Rheoliadau Israddedig Cyffredinol
1. Cyflwyniad
Mae’r cyfeiriadau at ‘Prifysgol Abertawe’ sydd wedi’u cynnwys yn y rheoliadau cyffredinol canlynol hefyd yn cynnwys ‘Y Coleg, Prifysgol Abertawe’ oni nodir yn wahanol. Yn yr un modd, mae cyfeiriadau at Ddeoniaid Gweithredol Prifysgol Abertawe hefyd yn cynnwys Cyfarwyddwr/Pennaeth Coleg Y Coleg, Prifysgol Abertawe.
1.1
Gall ymgeiswyr gymhwyso am gymhwyster Prifysgol Abertawe dan y rheoliadau hyn pan fyddant wedi llwyddo i gwblhau un o’r rhaglenni astudio modiwlaidd cydnabyddedig canlynol: Tystysgrif Addysg Uwch, Diploma Addysg Uwch, Graddau Baglor - Anrhydedd, Cyd Anrhydedd, Anrhydedd Prif Bwnc/Pwnc Atodol, Anrhydedd Cyfun, Cyffredin, Gradd Gychwynnol Uwch. Gall ymgeiswyr ddilyn rhaglen ar sail amser llawn neu ran-amser neu gyfuniad o’r ddau (modd mynychu cymysg).
1.2
Rhaid i bob ymgeisydd gofrestru'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe a thalu’r ffioedd priodol a bennir gan y Brifysgol.
1.3
Ni chaiff ymgeiswyr amser llawn sydd wedi’u cofrestru ar radd israddedig gychwynnol gofrestru ar yr un pryd ar radd arall sy’n arwain at ddyfarnu cymhwyster o’r un fath yn y brifysgol hon neu mewn prifysgol/sefydliad arall heb ganiatâd penodol Cadeirydd y Bwrdd Rheoliadau, Ansawdd a Safonau.
1.4
Fel rheol, bydd ymgeisyddiaeth myfyrwyr sydd yn torri Rheoliad 1.3 yn cael ei dileu yn syth.
1.5
Bydd disgwyl i bob ymgeisydd gofrestru yn ystod wythnos gyntaf y semester cyntaf neu o fewn y cyfnod penodedig sy’n cael ei gyhoeddi bob blwyddyn.
1.6
Fel myfyrwyr cofrestredig, rhaid i ymgeiswyr gydymffurfio â rheoliadau academaidd a chyffredinol y Brifysgol.
2. Strwythur y Semestrau
2.1
Caiff y flwyddyn academaidd ei strwythuro yn unol â'r wybodaeth am Ddyddiadau Semester a Thymor a gyhoeddir ar wefan y Brifysgol neu'r Coleg, Prifysgol Abertawe ar gyfer myfyrwyr y Coleg.
2.2
Mae'n bosibl y caiff rhai rhaglenni astudio penodol ddyddiadau estynedig ar gyfer y sesiynau am y cyfan neu am ran o'r rhaglen. Mae'r rhain yn amrywio gan ddibynnu ar y rhaglen unigol. Darperir manylion gan y Gyfadran/Ysgol berthnasol.
3. Amodau Derbyn
3.1
Derbynnir ymgeiswyr i raglenni astudio yn unol â gofynion rhaglenni penodol a gofynion cyffredinol y Brifysgol ynghylch Matriciwleiddio. Gall gofynion y cynnig gynnwys gofynion sy'n ymwneud â matriciwleiddio (gweler Rheoliadau 3.2).
3.2
Matriciwleiddio yw’r broses o dderbyn ymgeisydd yn ffurfiol i raglen astudio sy’n arwain at radd neu ddyfarniad academaidd arall gan y Brifysgol. Rhaid i ymgeiswyr nad ydynt eisoes wedi’u matriciwleiddio ym Mhrifysgol Abertawe gyflwyno gwybodaeth i’r Swyddog Derbyn a/neu MyUniHub o’u cymwysterau ar ffurf y tystysgrifau gwreiddiol neu drawsgrifiadau academaidd swyddogol yn cadarnhau dyfarniad y cymhwyster/cymwysterau gan y sefydliad dyfarnu neu gorff arall. Bydd canlyniadau israddedigion Abertawe yn cael eu gwirio gan ddefnyddio cronfa ddata cofnodion myfyrwyr y Brifysgol.
3.3
Cyn derbyn ymgeisydd i raglen astudio, rhaid i Gyfadrannau sicrhau ei fod yn medru cyfathrebu’n effeithiol yn Saesneg, ar lafar ac yn ysgrifenedig. Gosodir profion TOEFL neu IELTS (neu rai cyfatebol) ac y mae modd cael canllawiau o’r Swyddfa Dderbyn, o ran y lefel basio sy’n briodol i unrhyw raglen astudio neu’r dysgu a all fod yn angenrheidiol cyn y cwrs, er mwyn caniatáu i ymgeisydd fwrw ymlaen gyda’i astudiaethau.
3.4
Ystyrir nad yw ymgeiswyr yn gymwys i gofrestru pan nad ydynt yn bodloni gofynion y Brifysgol o ran matriciwleiddio. Pan na fydd yr ymgeisydd yn gymwys i gofrestru a/neu ei fod yn methu â chofrestru o fewn cyfnod cofrestru penodedig, bydd ei ymgeisiaeth yn dod i ben a bydd yn rhaid i’r ymgeisydd dynnu'n ôl o’r Brifysgol (gweler Rheoliad 4 ).
3.5
Er mwyn bod yn gymwys i astudio am radd fel rhan o Radd-brentisiaeth, mae'n rhaid i fyfyriwr gael ei gyflogi mewn rôl y tybir ei bod yn darparu cyfle i'r ymgeisydd ddangos ei fod wedi cyflawni'r cymwyseddau ar sail gwaith sy'n gysylltiedig â'r rhaglen gradd.
4. Cofrestru â’r Brifysgol
4.1
Mae’r Brifysgol yn disgwyl i bob ymgeisydd gofrestru fel ei fod yn cael ei gydnabod fel myfyriwr yn y Brifysgol. Dylai pob ymgeisydd gofrestru yn unol â chyfarwyddiadau cofrestru'r rhaglen astudio benodol ac o fewn y cyfnod cofrestru penodedig.
4.2
Mae’n rhaid i ymgeiswyr gofrestru o fewn y cyfnod a bennwyd ar gyfer cofrestru:
- Os ydynt yn cofrestru yn y Brifysgol am y tro cyntaf;
- Os ydynt yn cofrestru ar raglen astudio benodol am y tro cyntaf;
- Os ydynt yn camu ymlaen at lefel nesaf eu hastudiaethau, blwyddyn nesaf eu hastudiaethau neu, mewn rhai achosion, rhan nesaf eu hastudiaethau, ac yn mynychu’n amser llawn neu’n rhan-amser;
- Os yw’r Brifysgol yn disgwyl i ffi gael ei thalu yn unol â rheoliadau’r Brifysgol sy'n berthnasol i gyllid a ffioedd myfyrwyr.
4.3
Er mwyn cofrestru yn y Brifysgol, mae’n ofynnol i ymgeiswyr, lle bynnag y bo'n briodol, ddarparu tystiolaeth o’u hawl i astudio yn y Brifysgol yn unol â:
- Gofynion penodol y rhaglen;
- Rheoliadau’r Brifysgol o ran matriciwleiddio (Gweler Rheoliad 3.2);
- Y ddeddfwriaeth ynghylch astudio yn y Deyrnas Unedig;
- Rheoliadau addasrwydd i ddychwelyd i astudio.
4.4
Pan na fydd yr ymgeisydd yn cyflwyno tystiolaeth foddhaol o’r hawl i astudio yn y Brifysgol yn unol â Rheoliad 4.3 uchod ac erbyn y dyddiad cau a bennir gan y Gwasanaethau Addysg, ystyrir nad yw’r ymgeisydd yn gymwys i gofrestru (oni bai bod Rheoliad 4.5 yn gymwys isod).
4.5
Pan fydd yr ymgeisydd yn bodloni’r holl ofynion i gofrestru (yn unol â Rheoliad 4.3) oni bai am ofynion llywodraethu matriciwleiddio’r Brifysgol, gall yr ymgeisydd, yn ôl disgresiwn y Swyddfa Derbyn, gael caniatâd i gofrestru dros dro am gyfnod penodol o amser, cyhyd â bod yr ymgeisydd yn cytuno i fodloni gofynion y Brifysgol o ran matriciwleiddio erbyn y dyddiad a bennir gan y Swyddfa Dderbyn. Os yw’r ymgeisydd wedyn yn methu â bodloni gofynion llywodraethu matriciwleiddio’r Brifysgol erbyn y dyddiad cau a bennir gan y Swyddfa Dderbyn, bydd y cofrestriad dros dro yn dod i ben, ac ystyrir nad yw’r ymgeisydd yn gymwys i gofrestru, a bydd Rheoliad 4.6 isod yn berthnasol.
4.6
Os na fydd yr ymgeisydd yn gallu cofrestru mewn cyfnod cofrestru penodedig, bydd hyn yn golygu bod ymgeisyddiaeth yr ymgeisydd yn dod i ben a bydd rhaid i’r ymgeisydd dynnu'n ôl o’r Brifysgol.
4.6.1
Ailsefydlu'r ymgeisiaeth a chaniatâd i gofrestru'n hwyr
Gwneir y penderfyniad i gymeradwyo neu beidio â chymeradwyo caniatâd i gofrestru'n hwyr gan Bennaeth Cofnodion Academaidd neu ei enwebai. I ofyn am ganiatâd i gofrestru myfyrwyr hwyr, rhaid cyflwyno ffurflen Caniatâd i Gofrestru o fewn 10 niwrnod gwaith i ddyddiad y llythyr/e-bost i'r myfyrwyr yn cadarnhau eu bod yn tynnu yn ôl am beidio â chofrestru.
Wrth ystyried ceisiadau o'r fath, bydd Pennaeth Cofnodion Academaidd neu ei enwebai, yn ystyried y canlynol:
Amseru'r cais; yr amgylchiadau sy'n ymwneud â'r cais hwyr; argymhellion gan gyfadran/ysgol y myfyriwr; gofynion cyfreithlon ac ariannol y cofrestriad; y gyfraith sy'n llywodraethu'r hawl i astudio yn y brifysgol; yr amodau a/neu ddiddymu fisa'r myfyriwr (lle bo'n briodol); argymhellion gan reolwyr derbyn/cydymffurfio/cyllid/ cofnodion myfyrwyr (lle bo'n briodol).
4.6.2
Adolygiad Terfynol
I ofyn am adolygiad terfynol o'r penderfyniad i beidio â chymeradwyo ailsefydlu ymgeisyddiaeth a chaniatâd i gofrestru'n hwyr, gweler Gweithdrefn Adolygiad Terfynol Prifysgol Abertawe. Dylai myfyrwyr sylwi bod rhaid cyflwyno unrhyw gais am adolygiad terfynol i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Addysg o fewn 14 diwrnod gwaith i ddyddiad y llythyr/e-bost yn cadarnhau’r penderfyniad i beidio â chymeradwyo ailsefydlu’r myfyriwr a rhoi chaniatâd iddo gofrestru’n hwyr, yn unol â'r Weithdrefn Adolygiad Terfynol.
4.7
Bydd y Brifysgol yn hysbysu'r awdurdodau perthnasol, o fewn cyfnod penodedig, yn unol â deddfau’r Deyrnas Unedig parthed astudio yn y DU, am fyfyrwyr y tynnwyd eu henwau yn ôl oherwydd iddynt beidio â chofrestru ar raglen astudio o fewn y cyfnod cofrestru penodedig.
4.8
Bydd yn ofynnol i fyfyrwyr sy'n astudio ar raglen a ddarperir mewn partneriaeth â sefydliad arall gofrestru gyda'r sefydliad partner yn unol â'r gweithdrefnau cofrestru a gyhoeddir gan y sefydliad partner unigol.
4.9
Drwy gwblhau'r broses gofrestru, bydd myfyrwyr yn cadarnhau y byddant yn ufuddhau i reoliadau'r sefydliad(au) dan sylw ac, yn achos rhaglenni a ddarperir ar y cyd â phartneriaid, yn cadarnhau y byddant yn ufuddhau i reoliadau'r ddau sefydliad, gan adlewyrchu eu statws fel myfyrwyr cofrestredig ym mhob sefydliad.
5. Categorïau Myfyrwyr
5.1
Yn dibynnu ar y math o raglen a ddilynir, cydnabyddir y categorïau canlynol o fyfyrwyr:
- Myfyrwyr amser llawn (fel rheol yn dilyn 120 credyd);
- Myfyrwyr rhan-amser (yn dilyn 90 credyd neu lai);
- Myfyrwyr Cyfnewid/Ymweld (myfyrwyr a dderbynnir i’r Brifysgol yn unol â chytundebau cyfnewid);
- Myfyrwyr cysylltiol (myfyrwyr nad ydynt yn dilyn rhaglen benodol ond sydd yn astudio modiwlau unigol);
- Myfyrwyr Prentisiaeth (myfyrwyr sydd mewn cyflogaeth ac yn astudio rhaglen benodol sy’n cynnwys dysgu ar sail gwaith);
- Aelodau staff sydd wedi cofrestru’n fyfyrwyr.
6. Lefelau Astudio
6.1
Cyflwynir rhaglenni israddedig ar ffurf wyth lefel astudio. Mae pob lefel yn nodi cam penodol o fewn rhaglen, ac fel arfer yn ymwneud â'r flwyddyn astudio pan ellid astudio ar y lefel honno.
Lefelau Fframwaith Cymwysterau Addysg Uwch | Blwyddyn Astudio | Disgrifwyr Dysgu |
---|---|---|
3 | Blwyddyn Sylfaen | Wedi cwblhau'r lefel astudio hon, dylai'r myfyriwr fel arfer fedru dangos gwybodaeth elfennol o gysyniadau sylfaenol y pwnc. |
4 | Blwyddyn 1 | Fel rheol Blwyddyn Gyntaf rhaglen gradd Baglor amser llawn. Wedi cwblhau'r lefel astudio hon, bydd gan y myfyriwr wybodaeth gadarn o gysyniadau sylfaenol y pwnc, a bydd wedi dysgu defnyddio dulliau gwahanol er mwyn datrys problemau. |
5 | Blwyddyn 2 | Fel rheol Ail Flwyddyn rhaglen gradd Baglor amser llawn. Wedi cwblhau'r lefel astudio hon, bydd y myfyriwr wedi datblygu dealltwriaeth gadarn o'r egwyddorion yn ei faes astudio, wedi dysgu sut i'w cymhwyso'n ehangach a sut i werthuso addasrwydd gwahanol ddulliau o ddatrys problemau. |
6 | Blwyddyn 3 | Fel rheol Trydedd Flwyddyn rhaglen gradd Baglor amser llawn. Wedi cwblhau'r lefel astudio hon, bydd y myfyriwr wedi datblygu dealltwriaeth o gorff cymhleth o wybodaeth, rhan ohono ar ffiniau cyfredol disgyblaeth academaidd. Bydd y myfyriwr wedi datblygu technegau dadansoddol a sgiliau datrys problemau, bydd yn gallu gwerthuso tystiolaeth, dadleuon a rhagdybiaethau, a bydd yn gallu dod i gasgliadau cadarn a'u cyfleu'n effeithiol. |
7 | Blwyddyn 4 (Ôl-raddedig a addysgir) | Fel rheol Pedwaredd Flwyddyn a Blwyddyn Olaf rhaglen gradd gychwynnol uwch. Wedi cwblhau'r lefel astudio hon, bydd y myfyriwr wedi datblygu dealltwriaeth o gorff cymhleth o wybodaeth, rhan ohono ar flaen y gad mewn disgyblaeth academaidd neu broffesiynol. Bydd y myfyriwr yn gallu ymdrin â materion cymhleth yn systematig ac yn greadigol a bydd yn dangos gwreiddioldeb wrth ymdrin â phroblemau a'u datrys. Bydd y myfyriwr wedi datblygu rhinweddau sy'n angenrheidiol mewn amgylchiadau sy'n gofyn am ddoethineb, cyfrifoldeb personol, a menter. |
Lefel S | Mae rhai rhaglenni gradd yn cynnwys Lefel S - Blwyddyn Ryngosodol a dreulir yn astudio dramor neu ar leoliad diwydiannol. Fel arfer, daw Lefel S ar ôl cwblhau Lefel 5 yn llwyddiannus. Rhoddir marc am gwblhau Lefel S. | |
Lefel E | Mae rhai rhaglenni gradd yn cynnwys Lefel E - Blwyddyn Profiad Rhyngosodol pan fydd myfyriwr yn ennill profiad gwaith perthnasol, o bosibl mewn Diwydiant. Fel arfer, daw Lefel E ar ôl cwblhau Lefel 5 yn llwyddiannus. Rhaid cwblhau Lefel E yn llwyddiannus, ond ni roddir marciau ar gyfer y Lefel hon. |
7. Modiwlau o Fewn Rhaglen
7.1
Cydran addysgol ar wahân o fewn rhaglen yw modiwl. Bydd pob rhaglen yn cynnwys modiwlau a all fod yn fodiwlau unigol o 10 credyd, lluosrifau o 10 credyd neu luosrifau o 15 credyd.
7.2
Hefyd:
- Neilltuir rhif cyfeirio unigryw i bob modiwl;
- Caiff lefel astudio ei phennu ar gyfer pob modiwl, sy’n adlewyrchu safon academaidd y modiwl a’i ddeilliannau dysgu;
- Caiff credydau sy’n perthyn i’r System Trosglwyddo Credydau Ewropeaidd (ECTS) eu pennu ar gyfer pob modiwl (yn fras, mae 5 credyd y system honno’n gyfwerth â 10 credyd Prifysgol Abertawe);
- Gall modiwl fod â rhagofynion a/neu gyd-ofynion;
- Gellir disgrifio rhai modiwlau hefyd fel rhai anghydnaws â’i gilydd (gweler adran 18).
7.3
Gellir grwpio modiwlau yn y categorïau canlynol yn ôl y prif ddull dysgu:
- Modiwlau sydd wedi’u seilio ar ddarlithoedd;
- Modiwlau sydd wedi’u seilio ar waith ymarferol;
- Modiwlau sydd wedi’u seilio ar draethawd hir;
- Modiwlau sydd wedi’u seilio yn y gweithle;
- neu gyfuniad addas o’r categorïau hyn (modiwl cyfansawdd).
Mae’r oriau cyswllt ar gyfer gwahanol gategorïau’r modiwlau wedi’u diffinio mewn canllaw swyddogol a gyhoeddwyd yn y Cod Ymarfer ar gyfer Sicrhau Ansawdd.
8. Modiwlau Proffesiynol/Galwedigaethol
8.1
Gall Cyfadran/Ysgol fynnu bod ymgeiswyr yn dilyn modiwlau proffesiynol neu alwedigaethol yn ychwanegol i'r credydau amser llawn. Ni neilltuir credydau i’r modiwlau hyn ond rhaid eu dilyn er mwyn bodloni gofynion cyrff proffesiynol.
9. Modd a Phatrwm Mynychu
9.1
Mae’r modd mynychu yn dynodi a gaiff rhaglen gradd ei hastudio'n amser llawn neu'n rhan-amser. Mae’r patrwm mynychu yn adlewyrchu gofynion y rhaglen gradd o ran blynyddoedd a dreulir yn y Brifysgol, Blynyddoedd Sylfaen, Blynyddoedd Rhyngosodol a chyfnodau ar leoliad diwydiannol. Mae gan rai graddau batrymau mynychu penodol, er enghraifft, Graddau-brentisiaeth, a bydd llawlyfr y rhaglen dan sylw'n darparu manylion llawn.
9.2 Modd Mynychu Amser Llawn
9.2.1
Disgwylir i ymgeiswyr amser llawn fel rheol ddilyn modiwlau y mae cyfanswm eu credydau'n 120 mewn un flwyddyn academaidd. Fodd bynnag, tybir bod ymgeiswyr sy’n dilyn modiwlau gyda llai na 120 credyd ond mwy na 90 credyd hefyd yn fyfyrwyr amser llawn.
9.3 Modd Mynychu Rhan-Amser
9.3.1
Mae ymgeiswyr rhan-amser fel rheol yn astudio modiwlau y bydd cyfanswm eu credydau'n 60. Ni chaniateir i fyfyrwyr rhan-amser ddilyn mwy na 90 na llai na 30 credyd mewn un flwyddyn academaidd.
9.3.2
Mewn amgylchiadau arbennig, gellir rhoi caniatâd i fyfyrwyr sy’n astudio yng Ngholeg y Gwyddorau Dynol ac Iechyd wneud llai na 30 credyd mewn un flwyddyn academaidd.
9.4 Modd Mynychu Cymysg
9.4.1
Caiff ymgeisydd sy’n newid ei fodd mynychu yn ystod cyfnod ymgeisyddiaeth rhaglen astudio arbennig (h.y. sy’n dilyn y rhaglen fel myfyriwr amser llawn ac fel myfyriwr rhan-amser) ei dybio'n ymgeisydd sy'n dilyn y rhaglen ar sail modd mynychu cymysg.
10. Trosglwyddo Rhwng Amser Llawn a Rhan-amser
10.1
Tybir bod myfyrwyr y caniateir iddynt drosglwyddo rhwng moddau mynychu amser llawn a rhan-amser yn fyfyrwyr sy'n dilyn rhaglen israddedig ar sail modd mynychu cymysg. Caniateir i’r cyfryw fyfyrwyr newid y modd mynychu dan yr amodau canlynol yn unig:
- Mae’r Deon Gweithredol (neu ei enwebai/enwebeion) yn cymeradwyo’r newid;
- Mae'r trosglwyddo yn digwydd ar ddechrau blwyddyn academaidd ac ar ddechrau lefel astudio.
10.2
Ni chaniateir cais i drosglwyddo i astudio mewn modd mynychu cymysg oni bai y gall y myfyriwr gwblhau’r rhaglen o fewn y cyfnod ymgeisyddiaeth a ddiffinnir yn y Rheoliadau Penodol. (Nid yw hyn yn berthnasol i fyfyrwyr Tystysgrif.)
11. Modiwlau Craidd
11.1
Gall y Cyfadrannau/Ysgolion nodi modiwlau sy’n greiddiol i raglen. Gall y Cyfadrannau/Ysgolion bennu nid yn unig bod yn rhaid dilyn y cyfryw fodiwlau Craidd ond bod yn rhaid eu pasio hefyd cyn i fyfyriwr fynd ymlaen i’r lefel astudio nesaf neu ennill cymhwyster. Mae’n rhaid gwneud iawn am unrhyw fodiwlau craidd sy’n cael eu methu.
12. Modiwlau Gorfodol
12.1
Yn y rhan fwyaf o raglenni gradd, bydd y Gyfadran(nau)/Ysgol(ion) dan sylw yn pennu modiwlau gorfodol. Dylai pob Cyfadran/Ysgol nodi’r cyfryw fodiwlau a'u rhestru yn llawlyfrau'r Gyfadran/Ysgol. Y modiwlau gorfodol yw’r rhai y mae’n orfodol i’r myfyrwyr eu hastudio.
13. Modiwlau Dewisol
13.1
I ategu’r modiwlau gorfodol, fel arfer disgwylir i fyfyrwyr ddilyn modiwlau dewisol o restr benodedig o ddewisiadau yn y maes/meysydd pwnc arbenigol. Dylai myfyrwyr geisio cyfarwyddyd y Cyfadran/Ysgol ‘cartref’ wrth ddewis y modiwlau dewisol.
14. Modiwlau Dethol
14.1
Gall Cyfadrannau/Ysgolion ganiatáu i fyfyrwyr ehangu eu haddysg trwy adael iddynt ddilyn nifer cyfyngedig o fodiwlau, a all fod ar lefel is, o’r tu allan i ddisgyblaethau sy’n gysylltiedig â’r rhaglen astudio o'u dewis. Modiwlau dethol yw’r enw ar y modiwlau hyn, ac fe’u cymerir yn lle modiwl dewisol yn y rhaglen astudio y cofrestrwyd myfyriwr ar ei chyfer, ar yr amodau canlynol:
- Bod y myfyriwr yn bodloni gofynion mynediad y modiwl dethol;
- Nad oes problemau amserlennu;
- Bod yr aelod priodol o staff y Gyfadran/Ysgol ‘gartref’ yn cymeradwyo’r modiwl fel un academaidd ddilys;
- Ac ar y ddealltwriaeth na fydd y modiwl dethol yn newid teitl y cymhwyster y cofrestrwyd y myfyriwr ar ei gyfer.
14.2
Gyda chaniatâd y Gyfadran/Ysgol 'gartref' (a all gael ei ddylanwadu gan ofynion Cyrff Proffesiynol), mae'n bosib y caniateir i fyfyrwyr ddilyn modiwlau arbennig ar lefel is na'r lefel astudio bresennol. Uchafswm credydau modiwlau o’r fath yw 20 ym mhob sesiwn (i fyfyrwyr amser llawn) ac ar gyfer y gofyniad credyd ac at ddibenion asesu, cymerir bod modiwlau o’r fath ar y lefel uwch. Rhaid i’r modiwlau o’r lefel is hefyd gael eu cyfyngu i’r lefel yn union islaw lefel astudio bresennol y myfyriwr (h.y. lefel astudio llai un lefel).
14.3
Ni chaniateir i ymgeiswyr ddilyn modiwlau gorfodol ar lefel is.
14.4
Ni chaniateir i ymgeiswyr sydd yn dilyn Gradd Gychwynnol Uwch gymryd credydau ar lefel is yn eu blwyddyn astudio olaf gan fod angen dilyn 120 credyd ar Lefel 7.
14.5
Fel arfer, ni chaniateir i ymgeiswyr ddilyn modiwlau ar lefel uwch na'r lefel y maent wedi cofrestru arni.
15. Modiwlau Amgen
15.1
Gall ymgeiswyr sydd eisiau gwneud iawn am fethiant posibl mewn modiwl yn Semester Un wneud cais i'w Cyfadran/Ysgol gartref i ddilyn “modiwl amgen” yn Semester Dau.
15.2
Caiff marciau modiwlau amgen a ddilynir ar Lefelau 5 neu 6, ac y llwyddir ynddynt, eu capio ar 40% waeth beth yw'r union farc a enillir.
15.3
Caiff marciau modiwlau amgen a ddilynir ar Lefel 7, ac y llwyddir ynddynt, eu capio ar 50% waeth beth yw'r union farc a enillir.
16. Modiwlau Amnewid
16.1
Ni chaniateir i ymgeiswyr amser llawn ddilyn modiwlau amnewid ond o dan yr amgylchiadau canlynol:
- Myfyrwyr sydd wedi dilyn modiwl y tu hwnt i 6ed wythnos y bloc dysgu cyntaf ac sy’n penderfynu tynnu’n ôl o’r modiwl i ddilyn modiwl amnewid yn ystod yr ail floc dysgu.
17. Modiwlau Ychwanegol
17.1
Gellir caniatáu i ymgeiswyr ddilyn modiwlau nad ydynt yn ofynnol yn y rhaglen astudio arbennig yn ychwanegol i’r llwyth credyd amser llawn o 120 credyd.
17.2
Bydd disgwyl i ymgeiswyr gofrestru ar y cyfryw fodiwlau ychwanegol yn fyfyrwyr cysylltiol.
18. Rhagofynion, Cyd-ofynion ac Anghydnawsedd
18.1
Efallai y bydd angen cyfyngu ar rai dewisiadau modiwlau oherwydd natur y pwnc dan sylw.
18.2
Rhagofyniad yw modiwl penodol y mae’n rhaid cael credyd ar ei gyfer cyn y caniateir i fyfyriwr gofrestru ar fodiwl penodol cysylltiedig arall.
18.3
Cyd-ofynion yw modiwlau cysylltiedig y mae’n rhaid cymryd y ddau ohonynt i fodloni gofynion y modiwl.
18.4
Ni all modiwlau a gymerir yn semester cyntaf y sesiwn fod yn rhagofynion i fodiwlau a ddysgir yn ail semester y sesiwn. Lle bo hynny’n briodol, bydd y cyfryw fodiwlau yn gyd-ofynion a byddant yn dod dan y rheoliadau cyfeirio arferol.
18.5
Gall rheoliadau rhaglen hefyd nodi na all ymgeiswyr sydd yn cymryd modiwl “A” hefyd gymryd modiwl “B”. Anghydnawseddau yw’r enw ar y cyfryw fodiwlau.
18.6
Cyfrifoldeb y Gyfadran(nau)/Ysgol(ion) dan sylw yw dynodi modiwlau fel rhagofynion, cyd-ofynion neu anghydnawseddau.
19. Llawlyfr
19.1
Bydd llawlyfr Cyfadran/Ysgol ar gael i bob ymgeisydd wrth, neu cyn, iddo gychwyn astudio.
20. Trosglwyddo Rhaglenni
20.1
Caniateir i fyfyrwyr drosglwyddo rhwng rhaglenni astudio ar yr amod bod y trosglwyddo yn cael ei gymeradwyo gan y Gyfadran/Ysgol dan sylw. Dylid hefyd ystyried gofynion y Rheoliadau Addysg (Cymwysterau Gorfodol). Ni fydd y Brifysgol fel rheol yn caniatáu unrhyw drosglwyddo rhwng rhaglenni yn y flwyddyn olaf astudio ac yn sicr nid ar ôl diwedd y semester cyntaf.
20.2
Anfonir ceisiadau drosglwyddo i raglen arall at Wasanaethau Academaidd am gymeradwyaeth derfynol.
20.3
Yn achos myfyrwyr rhyngwladol a noddir gan y Brifysgol, mae trosglwyddo rhwng rhaglenni'n amodol ar feddu ar fisa ddilys Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt). Cyn y caiff y myfyriwr drosglwyddo i raglen arall, asesir a yw'r broses drosglwyddo'n bodloni deddfwriaeth Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt) gyfredol cyn y caiff y cais ei gymeradwyo. Bydd yr asesiad yn cyfeirio at lefel y rhaglen newydd, cyfnod caniatâd i aros presennol y myfyriwr, y terfynau amser cyfredol sy'n llywodraethu astudio Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt); asesir a yw'r rhaglen newydd yn bodloni 'dyheadau go iawn' y myfyriwr o ran ei yrfa ac ystyrir unrhyw ofynion eraill a bennir gan Swyddfa Teithebau a Mewnfudo'r DU. Lle nad oes modd cwblhau'r rhaglen newydd o fewn y cyfnod caniatâd i aros sy'n weddill o dan Llwybr Myfyrwyr (Haen 4 gynt), bydd angen i'r myfyriwr adael y DU i gyflwyno cais pellach am ganiatâd i aros er mwyn cwblhau'r rhaglen. Os oes angen cymeradwyaeth gan y Cynllun Cymeradwyo Technoleg Academaidd (ATAS) ar raglen, bydd rhaid i fyfyrwyr rhyngwladol gael cymeradwyaeth a darparu copi o'r dystysgrif ATAS i'r Brifysgol cyn y gellir cymeradwyo cais i newid rhaglen.
21. Trosglwyddo Rhwng Modiwlau
21.1
Caniateir i bob ymgeisydd drosglwyddo o un modiwl i fodiwl arall ar yr amod bod y Gyfadran(nau)/Ysgol(ion) berthnasol yn cymeradwyo’r trosglwyddo o fewn y terfyn amser a ganlyn:
Modiwlau byr (un semester o hyd): cyn diwedd yr ail wythnos o addysgu ar y modiwl penodol;
Modiwlau hir (dau semester o hyd): cyn diwedd y bedwaredd wythnos o addysgu ar y modiwl dan sylw.
21.2
Mae’n rhaid derbyn cymeradwyaeth Cadeirydd Pwyllgor Addysgu’r Gyfadran/Ysgol (neu ei enwebai) cyn y gellir trosglwyddo y tu allan i’r terfynau amser hyn).
21.3
Disgwylir i fyfyrwyr ddilyn y gweithdrefnau a fabwysiadwyd gan Senedd y Brifysgol sydd mewn grym ar y pryd.
22. Ymgysylltu Myfyrwyr
22.1
Mae'r Brifysgol yn disgwyl i fyfyrwyr fodloni'r gofynion ymgysylltu a amlinellir yn Datganiad ar Ymgysylltu.
23. Monitro Cynnydd a Ymgysylltu
23.1
Disgwylir i ymgeiswyr fynd i holl sesiynau dysgu'r amserlen sy'n gysylltiedig â phob modiwl maent wedi dewis ei ddilyn.
23.2
Caiff ymgysylltu ei fonitro yn unol â Pholisi Monitro Presenoldeb y Brifysgol.
23.3
Caiff cynnydd ei fonitro drwy drafodaethau rheolaidd â Tiwtoriaid Personol a thrwy fyrddau arholi.
24. Gohirio Astudiaethau
24.1
Ystyrir gohirio astudiaethau yn unol â Rheoliadau Prifysgol Abertawe ar Ohirio Astudiaethau.
25. Myfyrwyr Rhyngwladol a Gofynion Fisa
25.1
Os oes angen fisa ar fyfyrwyr rhyngwladol i'w galluogi i astudio yn y Brifysgol, dylent sylwi bod eu hawl i astudio yn y Brifysgol yn amodol ar fodloni amodau eu fisa a'r terfynau amser a bennir gan Swyddfa Teithebau a Mewnfudo'r DU (UKVI). Am ragor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/browse/visas-immigration/study-visas.
25.2
Gwneir penderfyniadau gan y Brifysgol o ran statws cofrestru myfyriwr, perfformiad academaidd, cynnydd, a'r dyfarniad, yn unol â rheoliadau academaidd ac ariannol y Brifysgol, ac ni fydd cyfyngiadau fisa na chyfyngiadau amser a osodir gan Asiantaeth Fisas a Mewnfudo'r Deyrnas Unedig yn effeithio arnynt.
Fodd bynnag, mae'r hawl i barhau i astudio yn amodol ar fodloni gofynion cofrestru'r Brifysgol ac ar ganllawiau Asiantaeth Fisâu a Mewnfudo'r Deyrnas Unedig, ac y mae fisa yn hanfodol i'r rheini. Ni chaiff myfyriwr rhyngwladol sy'n gymwys i symud i'r lefel astudio nesaf, neu'r flwyddyn astudio nesaf, barhau i astudio yn y Brifysgol heb fisa ddilys.
Dylai unrhyw fyfyriwr sydd â phryder neu gwestiwn ynghylch ei fisa gysylltu â Gwasanaeth Cynghori Myfyrwyr Rhyngwladol y Brifysgol.
26. Cyflwyno Gwaith
Bydd Cyfadrannau/Ysgolion yn pennu dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno gwaith i'w asesu. Mae Polisi Asesu, Marcio ac Adborth Prifysgol Abertawe'n nodi gwybodaeth sy'n ymwneud ag amserlenni, cyflwyno asesiadau a chyflwyno asesiadau'n hwyr.
27. Estyn Terfynau Amser
27.1
Nid oes modd ymestyn terfynau amser rhaglen gradd, fel y’u gosodwyd yn y rheoliadau penodol, ac eithrio dan amgylchiadau eithriadol ac yn unol â’r meini prawf canlynol:
Fel rheol, caniateir estyniad ar seiliau trugarog, neu mewn achos o salwch ac anawsterau difrifol yn y cartref, y gellir dangos iddynt effeithio’n andwyol ar yr ymgeisydd. Rhaid i’r Gyfadran/Ysgol wneud achos llawn a rhesymegol, gyda thystiolaeth feddygol briodol neu dystiolaeth annibynnol arall, i’r Brifysgol ei ystyried.
Mewn achosion sy’n deillio o salwch:
- Rhaid darparu tystiolaeth feddygol foddhaol, gan gynnwys tystysgrif feddygol. (Mae difrifoldeb a natur y salwch fel y'u disgrifir ar y dystysgrif yn hynod werthfawr wrth asesu’r achos.);
- Rhaid rhoi datganiad clir, yn dangos bod y Gyfadran/Ysgol dan sylw wedi gwerthuso sefyllfa’r ymgeisydd o ganlyniad i’r salwch ac yn tybio bod yr estyniad y gwneir cais amdano yn briodol. Lle bynnag y bo modd, dylai datganiad o’r fath ddilyn cyswllt uniongyrchol rhwng yr ymgeisydd a’r Gyfadran/Ysgol.
27.2
Rhaid i geisiadau am estyniad gael eu cyflwyno drwy Gyfadran/Ysgol yr ymgeisydd i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Addysg, lle caiff yr achos ei ystyried yn weinyddol ar ran y Bwrdd Rheoliadau, Ansawdd a Safonau.
28. Cymorth Penodol/Darpariaeth Benodol mewn Arholiad
28.1
Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw hysbysu'r awdurdodau perthnasol, h.y. cyflogwr, sefydliad partner a/neu gyfadran(nau)/ysgol(ion) academaidd perthnasol y Brifysgol am unrhyw amgylchiadau esgusodol a allai alw am gymorth neu ystyriaeth benodol ar gyfer asesiadau.
Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr gyflwyno dogfennaeth briodol i brofi eu hamgylchiadau a rhaid cofnodi'r rhain ar y ffurflen briodol a'u hategu, lle bynnag y bo modd, gan dystiolaeth ysgrifenedig. Mae'n rhaid cyflwyno unrhyw gais i'r Gyfadran/Ysgol cyn gynted ag sy'n ymarferol, ac yn bendant cyn yr arholiad neu'r asesiad dan sylw.
28.2
Os oes angen addasiadau i astudiaethau ymgeisydd oherwydd anabledd, cyflwr meddygol hirdymor, anhawster lles neu anhawster dysgu penodol, dylai drafod ei ofynion â'r Swyddfa Anableddau neu'r Gwasanaeth Lles. Bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd ddarparu tystiolaeth ddogfennol ategol naill ai i'r Swyddfa Anableddau neu i'r Gwasanaeth Lles. Ni chaiff y cais am addasiadau ei weithredu oni ddarperir tystiolaeth ategol.
28.3
Lle bo angen addasiad a chaiff ei ategu gan dystiolaeth feddygol, bydd y Swyddfa Anableddau neu'r Gwasanaeth Lles yn anfon eu hargymhellion at y Tiwtor Cyswllt Anabledd priodol i Gyfadran/Ysgol yr ymgeisydd weithredu yn eu cylch.
28.4
Os oes angen darpariaeth benodol mewn arholiad ar ymgeisydd, dylai drafod ei ofynion â’r Swyddfa Anableddau neu'r Gwasanaeth Lles. Bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd ddarparu tystiolaeth ddogfennol ategol naill ai i'r Swyddfa Anableddau neu'r Gwasanaeth Lles. Ni chaiff y cais am ddarpariaeth benodol mewn arholiad ei weithredu oni ddarperir tystiolaeth ategol briodol.
28.5
Pan dderbynnir cais am ddarpariaeth benodol mewn arholiad, bydd y Swyddfa Anableddau neu'r Gwasanaeth Lles yn anfon eu hargymhellion i'r Swyddfa Arholiadau ac at y Tiwtor Cyswllt Anabledd priodol ar gyfer Cyfadran/Ysgol yr ymgeisydd. Yn achos arholiadau a drefnir gan Swyddfa Arholiadau'r Brifysgol, bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd gadarnhau ei drefniadau arholi gyda'r Swyddfa Arholiadau. Yn achos unrhyw arholiadau a drefnir gan y Gyfadran/Ysgol, cynghorir ymgeiswyr i drafod eu gofynion â'r Gyfadran/Ysgol a chaiff darpariaethau penodol mewn arholiad eu rhoi ar waith gan y Gyfadran/Ysgol.
29. Trosglwyddo Credydau
29.1
Yn ôl ei doethineb, gall y Brifysgol bennu bod perfformiad ymgeisydd mewn astudiaethau blaenorol a ddilynwyd a/neu unrhyw ddysgu blaenorol trwy brofiad yn cyfrif tuag at y gofynion ar gyfer dyfarnu gradd ac felly eithrio’r myfyriwr o rai modiwlau neu o lefel astudio rhaglen gradd gydnabyddedig.
Caiff ceisiadau i drosglwyddo credydau eu hystyried yn unol â Pholisi a Gweithdrefnau Prifysgol Abertawe ynghylch cydnabod dysgu blaenorol.
30. Achredu Proffesiynol
30.1
Ni fydd ymgeiswyr ar raglenni astudio a gaiff eu hachredu’n ychwanegol at ddibenion proffesiynol yn y Brifysgol (e.e. Peirianneg, Seicoleg a’r Gyfraith) o reidrwydd yn elwa ar achredu o’r fath os ydynt wedi dod i’r Brifysgol gyda chredydau trosglwyddadwy. Cyfrifoldeb y Gyfadran/Ysgol sy’n derbyn yr ymgeisydd yw sicrhau ei fod yn bodloni gofynion o ran achredu proffesiynol yn ei broffil addysgol cyffredinol, ac os nad yw’n bodloni’r gofynion dan sylw, dylai’r Gyfadran/Ysgol gynghori’r ymgeisydd yn briodol.
31. Byrddau Arholi a Phenodi Arholwyr
31.1
Caiff yr holl arholiadau eu cynnal dan awdurdod Rheoliadau a Gweithdrefnau’r Brifysgol ar gyfer Gweithredu Arholiadau. Bydd gwaith y Byrddau Arholi yn digwydd yn unol â Rheoliadau Asesu Israddedigion.
31.2
Caiff arholwyr allanol eu henwebu a’u penodi yn unol â’r gweithdrefnau a amlygir yng Nghod Ymarfer Prifysgol Abertawe ar gyfer Arholwr Allanol.
32. Apeliadau Academaidd
32.1
Dylid cynnal apeliadau academaidd yn unol â gweithdrefnau Cywirdeb Marciau a Gyhoeddwyd a gweithdrefnau Apeliadau Academaidd Prifysgol Abertawe.
33. Camymddwyn Academaidd
33.1
Caiff unrhyw honiad ynghylch arfer annheg ei ystyried yn unol â gweithdrefnau Camymddwyn Academaidd Prifysgol Abertawe.
34. Addasrwydd i Ymarfer
34.1
Caiff honiadau ynghylch addasrwydd i ymarfer eu hystyried yn unol â Rheoliadau Addasrwydd i Ymarfer Prifysgol Abertawe.