Pan fyddwch yn cyrraedd Prifysgol Abertawe, bydd angen i chi gasglu eich Hawlen Breswyl Biofetrig (BRP) o fewn 10 niwrnod o gyrraedd y DU. Rhoddir cardiau BRP i fyfyrwyr sy'n astudio am gyfnod sy'n hwy na chwe mis. Dogfen maint cerdyn credyd yw'r BRP sy'n debyg i drwydded yrru Prydeinig. Mae'n cynnwys eich gwybodaeth bersonol a biofetrig ac yn cadarnhau eich caniatâd i fewnfudo i'r DU.

Yn ystod y prif ddigwyddiadau cofrestru ym mis Medi/Hydref, byddwch yn gallu casglu eich cerdyn BRP o'r lleoliad cofrestru . Ar adegau eraill o'r flwyddyn bydd angen i chi gasglu'r cerdyn BRP o MyUniHub y Brifysgol, fel y nodir yn eich llythyr casglu.

Dylech wirio eich llythyr casglu BRP i weld y lleoliad y gwnaethoch ei ddewis i anfon eich cerdyn BRP iddo. Os na wnaethoch ddefnyddio côd lleoliad amgen Prifysgol Abertawe, caiff eich cerdyn BRP ei anfon i Swyddfa'r Post Abertawe i’w gasglu.

Wrth gasglu eich cerdyn BRP, dylech wirio bod y manylion yn gywir. Mae hyn yn cynnwys:

  • Eich manylion personol cywir.
  • Dyddiad dechrau a gorffen cywir y cwrs (dylech dderbyn hyd y cwrs yn ogystal â 4 mis ar gyfer cyrsiau sy'n hwy na 12 mis, hyd y cwrs yn ogystal â 2 mis ar gyfer cyrsiau sydd rhwng 6 a 12 mis, hyd y cwrs yn ogystal â mis ar gyfer cwrs cyn-sesiynol sy'n llai na 6 mis a hyd y cwrs yn ogystal â 7 niwrnod ar gyfer cwrs sy'n para llai na 6 mis nad yw'n gwrs cyn-sesiynol)
  • Rhif Trwydded Noddwr y Brifysgol (18UEHPGX4)
  • Math o Hawlen (Myfyriwr Cyffredinol Haen 4)
  • Oriau gwaith (20 awr o waith ar y mwyaf yn ystod y tymor) os ydych yn astudio ar lefel RQF6 neu'n uwch

Os ydych yn sylwi ar wall ar eich cerdyn BRP (ar wahân i’ch enw'n mynd oddi ar y dudalen) rhaid i chi fynd i weld tîm MyfyrwyrRhyngwladol@BywydCampws a fydd yn gallu rhoi cyngor ar y broses gywiro. Gweler: https://www.swansea.ac.uk/international-campuslife/ i gael yr amserau y gallwch fynd i'w gweld. (Gelwir y rhain yn sesiynau galw heibio ar eu gwefan).

Gallwch hefyd gael rhagor o wybodaeth am y cerdyn BRP yn: Hawlen Breswyl Biofetrig (BRPC) – Prifysgol Abertawe

Cyn y gallwch ddechrau astudio, bydd angen i'r Uned Cydymffurfiaeth Myfyrwyr Rhyngwladol gymryd copïau o'ch pasbort dilys a'ch cerdyn BRP dilys. Gwiriad Hawl i Astudio yw'r enw ar hyn.

Bydd rhai myfyrwyr yn gorfod cofrestru gyda'r heddlu ar ôl iddynt gasglu eu cerdyn BRP. Gweler: Cofrestru gyda'r Heddlu – Prifysgol Abertawe i gael rhagor o fanylion. Mae'r heddlu'n dod i'r campws i gofrestru myfyrwyr. Trefnwch apwyntiad yn MyUniHub.  

Rhaid i chi sicrhau eich bod yn llwyr ddeall ac yn dilyn holl amodau eich fisa Haen 4. Rhaid i chi ymateb yn gyflym i e-byst gan staff Prifysgol Abertawe ynghylch eich fisa a'ch sefyllfa astudio. Mae hyn yn helpu i sicrhau bod modd i'r Brifysgol gyflawni dyletswyddau ei thrwydded noddwr hefyd. Bydd angen i chi ddarllen a llofnodi datganiad myfyriwr Haen 4 er mwyn cadarnhau hyn. Cliciwch yma i gael copi o'r datganiad myfyriwr Haen 4.