Diogelu eich gwybodaeth
Mae dyletswydd ar aelodau'r Brifysgol i warchod gwybodaeth eu hun, a gwybodaeth pobl eraill.
Rhaid i holl aelodau staff a myfyrwyr dal at Bolisi Defnydd Derbyniol o Dechnoleg Ddigidol y Brifysgol a Pholisi Defnydd Derbyniol Janet.
Mae Polisi Diogelwch Gwybodaeth fanwl y Brifysgol ar gael yma.
Cyngor pwysig i'w cofio:
- Mae’n hanfodol bod Gwasanaethau TG yn cael eu rhybuddio am unrhyw geisiadau gwe-rwydo neu unrhyw gyfathrebiadau maleisus neu sgamiau e-bost yn erbyn gwasanaethau’r Brifysgol cyn gynted â phosib er mwyn i staff weithredu’n gyflym a chyfyngu’r camddefnyddio arfaethedig. Rydyn ni’n eich annog chi’n gryf i adrodd ceisiadau o’r math trwy e-bostio Cymorth Sbam neu drwy gofnodi galwad gyda’n Desg Wasanaeth TG. Rydyn ni’n anelu at ymateb ymhen 5 niwrnod gwaith o dderbyn cais.
- Bydd Gwasanaethau TG byth yn eich gofyn am eich cyfrinair drwy e-bost neu drwy'r Desg Wasanaeth TG ar-lein.
- Os ydych yn derbyn e-bost amheus, peidiwch byth anfon ateb iddo neu glicio ar unrhyw ddolennau ynddo. Gofynnwch am gyngor yn gyntaf.
- Defnyddiwch gyfrineiriau cryf bydd yn anodd eu dyfalu.
- Sicrhewch fod meddalwedd wedi'i diweddaru, a defnyddiwch feddalwedd gwrthfirysau.
- Byddwch yn ofalus pa wefannau rydych yn eu defnyddio ac yn mewnbynnu gwybodaeth bersonol ynddynt. Sicrhewch eu bod yn ddilys.
- Gwnewch gopïau cadw o ddata pwysig yn rheolaidd.
Angen cymorth neu gyngor?
Os yw'n bosib mae'ch gwybodaeth neu'ch cyfarpar cyfrifiadura wedi'u peryglu, cysylltwch â'r Desg Wasanaeth TG.