Mae Prifysgol Abertawe'n darparu rhwydwaith Wi-Fi ar draws ei champysau, i'w ddefnyddio gan fyfyrwyr a staff, yn ogystal â rhwydwaith ymwelwyr ar gyfer gwesteion a chynadleddau. Mae ein gwasanaeth Wi-Fi yn rhoi mynediad i eduroam, sy'n wasanaeth Wi-Fi trawsrwydweithio byd-eang ar gyfer ffonau symudol, gliniaduron a thabledi.

Mae ein rhwydwaith Wi-Fi yn cynnwys:

  • Diogelwch ac amgryptio lefel menter
  • Rhwydwaith Wi-Fi ar gyfer consolau gemau
  • Cysylltedd ar draws holl safleoedd Prifysgol Abertawe a mynediad i rwydwaith eduroam mewn miloedd o brifysgolion eraill ledled y byd
  • Rhwydwaith Wi-Fi am ddim sy'n darparu cysylltedd yn adeiladau'r Brifysgol ar gyfer ymwelwyr a gwesteion
symbol wi-fi llwyd

Sut allaf gysylltu â'r Wi-Fi?

 Dilynwch y cyfarwyddiadau isod i gysylltu eich dyfais i Wi-Fi Prifysgol Abertawe.

Yn gyntaf, cysylltwch eich dyfais a'r rhwydwaith SwanseaUni-Setup er mwyn ei gofrestru.

Nesaf, cysylltwch â'n rhwydwaith Wi-Fi trwy ddilyn y cyfarwyddiadau sy'n berthnasol i'ch dyfais/ cyfrifiadur.

Wedi i chi gofrestru a dilyn y cyfarwyddiadau, byddech yn barod i gysylltu â'r rhwydwaith sy'n berthnasol i’ch dyfais. Ar ôl i chi gosod eich dyfais a chysylltu am y tro cyntaf, dylai'r ddyfais gysylltu yn awtomatig pryd bynnag rydych mewn ardal le mae rhwydwaith diwifr y Brifysgol ar gael.

Cymorth cysylltu â WiFi Prifysgol Abertawe

Os oes angen help neu gymorth arnoch i gysylltu â'n rhwydwaith Wi-Fi, cysylltwch â'r Desg Wasanaeth TG

Wifinity

Darparir y gwasanaeth Wifi yn Lletyau Campws y Bae gan y darparwr allanol Wifinity.

Cysylltwch yn uniongyrchol ag Wifinity ar gyfer cymorth gyda'r gwasanaeth hwn.