A ddylwn i ddatgelu fy anabledd/fy nghyflwr iechyd i'm cyflogwr?

Yn y rhan fwyaf o amgylchiadau, ni fyddai gofyniad cyfreithiol i chi ddatgelu anabledd i gyflogwr, er bod rhai eithriadau (y lluoedd arfog er enghraifft). Chi sy'n penderfynu datgelu anabledd ai peidio, a chi sy'n dewis sut a phryd i wneud hyn. Fodd bynnag, os oes adran am gyflyrau iechyd difrifol neu anableddau yn y cais, mae'n bwysig nad ydych yn darparu gwybodaeth anghywir ar y ffurflen gais. Os nad ydych am ddatgelu ar yr adeg hon, gallwch adael y cwestiwn yn wag a datgelu ar yr adeg iawn i chi.

Os dewiswch beidio â datgelu anabledd i'ch cyflogwr, mae'n bosib na fydd y Ddeddf Cydraddoldeb yn eich diogelu. Os tybir nad yw cyflogwr yn ymwybodol o anabledd aelod staff, ni ellir barnu ei fod wedi gwahaniaethu yn erbyn yr aelod staff, oherwydd nad oedd disgwyliad rhesymol iddo wybod bod anabledd gan yr aelod staff. Cyn gynted ag rydych yn datgelu anabledd i'ch cyflogwr, bydd y Ddeddf Cydraddoldeb yn eich diogelu ac ni fydd eich cyflogwr yn gallu gwahaniaethu yn eich erbyn.

Mae'n werth cadw rhai pethau mewn golwg wrth ystyried a ddylech ddatgelu'ch anabledd:

  • A fydd eich anabledd/cyflwr iechyd yn effeithio ar eich gallu i gymryd rhan yn llawn yn y broses recriwtio, er enghraifft, os bydd y cyfweliad yn cynnwys profion?
  • Fydd angen addasiadau arnoch i'ch galluogi i wneud y swydd rydych wedi gwneud cais amdani?
  • Oes materion iechyd a diogelwch a allai effeithio arnoch chi, eich cyflogwr a'ch cydweithwyr?

Mae manteision i ddatgelu'ch anabledd i'ch cyflogwr. Os yw'r broses gyfweld yn cynnwys profion, neu os oes angen cymorth arnoch chi yn y cyfweliad ei hun, bydd datgelu anabledd yn eich galluogi i dderbyn y cymorth perthnasol ac yn caniatáu i chi ddangos eich potensial llawn. Yn ogystal, os bydd angen addasiadau arnoch yn y gweithle neu drwy Fynediad i Waith, gall fod o fudd datgelu'ch anabledd i'ch cyflogwr. Drwy ddatgelu anabledd ar eich telerau eich hun, gallwch lywio'r drafodaeth amdano (e.e. canolbwyntio ar yr agweddau cadarnhaol a'ch profiadau eich hun).