Caiff talent ei ledaenu’n gyfartal, dydy cyfle ddim! Mae Zero Gravity yn helpu i wneud y sefyllfa'n decach drwy gefnogi talent myfyrwyr sy'n symudol yn gymdeithasol yn y farchnad swyddi i raddedigion.
Mae gan Zero Gravity ddwy lefel o aelodaeth; mae aelodaeth safonol yn rhoi mynediad at ddosbarthiadau meistr proffesiynol, Hyfforddwr AI, a'r cyfle i ddod yn fentor prifysgol i fyfyriwr ysgol. Ar gyfer myfyrwyr o ardal neu grŵp ymgysylltu lle mae cyfranogiad isel, ceir nodweddion ychwanegol i'ch helpu i oresgyn rhwystrau i gyflogaeth i raddedigion.
Drwy'r aelodaeth 'Mynediad at Bopeth', gallwch gael mynediad at y nodweddion aelodaeth safonol, ac yn ogystal:
- mentora ym myd diwydiant; gallwch ymuno â mentoriaid o fyd diwydiant a/neu gyflogwyr go iawn (sy'n gyfle anhygoel i feithrin eich rhwydwaith a chlywed gan rywun sydd wedi bod yno ac sydd wedi ennill y profiad)
- Cwis personoli gyrfa
- Bwrdd swyddi
- Cyfleoedd unigryw gan bartneriaid Zero Gravity
I gofrestru ar gyfer Aelodaeth Mynediad at Bopeth, bydd angen i chi:
- fod â gradd B ar gyfartaledd yn eich arholiadau Safon Uwch (neu gyfwerth), neu 1 GPA uwchben perfformiad cyfartalog yr ysgol
A rhaid i chi uniaethu fel un o'r isod:
- hanu o gôd post lle mae cyfranogiad isel mewn addysg uwch (POLAR3, Cwintel 1 a 2)
- statws ffoadur/ceisiwr lloches
- Rhiant, gofalwr cofrestredig neu ofal awdurdod lleol
- Ymysg y 40% uchaf o ran amddifadedd economaidd-gymdeithasol (ACORN 4 a 5)
Bydd Zero Gravity yn dewis eich math o aelodaeth yn awtomatig yn ystod y broses gofrestru, yn seiliedig ar eich atebion i restr o gwestiynau.
Cofrestrwch yma