Myfyriwr mewn labordy cyfrifiadurol

Cywirdeb Cofnodion Myfyrwyr

Mae'n bwysig bod yr wybodaeth ar system cofnodion ganolog y Brifysgol mor gywir â phosib ar bob adeg. Gallwch weld eich gwybodaeth academaidd a phersonol drwy eich Cyfrif ar Fewnrwyd y Brifysgol. Mae cyfathrebu â'r Brifysgol yn hanfodol ac rydym yn eich annog yn gryf i wirio'ch cofnodion yn rheolaidd i sicrhau bod eich manylion personol ac academaidd yn gywir ac yn gyfredol. Disgwylir i chi gadarnhau bod y rhaglen astudio, y modiwlau a ddewiswyd gennych, a'r nifer o gredydau rydych wedi cofrestru amdanynt yn gywir.

Bydd angen i'ch Cyfadran/Ysgol (neu'ch Cyfadrannau/Ysgolion) a Gwasanaethau Proffesiynol y Brifysgol gysylltu â chi'n aml, felly eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod eich cyfeiriad cartref, a'ch cyfeiriad yn ystod y tymor, yn gywir ar eich cofnod academaidd. Ni fyddwn yn derbyn diffyg ymwybyddiaeth o ofynion y Brifysgol neu'ch Cyfadran/Ysgol fel rheswm digonol dros beidio ag ymateb i geisiadau am wybodaeth neu beidio â dod i gyfweliadau. Yn yr un modd, ni chewch ddefnyddio fel esgus y ffaith nad ydych wedi derbyn rhybudd am gyfarfod neu wrandawiad drwy lythyr i'ch cyfeiriad yn ystod y tymor neu'ch cyfeiriad cartref os nad yw'r cyfeiriad hwnnw'n gywir bellach.