3 myfyriwr yn eistedd wrth fwrdd ac yn defnyddio gliniaduron

Dyfeisiau

Rydym ni yma i gynnig cymorth ar gyfer dyfeisiau (gliniaduron, tabledi, ffonau symudol ac e-ddarllenwyr).

Rydym yn ceisio darparu cymorth gyda'r canlynol:

  • Wi-Fi - cysylltu â Wi-Fi Prifysgol Abertawe.
  • Diogelu Gwybodaeth – gwirio firysau, gwaredu firysau (yn dibynnu ar ddifrifoldeb), adfer data (ond pwysleisiwn yr angen i gadw copi wrth gefn o'ch data pwysig), a chyngor ar gyfrineiriau ac amgryptio.
  • E-bost – gan gynnwys sut i osod eich cyfrif e-bost y Brifysgol ar eich dyfais.
  • Meddalwedd – gosod meddalwedd a gyflenwir gan y Brifysgol ar eich dyfais. Sylwer, os oes angen hyfforddiant gydag unrhyw feddalwedd, bydd angen i'r cyflenwr ddarparu hwn, neu dylid ei drefnu drwy eich adran os yw ar gael.