Mae'r rheoliadau hyn yn berthnasol i'r radd MPharm (Anrh) mewn Fferylliaeth a’r radd MPharm (Fferylliaeth) gyda Blwyddyn Baratoi (Sylfaen).
Yn y ddogfen hon, mae ‘MPharm (Anrh)’ yn cyfeirio at y ddwy raglen.
Mae'r rheoliadau hyn yn berthnasol i'r radd MPharm (Anrh) mewn Fferylliaeth a’r radd MPharm (Fferylliaeth) gyda Blwyddyn Baratoi (Sylfaen).
Yn y ddogfen hon, mae ‘MPharm (Anrh)’ yn cyfeirio at y ddwy raglen.
RHEOLIADAU A GWEITHDREFNAU ACADEMAIDD AR GYFER YR MPHARM
1.1
Gall ymgeiswyr fod yn gymwys am ddyfarniad gradd Meistr mewn Fferylliaeth (MPharm) gan Brifysgol Abertawe yn unol â'r rheoliadau hyn wrth gwblhau'r rhaglenni astudio'n llwyddiannus.
1.2
Caiff y radd ei dyfarnu i ymgeiswyr sy'n bodloni'r gofynion fel y'u hamlinellir yn rheoliadau asesu'r rhaglen (Adran 25), sy'n cyd-fynd â safonau addysg a hyfforddiant fferyllol y Cyngor Fferyllol Cyffredinol (GPhC), ac sydd wedi dangos y canlynol:
Yn nodweddiadol, bydd deiliaid y cymhwyster yn gallu:
A bydd gan y deiliaid:
1.3
Mae'r cwrs yn cynnwys rhaglenni astudio ac ymarfer proffesiynol integredig sy'n cynnwys sawl lefel astudio (lefelau 4 – 7 ar gyfer y rhaglen MPharm a 3 – 7 ar gyfer yr MPharm gyda rhaglen Blwyddyn Baratoi (Sylfaen)). Bydd canlyniadau terfynol y cymhwyster yn bodloni disgwyliadau Côd Ansawdd Addysg Uwch Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (QAA) y DU a disgrifydd y Fframwaith Cymwysterau Addysg Uwch (FHEQ) ar gyfer cymhwyster ar lefel 7.
1.4
Rhaid i bob ymgeisydd gofrestru'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe a thalu’r ffioedd priodol a bennir gan y Brifysgol.
1.5
Ni all ymgeiswyr amser llawn gofrestru ar y rhaglen MPharm ac ar y rhaglen MPharm gyda Blwyddyn Baratoi (Sylfaen) os ydynt wedi'u cofrestru ar raglen radd arall ar yr un pryd, boed yn y Brifysgol hon neu brifysgol/sefydliad arall, heb ganiatâd penodol Cadeirydd y Bwrdd Achosion Myfyriwr.
1.6
Fel rheol, bydd ymgeisyddiaeth myfyriwr sydd wedi torri Rheoliad 1.5 yn cael ei chanslo ar unwaith.
1.7
Disgwylir i bob ymgeisydd gofrestru yn ystod yr wythnos gyntaf o'r semester cyntaf yn ystod y cyfnod cofrestru, yn unol â chyfarwyddiadau'r Ysgol Feddygaeth. Fel arfer, ni chaniateir cofrestru hwyr.
1.8
Fodd bynnag, os nad oes modd i ymgeiswyr gofrestru yn unol â pharagraff 1.7, cânt eu cyfeirio at y Pennaeth Fferylliaeth am benderfyniad.
1.9
Fel myfyrwyr cofrestredig, rhaid i’r ymgeiswyr gydymffurfio â Rheoliadau Academaidd a Chyffredinol y Brifysgol.
2.1
Caiff y flwyddyn academaidd ei strwythuro yn unol â'r wybodaeth am ddyddiadau semester a thymor a gyhoeddir ar wefan y Brifysgol.
2.2
Bydd cyfnod arholi atodol hefyd, a fydd, lle bynnag y bo modd, yn cyd-fynd â chyfnod arholi atodol y Brifysgol. Gellir cynnig cyfle i fyfyrwyr blwyddyn olaf (h.y. Blwyddyn 4 (Lefel 7)) ailsefyll arholiadau i'w galluogi i ddechrau hyfforddiant sylfaen ôl-raddedig (Blwyddyn 5) yn brydlon.
3.1
Caiff ymgeiswyr eu derbyn ar y rhaglen MPharm a'r rhaglen MPharm gyda Blwyddyn Baratoi (Sylfaen) yn unol â gofynion penodol y rhaglen a gofynion cyffredinol y Brifysgol o ran matriciwleiddio.
3.2
Matriciwleiddio yw derbyn ymgeiswyr yn ffurfiol ar raglen astudio sy’n arwain at radd neu ddyfarniad academaidd arall gan y Brifysgol. Rhaid i ymgeiswyr nad ydynt eisoes wedi’u matriciwleiddio ym Mhrifysgol Abertawe gyflwyno tystiolaeth o'u cymwysterau i’r Swyddfa Derbyn Myfyrwyr a/neu HybMyUni ar ffurf y tystysgrifau gwreiddiol neu'r trawsgrifiadau academaidd gwreiddiol sy'n cadarnhau bod y sefydliad neu'r corff dyfarnu arall wedi dyfarnu'r cymhwyster/cymwysterau. Bydd canlyniadau israddedigion Abertawe yn cael eu gwirio gan ddefnyddio cronfa ddata cofnodion myfyrwyr y Brifysgol.
3.3 Rhaid i ymgeisydd ar gyfer dyfarniad MPharm ddangos y canlynol cyn dechrau astudio:
3.3.1
Gallu academaidd ar lefel ddigonol ar gyfer gradd MPharm. Gellir cael gafael ar ofynion mynediad o ran Safon Uwch/Bagloriaeth Ryngwladol/eraill a TGAU drwy'r Swyddfa Derbyn Myfyrwyr.
3.3.2
Tystiolaeth o allu cyfathrebu'n effeithiol yn Saesneg (gwrando, darllen, ysgrifennu a siarad). I fyfyrwyr rhyngwladol, mae profion IELTS (neu rai cyfatebol) yn berthnasol a gall y Swyddfa Derbyn Myfyrwyr roi arweiniad ar y lefel lwyddo sy’n briodol i'r rhaglen MPharm a all fod yn angenrheidiol er mwyn caniatáu i ymgeisydd barhau â’i astudiaethau.
3.3.3
Gofynion sylfaenol eraill yn unol â chyfarwyddyd y Brifysgol neu'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol (GPhC), e.e. gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, ac asesiad iechyd.
3.4
Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr ymgyfarwyddo â chanllawiau cydnabyddedig ar ymddygiad proffesiynol, e.e. Safonau'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol i Weithwyr Fferyllol Proffesiynol, a pharchu'r canllawiau hynny.
4.1
Mae’r Brifysgol yn disgwyl i bob ymgeisydd gofrestru er mwyn cael ei gydnabod yn fyfyriwr y Brifysgol. Bydd pob ymgeisydd yn cofrestru yn unol â'r cyfarwyddiadau cofrestru ar gyfer y rhaglen MPharm a'r rhaglen MPharm gyda Blwyddyn Baratoi (Sylfaenol) ac o fewn y cyfnod cofrestru penodedig.
4.2
Mae’n ofynnol i ymgeiswyr gofrestru o fewn y cyfnod cofrestru penodedig:
4.3
Er mwyn cofrestru yn y Brifysgol, mae’n ofynnol i ymgeiswyr, lle y bo’n berthnasol, ddarparu tystiolaeth o’u hawl i astudio yn y Brifysgol yn unol â'r canlynol:
4.4
Os na fydd yr ymgeisydd yn darparu tystiolaeth foddhaol o'i hawl i astudio yn y Brifysgol yn unol â Rheoliad 4.3 uchod ac erbyn y dyddiad cau a bennwyd, ystyrir nad yw’r ymgeisydd yn gymwys i gofrestru.
4.5
Lle ystyrir nad yw'r ymgeisydd yn gymwys i gofrestru a/neu mae'n methu cofrestru o fewn cyfnod cofrestru penodedig, bydd ei ymgeisyddiaeth yn dod i ben a bydd yn rhaid iddo dynnu'n ôl o’r Brifysgol. Caiff ceisiadau i adfer ymgeisyddiaeth a chaniatâd i gofrestru'n hwyr eu hystyried yn weinyddol gan uwch-aelod o staff y Gwasanaethau Addysg (mewn ymgynghoriad â'r Ysgol Feddygaeth) ar ran y Bwrdd Achosion Myfyriwr.
4.6
Bydd y Brifysgol yn hysbysu’r awdurdodau perthnasol, o fewn cyfnod penodedig yn unol â chyfreithiau’r Deyrnas Unedig (DU) o ran astudio yn y DU, am y myfyrwyr sydd wedi’u tynnu’n ôl oherwydd eu methiant i gofrestru ar gyfer rhaglen astudio o fewn y cyfnod cofrestru penodedig.
4.7
Drwy gofrestru, mae myfyrwyr yn derbyn bod disgwyl iddynt gydymffurfio â Safonau Gweithwyr Fferyllol Proffesiynol y Cyngor Fferyllol Cyffredinol.
4.8
Fel myfyrwyr cofrestredig, mae'n bosib y bydd yn rhaid i ymgeiswyr gael brechiadau penodol, oni bai bod rhesymau meddygol dros beidio â chael eu brechu.
5.1
Bydd ymgeiswyr yn astudio'n amser llawn yn unig, gan gwblhau 120 o gredydau bob blwyddyn fel arfer.
6.1
Hyd y rhaglen MPharm mewn Fferylliaeth fydd pedair blynedd. Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr astudio 120 o gredydau bob blwyddyn academaidd, gan gronni cyfanswm o 480 o gredydau er mwyn bod yn gymwys am ddyfarniad MPharm. Rhaid llwyddo ym mhob modiwl dim credyd hefyd.
6.2
Gan gydnabod natur arbennig y rhaglen MPharm, cyfeirir at y lefelau astudio gwahanol fel blwyddyn 1, 2, 3 a 4
Lefel FHEQ | Blwyddyn Astudio | Disgrifyddion Dysgu |
---|---|---|
4 | 1 | Blwyddyn gyntaf y rhaglen gradd MPharm. Ar ôl cwblhau'r lefel astudio hon, bydd gan y myfyriwr wybodaeth gadarn am gysyniadau sylfaenol y pwnc, a bydd wedi dysgu dulliau gwahanol o ddatrys problemau. |
5 | 2 | Ail Flwyddyn y rhaglen gradd MPharm. Ar ôl cwblhau'r lefel astudio hon, bydd y myfyriwr wedi meithrin dealltwriaeth gadarn o'r egwyddorion yn ei faes astudio, yn ogystal â dysgu sut i roi'r egwyddorion hynny ar waith yn ehangach a sut i werthuso addasrwydd gwahanol ddulliau o ddatrys problemau. |
6 | 3 | Trydedd flwyddyn y rhaglen gradd MPharm. Ar ôl cwblhau'r lefel astudio hon, bydd y myfyriwr wedi meithrin dealltwriaeth o gorff cymhleth o wybodaeth, y bydd rhan ohono ar ffiniau cyfredol Fferylliaeth. Bydd y myfyriwr wedi datblygu technegau dadansoddi a sgiliau datrys problemau a bydd yn gallu gwerthuso tystiolaeth, dadleuon a rhagdybiaethau i gyrraedd casgliadau cadarn a'u cyfleu'n effeithiol. |
7 | 4 (Gradd Uwch Gychwynnol) | Pedwaredd flwyddyn (Blwyddyn Olaf) y rhaglen MPharm (rhaglen gradd gychwynnol uwch). Ar ôl cwblhau'r lefel astudio hon, bydd y myfyriwr wedi meithrin dealltwriaeth o gorff cymhleth o wybodaeth, y bydd rhan ohono wrth wraidd maes Fferylliaeth. Bydd y myfyriwr yn gallu ymdrin â materion cymhleth yn systematig ac yn greadigol a bydd yn gallu mynd i'r afael â phroblemau a'u datrys mewn modd gwreiddiol. Bydd y myfyriwr wedi datblygu rhinweddau sy'n angenrheidiol mewn amgylchiadau sy'n gofyn am ddoethineb, cyfrifoldeb personol, a menter. |
6.3
Hyd y rhaglen MPharm gyda Blwyddyn Baratoi (Sylfaen) fydd pum mlynedd (blynyddoedd 0 – 4). Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr astudio 120 o gredydau bob blwyddyn academaidd, gan gronni cyfanswm o 600 o gredydau er mwyn bod yn gymwys am ddyfarniad MPharm. Rhaid llwyddo ym mhob modiwl dim credyd yn ystod blynyddoedd 1 i 4 hefyd.
6.4
Gan gydnabod natur arbennig y rhaglen MPharm gyda Blwyddyn Baratoi (Sylfaen), cyfeirir at y lefelau astudio gwahanol fel blwyddyn 0, 1, 2, 3 a 4.
Lefel FHEQ | Blwyddyn Astudio | Disgrifyddion Dysgu |
---|---|---|
3 | 0 | Blwyddyn Baratoi'r rhaglen gradd MPharm. Ar ôl cwblhau'r lefel astudio hon, bydd gan y myfyriwr wybodaeth gadarn am gysyniadau sylfaenol pynciau, gan ei alluogi i ddiwallu gofynion mynediad Blwyddyn 1 y cwrs MPharm. |
4 | 1 | Blwyddyn gyntaf y rhaglen gradd MPharm. Ar ôl cwblhau'r lefel astudio hon, bydd gan y myfyriwr wybodaeth gadarn am gysyniadau sylfaenol y pwnc, a bydd wedi dysgu dulliau gwahanol o ddatrys problemau. |
5 | 2 | Ail flwyddyn y rhaglen gradd MPharm. Ar ôl cwblhau'r lefel astudio hon, bydd y myfyriwr wedi datblygu dealltwriaeth gadarn o egwyddorion ei faes astudio, yn ogystal â dysgu sut i roi'r egwyddorion hynny ar waith yn ehangach a sut i werthuso addasrwydd gwahanol ddulliau o ddatrys problemau. |
6 | 3 | Trydedd flwyddyn y rhaglen gradd MPharm. Ar ôl cwblhau'r lefel astudio hon, bydd y myfyriwr wedi meithrin dealltwriaeth o gorff cymhleth o wybodaeth, y bydd rhan ohono ar ffiniau cyfredol Fferylliaeth. Bydd y myfyriwr wedi datblygu technegau dadansoddi a sgiliau datrys problemau a bydd yn gallu gwerthuso tystiolaeth, dadleuon a rhagdybiaethau i gyrraedd casgliadau cadarn a'u cyfleu'n effeithiol. |
7 | 4 (Gradd Uwch Gychwynnol) | Pedwaredd flwyddyn (blwyddyn olaf) y rhaglen MPharm (rhaglen gradd gychwynnol uwch). Ar ôl cwblhau'r lefel astudio hon, bydd y myfyriwr wedi meithrin dealltwriaeth o gorff cymhleth o wybodaeth, y bydd rhan ohono ar flaen y gad ym maes Fferylliaeth. Bydd y myfyriwr yn gallu ymdrin â materion cymhleth yn systematig ac yn greadigol a bydd yn gallu mynd i'r afael â phroblemau a'u datrys mewn modd gwreiddiol. Bydd y myfyriwr wedi datblygu rhinweddau sy'n angenrheidiol mewn amgylchiadau sy'n gofyn am ddoethineb, cyfrifoldeb personol, a menter. |
7.1
Cydran addysgol ar wahân o fewn rhaglen yw modiwl. Bydd y rhaglen hon yn cynnwys modiwlau fel a ganlyn:
7.2
Gall modiwlau gynnwys cyfuniadau priodol o'r canlynol:
Mae’r oriau cyswllt ar gyfer gwahanol gategorïau’r modiwlau wedi’u diffinio mewn canllaw swyddogol a gyhoeddwyd yng Nghôd Ymarfer Sicrhau Ansawdd y Brifysgol.
8.1
Bydd modd astudio'r rhaglen hon yn amser llawn yn unig. Disgwylir i ymgeiswyr astudio 120 o gredydau ym mhob blwyddyn academaidd.
8.1.1
Fel rheol, disgwylir i ymgeiswyr amser llawn ddilyn modiwlau a fydd yn cyfateb i 120 o gredydau mewn blwyddyn academaidd.
8.2
Bydd y patrwm astudio'n cynnwys wythnosau dysgu a lleoliadau gwaith.
9.1
Gall ysgolion nodi modiwlau craidd rhaglen. Ystyrir yr holl fodiwlau sy'n cael eu hastudio ar y rhaglenni MPharm ac MPharm gyda Blwyddyn Baratoi (Sylfaen) yn rhai craidd. Yn ogystal â'u hastudio, mae'n rhaid llwyddo mewn modiwlau craidd cyn y gall myfyriwr fynd ymlaen i’r flwyddyn astudio nesaf neu ennill cymhwyster. Mae’n rhaid gwneud yn iawn am unrhyw fodiwlau craidd sy’n cael eu methu.
10.1
Nid oes modiwlau dewisol ar y rhaglen hon.
11.1
Ni chaniateir i ymgeiswyr ddilyn modiwlau nad ydynt yn ofynnol yn y rhaglen MPharm yn ychwanegol at y llwyth amser llawn, sef 120 o gredydau.
12.1
Mae’r rhaglen yn cynnwys cyfleoedd dysgu drwy brofiad annatod a gorfodol ar y safle ac oddi ar y safle nad ydynt yn ennill credydau ond sy'n hanfodol er mwyn symud ymlaen gyda'r radd. Gall y rhain gynnwys gweithgareddau proffesiynol heb fawr o oruchwyliaeth a asesir. Dyfernir canlyniadau llwyddo/methu i'r holl leoliadau gwaith sy'n cynnwys gweithgareddau proffesiynol heb fawr o oruchwyliaeth.
12.2
Bydd llawlyfr y lleoliad gwaith yn pennu nodau, deilliannau dysgu a dull asesu'r lleoliad.
12.3
Cynhelir pob lleoliad yn unol â chôd cyngor a chanllawiau dysgu'r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch ar leoliadau gwaith a chanllawiau'r Brifysgol fel y'u cyhoeddwyd yng Nghôd Ymarfer ar gyfer Sicrhau Ansawdd y Brifysgol.
13.1
Bydd llawlyfrau, gan gynnwys y Llawlyfr i Fyfyrwyr MPharm, ar gael (ar-lein) i bob ymgeisydd wrth ddechrau'r lefel astudio berthnasol neu cyn hynny.
14.1
Ni chaniateir i ymgeiswyr drosglwyddo i'r rhaglen MPharm ac eithrio i Flwyddyn 0 neu Flwyddyn 1.
15.1
Gan yr ystyrir bod pob modiwl yn fodiwl craidd, ni chaniateir i fyfyrwyr drosglwyddo i fodiwl arall.
16.1
Mae'r Brifysgol yn disgwyl i fyfyrwyr fodloni'r gofynion presenoldeb a amlinellir yn Natganiad Presenoldeb y Brifysgol.
16.2
Disgwylir i ymgeiswyr gyfranogi yn yr holl sesiynau dysgu sy'n gysylltiedig â'r holl fodiwlau y maent yn eu dilyn.
16.3
Caiff presenoldeb ei fonitro yn unol â Pholisi Monitro Cyfranogiad y Brifysgol.
16.4
Caiff cynnydd ei fonitro drwy sesiynau trafod rheolaidd â tiwtoriaid personol, yr Is-bwyllgor Iechyd ac Ymddygiad ac mewn Byrddau Arholi.
16.5
Hefyd, disgwylir i ymgeiswyr ddangos y safonau uchaf o ymddygiad cyffredinol a phroffesiynol drwy gydol y rhaglen.
16.6
Os bernir bod perfformiad academaidd, cyfranogiad, ymddygiad proffesiynol neu ansawdd gwaith ymgeiswyr yn annerbyniol, gellir eu gorfodi i dynnu'n ôl o'r rhaglen.
17.1
Os bydd amgylchiadau'n tarfu ar astudiaethau ymgeiswyr am fwy na saith niwrnod, bydd yn rhaid iddynt hysbysu’r Ysgol Feddygaeth a chyflwyno tystiolaeth ategol.
17.2
Bydd yn rhaid i ymgeisydd sydd wedi bod yn absennol o arholiad hysbysu'r Ysgol Feddygaeth heb oedi. Yn achos salwch, bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd gyflwyno tystysgrif feddygol hefyd. Mae'r rhaglenni MPharm ac MPharm gyda Blwyddyn Baratoi (Sylfaen) yn gweithredu polisi ar Amgylchiadau Esgusodol ynghylch asesu'r rhaglenni hyn. Caiff manylion eu cyhoeddi yn y Llawlyfr i Fyfyrwyr MPharm.
17.3
Rhaid i bob ymgeisydd nodi mai ei gyfrifoldeb ef yw tynnu sylw'r Swyddfa Gwybodaeth ac Addysg Myfyrwyr, cyn gynted ag y bo modd, at unrhyw amgylchiadau eithriadol a allai effeithio ar ei berfformiad naill ai yn ystod y flwyddyn academaidd neu yn ystod arholiadau. Os yw apeliadau academaidd yn seiliedig ar amgylchiadau y gallai'r myfyriwr fod wedi eu dwyn i sylw'r Ysgol Feddygaeth cyn cyfarfod y byrddau arholi, ni chânt eu hystyried.
17.4
Gall ymgeiswyr ofyn am gyfnod byr o absenoldeb ar gyfer rhesymau penodol, e.e. priodasau teulu. Caiff absenoldebau awdurdodedig o'r fath eu hystyried gan Bwyllgor Amgylchiadau Arbennig yr Ysgol Feddygaeth.
18.1
Ystyrir gohirio astudiaethau yn unol â rheoliadau Gohirio Astudiaethau Prifysgol Abertawe.
18.2
Mae'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol wedi gosod terfyn amser wyth mlynedd er mwyn cwblhau'r radd MPharm a'r Hyfforddiant Sylfaen ôl-raddedig (Blwyddyn 5), fel rheol. Fodd bynnag, mae'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol yn cadw'r hawl i estyn y terfyn amser hwn i rai ymgeiswyr mewn amgylchiadau cyfyngedig iawn, megis salwch a beichiogrwydd. Bydd y Cyngor Fferyllol Cyffredinol yn ymdrin â myfyrwyr o’r fath fesul achos. Er mwyn osgoi amheuaeth, mae'r rheoliad hwn yn destun Rheoliad 20.1. Nid yw'r cyfnod hwn yn cynnwys y flwyddyn baratoi (h.y. blwyddyn 0).
19.1
Bydd yr Ysgol Feddygaeth yn pennu dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno gwaith. Os bydd ymgeiswyr yn methu cyflwyno gwaith erbyn y dyddiad cau, byddant yn destun cosb yr Ysgol Feddygaeth am gyflwyno gwaith yn hwyr. Dylai ymgeiswyr gyfeirio at brofformâu'r modiwl am fanylion y gosb a weithredir.
19.2
Oni bai bod yr Ysgol Feddygaeth wedi derbyn manylion amgylchiadau esgusodol a chais am estyniad, tybir nad oedd yr amgylchiadau penodol wedi effeithio’n ormodol ar y myfyriwr wrth baratoi ar gyfer yr asesiad dan sylw.
20.1
Bydd y cyfnodau byrraf a hwyaf ar gyfer cwblhau'r radd MPharm fel a ganlyn:
Gweler Rheoliadau 18.2 hefyd.
Felly, y terfyn amser i ymgeisydd raddio gyda gradd MPharm yw chwe blynedd ac, ar sail Rheoliad 19.2, y terfyn amser i gymhwyso fel fferyllydd ar ôl cwblhau'r Hyfforddiant Sylfaen ôl-raddedig (blwyddyn 5) yn foddhaol yw wyth mlynedd o ddyddiad dechrau blwyddyn 1 y radd MPharm. Dim ond UNWAITH y caniateir i ymgeiswyr ail-wneud blwyddyn astudio.
20.2
Bydd y cyfnodau byrraf a hwyaf ar gyfer cwblhau'r radd MPharm gyda Blwyddyn Baratoi (Sylfaen) fel a ganlyn:
Gweler Rheoliadau 18.2 hefyd.
Felly, y terfyn amser uchaf i ymgeisydd raddio gyda gradd MPharm gyda Blwyddyn Baratoi (Sylfaen) yw saith mlynedd ac, ar sail Rheoliad 19.2, y terfyn amser ar gyfer cymhwyso fel fferyllydd ar ôl cwblhau Hyfforddiant Sylfaen ôl-raddedig (blwyddyn 5) yw wyth mlynedd o ddyddiad dechrau blwyddyn 1 y radd MPharm. Dim ond UNWAITH y caniateir i ymgeiswyr ail-wneud blwyddyn astudio.
21.1
Nid oes modd estyn terfynau amser rhaglen gradd, fel y’u hamlinellir yn y rheoliadau penodol, ac eithrio dan amgylchiadau eithriadol ac yn unol â’r meini prawf canlynol:
Mewn achosion sy’n deillio o salwch:
21.2
Rhaid anfon ceisiadau am estyniadau drwy Is-bwyllgor Iechyd ac Ymddygiad y rhaglenni MPharm i'r Gwasanaethau Addysg a chânt eu cymeradwyo'n weinyddol ar ran y Pwyllgor Rheoliadau, Ansawdd a Safonau.
22.1
Cyfrifoldeb yr ymgeisydd fydd hysbysu’r Ysgol Feddygaeth am unrhyw anabledd neu amgylchiadau esgusodol a allai olygu bod angen darpariaeth arbennig o ran asesu.
Mae’n ofynnol i ymgeiswyr gyflwyno dogfennaeth briodol i ategu hyn. Dylai pob cais, ni waeth a yw'n gysylltiedig ag anabledd tymor hir neu amgylchiadau tymor byr, gael ei gyflwyno ar y ffurflen briodol a chael ei ategu gan dystiolaeth ysgrifenedig, lle bynnag y bo modd. Dylid cyflwyno unrhyw gais i’r Ysgol Feddygaeth cyn gynted ag sy'n ymarferol bosib ac yn bendant cyn yr arholiad neu’r asesiad dan sylw.
22.2
Os oes angen addasiadau i astudiaethau ymgeisydd oherwydd anabledd, cyflwr meddygol tymor hir, anhawster lles neu anhawster dysgu penodol, dylai drafod ei ofynion â'r Swyddfa Anableddau neu'r Gwasanaeth Lles. Bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd ddarparu tystiolaeth ddogfennol ategol i'r Swyddfa Anableddau neu'r Gwasanaeth Lles. Ni chaiff y cais am addasiadau ei weithredu oni ddarperir tystiolaeth ategol.
22.3
Lle y bo angen addasiad ac y caiff ei ategu gan dystiolaeth feddygol, bydd y Swyddfa Anableddau neu'r Gwasanaeth Lles yn anfon argymhellion at y Tiwtor Cyswllt Anabledd priodol i'r Ysgol Feddygaeth weithredu yn eu cylch.
22.4
Os oes angen darpariaeth benodol ar ymgeisydd, dylai drafod ei ofynion â’r Swyddfa Anableddau neu'r Gwasanaeth Lles. Bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd ddarparu tystiolaeth ddogfennol ategol i'r Swyddfa Anableddau neu'r Gwasanaeth Lles. Ni chaiff y cais am ddarpariaeth benodol mewn arholiad ei weithredu oni ddarperir tystiolaeth ategol briodol.
22.5
Pan dderbynnir cais am ddarpariaeth benodol mewn arholiad, bydd y Swyddfa Anableddau neu'r Gwasanaeth Lles yn anfon argymhellion i'r Swyddfa Arholiadau ac at y Tiwtor Cyswllt Anabledd priodol ar gyfer Cyfadran yr ymgeisydd/yr Ysgol Feddygaeth. Yn achos arholiadau a drefnir gan Swyddfa Arholiadau'r Brifysgol, bydd yn ofynnol i ymgeiswyr gadarnhau eu trefniadau arholi gyda'r Swyddfa Arholiadau. Yn achos arholiadau a drefnir gan yr Ysgol Feddygaeth, cynghorir ymgeiswyr i drafod eu gofynion â'r Ysgol Feddygaeth a chaiff darpariaethau penodol mewn arholiad eu rhoi ar waith gan yr Ysgol Feddygaeth.
22.6
Gellir dod o hyd i ragor o fanylion a chanllawiau ynghylch trefniadau arholi arbennig yn y polisi Amgylchiadau Esgusodol.
22.7
Mae polisi ar amgylchiadau eithriadol yn berthnasol i'r rhaglen MPharm a'r rhaglen MPharm gyda Blwyddyn Baratoi (Sylfaen) o ran asesu. Os yw ymgeisydd yn cymryd rhan mewn asesiad ac yn ei gwblhau, tybir ei fod mewn cyflwr addas i gymryd rhan yn yr asesiad ac ni fydd y Bwrdd Arholi'n derbyn nac yn ystyried tystiolaeth a gyflwynir wedi'r asesiad, o amgylchiadau esgusodol a fodolai cyn yr asesiad. Caiff manylion llawn y polisi eu cyhoeddi yn y Llawlyfr i Fyfyrwyr MPharm.
22.8
Oni bai bod yr Ysgol Feddygaeth yn derbyn manylion ynghylch amgylchiadau eithriadol, bydd y Brifysgol yn cymryd yn ganiataol nad effeithiwyd ar y myfyriwr yn ormodol cyn neu yn ystod yr asesiad dan sylw.
23.1
Fel arfer, ni chaniateir trosglwyddo credydau. Disgwylir i ymgeiswyr astudio'r rhaglen gyfan ym Mhrifysgol Abertawe.
24.1
Bydd yr holl arholiadau’n cael eu cynnal dan awdurdod Rheoliadau a Gweithdrefnau ar gyfer Cynnal Arholiadau y Brifysgol. Gwneir gwaith y Byrddau Arholi yn unol â Rheoliadau Asesu Israddedigion.
24.2
Enwebir a phenodir Arholwyr Allanol yn unol â'r gweithdrefnau a nodir yng Nghôd Ymarfer Prifysgol Abertawe ar gyfer Arholwyr Allanol Prifysgol Abertawe.
25.1
Fel rheol, caiff cynnydd ymgeisydd ei asesu yn ystod modiwl a/neu yn y cyfnod yn syth ar ôl iddo gael ei gwblhau.
25.2
Bydd yn rhaid i ymgeiswyr gwblhau'r rhaglen astudio yn unol â Rheoliad 26.3. Y marc llwyddo ar gyfer pob modiwl yw 40% ar bob lefel (h.y. 3 – 6) ac eithrio Lefel 7, lle mae'r marc llwyddo yn 50%. Mae cyfrifiadau fferyllol yn gydrannau o'r modiwlau dim credyd. Y marc llwyddo yw 70% a cheir canlyniad llwyddo/methu.
25.3
Bydd y marc llwyddo am yr holl gydrannau asesu yn cael ei benderfynu drwy broses gosod safonau, ac amlinellir ei manylion ym mhrofformâu'r modiwlau.
25.4
Fel egwyddor gyffredinol, rhaid llwyddo yn yr holl fodiwlau.
Ym mlwyddyn 0 (Lefel 3), rhaid llwyddo gyda marc o 40% ym mhob modiwl. Fodd bynnag, er mwyn mynd ymlaen i flwyddyn 1 (lefel 4) y radd MPharm mewn Fferylliaeth, rhaid i fyfyrwyr gyflawni cyfartaledd cyffredinol o 60% neu'n uwch yn ystod blwyddyn 0 yn ogystal â 60% neu'n uwch yn y modiwlau “Hanfodion Cemeg Organig” a “Sylfeini Fferylliaeth”. Os bydd myfyrwyr yn methu cyflawni 60% neu'n uwch yn y modiwlau “Hanfodion Cemeg Organig” a “Sylfeini mewn Fferylliaeth” ar y cynnig cyntaf, efallai y byddant yn cael caniatâd i ymgymryd ag asesiad atodol, yn amodol ar gymeradwyaeth gan y Bwrdd Arholi Fferylliaeth a Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau'r Brifysgol. Yn ôl disgresiwn Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau'r Brifysgol, bydd myfyrwyr sy'n methu cyflawni 60% neu'n uwch ar gyfartaledd yn ystod y flwyddyn yn cael sefyll arholiadau atodol fel arfer mewn unrhyw fodiwlau lle maent wedi cael marc is na 60%. Os bydd ymgeiswyr ym mlwyddyn 0 yn methu'r asesiadau atodol neu'n methu cyflawni 60% neu'n uwch yn y ddau fodiwl a nodwyd a/neu gyfartaledd o 60% neu'n uwch yn gyffredinol yn ystod blwyddyn 0, NI fyddant yn cael mynd ymlaen i flwyddyn 1 y radd nac ail-wneud y flwyddyn.
Ym mlynyddoedd 1 – 3 (lefelau 4 i 6) rhaid llwyddo gyda marc o 40% ym mhob modiwl. Hefyd, rhaid llwyddo gyda marc o 40% mewn asesiadau cyfunol* fesul modiwl er mwyn mynd ymlaen i'r flwyddyn astudio nesaf. NI fydd myfyrwyr ym mlwyddyn 1 (lefel 4) sy’n methu’r asesiadau atodol yn cael ail-wneud y flwyddyn ac ystyrir eu bod wedi methu’r radd.
Ym mlwyddyn 4 (lefel 7), rhaid llwyddo gyda marc o 50% ym mhob modiwl. Hefyd, rhaid llwyddo gyda marc o 50% ym mhob cydran asesu unigol er mwyn graddio.
Caniateir i fyfyrwyr ar lefelau 3, 4, 5, 6 a 7 gael cynigion atodol mewn hyd at 120 o gredydau.
Rhaid llwyddo mewn asesiadau cyfrifiadau fferyllol ym mlynyddoedd 1 – 4 (lefelau 4 – 7) ac mae'n rhaid llwyddo mewn Arholiadau Clinigol Strwythuredig Gwrthrychol ym mlynyddoedd 2 – 4 (lefelau 5 – 7).
*Asesiadau cyfunol:
Rhaid llwyddo gyda marc o 40% neu'n uwch mewn asesiadau gwaith cwrs cyfunol, ac mae'n rhaid llwyddo gyda marc o 40% neu'n uwch yn yr arholiad terfynol hefyd ym mlynyddoedd 1 – 3. Rhaid llwyddo gyda marc o 50% neu'n uwch mewn asesiadau gwaith cwrs cyfunol ac mae'n rhaid llwyddo gyda marc o 50% neu'n uwch yn yr arholiad terfynol hefyd ym mlwyddyn 4.
25.5
Caiff modiwlau dim credyd eu hasesu ar sail llwyddo/methu cymhwysedd ac felly nid ydynt yn cyfrannu at ddosbarth gradd myfyrwyr. Fodd bynnag, ni all myfyrwyr symud drwy'r rhaglen na derbyn dyfarniad gradd MPharm heb gwblhau'r modiwlau hyn yn llwyddiannus. Mae'n rhaid llwyddo yn holl gydrannau asesu modiwlau dim credyd (e.e. e-bortffolio gan gynnwys gweithgareddau proffesiynol heb fawr o oruchwyliaeth, cyfrifiadau fferyllol, cyfranogiad (presenoldeb) mewn lleoliadau gwaith) er mwyn mynd ymlaen i'r flwyddyn astudio nesaf neu raddio.
25.6
Ni chaniateir i fyfyrwyr ailgyflwyno asesiadau y llwyddwyd ynddynt at ddibenion gwella marc. Dim ond myfyrwyr sy'n methu asesiadau sy'n gallu cael caniatâd i sefyll asesiadau atodol, yn amodol ar gymeradwyaeth gan y Bwrdd Arholi Fferylliaeth a Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau'r Brifysgol. Bydd marciau asesiadau sy'n cael eu hailgyflwyno (blynyddoedd 2 – 4) yn cael eu capio yn unol â'r rheoliadau asesu.
26.1
Os na fydd ymgeisydd sy'n cael ei dderbyn ar y rhaglen MPharm yn cwblhau'r rhaglen, a chan ddibynnu ar nifer y credydau a enillwyd ar y lefelau priodol erbyn iddo adael, efallai y bydd yn gymwys am un o'r dyfarniadau canlynol ar yr amod:
neu
pan fydd Pwyllgor Ymholi Camymddygiad Academaidd Prifysgol Abertawe neu'r Pwyllgor Disgyblu yn ystyried bod ymddygiad/pryder iechyd y myfyriwr yn anghydnaws â chaniatáu iddo barhau ar y rhaglen a/neu ymarfer yn y proffesiwn perthnasol.
Bydd ymgeiswyr o’r fath yn gymwys, yn ôl argymhelliad y Bwrdd Arholi perthnasol, a chan ddibynnu ar y nifer o gredydau a gronnwyd, am ddyfarniad
Cymhwyster Ymadael | Lleiafswm y credydau a enillwyd | Rheoliad Ychwanegol |
---|---|---|
Tystysgrif Addysg Uwch yn y Gwyddorau Fferyllol ac Iechyd | 120 credyd ar Lefel 4 | Wedi cymhwyso i fynd ymlaen i'r lefel astudio nesaf. Rhaid bod isafswm o 120 o gredydau wedi'u dilyn yn Abertawe |
Diploma Addysg Uwch yn y Gwyddorau Fferyllol ac Iechyd | 120 credyd ar Lefel 5 | Wedi cymhwyso i fynd ymlaen i'r lefel astudio nesaf. Rhaid bod isafswm o 240 o gredydau wedi'u dilyn yn Abertawe. |
BSc (Anrhydedd) yn y Gwyddorau Fferyllol ac Iechyd | 120 credyd ar Lefel 6 | Wedi cymhwyso i symud ymlaen i'r lefel astudio nesaf. Rhaid bod isafswm o 360 o gredydau wedi'u dilyn yn Abertawe. |
MSci (Anrhydedd) yn y Gwyddorau Fferyllol ac Iechyd | 120 credyd ar Lefel 7 | Rhaid bod isafswm o 480 o gredydau wedi'u dilyn yn Abertawe. |
Ym mlynyddoedd 2 – 4 (lefelau 5 – 7), os nad yw ymgeiswyr wedi cronni 120 o gredydau, caniateir iddynt sefyll asesiadau atodol. Os yw myfyrwyr wedi methu'r asesiadau atodol, byddant yn cael y cyfle i ail-wneud y flwyddyn (os nad ydynt wedi ail-wneud unrhyw flwyddyn yn ystod y radd). Efallai y bydd y Bwrdd Arholi priodol yn ystyried dyfarnu cymhwyster ymadael iddynt (gweler Rheoliad 25.4 ac S2).
Caiff ymgeiswyr sydd wedi bodloni gofynion academaidd y rhaglen drwy ddilyn 480 o gredydau ond nad ydynt wedi cyflawni'r safon ofynnol o ymddygiad proffesiynol eu hatgyfeirio at Banel Addasrwydd i Ymarfer y Gyfadran a fydd yn ystyried a ddylid:
a. Rhoi’r dewis i’r myfyriwr barhau ar raglen nad yw’n arwain at gymhwyster proffesiynol.
b. Caniatáu i'r myfyriwr drosglwyddo i raglen radd arall yn y Brifysgol;
c. Ei gwneud hi'n ofynnol i'r myfyriwr dynnu'n ôl o'r Brifysgol a'i anghymhwyso rhag ailsefyll arholiadau/graddio, gan ddyfarnu cymhwyster ymadael iddo, e.e. Tystysgrif, Diploma. Dan amgylchiadau o'r fath, tybir bod y myfyriwr wedi methu’r rhaglen MPharm.
ch. Mynnu bod y myfyriwr yn tynnu’n ôl o’r Brifysgol a’i anghymwyso rhag ailsefyll arholiadau neu raddio. Dan amgylchiadau o'r fath, tybir bod y myfyriwr wedi methu’r rhaglen ac ni ddyfernir cymhwyster ymadael iddo.
26.2
Os nad yw myfyrwyr ar y rhaglen MPharm gyda Blwyddyn Baratoi (Sylfaen) wedi cronni 120 o gredydau ac os nad ydynt yn cyflawni cyfartaledd o 60% ym mlwyddyn 0 ac/neu nad ydynt yn llwyddo gyda 60% yn y ddau fodiwl a nodwyd ac os ydynt wedi methu'r arholiadau atodol hefyd, NI chynigir y cyfle iddynt ail-wneud y flwyddyn os ydynt yn bwriadu mynd ymlaen i flwyddyn 1 (Lefel 4) y radd MPharm pum mlynedd. Caiff myfyrwyr yn y sefyllfa hon eu mentora ynghylch trosglwyddo i raglen arall yn y Brifysgol neu ystyrir dyfarnu cymhwyster ymadael iddynt, h.y. “Tystysgrif Sylfaen yn y Gwyddorau Fferyllol ac Iechyd” (gweler Rheoliad 25.4 a Rheoliad Penodol S2).
Gall ymgeisydd a dderbynnir ar y rhaglen fod yn gymwys i dderbyn cymhwyster ymadael ar yr amod:
a) Ei fod wedi cronni isafswm nifer y credydau sy'n ofynnol am y dyfarniad (120 o gredydau ar Lefel 3);
neu
b) Pan fydd Pwyllgor Ymholi Camymddygiad Academaidd Prifysgol Abertawe, y Pwyllgor Disgyblu neu Bwyllgor Addasrwydd i Ymarfer y Brifysgol yn ystyried bod ymddygiad y myfyriwr/pryder am iechyd y myfyriwr yn anghydnaws â chaniatáu iddo barhau ar y rhaglen a/neu ymarfer yn y proffesiwn perthnasol, os yw'r myfyriwr wedi bodloni gofynion academaidd y rhaglen ond wedi methu cyrraedd y safon ofynnol o ymddygiad proffesiynol.
Bydd ymgeiswyr o’r fath yn gymwys, yn ôl argymhelliad y Bwrdd Arholi perthnasol, a chan ddibynnu ar y nifer o gredydau a gronnwyd, am ddyfarniad:
Cymhwyster Ymadael | Lleiafswm y credydau a enillwyd | Rheoliad Ychwanegol |
---|---|---|
Tystysgrif Sylfaen yn y Gwyddorau Fferyllol ac Iechyd | 120 o gredydau ar Lefel 3 | Rhaid bod isafswm o 120 o gredydau wedi'u dilyn yn Abertawe. |
Ym mlwyddyn 0 (Lefel 3), os nad yw ymgeiswyr wedi cronni 120 o gredydau ac os ydynt wedi methu'r asesiadau atodol hefyd, NI chynigir y cyfle iddynt ail-wneud y flwyddyn os ydynt yn bwriadu mynd ymlaen i flwyddyn 1 (Lefel 4) y radd MPharm pum mlynedd. Efallai y byddant yn cael trosglwyddo i raglen radd arall neu'n derbyn cymhwyster ymadael, h.y. ‘Tystysgrif Sylfaen yn y Gwyddorau Fferyllol ac Iechyd’, ar sail argymhelliad y Bwrdd Arholi priodol (Gweler Rheoliad 25.4 a Rheoliad Penodol S2).
27.1
I fod yn gymwys i gael eu hystyried ar gyfer dyfarniad israddedig y Brifysgol, rhaid i ymgeiswyr gyfranogi yn eu modiwlau a'u cwblhau yn unol â therfyn amser y cyfnod cofrestru.
28.1
Er mwyn bod yn gymwys i’w hystyried am MPharm dan y Rheoliadau hyn, dylai ymgeiswyr fod wedi gwneud y canlynol:
Bydd yr holl fodiwlau sy’n cael eu dilyn yn Lefelau 5, 6 a 7 ac a addysgir yn Abertawe yn cyfrannu tuag at y dosbarth terfynol, h.y. 360 pwynt credyd ar gyfer rhaglen MPharm sy'n para am bedair blynedd. Nid yw canlyniadau modiwlau a astudiwyd yn Lefelau 3 a 4 yn cyfrannu at ddosbarth gradd MPharm.
28.2. Bandiau Dosbarthu
Pennir dosbarth gradd yr ymgeisydd fel arfer gan y marc cyfartalog wedi'i bwysoli gan ddefnyddio'r ffiniau dosbarthu canlynol:
Cyfartaledd wedi'i Bwysoli Dosbarthiadau Gradd | |
---|---|
Anrhydedd Dosbarth Cyntaf | 70%+ |
Anrhydedd Ail Ddosbarth Uwch | 60 – 69.99% |
Anrhydedd Ail Ddosbarth Is | 50 – 59.99% |
Anrhydedd Trydydd Dosbarth | 40 – 49.99% |
Gradd Lwyddo | 35 – 39.99% |
28.3
Cymhwysedd ymgeisydd i gael ei ystyried am ddyfarniad
Wrth ystyried a yw myfyriwr yn gymwys i gael ei ystyried am ddyfarniad, bydd Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau'r Brifysgol yn ystyried perfformiad cyffredinol yr ymgeisydd yn ystod y Lefelau Astudio sy'n cyfrannu at y dyfarniad, h.y. lefelau 5, 6 a 7 ar gyfer gradd gychwynnol uwch fel arfer.
28.4
Achosion sydd ar y ffin
Mae'r Egwyddorion Arweiniol canlynol wedi'u llunio i gynorthwyo Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu'r Brifysgol i ystyried achosion ffiniol wrth benderfynu ar ddosbarthiad graddau. Dylid defnyddio'r egwyddorion hyn ochr yn ochr â'r dull bandiau diwygiedig o bennu dosbarthiad a chânt eu hystyried ym mhob achos pan fydd cyfartaledd dosbarthiad myfyriwr o fewn 2% o ffin dosbarthiad. Mae’r egwyddorion hyn hefyd yn berthnasol ar gyfer y rhai hynny sy’n dilyn graddau uwch cychwynnol.
Dylai Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu'r Brifysgol godi dosbarthiad myfyriwr os yw ei berfformiad o fewn y ‘ffenestr cyfle’ ac os yw'n bodloni meini prawf 28.4.2 (yr Egwyddor Mwyafrif) a/neu 28.4.2 (yr Egwyddor Cyflymder Ymadael.
Mae'r Egwyddorion hyn hefyd yn tybio na fydd Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu'r Brifysgol yn newid marciau a gadarnhawyd gan Fyrddau Arholi'r Cyfadrannau/Ysgolion.
Ni chaniateir arholiadau llafar at ddiben penderfynu ar ddosbarthiad gradd yn achos ymgeiswyr sy'n astudio am raddau israddedig.
28.4.1
Yr Egwyddor Mwyafrif
Pan fydd cyfartaledd dosbarthiad myfyriwr o fewn 2% o ffin dosbarthiad, bydd Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu'r Brifysgol yn ystyried cyfran y marciau a enillwyd gan y myfyriwr ym mhob band dosbarthiad. Bydd Bwrdd Dilyniant a Dyfarnu'r Brifysgol yn ystyried dim ond y marciau hynny a ddefnyddiwyd i gyfrifo'r dosbarthiad (h.y. lefelau 5 a 6 fel arfer).
I ddyfarnu'r dosbarthiad uwch, rhaid bod y myfyriwr wedi ennill marciau ym mand y dosbarthiad uwch mewn modiwlau â phwysiad credyd sy'n gyfwerth â hanner neu fwy o'r rhai sy'n cyfrannu at ddosbarthiad y radd.
Myfyrwyr sydd wedi astudio 360 o gredydau ar gyfer gradd gychwynnol uwch:
Ar y ffin | Gofynion ar gyfer Dosbarthiad Uwch |
---|---|
1 - 2i | 180+ credyd ar 70%+ |
2i - 2ii | 180+ credyd ar 60%+ |
2ii - 3 | 180+ credyd ar 50%+ |
3 - | 3- Llwyddo 180+ credyd ar 40%+ |
28.4.2
Yr Egwyddor Cyflymder Ymadael
Pan fydd cyfartaledd dosbarthiad myfyriwr o fewn 2% i ffin dosbarthiad, bydd Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau'r Brifysgol yn ystyried cyfartaledd y flwyddyn astudio olaf (Lefel 7) heb ei bwysoli. (Bydd y cyfartaledd hwn wedi'i gyfrifo at ddibenion dyfarnu credyd y flwyddyn olaf).
Pan fydd cyfartaledd blwyddyn olaf (Lefel 7) myfyriwr ym mand y dosbarthiad uwch, bydd Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau'r Brifysgol yn dyfarnu gradd yn y dosbarth uwch fel arfer.
28.2.3
Cyfrifo'r Marc Cyfartalog
Felly, ar gyfer graddau cychwynnol uwch, byddai’r cyfartaledd wedi'u pwysoli'n cael ei gyfrifo gan ddefnyddio marciau o fodiwlau sy’n ennill 360 o gredydau a fyddai wedi cael eu dilyn yn Lefelau 5, 6 a 7 (h.y. ar gyfer ymgeiswyr amser llawn, blynyddoedd 2, 3 a’r flwyddyn olaf).
Dyfernir marc i fyfyrwyr ar gyfer pob modiwl ar sail eu perfformiad yn y cydrannau amrywiol a asesir. Caiff y marciau hynny eu dyfarnu i un o bedwar band, gan ddibynnu ar lefel y modiwl, y marc a phwysiad credyd y modiwl (h.y. caiff marciau ar gyfer modiwlau Lefel 6 eu gosod ym Mand 3 neu 2, a chaiff marciau ar gyfer modiwlau lefel 5 eu gosod ym Mand 2 neu 1, gan ddibynnu ar y perfformiad).
Felly, cyfrifir y marc cyfartalog wedi'i bwysoli ar gyfer dosbarthiad y radd ar sail y fformiwla ganlynol:
Graddau Cychwynnol Uwch Pedair Blynedd
• Band 4: Y marciau gorau mewn 90 o gredydau a ddilynwyd ar Lefel 7, â phwysiad o 4
• Band 3: Gweddill y marciau mewn 30 o gredydau a ddilynwyd ar Lefel 7 a’r marciau gorau mewn 60 o gredydau a ddilynwyd ar Lefel 6, â phwysiad o 3
• Band 2: Gweddill y marciau mewn 60 o gredydau a ddilynwyd ar Lefel 6 a’r marciau gorau mewn 30 o gredydau a ddilynwyd ar Lefel 5, â phwysiad o 2
• Band 1: Gweddill y marciau mewn 90 o gredydau a ddilynwyd ar Lefel 5 â phwysiad o 1
Yna, defnyddir fformiwla i gyfrifo cyfartaledd dosbarthiad y radd.
29.1
Cynhelir apeliadau academaidd yn unol â gweithdrefnau Cywirdeb y Marcia a Gyhoeddwyd, ac Apeliadau Academaidd Prifysgol Abertawe.
30.1
Disgwylir i fyfyrwyr ymddwyn yn unol â safonau’r proffesiwn fferyllol fel y'u hamlinellir yn Safonau Gweithwyr Fferyllol y Cyngor Fferyllol Cyffredinol.
30.2
Bydd y Bwrdd Astudiaethau Fferylliaeth yn asesu “proffesiynoldeb” yn ffurfiol. Bydd gallu myfyriwr i gyflawni elfennau angenrheidiol proffesiynoldeb yn cyfrannu at asesiad academaidd y myfyriwr ar leoliadau gwaith a gweithgareddau sy'n ymwneud yn uniongyrchol â chleifion – sef a yw'n llwyddo yn y modiwlau proffesiynoldeb dim credyd neu'n eu methu.
30.3
Mae ymddygiad annerbyniol yn cyfeirio at ymddygiad cyffredinol gan ymgeisydd nad yw’n bodloni’r safonau a osodwyd gan safonau gweithwyr fferyllol y Cyngor Fferyllol Cyffredinol, a bydd yr Ysgol Feddygaeth yn ymdrin â hwy yn unol â’r polisi ar gyfer ymdrin â phryderon myfyrwyr Fferylliaeth, gan gynnwys nam posib ar addasrwydd i ymarfer.
30.4
Bydd methiant i newid yr ymddygiad, neu unrhyw achos difrifol o ymddygiad annerbyniol, yn arwain at gyfeirio'r achos at sylw'r Brifysgol dan y Rheoliadau Addasrwydd i Ymarfer.
31.1
Caiff honiadau o arfer annheg eu hystyried yn unol â gweithdrefnau Camymddwyn Academaidd Prifysgol Abertawe.
32.1
Caiff honiadau nad yw myfyriwr yn addas i ymarfer eu hystyried yn unol â’r polisi ar gyfer ymdrin â phryderon myfyrwyr Fferylliaeth, gan gynnwys nam posib ar addasrwydd i ymarfer, a all gynnwys cyfeirio at Reoliadau Addasrwydd i Ymarfer Prifysgol Abertawe.
32.2
Mae gweithdrefnau addasrwydd i ymarfer yn sicrhau y caiff ymarfer anniogel ei reoli mewn ffordd briodol. Bydd yn briodol diarddel myfyriwr o’r rhaglen os bydd panel addasrwydd i ymarfer y Brifysgol o'r farn bod ymddygiad/pryder iechyd y myfyriwr yn anghydnaws â chaniatáu iddo barhau ar y rhaglen a/neu ymarfer yn y proffesiwn perthnasol.
33.1
Ni fydd ymgeiswyr sy'n dilyn y rhaglenni MPharm ac MPharm gyda Blwyddyn Baratoi (Sylfaen) yn gymwys am ddyfarniad gradd Aegrotat. Fodd bynnag, gall ymgeiswyr fod yn gymwys i dderbyn y dyfarniad ymadael.
34.1
Bydd ymgeiswyr sy'n dilyn y rhaglenni MPharm ac MPharm gyda Blwyddyn Baratoi (Sylfaen) yn gymwys am ddyfarniad gradd ar ôl marwolaeth.
G1
Mae'r rheoliadau hyn yn berthnasol i'r rhaglen MPharm a'r rhaglen MPharm gyda Blwyddyn Baratoi (Sylfaen).
G2
Er mwyn symud o un flwyddyn i'r un nesaf, rhaid i fyfyrwyr gronni 120 o gredydau. Rhaid iddynt hefyd lwyddo yn holl gydrannau asesu'r modiwlau dim credyd. Ym mlwyddyn 0, mae gofynion ychwanegol ar gyfer symud ymlaen fel y'u disgrifir yn Rheoliad 25.4.
G3
Ystyrir bod modiwlau'r rhaglenni MPharm ac MPharm gyda Blwyddyn Baratoi (Sylfaen) yn rhai “craidd” ac mae'n rhaid llwyddo ynddynt cyn y gall ymgeisydd fynd ymlaen i'r flwyddyn nesaf.
G4
Yn ychwanegol, rhaid i ymgeiswyr fodloni’r safon ofynnol o ymddygiad proffesiynol fel y'i hamlinellir yn Safonau Gweithwyr Fferyllol y Cyngor Fferyllol Cyffredinol. Yn ogystal, rhaid i ymgeiswyr lwyddo yn y modiwlau proffesiynoldeb dim credyd ym Mlynyddoedd 1 – 3 cyn y gallant symud ymlaen i’r flwyddyn nesaf. Rhaid i ymgeiswyr lwyddo yn y modiwl proffesiynoldeb dim credyd ym Mlwyddyn 4 cyn y gallant fod yn gymwys am ddyfarniad MPharm.
G5
Rhaid i fyfyrwyr fodloni gofynion cyfranogiad ac asesu pob modiwl. Caiff cyfranogiad ei fonitro yn unol â Polisi Monitro Cyfranogiad Myfyrwyr a Addysgir.
G6
Os yw ymgeiswyr wedi cymhwyso i symud ymlaen i’r flwyddyn astudio nesaf, ni chaniateir iddynt ail-wneud unrhyw gydran modiwl neu asesiad y maent eisoes wedi llwyddo ynddi er mwyn gwella eu perfformiad, ac eithrio ym mlwyddyn 0 yn unol â Rheoliad 25.6.
G7
Bydd ymgeiswyr y rhoddir caniatâd iddynt sefyll arholiadau atodol, neu y mae’n rhaid iddynt gyflwyno gwaith atodol, yn derbyn marc wedi’i gapio ar lefel lwyddo yn y gydran asesu unigol (40% yn lefelau 5 a 6, 50% yn lefel 7), ar yr amod eu bod yn bodloni’r arholwyr. Defnyddir y marc wedi'i gapio at ddibenion pennu dosbarth ym mhob modiwl o'r fath, ni waeth am y perfformiad gwirioneddol. Caiff marciau ymgeiswyr sy'n ail-wneud modiwlau ar Lefel 7 eu capio ar 50%. Bydd Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau'r Brifysgol yn cyfeirio at y marc wedi'i gapio wrth bennu'r cyfartaledd ar gyfer y lefel astudio.
Nid yw hyn yn berthnasol i ymgeiswyr sy'n ail-wneud modiwlau ar Lefelau 3 a 4 (blynyddoedd 0 a 1) gan y bydd y marc gwirioneddol yn cael ei gofnodi yn eu hachos hwy (gweler Rheoliad 25.6).
G8
Os oes rhaid i ymgeiswyr gyflwyno gwaith cwrs atodol, bydd yr Ysgol Feddygaeth yn rhoi gwybod iddynt am y gwaith cwrs gofynnol. Ni chynhwysir manylion gwaith cwrs atodol yn y canlyniadau a gyhoeddir gan y Gwasanaethau Addysg ar gofnod unigol y myfyriwr.
G9
Disgwylir i ymgeiswyr gwblhau blwyddyn astudio o fewn un sesiwn academaidd fel arfer.
G10
Os bydd ymgeiswyr (ac eithrio ymgeiswyr blwyddyn 0 (Lefel 3) ac ymgeiswyr blwyddyn 1 (Lefel 4) yn methu cymhwyso i fynd ymlaen i'r flwyddyn astudio nesaf ar ôl y cyfnod asesu atodol, gellir caniatáu iddynt, yn ôl disgresiwn Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau'r Brifysgol, ail-wneud y flwyddyn astudio ar yr amod y gellir cwblhau'r flwyddyn astudio o fewn cyfnod terfyn amser yr ymgeisyddiaeth. Bydd yn rhaid i ymgeiswyr o’r fath fforffedu unrhyw gredyd a phwyntiau dyfarniad a enillwyd eisoes ac ni ellir cyfeirio at y rhain mwyach. Bydd disgwyl i ymgeiswyr ail-wneud y flwyddyn astudio gyfan fel ymgeisydd mewnol ac ni chaiff y marciau a enillir yn ystod asesiadau cyntaf y flwyddyn ailsefyll eu capio. Os bydd ymgeiswyr yn methu ennill 120 o gredydau yn ystod blynyddoedd 2-4 (Lefelau 5 - 7) drwy fethu dau fodiwl semester o hyd gwerth 60 o gredydau, caniateir iddynt ymgymryd ag asesiadau atodol. Os bydd ymgeiswyr yn methu'r asesiadau atodol am fodiwl semester o hyd, byddant yn ail-wneud y flwyddyn ond byddant yn ail-wneud y modiwl a fethwyd yn unig.
G11
Bydd ymgeiswyr (ac eithrio ymgeiswyr blwyddyn 0 (Lefel 3) a Blwyddyn 1 (Lefel 4) yn derbyn penderfyniad academaidd i “Ail-wneud y Flwyddyn Astudio” UNWAITH os byddant yn methu ennill 120 o gredydau mewn unrhyw flwyddyn astudio (h.y. blynyddoedd 2, 3 a 4). Os bydd ymgeiswyr ym mlwyddyn 0 yn methu'r asesiadau atodol neu'n methu cyflawni 60% neu'n uwch yn y ddau fodiwl a nodwyd a/neu gyfartaledd o 60% neu'n uwch yn gyffredinol yn ystod blwyddyn 0, NI fyddant yn cael mynd ymlaen i flwyddyn 1 y radd nac ail-wneud y flwyddyn.Os bydd ymgeiswyr ym mlwyddyn 1 yn methu’r asesiadau atodol, ni chaniateir iddynt ail-wneud y flwyddyn ac ystyrir eu bod wedi methu’r radd.
G12
Bydd yr Is-bwyllgor Iechyd ac Ymddygiad Fferylliaeth yn monitro ymgeiswyr sy’n ail-wneud y flwyddyn yn agos.
G13
Os bydd ymgeiswyr yn ail-wneud y flwyddyn astudio ac yn methu ennill digon o gredydau i symud ymlaen i’r flwyddyn nesaf, rhoddir un cyfle arall iddynt wneud yn iawn am fethiant yn ystod y cyfnod asesu atodol er mwyn cwblhau eu rhaglen astudio. Ystyrir bod ymgeiswyr o'r fath sy’n methu ennill digon o gredydau i symud ymlaen i’r flwyddyn astudio nesaf ar ôl y cyfnod asesu atodol wedi methu eu gradd.
G14
Mae Polisi Amgylchiadau Esgusodol ar waith o ran asesiadau ar gyfer y rhaglenni MPharm ac MPharm gyda Blwyddyn Baratoi (Sylfaen). Tybir bod ymgeisydd sy'n cymryd rhan mewn asesiad ac yn ei gwblhau mewn cyflwr addas i ymgymryd â'r asesiad. Os oes amgylchiadau esgusodol, bydd yn rhaid cyflwyno cais am amgylchiadau esgusodol o fewn pum niwrnod gwaith fan bellaf o ddyddiad cau cyflwyno'r asesiadau/ddyddiad yr arholiad NEU'R terfyn amser penodedig a gyhoeddir gan y Gyfadran/Ysgol.
G15
Mae'n bosib na fydd rhai ymgeiswyr yn gallu cymryd rhan mewn arholiadau, e.e. oherwydd salwch neu amgylchiadau esgusodol eraill. Felly, cydnabyddir bod hawl gan y myfyrwyr hyn i ohirio'r cyfle ac ymgymryd â'r asesiad pan na fydd y canlyniad yn cael ei gapio, fel arfer yn ystod y cyfnod asesu atodol. Os bydd yr ymgeiswyr hyn yn aflwyddiannus yn ddiweddarach yn ystod y cyfnod asesu atodol, rhoddir cyfle arall iddynt wneud yn iawn am y methiant. Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr o’r fath wneud cais ar yr asesiad pan ddaw’r cyfle nesaf i wneud hynny, a byddai hyn fel arfer yn ystod y sesiwn academaidd ddilynol fel ymgeisydd allanol.
G16
Dylai myfyrwyr hysbysu'r Ysgol Feddygaeth am eu hamgylchiadau esgusodol a chyflwyno cais i ohirio asesiad cyn dyddiad yr asesiad. Ystyrir ceisiadau i ohirio asesiad yn unol â'r Polisi ar Amgylchiadau Esgusodol. Os bydd ymgeisydd yn ymgymryd ag asesiad ar ôl cyflwyno cais i'w ohirio, bydd gan yr ymgeisydd bum niwrnod gwaith o ddyddiad yr asesiad i roi gwybod i'r Ysgol Feddygaeth am ei benderfyniad i dynnu'r cais am ohiriad yn ôl a chyflwyno cais am farcio'r asesiad.
G17
Mae’n bosib y caniateir i ymgeiswyr sy’n methu ymgymryd â’r asesiad a ohiriwyd yn ystod y cyfnod asesu atodol ym mis Awst ail-wneud y flwyddyn ar yr amod nad yw’r ymgeisydd eisoes wedi ail-wneud blwyddyn (gweler G11).
G18
Fel arfer, bydd y rheolau a amlinellir yn y Rheolau Dilyniant Penodol yn dylanwadu ar Fwrdd Dilyniant a Dyfarniadau'r Brifysgol wrth wneud penderfyniadau ar gyfer ymgeiswyr. Fodd bynnag, ni ddylai ymgeiswyr ddisgwyl bod hawl ganddynt i ymgymryd ag asesiad atodol, neu ail-wneud y flwyddyn astudio. Gall y Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau ystyried amgylchiadau eraill sy'n berthnasol i achos yr ymgeisydd cyn gwneud unrhyw benderfyniad ar ddilyniant. Ni ddisgwylir i'r Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau ganiatáu i fyfyriwr symud ymlaen i'r flwyddyn nesaf neu fod yn gymwys am ddyfarniad oni bai ei fod wedi bodloni'r meini prawf sylfaenol.
G19
Gall ymgeisydd a dderbynnir ar y rhaglen MPharm neu'r rhaglen MPharm gyda Blwyddyn Baratoi (Sylfaen) fod yn gymwys am gymhwyster ymadael ar yr amod ei fod:
Wedi cronni isafswm nifer y credydau sy'n ofynnol am y dyfarniad;
neu
Wedi bodloni gofynion academaidd y rhaglen ond wedi methu cyrraedd y safon ofynnol o ymddygiad proffesiynol.
Bydd ymgeiswyr o’r fath yn gymwys, yn ôl argymhelliad y Bwrdd Arholi perthnasol, a chan ddibynnu ar y nifer o gredydau a gronnwyd, am ddyfarniad:
Tystysgrif Sylfaen yn y Gwyddorau Fferyllol ac Iechyd (120 o gredydau ar Lefel 3)
Tystysgrif Addysg Uwch yn y Gwyddorau Fferyllol ac Iechyd (120 o gredydau ar Lefel 4)
Diploma Addysg Uwch yn y Gwyddorau Fferyllol ac Iechyd (240 o gredydau)
Baglor Gwyddoniaeth (Anrhydedd yn y Gwyddorau Iechyd a Fferyllol) (360 credyd)
Gradd Meistr mewn Gwyddoniaeth yn y Gwyddorau Iechyd a Fferyllol (480 o gredydau)
Gweler Rheoliad 26 ynghylch Cymwysterau Ymadael o ran y rhaglenni MPharm ac MPharm gyda Blwyddyn Baratoi (Sylfaen).
Rheolau i’w rhoi ar waith yn ystod cyfarfod cyntaf Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau'r Brifysgol (ar ddiwedd mis Gorffennaf/ddechrau mis Awst) ar gyfer yr holl flynyddoedd astudio
S1
Bydd ymgeiswyr sy'n cronni 120 o gredydau ym modiwlau'r MPharm ar ddiwedd y flwyddyn academaidd ac sy'n dangos safon foddhaol o ymddygiad proffesiynol, yn ogystal â llwyddo yn holl gydrannau asesu'r modiwlau dim credyd, yn cymhwyso'n awtomatig i fynd ymlaen i'r flwyddyn astudio nesaf. Os bydd ymgeiswyr yn cronni 120 o gredydau ym modiwlau'r MPharm gyda Blwyddyn Baratoi (Sylfaen) ar ddiwedd y flwyddyn academaidd, yn cyflawni cyfartaledd cyffredinol o 60% ym mlwyddyn 0 yn ogystal ag isafswm o 60 yn y modiwlau “Sylfeini Cemeg Organig a “Hanfodion Fferylliaeth”, ac yn dangos safon foddhaol o ymddygiad proffesiynol, byddant yn cymhwyso'n awtomatig i fynd ymlaen i flwyddyn gyntaf y radd MPharm.
S2
Ym mlwyddyn 0 (Lefel 3), os bydd ymgeiswyr yn cronni llai nag isafswm nifer y credydau sy'n ofynnol bob blwyddyn, yn methu asesiadau atodol a ganiatawyd, neu'n methu cyflawni 60% yn asesiadau atodol y ddau fodiwl “Hanfodion Cemeg Organig” a “Sylfeini mewn Fferylliaeth”, ni chaniateir iddynt fynd ymlaen i flwyddyn 1 y radd MPharm nac ail-wneud y flwyddyn os byddant yn bwriadu mynd ymlaen i flwyddyn 1 (Lefel 4) y radd MPharm pum mlynedd.
Ym Mlwyddyn 1 (lefel 4), ystyrir y bydd ymgeiswyr sydd wedi cronni llai na'r isafswm credydau gofynnol bob blwyddyn, ac wedi methu asesiadau atodol a roddwyd, wedi methu’r radd.
Ym mlynyddoedd 2, 3 a 4 (Lefelau 5 – 7), ni fydd ymgeiswyr sydd wedi cronni llai na’r isafswm credydau sy'n ofynnol bob blwyddyn, ac sydd wedi methu mewn asesiadau atodol a roddwyd, yn gymwys i fynd ymlaen i’r flwyddyn astudio nesaf a bydd yn rhaid iddynt ail-wneud y flwyddyn. Dim ond UNWAITH y caniateir i ymgeiswyr ail-wneud blwyddyn astudio yn ystod terfyn amser y radd.
Os bydd ymgeiswyr yn y flwyddyn astudio olaf (Lefel 7) yn cronni 120 o gredydau mewn modiwlau ar ddiwedd y flwyddyn academaidd ond heb ddangos safon foddhaol o ymddygiad proffesiynol, ac os bydd y Bwrdd Arholi Fferylliaeth yn mynnu eu bod yn ymgymryd â hyfforddiant pellach neu ychwanegol, byddant yn derbyn penderfyniad “asesu atodol” ar y modiwl dim credyd.
Disgwylir i fyfyrwyr y dyfernir asesiad “gohiriedig” iddynt ymgymryd â'r gydran benodol honno yn ystod y cyfnod asesu atodol (Gweler Rheoliad 2.2).
Rheolau i’w rhoi ar waith yn ystod ail gyfarfod Bwrdd Dilyniant a Dyfarniadau'r Brifysgol (ar ddiwedd mis Awst) ar gyfer yr holl flynyddoedd astudio.
S3
Tybir fel arfer bod ymgeiswyr sy’n ail-wneud y flwyddyn neu sydd wedi ail-wneud blwyddyn astudio o’r blaen, ac sy’n methu cymhwyso i symud ymlaen, wedi methu’r radd a bydd yn rhaid iddynt derfynu eu hastudiaethau yn y Brifysgol. Gall y fath ymgeisydd fod yn gymwys am ddyfarniad ymadael (gweler G19).
S4
Yn y radd MPharm, os bydd ymgeiswyr yn cronni 120 o gredydau mewn modiwlau yn y flwyddyn dan sylw, yn llwyddo yn yr holl fodiwlau dim credyd ac yn dangos safon foddhaol o ymddygiad proffesiynol, byddant yn cymhwyso'n awtomatig i fynd ymlaen i'r flwyddyn astudio nesaf. Yn y radd MPharm gyda Blwyddyn Baratoi (Sylfaen), os bydd ymgeiswyr yn cronni 120 o gredydau mewn modiwlau yn y flwyddyn dan sylw, yn bodloni'r gofynion dilyniant (gweler G11) ac yn dangos safon foddhaol o ymddygiad proffesiynol, byddant yn cymhwyso'n awtomatig i fynd ymlaen i flwyddyn 1 y radd MPharm.
S5
Bydd ymgeiswyr, gan gynnwys y rhai hynny y rhoddwyd cyfle asesu ‘gohiriedig’ iddynt, sy’n cronni 60 o gredydau neu fwy ond llai na 120 o gredydau yn methu cymhwyso i fynd ymlaen i’r flwyddyn astudio nesaf. Yn ôl disgresiwn y Bwrdd Arholi, bydd yn rhaid i ymgeiswyr o’r fath fel arfer ail-wneud y flwyddyn astudio fel ymgeisydd mewnol os nad yw’r ymgeisydd wedi ail-wneud blwyddyn astudio eisoes (gweler G11).