Crynodeb a Chyfrifoldebau

Mae’r fisa Llwybr Graddedigion yn fisa gweithio hyblyg a chynhwysol ar gyfer y cyfnod ar ôl astudio sy'n rhoi'r cyfle i fyfyrwyr cymwys a noddir gan Brifysgol Abertawe aros yn y DU a gweithio, neu chwilio am waith, ar unrhyw lefel sgiliau am 2 flynedd (3 blynedd ar gyfer myfyrwyr doethurol) wedi i’w gradd gael ei dyfarnu.  Gall y gwaith fod mewn unrhyw sector ac ar unrhyw lefel heb ofynion o ran isafswm cyflog neu'r angen am nawdd fisa. Caniateir astudio hefyd o dan y llwybr hwn, ac eithrio astudio a ddylai gael ei noddi o dan y fisa llwybr myfyrwyr.

Mae'r tîm Gwasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr yn gyfrifol am roi gwybod i'r Swyddfa Gartref am yr holl fyfyrwyr sy'n gymwys ar gyfer y Llwybr Graddedigion, er mwyn galluogi myfyrwyr cymwys i wneud ceisiadau dilys. Ond, cyfrifoldeb y myfyriwr yw rheoli ei gymhwysedd ar bob cam o'i daith gyda Phrifysgol Abertawe. Bydd cwblhau eich cwrs ar amser yn caniatáu mynediad didrafferth at y fisa Llwybr Graddedigion; gallai unrhyw newidiadau i'ch astudiaethau effeithio ar eich cymhwysedd.Crëwyd y dudalen hon i esbonio’n glir ofynion cymhwysedd y fisa Llwybr Graddedigion gan gefnogi myfyrwyr i ddiogelu eu dyheadau mewnfudo at y dyfodol, mewn perthynas â’r fisa llwybr graddedigion .

Cymhwysedd a'r Broses Adrodd

O fewn 21 diwrnod i radd gael ei dyfarnu bydd pob myfyriwr sy’n gymwys ar gyfer y Llwybr Graddedigion yn derbyn e-bost gan y tîm Gwasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr yn rhoi gwybod bod y Swyddfa Gartref wedi cael gwybod ei fod wedi llwyddo i ennill cymhwyster sy’n ei wneud yn gymwys ar gyfer y Llwybr Graddedigion, ac y gall fwrw ymlaen i gwblhau ei gais am y Llwybr Graddedigion (os y gall fodloni meini prawf cymhwysedd eraill).  Nid oes rhestr aros ac nid oes angen rhoi gwybod i'r Brifysgol eich bod am gyflwyno cais ar gyfer y Llwybr Graddedigion. Gallwn sicrhau myfyrwyr y mae eu fisâu ar fin dod i ben, y byddant yn cael eu blaenoriaethu a bydd y broses adrodd yn cael ei chwblhau o fewn 5 niwrnod gwaith (o fewn 48 awr lle bo modd).  Bydd yr e-bost yn manylu ar bopeth sydd ei angen er mwyn cyflwyno cais am y Llwybr Graddedigion. Ni allwch gwblhau cais am y Llwybr Graddedigion cyn i chi gael yr e-bost hwn ond gellir paratoi cais ymlaen llaw yma.

Er mwyn sicrhau y gallwch barhau i fod yn gymwys i dderbyn yr e-bost hwn, a gwneud cais dilys am y Llwybr Graddedigion ar ôl ei dderbyn, rydym yn argymell yn gryf eich bod yn cymryd yr amser i ddarllen a deall yr holl wybodaeth gymhwysedd isod:

Gwybodaeth Bwysig

Dim ond unwaith yn ystod eich oes y gallwch wneud cais am y Llwybr Graddedigion.

Os oes gennych achos Camymddwyn Academaidd yn eich erbyn neu unrhyw ffioedd i’w talu, ni fydd y tîm Gwasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr yn hysbysu UKVI eich bod wedi 'llwyddo i gwblhau cymhwyster cymwys ar gyfer y Llwybr Graddedigion' ac ni fyddant yn cefnogi cais am CAS i estyn eich fisa Llwybr Myfyrwyr.

Os ydych wedi cael eich canlyniadau ac mae angen i chi wneud cais brys am y Llwybr Graddedigion gan fod eich caniatâd myfyriwr ar fin dod i ben (dylech ganiatáu 5 niwrnod gwaith lle y bo'n bosibl) gallwch e-bostio:kathryn.miller@abertawe.ac.uk.

Fisâu Gwaith ar ôl Astudio eraill

Cafodd y dudalen hon ei chreu er mwyn cyfleu'r gofynion cymhwysedd yn glir ar gyfer y fisa Llwybr Graddedigion. Fodd bynnag, mae llawer o opsiynau eraill i’w hystyried o ran fisa gwaith ar ôl astudio. Argymhellir eich bod yn cymryd yr amser i ymchwilio i'r holl opsiynau sydd ar gael i chi wedi ichi orffen eich cwrs yma.

Mae'r tîm Gwasanaethau Cydymffurfiaeth Myfyrwyr yn cydweithio'n agos iawn â rhyngwladol@bywydcampws sy'n dîm o arbenigwyr mewnfudo hollol gymwysedig ym Mhrifysgol Abertawe.  Gall y tîm gynnig cefnogaeth ac arweiniad am ddim i chi ac mae ganddynt wybodaeth fanylach sy'n ymwneud â'r Llwybr Graddedigion a fisâu gwaith ar ôl astudio eraill ar eu tudalennau gwe sydd i'w gweld yma.

Mae Prifysgol Abertawe yn Noddwr Myfyrwyr Trwyddedig UKVI - Hanes Blaenorol

Diweddarwyd Tachwedd 2023