwl neu asesiad y maent eisoes wedi llwyddo ynddi er mwyn gwella eu perfformiad, ac eithrio ym mlwyddyn 0 yn unol â Rheoliad 25.6.
G7
Bydd ymgeiswyr y rhoddir caniatâd iddynt sefyll arholiadau atodol, neu y mae’n rhaid iddynt gyflwyno gwaith atodol, yn derbyn marc wedi’i gapio ar lefel lwyddo yn y gydran asesu unigol (40% yn lefelau 5 a 6, 50% yn lefel 7), ar yr amod eu bod yn bodloni’r arholwyr. Defnyddir y marc wedi'i gapio at ddibenion pennu dosbarth ym mhob modiwl o'r fath, ni waeth am y perfformiad gwirioneddol. Caiff marciau ymgeiswyr sy'n ail-wneud modiwlau ar Lefel 7 eu capio ar 50%. Bydd Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau'r Brifysgol yn cyfeirio at y marc wedi'i gapio wrth bennu'r cyfartaledd ar gyfer y lefel astudio.
Nid yw hyn yn berthnasol i ymgeiswyr sy'n ail-wneud modiwlau ar Lefelau 3 a 4 (blynyddoedd 0 a 1) gan y bydd y marc gwirioneddol yn cael ei gofnodi yn eu hachos hwy.
G8
Os oes rhaid i ymgeiswyr gyflwyno gwaith cwrs atodol, bydd yr Ysgol Feddygaeth yn rhoi gwybod iddynt am y gwaith cwrs gofynnol. Ni chynhwysir manylion gwaith cwrs atodol yn y canlyniadau a gyhoeddir gan y Gwasanaethau Addysg ar gofnod unigol y myfyriwr.
G9
Disgwylir i ymgeiswyr gwblhau blwyddyn astudio o fewn un sesiwn academaidd fel arfer.
G10
Os bydd ymgeiswyr (ac eithrio ymgeiswyr blwyddyn 0 (Lefel 3) ac ymgeiswyr blwyddyn 1 (Lefel 4) yn methu cymhwyso i fynd ymlaen i'r flwyddyn astudio nesaf ar ôl y cyfnod asesu atodol, gellir caniatáu iddynt, yn ôl disgresiwn Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau'r Brifysgol, ail-wneud y flwyddyn astudio ar yr amod y gellir cwblhau'r flwyddyn astudio o fewn cyfnod terfyn amser yr ymgeisyddiaeth. Bydd yn rhaid i ymgeiswyr o’r fath fforffedu unrhyw gredyd a phwyntiau dyfarniad a enillwyd eisoes ac ni ellir cyfeirio at y rhain mwyach. Bydd disgwyl i ymgeiswyr ail-wneud y flwyddyn astudio gyfan fel ymgeisydd mewnol ac ni chaiff y marciau a enillir yn ystod asesiadau cyntaf y flwyddyn ailsefyll eu capio.
G11
Bydd ymgeiswyr (ac eithrio ymgeiswyr blwyddyn 0 (Lefel 3) a Blwyddyn 1 (Lefel 4) yn derbyn penderfyniad academaidd i “Ail-wneud y Flwyddyn Astudio” UNWAITH os byddant yn methu ennill 120 o gredydau mewn unrhyw flwyddyn astudio (h.y. Blynyddoedd 2, 3 a 4. a/neu'n methu i lwyddo yn y modiwl 0 credyd. Os bydd ymgeiswyr ym mlwyddyn 0 yn methu'r asesiadau atodol neu'n methu cyflawni 60% neu'n uwch yn y ddau fodiwl a nodwyd a/neu gyfartaledd o 60% neu'n uwch yn gyffredinol yn ystod blwyddyn 0, NI fyddant yn cael mynd ymlaen i flwyddyn 1 y radd nac ail-wneud y flwyddyn.Os bydd ymgeiswyr ym mlwyddyn 1 yn methu’r asesiadau atodol, ni chaniateir iddynt ail-wneud y flwyddyn ac ystyrir eu bod wedi methu’r radd.
G12
Bydd yr Is-bwyllgor Iechyd ac Ymddygiad Fferylliaeth yn monitro ymgeiswyr sy’n ail-wneud y flwyddyn yn agos.
G13
Os bydd ymgeiswyr yn ail-wneud y flwyddyn astudio ac yn methu ennill digon o gredydau i symud ymlaen i’r flwyddyn nesaf, rhoddir un cyfle arall iddynt wneud yn iawn am fethiant yn ystod y cyfnod asesu atodol er mwyn cwblhau eu rhaglen astudio. Ystyrir bod ymgeiswyr o'r fath sy’n methu ennill digon o gredydau neu'n methu'r modiwl dim credyd i symud ymlaen i’r flwyddyn astudio nesaf ar ôl y cyfnod asesu atodol wedi methu eu gradd.
G14
Mae Polisi Amgylchiadau Esgusodol ar waith o ran asesiadau ar gyfer y rhaglenni MPharm ac MPharm gyda Blwyddyn Baratoi (Sylfaen). Tybir bod ymgeisydd sy'n cymryd rhan mewn asesiad ac yn ei gwblhau mewn cyflwr addas i ymgymryd â'r asesiad. Os oes amgylchiadau esgusodol, bydd yn rhaid cyflwyno cais am amgylchiadau esgusodol o fewn pum niwrnod gwaith fan bellaf o ddyddiad cau cyflwyno'r asesiadau/ddyddiad yr arholiad NEU'R terfyn amser penodedig a gyhoeddir gan y Gyfadran/Ysgol.
G15
Mae'n bosib na fydd rhai ymgeiswyr yn gallu cymryd rhan mewn arholiadau, e.e. oherwydd salwch neu amgylchiadau esgusodol eraill. Felly, cydnabyddir bod hawl gan y myfyrwyr hyn i ohirio'r cyfle ac ymgymryd â'r asesiad pan na fydd y canlyniad yn cael ei gapio, fel arfer yn ystod y cyfnod asesu atodol. Os bydd yr ymgeiswyr hyn yn aflwyddiannus yn ddiweddarach yn ystod y cyfnod asesu atodol, rhoddir cyfle arall iddynt wneud yn iawn am y methiant. Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr o’r fath wneud cais ar yr asesiad pan ddaw’r cyfle nesaf i wneud hynny, a byddai hyn fel arfer yn ystod y sesiwn academaidd ddilynol fel ymgeisydd allanol.
G16
Dylai myfyrwyr hysbysu'r Ysgol Feddygaeth am eu hamgylchiadau esgusodol a chyflwyno cais i ohirio asesiad cyn dyddiad yr asesiad neu o fewn 5 niwrnod gwaith i ohirio asesiad. Ystyrir ceisiadau i ohirio asesiad yn unol â'r Polisi ar Amgylchiadau Esgusodol.
G17
Mae’n bosib y caniateir i ymgeiswyr sy’n methu ymgymryd â’r asesiad a ohiriwyd yn ystod y cyfnod asesu atodol ym mis Awst ail-wneud y flwyddyn ar yr amod nad yw’r ymgeisydd eisoes wedi ail-wneud blwyddyn (gweler G11).
G18
Fel arfer, bydd y rheolau a amlinellir yn y Rheolau Dilyniant Penodol yn dylanwadu ar Fwrdd Dilyniant a Dyfarniadau'r Brifysgol wrth wneud penderfyniadau ar gyfer ymgeiswyr. Fodd bynnag, ni ddylai ymgeiswyr ddisgwyl bod hawl ganddynt i ymgymryd ag asesiad atodol, neu ail-wneud y flwyddyn astudio. Gall y Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau ystyried amgylchiadau eraill sy'n berthnasol i achos yr ymgeisydd cyn gwneud unrhyw benderfyniad ar ddilyniant. Ni ddisgwylir i'r Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau ganiatáu i fyfyriwr symud ymlaen i'r flwyddyn nesaf neu fod yn gymwys am ddyfarniad oni bai ei fod wedi bodloni'r meini prawf sylfaenol.
G19
Gall ymgeisydd a dderbynnir ar y rhaglen MPharm neu'r rhaglen MPharm gyda Blwyddyn Baratoi (Sylfaen) fod yn gymwys am gymhwyster ymadael ar yr amod ei fod:
Wedi cronni isafswm nifer y credydau sy'n ofynnol am y dyfarniad;
neu
Wedi bodloni gofynion academaidd y rhaglen ond wedi methu cyrraedd y safon ofynnol o ymddygiad proffesiynol. Bydd ymgeiswyr o’r fath yn gymwys, gan ddibynnu ar y nifer o gredydau a gronnwyd, ar argymhelliad y Bwrdd Arholi perthnasol, am ddyfarniad:
Tystysgrif Sylfaen yn y Gwyddorau Fferyllol ac Iechyd (120 o gredydau ar Lefel 3)
Tystysgrif Addysg Uwch yn y Gwyddorau Fferyllol ac Iechyd (120 o gredydau ar Lefel 4)
Diploma Addysg Uwch yn y Gwyddorau Fferyllol ac Iechyd (240 o gredydau)
Baglor Gwyddoniaeth (Anrhydedd yn y Gwyddorau Iechyd a Fferyllol) (360 credyd)
Gradd Meistr mewn Gwyddoniaeth yn y Gwyddorau Iechyd a Fferyllol (480 o gredydau)
Gweler Rheoliad 26 ynghylch Cymwysterau Ymadael o ran y rhaglenni MPharm ac MPharm gyda Blwyddyn Baratoi (Sylfaen).