Mae'r Uned Cydymffurfiaeth Myfyrwyr Rhyngwladol yn gyfrifol am sicrhau bod y Brifysgol yn cydymffurfio o ran noddi ei myfyrwyr Haen 4, yn ogystal â chefnogi'r holl fyfyrwyr rhyngwladol i ddiogelu eu statws mewnfudo, gan gynnwys:

  • Gwirio, cynnal a chadw a chywiro'r holl ddogfennau a chofnodion a gedwir ar gyfer ein myfyrwyr rhyngwladol
  • Rheoli a chyflwyno BRP (Hawlen Breswyl Biofetrig)
  • Monitro ac uwchgyfeirio myfyrwyr Haen 4 sydd â phresenoldeb gwael
  • Cyflwyno CAS (Cadarnhad Derbyn i Astudio) i fyfyrwyr sy'n dymuno estyn eu cyrsiau
  • Dweud wrth Fisâu a Mewnfudo y DU am unrhyw newidiadau i amgylchiadau myfyriwr
  • Rhoi cyngor i randdeiliaid ar bolisi'r Brifysgol ac o ran cydymffurfio

Er ein bod yn dîm ar wahân i MyfyrwyrRhyngwladol@BywydCampws, rydym yn gweithio'n agos iawn gyda nhw i gynnig profiad ardderchog i bob un o'n myfyrwyr rhyngwladol.

Gweler y dolenni isod i gael yr wybodaeth gydymffurfio berthnasol am fewnfudo a Haen 4.