Eich Cyfrif E-bost Prifysgol Abertawe

Rydym yn rhoi cyfrif e-bost i bawb yn y Brifysgol y gallwch ei ddefnyddio drwy Outlook ar gyfrifiaduron y Brifysgol, drwy borwr we a thrwy ddyfeisiau symudol megis ffônau symudol neu dabledi.

Sut i osod E-bost ar gleientiaid e-bost a dyfeisiau eich hun

Sylwer, rydym yn cefnogi'r defnydd o gleientiaid e-bost ar ddyfeisiau personol unigolion, ond bydd rhaid i'r dyfeisiau hynny gydymffurfio â Pholisi Defnydd Derbyniol o Dechnoleg Ddigidol y Brifysgol.

Ni fydd modd i chi gyrchu eich e-bost Prifysgol ar eich dyfais bersonol oni bai fod gennych chi nodwedd ddiogelwch wedi’i gosod ar eich dyfais er mwyn cloi’r sgrîn megis côd PIN neu ôl bys.

Argymhellir defnyddio’r fersiwn ddiweddaraf o ap Microsoft Outlook ar gyfer dyfeisiau iOS ac Android.

Mae’r tabl isod yn nodi’r apiau post sy’n cydymffurfio â gofynion diogelwch gwybodaeth Prifysgol Abertawe.

Cymwysiadau

Dyfais iOS (Apple)

Dyfais Android

Ap Outlook

Ydy

Ydy

Ap Mail mewnol

Ydy (iOS 11 neu’n uwch)

Nac ydy

Bydd y cyfarwyddiadau canlynol yn eich tywys drwy osod eich e-bost ar y systemau gweithredu symudol a restrir uchod:

Ap Outlook ar gyfer iOS

Ap Outlook ar gyfer Android

Ap Mail mewnol ar gyfer iOS

Ar gyfer apiau post eraill, mae cydweddoldeb yn amodol ar gymorth gan bob gwerthwr, megis Gmail, a gall ddibynnu hefyd ar fersiwn iOS neu Android eich dyfais.Diogelwch E-bost

Ap Gmail ar gyfer Android

Diogelwch E-bost

Os ydych wedi derbyn e-bost rydych yn bryderus amdano, anfonwch yr e-bost ymlaen i'r gwasanaeth Cymorth Spam os gwelwch yn dda.

Am ragor o wybodaeth ynghylch diogelwch e-bost, gweler ein cyngor ar Ddiogelu Gwybodaeth.