Dim ond myfyrwyr Prifysgol Abertawe sy'n bodloni'r canlynol sy'n gallu gwneud cais am lythyron astudio tymor byr:

 

1

Myfyrwyr rhyngwladol y mae'n rhaid iddynt ddychwelyd i'r DU i wneud asesiad(au) ym mloc addysgu 1 neu 2.

 

2

Wedi bod ym Mhrifysgol Abertawe ers llai na chwe mis.

 

3

Dychwelyd i Abertawe er mwyn gwneud arholiad llafar (viva).

 


Pryd i wneud cais am lythyr? 

Os oes angen fisa astudio tymor byr arnoch i ddychwelyd i'r DU, gwnewch gais am 'lythyr fisa astudio tymor byr' gan Studentcompliance@abertawe.ac.uk o fewn tri mis o'r dyddiad y byddwch yn teithio i'r DU.

 

Beth sy’n digwydd nesaf?

Cyhyd â'ch bod wedi gwneud cais o fewn y cyfnod cywir, anfonir ffurflen gais am lythyr fisa astudio tymor byr atoch y bydd angen i chi ei chwblhau'n llawn a'i dychwelyd i'r Uned Cydymffurfiaeth Myfyrwyr Rhyngwladol pan fydd yn gyfleus i chi wneud hynny.

Fe'ch cynghorir i gyflwyno'r cais am lythyr fisa astudio tymor byr yn ogystal â chopïau o'ch pasbort cyfredol ac unrhyw fisâu astudio yn y DU.

I gael rhagor o wybodaeth am y math o ddogfennau i'w cyflwyno gyda'ch cais, ewch i wefan MyfyrwyrRhyngwladol@BywydCampws.