Beth sy'n digwydd?

We collaborate extensively with a variety of employers, from small businesses to larger multinational companies to provide Swansea students with opportunities to interact with prospective employers. Here are some of the events we organise:

  • Careers Fairs – our flagship Careers Fair attracts thousands of students each year. It’s held in October each year, in line with the recruitment cycle for many of the larger organisations attending. Industry specific careers fairs are held throughout the year too.
  • Part-time Jobs Fairs – held at the start of the academic year, the par-time jobs fair attracts local companies who want to hire students, like you, for part-time jobs.  
  • Employer Talks – hear from professionals working in your field of interest to discover career opportunities, get advice on application processes and ask questions.
  • Meet the Employer – have an informal chat with representatives from a variety of organisations. Ask questions about opportunities which may be available for you and learn more about what an organisation does.
  • Employability Skills Day – an opportunity to build professional skills such as networking, taking part in mock interviews, and discovering career pathways you may not have considered before.

 Rydym yn cydweithio ag ystod eang o gyflogwyr, o fusnesau bach i gwmnïau amlwladol, er mwyn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr ryngweithio â darpar gyflogwyr. Dyma rai o'r digwyddiadau rydyn ni'n eu trefnu:

  •  Ffeiriau Gyrfaoedd - mae ein Ffair Yrfaoedd flaenllaw'n denu miloedd o fyfyrwyr bob blwyddyn. Cynhelir y ffair ym mis Hydref bob blwyddyn, yn unol â chylch recriwtio llawer o'r sefydliadau mawr sy'n mynychu. Cynhelir ffeiriau gyrfaoedd diwydiant penodol drwy gydol y flwyddyn hefyd.
  • Ffeiriau Swyddi Rhan-amser - cynhelir y ffair swyddi rhan-amser ar ddechrau'r flwyddyn academaidd, ac mae'n  denu cwmnïau lleol sydd eisiau cyflogi myfyrwyr fel chi, ar gyfer swyddi rhan-amser.
  • Sgyrsiau gan Gyflogwyr - cyfle i glywed gan weithwyr proffesiynol yn eich maes diddordeb er mwyn archwilio cyfleoedd gyrfa, cael cyngor ar brosesau cyflwyno cais a gofyn cwestiynau.
  • Cwrdd â'r Cyflogwr - sgwrs anffurfiol gyda chynrychiolwyr o sefydliadau amrywiol. Gofynnwch gwestiynau ynghylch y cyfleoedd a allai fod ar gael i chi a dysgwch fwy am yr hyn y mae sefydliad yn ei wneud.
  • Canolfannau Asesu Ffug - bydd cyflwyno cais i gymryd rhan mewn Canolfan Asesu Ffug yn rhoi'r cyfle i chi gael y profiad o fod ynghlwm â'r rhan hon o'r broses recriwtio, a hynny mewn amgylchedd heb risgiau.
  • Diwrnod Sgiliau Cyflogadwyedd - cyfle i feithrin sgiliau proffesiynol megis rhwydweithio, cymryd rhan mewn cyfweliadau ffug, a darganfod llwybrau gyrfa efallai nad oeddech wedi'u hystyried o'r blaen.

Caiff ein calendr llawn o ddigwyddiadau ei gynnal ar Job Teaser. Bydd angen i fyfyrwyr fewngofnodi i gofrestru am ddigwyddiadau.
Gall graddedigion Abertawe barhau i gyrchu’r Job Teaser. Yr unig beth bydd angen i chi ei wneud fydd cofrestru am gyfrif cyn-fyfyriwr gan ddefnyddio eich e-bost personol. Os byddwch chi'n colli mynediad at eich cyfrif, e-bostiwch ni  employability@abertawe.ac.uk i gael mynediad eto.

Ffair Yrfaoedd

Mae ein ffair yrfaoedd unigryw flynyddol yn ffordd wych o archwilio amrywiaeth eang o sefydliadau sy’n awyddus i recriwtio myfyrwyr. Rhwydweithio a chreu cysylltiadau â chyflogwyr lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Gofyn cwestiynau a chael blas ar sut mae cyflogwyr yn recriwtio i rolau sydd o ddiddordeb i chi, mewn amgylchedd cefnogol.

Yn unol â’r calendr recriwtio i lawer o recriwtwyr graddedigion, cynhelir ein ffair yrfaoedd flynyddol ym mis Hydref bob blwyddyn.

Chwiliwch am ddigwyddiadau sydd ar dd
Students picking up leaflets at careers fair

Cwrdd â'r Cyflogwr

 

Mae ein sesiynau Cwrdd â'r Cyflogwr yn gyfle perffaith i siarad â chyflogwyr sydd â diddordeb mewn cyflogi myfyrwyr Prifysgol Abertawe. Gallwch rwydweithio, dysgu am y swyddi gwag sydd ar gael a chael gwybod am beth mae cyflogwyr yn chwilio amdano mewn ymgeiswyr.

 

 

Chwiliwch am ddigwyddiadau sydd ar dd
South Wales Police officer and police horse