Ymestyn eich fisa Haen 4

Cyn i chi ymestyn eich fisa myfyriwr Haen 4, bydd angen rhif Cadarnhad Derbyn i Astudio (CAS) arnoch i gefnogi eich ffurflen gais am fisa myfyriwr Haen 4 (Cyffredinol). Mae'n rhaid i chi wneud cais am eich CAS cyn i chi ddechrau er mwyn cwblhau eich ffurflen gais am fisa, oherwydd y bydd angen i chi gynnwys gwybodaeth allweddol fel y nodir ar ddatganiad eich CAS, megis y rhif CAS unigryw sy'n cadarnhau mai Prifysgol Abertawe fydd yn parhau'n noddwr Haen 4 i chi.

Ni all myfyrwyr ymestyn eu fisa Haen 4 heb CAS dilys. Yn ogystal â'r CAS, mae'n rhaid i fyfyrwyr roi tystiolaeth i Fisâu a Mewnfudo y DU fod ganddynt ddigon o arian i dalu am y ffioedd dysgu a chostau byw misol am hyd at flwyddyn. Pennir y ffigur hwn gan Fisâu a Mewnfudo y DU. I gael rhagor o gyngor a chanllawiau am ffioedd cynhaliaeth, ewch i'r wefan https://www.swansea.ac.uk/media/Finances-for-Tier-4-applications.pdf