Byddwn yn ymateb i ymholiadau cyn gynted â phosib ac o fewn uchafswm o 5 diwrnod gwaith o dderbyniad.
Ar-lein: y Ddesg Gymorth
E-bost: y Tîm Gwasanaeth Cwsmer
Ffôn: 01792 (29) 5500
Defnyddio'r gweithrediad Argraffu
Defnyddio'r gweithrediad Copïo
Defnyddio'r gweithrediad Sganio
1.Yn gyntaf, sicrhewch bod eich dyfais wedi cysylltu i'r rhwydwaith eduroam. Os ydych yn ansicr sut i gysylltu i eduroam,
cewch hyd i cyfarwyddiadau yma.
2. Lawrlwythwch a rhedwch y rhaglen gosod argraffydd.
3. Dewiswch yr iaith hoffech ei ddefnyddio.
4. Darllenwch y telerau ar y sgrin Cytundeb Trwydded a chliciwch i'w dderbyn, yna cliciwch Nesaf.
5. Dewiswch yr argraffydd priodol o’r rhestr (staff neu fyfyriwr), yna cliciwch nesaf.
6. Mewnbynnwch eich enw defnyddiwr prifysgol (y rhan cyntaf o’ch e-bost cyn @swansea.ac.uk), a'ch cyfrinair, yna cliciwch Nesaf.
7. Cliciwch Gorffen.
8. Anfonwch eich dogfen i'r argraffydd rydych wedi'i hychwanegu, fel y byddech yn argraffu’n arferol.
1. Yn gyntaf sicrhewch rydych wedi cysylltu i'r rhwydwaith eduroam. Os ydych yn ansicr sut i gysylltu i eduroam, cewch hyd i cyfarwyddiadau yma.
2. Ewch i Dewisiadau system > Argraffwyr a Sganwyr.
3. Cliciwch yr eicon + o dan y rhestr Argraffwyr.
4. Dangosir blwch dialog ar gyfer ychwanegu argraffydd. Dangosir y blwch rhestr o'r holl argraffwyr sydd wedi'u canfod ar y rhwydwaith.
5. Dewiswch argraffydd (argraffu staff neu fyfyrwyr). Dangosir Enw, Lleoliad, a Defnydd yr argraffydd sydd wedi'i dewis.
6. Gwiriwch fod y ddewislen Defnydd wedi ei gosod i "Secure AirPrint."
7. Cliciwch y botwm i ychwanegu'r argraffydd.
8. Argraffwch eich dogfen. Pan gaiff eich annog, mewnbynnwch eich enw defnyddiwr a chyfrinair (y rhan gyntaf o’ch e-bost cyn @abertawe.ac.uk), a chliciwch OK.
Y mae'r gwasanaethau canlynol yn ddi-dâl: sganio (gan gynnwys sganio i ffolder, sganio i e-bost, sganio i One Drive).
Dangosir prisiau defnyddio'r gwasanaethau argraffu / copïo isod:
Maint y ddogfen |
Pris
Du & Gwyn
unochrog
yr ochr argraffedig
|
Pris
Du & Gwyn
dwyochrog
yr ochr argraffedig
|
Pris
Lliw
unochrog
yr ochr argraffedig
|
Pris
Lliw
dwyochrog
yr ochr argraffedig
|
A4
|
5c
|
3c
|
30c
|
15c
|
A3
|
10c
|
5c
|
60c
|
30c
|
Sut allaf ychwanegu credyd i fy nghyfrif?
Mae gennym system talu ar-lein ar gyfer ychwanegu credyd i'ch cyfrif argraffu. Mae cyfarwyddiadau llawn ar gael yn ein canllaw Talu ar-lein ar gyfer argraffu .
A allaf gael ad-daliad o fy nghredyd argraffu?
Nid ydym yn cynnig ad-daliadau o gredyd argraffu, ac rydym yn awgrymu eich bod ddim yn ychwanegu symiau mawr i'ch cyfrif oni bai eich bod yn sicr byddech yn defnyddio'r credyd. Serch hynny, gallech drosglwyddo unrhyw gredyd sy'n ddiddefnydd neu'n ddiangen i gyfrif argraffu Prifysgol Abertawe arall.
Sut allaf drosglwyddo fy nghredyd argraffu?
Ymwelwch â Desg Gwasanaeth y Llyfrgell i drosglwyddo credyd i gyfrif argraffu Prifysgol Abertawe arall os gwelwch yn dda.
Mae'r argraffwyr/llungopiwyr wedi'u leoli yn yr ardaloedd canlynol yn Llyfrgelloedd y Bae a Pharc Singleton:
Mae yna bedwar argraffydd/llungopïwr wedi'u lleoli yn y parth astudio, heibio'r ddesg gwasanaeth ac i'r chwith.
Mae yna chwech argraffydd/llungopïwr ar lefel 3, yn y parth argraffu sydd wedi'i leoli yn y Neuadd Astudio.
Byddwn yn ymateb i ymholiadau cyn gynted â phosib ac o fewn uchafswm o 5 diwrnod gwaith o dderbyniad.
Ar-lein: y Ddesg Gymorth
E-bost: y Tîm Gwasanaeth Cwsmer
Ffôn: 01792 (29) 5500
Os oes gennych ymholiad pellach, gallwch chwilio'n Cwestiynau Cyffredin isod, neu bori'r holl Gwestiynau Cyffredin