Blwyddyn mewn Diwydiant
Mae Blwyddyn mewn Diwydiant yn gyfle i dreulio blwyddyn mewn cyflogaeth yn ystod eich astudiaethau, gan weithio fel aelod staff amser llawn i sefydliad, cyn dychwelyd i'r Brifysgol i gwblhau eich gradd. Weithiau cyfeirir at hyn fel 'blwyddyn lleoliad gwaith' neu 'flwyddyn mewn diwydiant'. O ran y Biowyddorau, ceir blwyddyn amgen sy'n rhoi pwyslais ar ymchwil o'r enw 'Blwyddyn mewn Ymchwil Gymhwysol'.
Mae 74% o gyflogwyr yn dweud bod graddedigion sydd wedi cwblhau interniaeth neu leoliad gwaith yn fwy parod ar gyfer eu gyrfa, yn ôl y Sefydliad Cyflogwyr Myfyrwyr, 2024.
Mae Sgwrs Fyw Blwyddyn mewn Diwydiant ar agor bob yn ail ddydd Llun 12 canol dydd tan 2pm.
Sylwer: Mae’r gwasanaeth hwn ar gyfer ymholiadau cyffredinol yn unig, byddwn yn eich cyfeirio at apwyntiad os bydd angen gwybodaeth benodol arnoch sydd o natur sensitif.
Bydd Blwyddyn mewn Diwydiant yn eich cyflwyno'n llawn i'r cwmni rydych chi wedi dewis gweithio ynddo a'i ddiwylliant, wrth ddatblygu profiad diwydiannol go iawn a meithrin sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn gwneud i chi sefyll allan o'r dorf wrth ddod o hyd i rolau i raddedigion.
Beth bynnag eich maes astudio, byddwch chi'n datblygu sgiliau trosglwyddadwy, gan gynnwys:
- Cyflwyno cais am swyddi a chymryd rhan mewn cyfweliadau
- Gweithio mewn tîm
- Ymwybyddiaeth fasnachol
- Gwydnwch
- Rheoli amser a rheoli eich llwyth gwaith
- Bod yn rhagweithiol
- Hyder
Bydd y lleoliad gwaith am o leiaf 40 wythnos. Byddwch chi’n ennill credydau trwy ymgymryd â’r flwyddyn a chaiff ei hasesu fel rhan o’ch rhaglen radd 4 neu 5 mlynedd. Pan fyddwch chi'n dychwelyd i gwblhau eich gradd, bydd gennych brofiad helaeth o weithio ym myd diwydiant a byddwch chi wedi meithrin rhwydwaith proffesiynol cadarn.
Yn y bôn, bydd ychwanegu Blwyddyn mewn Diwydiant yn mynd gam ymhellach wrth eich helpu chi i gael rôl i raddedigion!
Os hoffech archwilio a yw eich maes pwnc yn cynnig Blwyddyn mewn Diwydiant a sut i'w hychwanegu at eich rhaglen radd, cysylltwch â'r tîm heddiw.
E-bostiwch y Tîm Lleoliadau
Oes gennych chi ddiddordeb mewn cael profiad gwaith ond ddim eisiau gwneud Blwyddyn mewn Diwydiant? Edrychwch ar ein lleoliadau gwaith a'n cyfleoedd i ymgymryd ag interniaeth.
Beth yw manteision blwyddyn mewn diwydiant?
Gyda mwy a mwy o gyflogwyr yn chwilio am raddedigion â phrofiad gwaith yn ogystal â chyflawniad academaidd, mae lleoliadau gwaith yn dod yn fwyfwy pwysig i fyfyrwyr, ac maent hefyd yn cynnig manteision sylweddol.
DISGRIFIA LAUREN EI LLEOLIAD GWAITH FEL "ARDDERCHOG"
Cred Lauren fod ei lleoliad gwaith wedi bod o fudd mawr iddi oherwydd dyma ei swydd gyntaf mewn swyddfa a oedd wedi ei galluogi i "ddysgu ymddygiad swyddfa briodol." Gan ei fod yn gwmni bach, roedd Lauren wedi elwa'n fawr drwy weithio a helpu mewn amrywiaeth o adrannau a’i helpodd i ennill dealltwriaeth well o'r maes yr oedd hi eisiau gweithio ynddo.
Cwmni'r lleoliad gwaith: Holly & Co
Cwrs: BSc Economeg gyda Blwyddyn mewn Diwydiant
DISGRIFIA CARYS EI LLEOLIAD GWAITH FEL UN SYDD WEDI "NEWID BYWYD"
Cred Carys fod ei lleoliad wedi bod o fudd mawr iddi oherwydd mae hi'n teimlo ei bod wedi "datblygu'n fawr fel unigolyn ac fel gweithiwr proffesiynol." Mae hi wedi "gweddnewid o unigolyn swil i ddynes hyderus, annibynnol a phenderfynol."
Cwmni'r lleoliad gwaith: London Group
Cwrs: BA (Anrh) Y Cyfryngau, Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus gyda Blwyddyn mewn Diwydiant
DISGRIFIA RIA EI LLEOLIAD GWAITH FEL "ANHYGOEL"
DISGRIFIA RIA EI LLEOLIAD GWAITH FEL "ANHYGOEL"
Noda Ria fod "cwblhau blwyddyn lleoliad gwaith gyda brand moeth sydd ag enw da fel Ferarri wedi bod yn freuddwyd." Trwy gydol ei blwyddyn gyda Ferarri, dysgodd lawer am y busnes a'r cwmni a chafodd brofiad o'r maes gwerthiannau. Roedd modd i Ria wella ei sgiliau rhwydweithio, excel a dadansoddi data.
Cwmni'r lleoliad gwaith: Ferrari
Cwrs: BSc Rheoli Busnes gyda Blwyddyn mewn Diwydiant